This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Medr yn cryfhau partneriaeth hirdymor

Mae academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr) wedi adnewyddu eu hymrwymiad i gydweithio i gefnogi ymchwil, arloesedd a chydweithredu yng Nghymru ymhellach.

Chief Executives of the Learned Society of Wales and Medr sign partnership agreement.

Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Olivia Harrison (ar y chwith) a Phrif Weithredwr Medr, James Owen (ar y dde) yn llofnodi’r cytundeb i gydweithio.

Mae partneriaeth pum mlynedd newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Medr yn canolbwyntio ar:

  • Hyrwyddo ymchwil ragorol
  • Cefnogi pobl sy’n gwneud gwaith ymchwil
  • Creu cysylltiadau rhwng ymchwilwyr, a
  • Defnyddio ymchwil ragorol i wella ffyniant y genedl yn y dyfodol.

Bydd y ddau gorff yn cytuno’n flynyddol ar weithgareddau i fynd i’r afael â’u huchelgeisiau cyffredin, sy’n debygol o gynnwys:

  • Ymgysylltiad allanol i gynyddu dealltwriaeth llunwyr polisïau o bwysigrwydd ymchwil ac arloesi rhagorol, ar draws pob disgyblaeth, er budd Cymru.
  • Gweithio gydag academïau cenedlaethol eraill, fel y Gynghrair Academïau Celtaidd, i godi proffil ymchwil ac arloesi yng Nghymru y tu allan i Gymru.
  • Cefnogi ymchwilwyr trwy gyllid a dyfarniadau, rhwydweithiau a digwyddiadau, a galluogi amgylcheddau ymchwil iach.

Wrth lofnodi’r cytundeb i gydweithio, dywedodd Prif Weithredwr Medr, sef James Owen:

“Mae ein dau sefydliad yn cydnabod bod hyrwyddo ymchwil ac arloesedd rhagorol yn hollbwysig i les cymdeithasol, economaidd a diwylliannol y genedl.

“I’r perwyl hwn, rydym yn hyderus y bydd effaith ein buddsoddiad yng ngwaith Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cryfhau ein proffil ymchwil gartref ac yn rhyngwladol, yn cefnogi ymchwilwyr, ac yn rhoi cyngor polisi arbenigol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.”

Dywedodd Olivia Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru:

“Mae ecosystem ymchwil ac arloesi ffyniannus yn allweddol i ddyfodol Cymru. Mae’n rhoi sylfeini cadarn i ni barhau i feithrin y wybodaeth, y syniadau a’r doniau sy’n cynnal bywyd gwyddonol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

“Mae angen ymrwymiad a buddsoddiad parhaus i wireddu’r buddion hyn, felly bydd y bartneriaeth hirdymor hon â Medr yn rhoi’r parhad a’r hyder i ni barhau i chwarae ein rhan.

“Bydd buddsoddiad Medr yn ein galluogi i ddatblygu arweinwyr ac arbenigwyr Cymru yn y dyfodol, cysylltu arbenigedd ymchwil â llunio polisïau ar sail tystiolaeth, a helpu i sicrhau bod gwybodaeth newydd yn trosi’n fuddion pendant i bobl a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt.”

Nodiadau

Fel Academi Genedlaethol Cymru, mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cynnwys 700 o Gymrodyr, academyddion, ymchwilwyr ac arweinwyr o fywyd dinesig a diwylliannol Cymru. Mae’n hyrwyddo ac yn datblygu cymuned ymchwil Cymru, ac yn cyfrannu at y trafodaethau am y polisïau sy’n effeithio ar Gymru.

Corff hyd braich i Lywodraeth Cymru yw Medr, sydd yn cyllido a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys: • addysg bellach • addysg uwch gan gynnwys ymchwil ac arloesi • dysgu oedolion yn y gymuned ac addysg seiliedig ar waith • prentisiaethau • chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio