This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Blog

Adnewyddu fframwaith Digidol 2030

Mae Digidol 2030 wedi sbarduno newid ers 2019, gyda’r nod o greu profiadau digidol mwy cadarnhaol i ddysgwyr a helpu staff i integreiddio offer a thechnolegau digidol yn eu harferion addysgu.

Cafodd y fframwaith gwreiddiol ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2019. Mae’n berthnasol i sefydliadau addysg bellach (colegau), darparwyr prentisiaethau craidd, a darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned.

Ymgymerodd Medr â’r cyfrifoldeb am fframwaith Digidol 2030 ym mis Awst 2024.

Pam mae dysgu digidol yn bwysig?

Mae sgiliau a chymwyseddau digidol yn dod yn gynyddol angenrheidiol mewn bywyd beunyddiol, er mwyn dod o hyd i wybodaeth a defnyddio gwasanaethau allweddol. Yn Digidol 2030, rydym yn canolbwyntio ar y ffyrdd y gellir defnyddio offer a thechnolegau digidol yn effeithiol i gyfoethogi profiadau dysgwyr.

Bydd angen i ddysgwyr ddefnyddio offer a thechnolegau digidol yn eu gweithleoedd yn y dyfodol, felly dylent gael cyfleoedd priodol i ddatblygu sgiliau a hyder digidol. Yn Digidol 2030, rydym yn ystyried y cysylltiadau rhwng sgiliau digidol a’r economi, yn unol â gwaith Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Sgiliau i Gymru.

Mae Digidol 2030 yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod dysgwyr yn datblygu cymwyseddau digidol a thechnegol ochr yn ochr â sgiliau dynol fel llythrennedd gwybodaeth, datrys problemau a meddwl yn greadigol. Dylai datblygiadau digidol gael eu harwain gan strategaeth a’u hysgogi gan addysgeg, a dylent fod yn ymatebol i anghenion dysgwyr a staff. Rydym yn cydnabod bod newid digidol llwyddiannus yr un mor ddibynnol ar bobl a diwylliant ag ydyw ar dechnoleg.

Pam rydym wedi diweddaru’r fframwaith hwn?

Roedd y fersiwn wreiddiol o Digidol 2030 a gyhoeddwyd yn 2019 yn cynnwys ymrwymiad i gynnal adolygiad canol tymor gyda’r bwriad o adnewyddu’r fframwaith. Yn y broses adnewyddu hon, ein nod oedd adlewyrchu’r ffordd y mae’r sector wedi datblygu a chydnabod newidiadau sylweddol i’r cyd-destun a’r dirwedd ar gyfer dysgu digidol, gan gynnwys:

  • Y newid cyflym i ‘addysg o bell ar frys’ a oedd yn ofynnol yn ystod pandemig Covid-19 a’r cyfnod adfer dilynol (2020-2021). Tynnodd hyn sylw at bwysigrwydd dull strategol o ymdrin â dysgu digidol a datblygu’r sylfeini cadarn a chydlynol ar gyfer dulliau cyflwyno digidol.
  • Argaeledd offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ers diwedd 2022, y ffaith bod diwydiant wedi’u mabwysiadu’n gyflym, a’r goblygiadau i weithgareddau addysgu, dysgu ac asesu. Mae Medr wedi ymrwymo i gyhoeddi datganiad safbwynt ar wahân ar ddeallusrwydd artiffisial mewn addysgu a dysgu erbyn mis Mawrth 2027.
  • Daethom yn weithredol ym mis Awst 2024. Rydym wedi achub ar y cyfle hwn i atgyfnerthu cysondeb rhwng Digidol 2030 a’n dull strategol ehangach; yn enwedig yn unol â’n Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a’n gwaith ar hyrwyddo cydweithio ag undebau llafur.

Mae Jisc yn bartner cyflawni allweddol ar gyfer Digidol 2030, a gwnaethom ofyn iddo ymgysylltu â darparwyr dysgu, cyrff cynrychiadol a rhanddeiliaid allweddol wrth baratoi i ddiweddaru’r fframwaith. Cadarnhaodd yr adborth gan ddarparwyr fod Gweledigaeth, Nodau ac Amcanion gwreiddiol Digidol 2030 (sy’n ffurfio asgwrn cefn y fframwaith hwn) wedi’u diogelu’n ddigonol at ydyfodol yn 2019 a’u bod yn dal yn ddilys ac yn werthfawr ar y pwynt canol tymor hwn.

Beth wnaeth Jisc ei ddarganfod?

Daeth yr adolygiad o hyd i gynnydd sylweddol mewn dysgu digidol ledled Cymru, ynghyd â her barhaus i sicrhau bod cynnydd yn troi’n brofiad cadarnhaol i bob dysgwr.

Fel rhan o’r adolygiad, cynhaliodd Jisc grwpiau ffocws a sgyrsiau unigol â phobl o feysydd addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned. Ymhlith y cyfranogwyr roedd uwch-arweinwyr, rheolwr cwricwlwm ac ansawdd, arbenigwyr technoleg ddysgu, cydweithwyr ym meysydd TG a data, a’r rhai sy’n rheoli darpariaeth i oedolion a darpariaeth seiliedig ar waith.

“Rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu mor agored. Myfyriodd pobl ar y ffordd roedd dysgu digidol wedi datblygu yn eu sefydliadau, yr hyn roedden nhw wedi’i gyflawni a’r heriau maen nhw’n dal i weithio i’w goresgyn. Dangosodd eu henghreifftiau fod darparwyr yn gwella mynediad, yn addasu dulliau cyflwyno ac yn cefnogi staff, a hynny’n aml o fewn cyfyngiadau sylweddol.”

Arweinydd y Prosiect, Glyn Rogers (Jisc)

Ochr yn ochr â’r gwaith ymgysylltu hwn, roedd yr adolygiad hefyd yn seiliedig ar sylwadau a gyflwynwyd gan ddarparwyr, canfyddiadau Estyn, ac adroddiadau Dirnadaeth Profiad Digidol Jisc ar gyfer Cymru. Ar y cyfan, roedd y dystiolaeth yn dangos sylfeini digidol mwy cadarn a phrofiadau cadarnhaol o ddysgu digidol yn gyffredinol. Roedd hefyd yn dangos nad oedd arferion unigol da bob amser yn arwain at brofiad cydgysylltiedig i ddysgwyr. Gwelir hyn yn un o’r straeon defnyddwyr sy’n cyd-fynd â’r adolygiad.

Mae’r persbectif hwnnw’n bwysig am fod amgylchiadau, hyder ac anghenion cymorth dysgwyr yn amrywio. Mae rhai’n dal i ddibynnu ar ddarparwyr am offer, cysylltedd a mannau astudio. Ar y llaw arall, mae angen help ar eraill i ddefnyddio technoleg gyfarwydd wrth ddysgu neu weithio. Roedd canfyddiadau’r arolwg hefyd yn tynnu sylw at yr angen i atgyfnerthu cymorth ar gyfer dysgu digidol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd yn cymryd amser a chydgysylltu er mwyn i hyn i gyd ddigwydd. Mae gan arweinwyr canol rôl bwysig i’w chyflawni er mwyn cysylltu uchelgeisiau sefydliadol â’r hyn y mae timau’n ei wneud yn ymarferol. Mae angen i staff gael lle i ddatblygu ffyrdd o weithredu gyda’i gilydd a dysgu oddi wrth gydweithwyr. Siaradodd pobl ag ymrwymiad clir i wella dysgu digidol, gan gydnabod y ffordd roedd llwyth gwaith a phwysau o ran adnoddau yn effeithio ar yr hyn y gallent ei gynnal.

Roedd Digidol 2030 yn werthfawr i ddarparwyr fel pwynt cyfeirio cyffredin, ac roeddent yn croesawu ei hyblygrwydd ar gyfer gwahanol leoliadau. Maent yn awyddus i gael help ymarferol i roi’r uchelgeisiau hynny ar waith mewn profiadau beunyddiol. Dylai’r cam nesaf adeiladu ar y cynnydd, yr arbenigedd a’r ymrwymiad sydd eisoes i’w gweld ym mhob rhan o’r sector, gyda ffocws parhaus ar brofiad dysgu digidol sy’n gyson gadarnhaol a chynhwysol i ddysgwyr ledled Cymru.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Rydym yn gweithio gyda Jisc i ddatblygu rhaglen o weithgareddau a fydd yn ategu’r fframwaith wedi’i adnewyddu, gan ganolbwyntio ar gyfres o bynciau sydd wedi cael eu llywio gan adborth o’r sector a gwaith casglu tystiolaeth arall.

Ein huchelgais ar gyfer y tymor hwy yw gwreiddio ein dull o ymdrin â dysgu digidol yn fwy cadarn yn y dirwedd addysg drydyddol. Mae dogfen fframwaith Digidol 2030 yn nodi rhai camau cychwynnol rydym yn eu cymryd tuag at gyflawni’r nod hwn, yn ogystal â rhai ffactorau hysbys dros y blynyddoedd nesaf a fydd yn dylanwadu ar ein ffordd o weithredu yn y dyfodol.

Mae rhagor o wybodaeth am waith Medr ar ein tudalen Dysgu digidol.

Ymholiadau

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio