Newyddion
Adolygiad Estyn o bresenoldeb a chyfranogiad ôl-16: ymateb Medr
01 Oct 2026
Mae Medr yn croesawu adolygiad thematig Estyn o bresenoldeb a chyfranogiad drwy’r sector addysg ôl-16 cyfan yng Nghymru (sy’n cynnwys colegau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion ledled Cymru). Mae’r adroddiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar batrymau presenoldeb presennol, y ffactorau sy’n dylanwadu ar lefelau ymgysylltu dysgwyr, a’r dulliau y mae darparwyr yn eu mabwysiadu i wella presenoldeb a chyfranogiad. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd presenoldeb fel galluogydd allweddol ar gyfer llwyddiant, cynnydd, llesiant a deilliannau cadarnhaol dysgwyr.
Mae’r adroddiad yn cyd-fynd ag ymrwymiad Medr i gefnogi system addysg drydyddol o ansawdd da, ac yn tynnu sylw at sawl maes lle y gall gweithredu ar y cyd drwy’r sector cyfan atgyfnerthu lefelau ymgysylltu dysgwyr a gwella deilliannau.
Yn benodol, nodwn ganfyddiadau’r adroddiad ynglŷn â’r amrywiol ddulliau a ddefnyddir i gofnodi presenoldeb ac adrodd arno, yr heriau sy’n gysylltiedig â meincnodi data presenoldeb, a’r berthynas gref rhwng presenoldeb, llesiant a llwyddiant dysgwyr
Ymateb i’r prif ganfyddiadau
Mae Medr yn cydnabod casgliad yr adroddiad bod presenoldeb yn dal yn her sylweddol mewn darpariaeth addysg ôl-16, a bod amrywiaeth gymhleth o ffactorau sy’n rhyngberthyn yn dylanwadu ar bresenoldeb, gan gynnwys llesiant dysgwyr, hygyrchedd cludiant, pwysau ariannol, cyflogaeth ran-amser a pherthnasedd cwricwla.
Cawn ein calonogi gan yr enghreifftiau o arferion effeithiol a nodir yn yr adroddiad, gan gynnwys datblygu rolau cymorth bugeiliol arbenigol, ymyriadau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, a’r defnydd cynyddol o ddata presenoldeb ochr yn ochr â dulliau ehangach o fesur cynnydd a llesiant dysgwyr. Mae’r dulliau hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd ystyried presenoldeb o fewn fframwaith ehangach sy’n ymwneud â lefelau ymgysylltu dysgwyr.
Ymateb i’r argymhellion ar gyfer Medr
Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion fel y maent yn berthnasol i Medr ac yn cydnabod y cyfle i atgyfnerthu trefniadau cenedlaethol ar gyfer presenoldeb a chyfranogiad drwy’r sector addysg drydyddol cyfan. Bydd Medr yn ystyried sut y gallem gyfrannu yn y maes hwn yn sgil yr adolygiad arfaethedig o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.
Safoni adroddiadau presenoldeb
Bydd Medr yn gweithio gyda darparwyr, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol yn y sector i archwilio opsiynau ar gyfer datblygu mwy o gysondeb mewn adroddiadau presenoldeb a chyfranogiad. Gallai hyn gynnwys ystyried diffiniadau cyffredin, codau presenoldeb a threfniadau adrodd er mwyn helpu i sicrhau gwell cymharedd a dealltwriaeth drwy’r sector cyfan. Bydd angen i unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol fod yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth, a chael eu datblygu ar y cyd â darparwyr.
Datblygu data presenoldeb cenedlaethol
Rydym yn cydnabod argymhelliad yr adroddiad ynghylch cyhoeddi data presenoldeb ôl-16 cenedlaethol, ond hefyd yn cydnabod yr her sy’n gysylltiedig â hyn. Mae’n debygol mai uchelgais hirdymor fyddai hyn, ac y byddai angen buddsoddiad parhaus o ran amser ac adnoddau i’w wireddu. Bydd Medr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr i ystyried dichonoldeb, manteision a goblygiadau ymarferol sefydlu setiau data a threfniadau adrodd cenedlaethol ar gyfer presenoldeb sy’n cefnogi prosesau meincnodi, hunanwerthuso a gwelliant parhaus gan sicrhau cyn lleied â phosibl o faich diangen ar ddarparwyr ar yr un pryd.
Rhannu arferion effeithiol
Mae Medr yn cydnabod y cryfderau sylweddol sydd eisoes yn bodoli ledled Cymru. Byddwn yn parhau i hwyluso cyfleoedd i ddarparwyr rannu arferion effeithiol, yn enwedig mewn perthynas â monitro presenoldeb, cymorth i ddysgwyr, ymyriadau llesiant a dulliau sy’n atgyfnerthu lefelau ymgysylltu a chyfranogi.
Y camau nesaf
Mae Medr yn croesawu’r adroddiad hwn, sy’n cynnig sylfaen glir ar gyfer trafodaethau pellach ym mhob rhan o’r sector. Mae’r canfyddiadau’n atgyfnerthu’r ffaith bod angen ymateb drwy’r system gyfan er mwyn gwella presenoldeb.
Mae Medr yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion, colegau a rhanddeiliaid eraill i ystyried yr argymhellion yn fanwl a chefnogi gwelliant parhaus mewn lefelau ymgysylltu, presenoldeb, llesiant a deilliannau dysgwyr ledled Cymru.
Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag [email protected].
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio