Medr/2025/13: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch, ynghyd â dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran arian cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2025/26.

2. Darparwyd y cyllid hwn yn wreiddiol yng nghylchlythyr CCAUC W22/05HE: Ymgynghoriad ar gyllid i gefnogi cydraddoldeb hiliol mewn addysg uwch,i ymdrin â gwrth-hiliaeth a chefnogi newid diwylliant mewn addysg uwch, yn unol â datblygiadau polisi hil, mynediad a llwyddiant yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Roedd y cyhoeddiad cychwynnol yn cynnwys amodau arian cyfatebol a’r disgwyliad i brifysgolion ennill dyfarniad siarter cydraddoldeb hiliol erbyn 2024/25. Cadarnhaodd pob prifysgol wrth CCAUC eu bwriad i gyflawni’r ymrwymiad hwn erbyn diwedd 2025.

3. Dylid darllen y cyhoeddiad hwn ar y cyd â chylchlythyr CCAUC W23/06HE: Addysg uwch ddiogel a chynhwysol: cefnogi addysg cydraddoldeb ac amrywiaeth. Ym mis Hydref 2024 cyhoeddodd Medr ei ganllawiau ar gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch a sefydlodd y cyd-destun ar gyfer y sector addysg uwch.

4. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030. Yn 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn newydd o’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i sicrhau cynnydd cyflym yn erbyn camau penodol, gan gynnwys camau’n gysylltiedig ag addysg drydyddol. Rydym yn disgwyl i brifysgolion ystyried y camau gweithredu hyn a chyfrannu atynt.

5. Rydym yn croesawu’r ffaith bod gan wyth prifysgol yng Nghymru bellach Ddyfarniad Efydd y siarter cydraddoldeb hiliol. Mae prifysgolion wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gweithio tuag at gyflawni’r siarter cydraddoldeb hiliol. Mae’r siarter yn cefnogi’r broses o ddatblygu’n brifysgol wrth-hiliol. Rydym yn disgwyl i bob prifysgol barhau i gyflawni yn erbyn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer y siarter yn 2025/26.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau Medr

6. Mae gan Medr ddyletswydd strategol i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg drydyddol, gan gynnwys y mod y mae hyn yn berthnasol i grwpiau tangynrychioledig a phobl â nodweddion gwarchodedig. Rhoddir esboniad manwl ym mharagraffau 8-11 Medr/2024/03.

7. Mae Medr wedi cyhoeddi ei gynllun strategol sy’n nodi ein hymrwymiad ariannu i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r sector i wneud cynnydd tuag at greu Cymru wrth-hiliol ac at sicrhau amgylcheddau dysgu a gwaith sy’n gynhwysol i bawb, waeth beth fo’u hunaniaeth. Mae cynllun gweithredol Medr hefyd yn egluro y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg drydyddol i gyfrannu at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys: monitro cynnydd darparwyr addysg drydyddol yn erbyn cynlluniau gweithredu ac/neu ymrwymiadau siarter, a datblygu a chyhoeddi data monitro cydraddoldeb hiliol.

8. Yn 2025/26, bydd Medr yn ymgynghori ar amodau rheoleiddio newydd ar gyfer cofrestru a chyllido a fydd yn cynnwys ei amodau ar gyfer llesiant a chyfle cyfartal i staff a dysgwyr. Mae’r amod llesiant yn cynnwys gofyniad sy’n ymwneud â diogelwch staff a dysgwyr, sydd yn y cyd-destun hwn yn golygu rhyddid rhag niwed gan gynnwys aflonyddwch, trais, camymddygiad a throseddau casineb. Bydd pwerau rheoleiddio Medr hefyd yn gosod disgwyliad ar ddarparwyr i gefnogi cyfle cyfartal i fyfyrwyr tangynrychioledig. Mae rhai sydd wedi’u tangynrychioli yn golygu’r rhai sy’n wynebu rhwystrau neu anfantais gymdeithasol, ddiwylliannol, economaidd neu sefydliadol.

9. Mae Diweddariad Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru wedi cryfhau ei bwyslais ar arweinyddiaeth a grwpiau â blaenoriaeth. Disgwylir y bydd atebolrwydd am ymrwymiad prifysgolion i wrth-hiliaeth yn cael ei oruchwylio gan yr aelodau uwch priodol o staff (fel Dirprwy Is-Gangellorion) gyda chefnogaeth cyrff llywodraethu. Disgwylir i brifysgolion hefyd wella’u hymgysylltiad â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a’u cefnogaeth i’r cymunedau hynny.

Pwrpas cyllid gwrth-hiliaeth

10. Mae’r cyllid hwn i atal anghydraddoldeb, mynd i’r afael â hiliaeth a chefnogi’r broses o ymwreiddio polisïau ac arferion gwrth-hiliol mewn prifysgolion. Mae’n cyfrannu at newid diwylliant ac at fodloni disgwyliadau’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru.

11. Er bod y cyllid hwn wedi’i fframio o ran hil ac ethnigrwydd, dylai prifysgolion fabwysiadu dull cyfannol o gydnabod sut mae hil ac ethnigrwydd yn croestorri â nodweddion gwarchodedig a grwpiau a materion eraill o fewn cymdeithas, gan gynnwys trais, cam-drin ac aflonyddu ar sail hunaniaeth, llesiant ac iechyd meddwl, ffoaduriaid a cheiswyr lloches a chrefydd a chred, ymhlith eraill.

Dyraniadau ac amodau cyllid ar gyfer 2025/26

12. Mae dyraniadau cyllid 2025/26:

  1. yn amodol ar ymrwymiad gan brifysgolion i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer dyraniadau (fel mewn blynyddoedd cynt, ac fel y nodir yn y tabl cyllido isod);
  2. yn defnyddio data myfyrwyr 2023/24 HESA sy’n seiliedig ar boblogaeth gofrestru safonol HESA, wedi’i ostwng i nifer yr unigolion, h.y. os bydd myfyriwr wedi cofrestru ar fwy nag un cwrs ni chaiff ond ei gyfrif unwaith);
  3. yn defnyddio data myfyrwyr sy’n cynnwys yr holl gorff o fyfyrwyr: pob dull, lefel a domisil;
  4. yn seiliedig ar ddata HESA 2023/24 sydd wedi’u dilysu gan y brifysgol;
  5. yn ôl ein harfer, mae data myfyrwyr y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama wedi’u cynnwys yn nata a dyraniad Prifysgol De Cymru; ac
  6. yn cael eu cyflwyno ar ffurf un taliad ym mis Hydref 2025. Os yw’r adroddiadau’n anfoddhaol neu’n gyfyngedig, rydym yn cadw’r hawl i adennill cyllid.

13. Dyma ein disgwyliadau ar gyfer defnyddio arian cyfatebol:

  1. na ddylai dyraniad Medr arwain at unrhyw ostyngiad yn yr adnoddau a ddarperir eisoes gan brifysgolion ar gyfer datblygiadau gwrth-hiliol, gan gynnwys eu hymrwymiad i sicrhau a dangos cynnydd ac ymrwymiad parhaus tuag at ennill eu hachrediad siarter;
  2. bod prifysgolion yn clustnodi adnoddau ychwanegol i gefnogi camau gwrth-hiliaeth, sy’n uwch na chyfanswm dyraniad Medr o £1m;
  3. lle caiff unrhyw weithgareddau neu wasanaethau gwrth-hiliaeth sy’n bodoli eisoes eu hariannu drwy gynllun mynediad a ffioedd neu o ffynonellau eraill yn 2025/26, ceir defnyddio’r cyllid a ddarperir gan Medr drwy’r canllawiau hyn neu drwy’r arian cyfatebol gwrth-hiliaeth cysylltiedig i brifysgolion er mwyn cynyddu darpariaeth y gweithgareddau a’r gwasanaethau hyn (mae cynlluniau mynediad a ffioedd yn parhau i fod yn weithredol yn 2025/26 nes bo’r broses gofrestru newydd yn weithredol o 2026/27). Yn yr achos hwn, bydd yn rhaid i’r brifysgol gyfleu’n glir ym mhob adroddiad ac mewn unrhyw waith monitro cydraddoldeb hiliol, sut ac i ba raddau y mae’r cyllid hwn wedi gwella gweithgareddau a gwasanaethau, a gallai hynny fod yn destun archwiliad gennym ni;
  4. ceir defnyddio arian cyfatebol neu arian Medr i dalu costau tanysgrifiadau aelodaeth perthnasol, hyfforddiant wedi’i hwyluso’n allanol neu arbenigedd arall allanol;
  5. rhaid i brifysgolion gyfrannu’n effeithiol at nodau a chamau gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
  6. bod prifysgolion yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r safonau a nodir yn y Siarter Cydraddoldeb Hiliol a’r camau yn eu cynllun gweithredu;
  7. bod prifysgolion yn cydweithredu’n effeithiol ar draws y sector trydyddol a chyda phartneriaid allanol, gan gynnwys rhai â phrofiad bywyd, i ddatblygu a rhannu dysgu ac ymarfer; a
  8. bod yr arian cyfatebol a dyraniad Medr yn arwain at gynyddu cynnydd a chyflymder y cynnydd tuag at ymdrin â hiliaeth, i ymwreiddio arferion gwrth-hiliaeth, gwella cydraddoldeb hiliol, a chynnydd tuag at ddyfarniad siarter ac/neu barhau i gyflawni dyfarniad siarter.

14. Dyma ddyraniadau 2025/26:

SefydliadDyraniad Medr 2025/26 (gydag isafswm o £50K)
(£)
Arian cyfatebol y sector 2025/26
 (dim isafswm)

(£)
2025/26
Cyfanswm

(£)
Prifysgol De Cymru160,566160,566321,132
Prifysgol Aberystwyth53,88153,881107,762
Prifysgol Bangor73,83073,830147,660
Prifysgol Caerdydd224,721224,721449,443
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant106,160106,160212,320
Prifysgol Abertawe144,340144,340288,679
Prifysgol Metropolitan Caerdydd77,94877,948155,896
Prifysgol Wrecsam54,34554,345108,689
Y Brifysgol Agored yng Nghymru104,210104,210208,420
Cyfanswm1,000,0001,000,0002,000,000

Adnoddau a gwybodaeth

15. Ym mis Gorffennaf 2023 cyhoeddodd Prifysgolion y DU Tackling racial harassment in higher education: progress since 2020 i adolygu effaith canllawiau 2020 ar sut mae prifysgolion yn mynd i’r afael ag aflonyddu hiliol mewn AU a sut y gallant wella ymhellach. Mae Prifysgolion y DU hefyd wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau ar newid y diwylliant ac ar grefydd a chred, gan fynd i’r afael â gwrthsemitiaeth ac islamoffobia) i ddarparu canllawiau ymarferol er mwyn llywio ystyriaethau hiliol.

16. Ym mis Mawrth 2024, lansiodd y Black Leadership Group Higher Education Anti-Racism Toolkit (HEART). Mae’n cynnwys cynllun deg pwynt i ymwreiddio gwrth-hiliaeth mewn systemau addysg uwch (Gan gynnwys strategaeth, addysgeg a phrofiadau myfyrwyr a staff). Gallai’r adnodd hwn fod yn ddefnyddiol i brifysgolion.

17. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu matrics aeddfedrwydd fel offeryn hunanasesu sy’n gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae’r matrics aeddfedrwydd wedi’i gynnwys yn Atodiad A er gwybodaeth. Gallai’r adnodd hwn fod yn ddefnyddiol i brifysgolion.

18. Wrth i Medr ddatblygu, drwy ymgynghori, ei amodau rheoleiddio a’i ganllawiau ar lesiant a chyfle cyfartal i staff a myfyrwyr, rydym yn annog prifysgolion i adolygu eu gweithgareddau gwrth-hiliaeth, gan ystyried yr amodau rheoleiddio a fydd yn berthnasol iddynt o 2026/27.

Cyflawniadau a monitro

19. Dylai gwybodaeth monitro a chyflawniadau ar gyfer 2025/26 adeiladu ar y cynlluniau ar gyfer 2024/25 a gyflwynwyd i Medr, a bod yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o broses y siarter cydraddoldeb hiliol a chanlyniadau cynlluniau gweithredu, yn ogystal â phrofiadau staff a dysgwyr. Mae templed monitro wedi cael ei ddarparu yn Atodiad B a dylai’r dogfennau a anfonir atom gynnwys:

  1. Cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth 2025/25 y brifysgol,
  2. Templed monitro’r brifysgol, gan gynnwys cynnydd a chyflawniadau hyd at fis Gorffennaf 2026; a
  3. Datganiad ariannu i roi cyfrif am ddyraniad Medr ac arian cyfatebol y brifysgol.

20. Os yw cynlluniau gweithredu’r prifysgolion yr un peth â’u cynlluniau gweithredu siarter cydraddoldeb hiliol, gallant gyflwyno cynllun gweithredu’r siarter er mwyn osgoi ail-wneud gwaith a lleihau’r baich o orfod adrodd yn ddiangen.

21. Os bydd Llywodraeth Cymru yn gosod disgwyliadau newydd ar addysg uwch neu’r sector trydyddol yn ystod y cyfnod cyllido, mae’n bosib y byddwn yn gofyn am friffiau gwybodaeth ychwanegol ac/neu’n gofyn fonitro ychwanegol.

Dyddiadau monitro a chyflwyno ar gyfer cyllid ac adroddiadau 2025/26

22. Y dyddiad cyflwyno ar gyfer cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth prifysgolion yw Dydd Llun, 13 Hydref 2025. Cyflwynwch i [email protected].

23. Dyddiad cyflwyno templed monitro 2025/26 yw Dydd Gwener, 23 Hydref 2026. Dychwelwch y ddogfen fonitro wedi’i chwblhau (Atodiad B) i [email protected].

Asesu effaith ein polisïau

24. Rydym wedi cynnal ymarfer sgrinio asesu effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred.

25. Buom hefyd yn ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, a darpariaeth Gymraeg yn sector AU Cymru, a’r effeithiau posibl ar y nodau a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cysylltwch ag [email protected] am ragor o wybodaeth am asesiadau effaith cydraddoldeb.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau i’w cyflwyno

26. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Savanna Jones ([email protected]).

27. Cyflwynwch eich cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth i [email protected] erbyn Dydd Llun, 13 Hydref 2025.

28. Cyflwynwch eich templed monitro i [email protected] erbyn Dydd Gwener, 23 Hydref 2026.

Medr/2025/13: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2025/26

Dyddiad: 26 Awst 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/13

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn:  13 Hydref 2025 a 23 Hydref 2026 i [email protected]

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch, a dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran arian cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2025/26.

Medr/2025/13 Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/12: Cyllid digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2025/26

Cyflwyniad

1. Yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26, bydd Medr yn coladu tystiolaeth am effaith a manteision yr ‘alwad i weithredu’ flaenorol ar ddysgu digidol ar gyfer addysg bellach (AB) ac yn datblygu ein sylfaen dystiolaeth ar anghenion a blaenoriaethau ar gyfer dysgu digidol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Jisc ar ddiweddariad canol tymor i’r fframwaith strategol Digidol 2030. Bydd y gweithgareddau hyn yn goleuo gwaith cynllunio ar gyfer dull strategol Medr o ymdrin â dysgu digidol yn y sector trydyddol yn y dyfodol.

2. Mae setliad cyllid Llywodraeth Cymru i Medr ar gyfer 2025/26 yn cynnwys cyllid cyfalaf digidol o £3 miliwn ar gyfer AB. Diben y cyllid hwn yw darparu parhad ar gyfer AB ar ôl yr alwad i weithredu; cynnal y momentwm gyda chynnydd a wnaed dros y tair blynedd ddiwethaf; a helpu i ymdrin â’r pwysau penodol o ran cyllid a godwyd gan sefydliadau AB. Bydd pob sefydliad AB hefyd yn cael dyraniad refeniw digidol o £25,000 yn 2025/26.

Llinellau amser

AmseriadCarreg filltir neu gam gweithredu
Erbyn 24 Hydref 2025Pob sefydliad i amlinellu sut y mae’n bwriadu defnyddio’r cyllid (Atodiad B).
Rhagfyr 2025Bydd taliad cyfalaf interim (50% o’r dyraniad) yn cael ei brosesu yn ystod mis Rhagfyr.
Mawrth 2026Bydd y 50% sy’n weddill o’r dyraniad cyfalaf a thaliad interim o £15,000 o gyllid refeniw yn cael ei brosesu yn ystod mis Mawrth.
Erbyn 31 Gorffennaf 2026Adroddiad ar wariant a hawliad terfynol. (Bydd Atodiad C yn cael ei ychwanegu unwaith y mae taliadau interim wedi cael eu gwneud. Bydd arweinwyr cyllid enwebedig yn cael eu hysbysu pan fo’r ffurflen hon ar gael.)

Medr/2025/12: Cyllid digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2025/26

Dyddiad:  26 Awst 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/12

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol

Ymateb erbyn:  24 Hydref 2025

Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi dyraniadau cyllid cyfalaf a refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach ym mlwyddyn academaidd 2025/26, ac yn darparu canllawiau ynghylch gwariant cymwys ac anghymwys.

Medr/2025/12 Cyllid digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/15/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Chwefror i Ebrill 2025 (dros dro)

  • Dechreuodd 3,895 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch3 2024/25 (p), o gymharu â 4,570 yn Ch3 2023/24.
  • Ymhlith y prentisiaethau sylfaen lefel 2 y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf o gymharu â Ch3 y flwyddyn gynt, sy’n ostyngiad o 19% (p).
  • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch3 2024/25 (p) hefo 1,985 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 51% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Roedd 67% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr benywaidd yn Ch3 2024/25 (p), roedd hyn dim wedi newid o gymharu â Ch3 2023/24.
  • Roedd 44% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr 25 i 39 oed yn Ch3 2024/25 (p) o gymharu â 42% yn Ch3 y flwyddyn gynt.
  • Roedd 16% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch3 2024/25 (p), roedd hyn wedi cynyddu 3 pwynt canran o gymharu â Ch3 2023/24.
  • Roedd 13% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch3 2024/25 (p) gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu.
  • Roedd 12% o’r dysgwyr a ddechreuodd raglenni dysgu prentisiaeth yn ddysgwyr sy’n byw yn y 10% o gymdogaethau â’r mwyaf o amddifadedd yng Nghymru yn 2024/25 Ch3 (p).
  • Mae 77,385 o brentisiaethau wedi’u dechrau ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau. Gan gynnwys y dysgwyr a ddechreuodd raglenni na chânt eu cyfrif fel rhan o’r mesur mwy trwyadl ar gyfer y targed, dechreuodd gyfanswm o 85,415 o ddysgwyr brentisiaethau yn ystod y cyfnod.
  • Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.

Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y flwyddyn ariannol 2023-24 yn £139m ac yn £144m yn 2024-25 (Ffynhonnell: Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026).). Yn ystod blynyddoedd blaenorol, roedd cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (£43m yn 2023-24 Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026). Fe ddaeth hyn i ben erbyn y flwyddyn ariannol 2024-2025.

Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiol

Sta/Medr/15/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Chwefror i Ebrill 2025 (dros dro)

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol:  Sta/Medr/15/2025

Dyddiad:  21 Awst 2025

Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd.

Nodyn: Mae ffigurau gyda (p) yn dros dro.

Sta/Medr/15/2025 Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Chwefror i Ebrill 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/11: Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2025/26

Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC)

1. Fel a nodir yn ein Cynllun Strategol 2025-2030, mae Medr yn ymrwymedig i ddatblygu amgylcheddau ymchwil â diwylliannau cadarnhaol sy’n denu ac yn cadw’r ymchwilwyr a’r arloeswyr gorau o bob rhan o’r byd. Rydym yn uchelgeisiol ar gyfer ein sector ymchwil yng Nghymru. Mae arnom eisiau i Gymru fod yn adnabyddus fel lle gwych i wneud ymchwil sydd, trwy gydweithio, yn sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Mae datblygiad a chynaliadwyedd diwylliannau ymchwil iach mewn prifysgolion yn allweddol i gefnogi ymchwil ragorol. Mae hefyd yn bwysig yn ei rinwedd ei hun. Mae arnom eisiau cefnogi’r gweithlu amrywiol sy’n cyfrannu at ymchwil, gan gynnwys staff technegol a phroffesiynol. Trwy ein cyllid, a’n gwaith gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys cyrff cyllido’r DU ar REF 2029, byddwn yn rhoi anogaeth ar gyfer amgylcheddau ymchwil sy’n ategu uniondeb, amrywiaeth, cynwysoldeb, llesiant, iechyd meddwl a pharch.

2. Mae cyllid WREC yn rhoi cymorth wedi’i neilltuo i wella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil. Fodd bynnag, mae Medr yn disgwyl y dylai cynnal diwylliant iach gael ei drin fel rhan annatod o weithgarwch ymchwil ac arloesi a chael ei gefnogi’n strategol trwy gyllid ymchwil ac arloesi craidd.

3. Dyrennir y cyllid o £200,000 i brifysgolion Cymru i gefnogi prosiectau, rhaglenni a gweithgareddau sy’n cyfrannu’n weithredol at gefnogi neu ddatblygu diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil cadarnhaol ac iach. Gellid defnyddio’r cyllid hwn i estyn prosiectau presennol, a hefyd ar gyfer gweithgareddau a seilwaith newydd.

4. Ar gyfer y drydedd flwyddyn hon o gyllid, byddem yn annog sefydliadau i barhau i wreiddio ffordd werthusol o feddwl yn eu gweithgareddau i ddeall deilliannau ac effeithiau eu gweithgareddau diwylliant ymchwil. Y rheswm dros hyn yw er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau’n gwneud newidiadau pendant i ddiwylliant ymchwil neu’n esgor ar wersi ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio. Yn y flwyddyn academaidd hon mae gennym ddiddordeb yn neilliannau gwerthusiadau interim.

5. Wrth benderfynu sut i ddefnyddio dyraniadau, dylai sefydliadau barhau i gyfeirio at y tair thema a amlinellir yn y tabl isod. Mae’r rhain yn seiliedig ar themâu a ddatblygwyd trwy ymgysylltu â sectorau ymchwil Cymru a’r DU. Nid rhestr gynhwysfawr mo hon ac anogir sefydliadau i ddefnyddio’r cyllid yn hyblyg gan ystyried eu blaenoriaethau strategol, ac egwyddorion ehangach sy’n ymwneud â gwella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil.

ThemâuIs-feysydd posibl i gyd-fynd â hynny
Creu Diwylliant/ Diwylliannau Ymchwil Cadarnhaol*Gwobrwyo a chydnabod ymddygiadau cadarnhaol
* Adnabod sut y mae diwylliant ymchwil cadarnhaol yn edrych gan gynnwys ar gyfer llesiant ac iechyd meddwl
* Gwerthfawrogi gweithgarwch ymchwil amrywiol
* Datblygiad gyrfa ymchwilwyr a phroffesiynau cysylltiedig
* Cymorth ar gyfer prosesau pontio gyrfaol, mandylledd gyrfaol a symudedd rhwng sectorau
* Datblygu fframweithiau diwylliant ymchwil
* Gwella seilwaith a chapasiti i roi cymorth i ennill mwy o grantiau ymchwil
* Mynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu
* Colegoldeb a pherthyn
* Gwerthfawrogi’r ystod lawn o brofiadau, sgiliau a chyfraniadau gan bawb sy’n cyfrannu at ymchwil
Gwreiddio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant* Deall ac ymdrin â rhwystrau i gynhwysiant ar gyfer ymgeiswyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y cyflenwad o dalent ymchwil gyda golwg ar sicrhau bod yr amgylchedd ymchwil yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn deg i bawb
* Cydnabod yr holl gyfraniadau gan staff a’r fframweithiau llwybrau gyrfa ar eu cyfer, gan gynnwys ar gyfer staff â chontractau am gyfnod penodedig, staff technegol a staff sy’n galluogi ymchwil
* Gwella mynediad at ymchwil a chyfranogiad mewn ymchwil o blith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol
* Deall ac ymdrin â’r heriau a brofir gan y rhai a all fod yn profi anfanteision lluosogs
Ymchwil Gyfrifol* Uniondeb, bod yn agored a moeseg
* Gwella’r modd y cynhelir ymchwil a’i atgynyrchioldeb
* Asesu a diwygio ymchwil
* Cydweithio a chynnull sefydliadau i rannu arfer
* Atgynyrchioldeb metrigau

Cynhwysiant

6. Mae gan y sector ymchwil rôl bwysig o ran cefnogi Cymru gynhwysol, gan gynnwys cyfleoedd i wella cymorth i staff a myfyrwyr sy’n profi anfantais ar hyn o bryd. Mae dyletswydd strategol ar Medr i hybu cyfle cyfartal ac rydym wedi nodi ymrwymiadau a chamau gweithredu i gyflawni hyn yn ein Cynlluniau Strategol a Gweithredol. Mae Medr yn datblygu system reoleiddio newydd sy’n cynnwys amodau ar les staff a myfyrwyr a chyfle cyfartal. Bydd hi’n ofynnol i ddarparwyr addysg uwch gydymffurfio â’r amodau hyn, gan gynnwys fel y maent yn berthnasol i ymchwil. Mae Medr yn disgwyl i gyllid WREC gael ei ddefnyddio i ymdrin â rhwystrau i gynhwysiant ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y cyflenwad o dalent ymchwil ac i ddatblygu amgylchedd ymchwil cefnogol a chynhwysol, sy’n gwerthfawrogi cyfraniad staff academaidd, staff sy’n galluogi ymchwil a staff cymorth ymchwil, a staff gwasanaethau proffesiynol.

7. Rydym yn croesawu’n arbennig weithgareddau sy’n cynorthwyo pobl sydd â nodweddion gwarchodedig i gael mynediad cyfartal at yrfaoedd ymchwil boddhaus ac i gyfranogi mewn ymchwil fel dinasyddion, gan gyfrannu at strategaethau a chynlluniau Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb gan gynnwys, ymhlith eraill, y Cynllun Hawliau Pobl Anabl: 2025 i 2035.

8. Rydym hefyd yn croesawu gweithgareddau sy’n gwneud cynnydd tuag at nodau a chamau gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ac yn ystyried ymrwymiadau’r sefydliad yng nghynllun gweithredu ei siarter cydraddoldeb hil. Rydym yn disgwyl gweld myfyrwyr a staff ymchwil yn cael eu cynnwys yn strategaethau a chynlluniau gweithredu llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, sefydliadau, sy’n ofynnol trwy Gyllid llesiant ac iechyd 2024/25 a’r gofynion monitro (Medr/2024/07).

9. Mae Medr yn mynd ati’n frwd i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn ymchwil, nid dim ond i feithrin amgylchedd cyfoethog a chynhwysol sy’n adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol Cymru, ond hefyd gan gydnabod y dyletswyddau statudol a osodir ar sefydliadau i gefnogi’r Gymraeg a darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Gellir defnyddio cyllid WREC i gefnogi gweithgareddau i roi anogaeth ar gyfer ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhannu gwersi ac arferion da

10. Mae Medr yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio ar draws y sector i ddatblygu diwylliannau ymchwil cadarnhaol a rôl sefydliadau megis Rhwydwaith Arloesi Cymru (WIN), Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a Prifysgolion Cymru. Rydym yn gweithio trwy bartneriaethau a gyllidir gyda’r sefydliadau hyn i barhau i gefnogi cymunedau amrywiol i achosi newid. Anogir sefydliadau’n gryf i gydweithio ac adeiladu ar weithgareddau presennol sy’n cefnogi diwylliannau ymchwil cadarnhaol, er enghraifft Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

11. Yn flaenorol rydym wedi darparu £50,000 i Rwydwaith Arloesi Cymru ar gyfer gweithgareddau i gefnogi dysgu ar y cyd ar draws sefydliadau. Yn 2025-26 rydym yn archwilio opsiynau ehangach i gefnogi cydweithio a dysgu ar y cyd gan gynnwys dysgu o fentrau ar draws y DU megis cynlluniau ar gyfer y Gyfnewidfa Arfer Da a Rheolwr Cydweithio Diwylliannau Ymchwil yr Alban. Rydym yn croesawu syniadau ac adborth ar sut orau y gellid cyflawni hyn yng Nghymru, felly cysylltwch ag [email protected].

12. Mae diwylliant ymchwil cadarnhaol a chynhwysol yn hanfodol i ddatblygu cenhadaeth ddinesig prifysgolion yng Nghymru. Trwy feithrin amrywiaeth, tegwch, a chydweithio, mae prifysgolion yn galluogi ymchwil sy’n ymatebol yn gymdeithasol ac yn cael ei llywio gan y gymuned a honno’n dwyn manteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ystyrlon i Gymru a’i chymunedau. Mae amgylcheddau cynhwysol hefyd yn gallu cefnogi dulliau ymgysylltu arloesol, gan rymuso ymchwilwyr i gyd-greu gwybodaeth a datrysiadau gyda phartneriaid allanol.

Dyraniadau sefydliadol

13. Mae’r dull a ddefnyddir i ddyrannu cyllid ar gyfer 2025/26 yn seiliedig ar ddata staff a myfyrwyr HESA 2023/24:

  • Nifer y staff CagALl ar gontractau ymchwil-yn-unig yn y sefydliad addysg uwch
  • Nifer y staff CagALl ar gontractau addysgu ac ymchwil yn y sefydliad addysg uwch
  • Nifer y myfyrwyr ymchwil ôl-radd yn y sefydliad addysg uwch

14. Defnyddir isafswm dyraniad o £5k i sicrhau bod gan bob prifysgol ddyraniad defnyddiadwy i wella eu diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil. Mae data HESA a ddefnyddiwyd wedi cael ei wirio gan brifysgolion.

SefydliadCagALl: Contractau YmchwilCagALl: Contractau Addysgu ac YmchwilCagALl: Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddCagALl: CyfanswmCagALl: Dyraniad
Prifysgol De Cymru667222571044£21,185
Prifysgol Aberystwyth 104297260660£13,397
Prifysgol Bangor 1772795451000£20,295
Prifysgol Caerdydd 864134215703777£76,368
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant40361390791£16,057
Prifysgol Abertawe3835726381593£32,325
Prifysgol Metropolitan Caerdydd27583124736£14,924
Prifysgol Wrecsam120154255£5,180
Cyfanswm1662435738389856£200,000

15. Mae Medr yn nodi nad yw methodoleg dyrannu cyllid WREC yn benodol yn cynnwys staff sy’n cefnogi ymchwil megis rhai o’r gymuned dechnegol, a staff gwasanaethau proffesiynol. Mae Medr yn cydnabod cyfraniadau hollbwysig yr aelodau hyn o staff i ddiwylliannau ymchwil a’r amgylchedd ymchwil.

Trefniadau monitro cronfa WREC

16. Bydd taliadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 yn cael eu gwneud ym mis Awst 2025. Mae Medr yn disgwyl sicrwydd ynghylch y prosiectau a’r gweithgareddau a gyflawnir trwy’r gronfa hon. Dylai dyraniadau gael eu gwario’n llawn ym mlwyddyn academaidd 2025/26.

17. Dylai sefydliadau gwblhau ffurflen fonitro cyllid WREC yn Atodiad A erbyn 25 Medi 2026:

  • Rhan 1 – Cyd-destun Strategol: dynodwch gyd-destun strategol y diwylliant ymchwil yn eich sefydliad.
  • Rhan 2 – Meysydd Thematig: dynodwch sut y mae’r gweithgareddau/prosiectau’n cyd-fynd â’r meysydd thematig a amlinellir ym mharagraff 7, a pha un: 1. a fyddai gweithgareddau wedi digwydd heb y cyllid, 2. a ddigwyddodd gweithgareddau trwy ddarparu cyllid WREC yn unig, ynteu 3. a allai gweithgareddau fod wedi digwydd heb y cyllid, ond i raddau llai.
  • Rhan 3 – Gwerthuso:  eglurwch effeithiolrwydd ac effaith y prosiectau / gweithgareddau.
  • Rhan 4– Cadarnhad: cadarnhewch fod cyllid WREC wedi cael ei wario yn unol â’r wybodaeth a amlinellir yn y cyhoeddiad hwn.

18. Bydd gwybodaeth a gyflwynir gan sefydliadau yn eu hadroddiadau’n sail i dystiolaeth i ategu penderfyniadau ynghylch cyllidebau a chymorth ar gyfer y diwylliant a’r amgylchedd ymchwil ledled Cymru yn y dyfodol.

19. Rydym yn croesawu cyflwyno adroddiadau monitro yn Gymraeg.

Rhagor o wybodaeth

20. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).

Asesu effaith

21. Rydym wedi cynnal asesiad o’r effaith i helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred. Fe wnaethom hefyd ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, darpariaeth yn y Gymraeg yn y sector AU yng Nghymru, nodweddion economaidd-gymdeithasol ac effeithiau posibl tuag at y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Medr/2025/11: Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2025/26

Dyddiad: 20 Awst 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/11

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn:  25 Medi 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu manylion dyraniadau sefydliadol cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2025/26.

Bydd cyllid WREC yn cael ei ddyrannu i brifysgolion Cymru sy’n cael cyllid sy’n Gysylltiedig ag Ansawdd (QR) (fel a nodir yn Medr/2025/06: Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26). Disgwylir i gyllid WREC barhau tan 2027/28, yn amodol ar gyllidebau yn y dyfodol. Mae dyraniadau blwyddyn academaidd 2025/26 yn seiliedig ar ddata o gofnod staff a myfyrwyr HESA 2023/24.

Medr/2025/11 Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/10: Biwroau Cyflogaeth a Menter canllawiau a chyllid 2025/26

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion a threfniadau cyllido Medr ar gyfer gweithgarwch Biwroau Cyflogaeth a Menter (EEB) yn 2025/26. Mae’n cadarnhau trefniadau monitro, llinellau amser ac yn atodi templedi monitro. 

2. Nod y Biwroau Cyflogaeth a Menter yw cyflawni deilliannau cyflogaeth a hunangyflogaeth cadarnhaol ar gyfer myfyrwyr, trwy ddarparu pecyn o gymorth i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, menter ac entrepreneuraidd dysgwyr. Dylid rhoi’r cymorth hwn trwy gydweithio gyda chyflogwyr, Gyrfa Cymru, y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu cyfleoedd i ddysgwyr yn eu rhanbarthau.

3. Dylid defnyddio’r cyllid i barhau i integreiddio darpariaeth menter ac entrepreneuriaeth o fewn y Biwroau Cyflogaeth a Menter, gan amcanu at gynyddu’r cyfleoedd hunangyflogaeth sydd ar gael i ddysgwyr ac ymadawyr, yn ogystal â hybu’r arfer o wreiddio cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth o fewn y cwricwlwm er budd dysgwyr.

Cyllid 2025/26

4. Mae cyfanswm y gyllideb sydd ar gael i gefnogi’r Biwroau Cyflogaeth a Menter rhwng 1 Awst 2025 a 31 Gorffennaf 2026 yn £1,320,000. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £960,000 o gyllid Medr a £360,000 gan Busnes Cymru, y mae’n rhaid ei ddefnyddio i gefnogi’r elfen Menter ac Entrepreneuriaeth o weithgarwch y Biwroau Cyflogaeth a Menter mewn SABau yng Nghymru. Bydd cyfanswm y dyraniad yn parhau i gael ei rannu’n gyfartal ar draws y 12 SAB yng Nghymru fel bod pob SAB yn cael cyfanswm dyraniad o £110,000 yn 2025/26.

Monitro a ffrâm amser

5. Mae’n ofynnol i SABau gyflwyno adroddiad monitro interim a diwedd blwyddyn, gan ddefnyddio’r templedi yn Atodiad A ac Atodiad B, i Medr erbyn y dyddiadau a nodir yn y llinell amser ym mharagraff 24. Gan bod y cyllid menter ar gyfer 2025/26 yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, bydd gwybodaeth yr adroddir arni wrth Medr yn erbyn y gofynion hynny’n cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru fel y gellir monitro effaith ei chyllid.

Cam gweithreduCyfrifoldebDyddiad
Cyhoeddi canllawiau’r Biwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2025/26MedrAwst 2025
Taliad cyntaf o £83,600 i Fiwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2025/26MedrMedi 2025
Cyflwyno adroddiad interim i MedrBiwroau Cyflogaeth a Menter31 Ionawr 2026
Taliad olaf o £26,400 i Fiwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2025/26MedrEbrill 2026
Cyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn i Medr Biwroau Cyflogaeth a Menter31 Gorffennaf 2026
Cyflwyno Datganiad o Wariant i MedrBiwroau Cyflogaeth a Menter31 Awst 2026

Medr/2025/10: Biwroau Cyflogaeth a Menter canllawiau a chyllid 2025/26

Dyddiad:  18 Awst 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/10

At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach

Ymateb erbyn:  Cyflwyno adroddiad interim – 31 Ionawr 2026; Cyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn – 31 Gorffennaf 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion a threfniadau cyllido Medr ar gyfer gweithgarwch Biwroau Cyflogaeth a Menter (EEB) yn 2025/26. Mae’n cadarnhau trefniadau monitro, llinellau amser ac yn atodi templedi monitro.

Medr/2025/10 Biwroau Cyflogaeth a Menter canllawiau a chyllid 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/09: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion Medr ar gyfer cyflwyno cynlluniau cyflawni dwy flynedd sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 2025/26 a 2026/27 ar gyfer darparwyr addysg uwch (AU) sy’n cael cyllid ar hyn o bryd ar gyfer Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr AU. Mae’n cyhoeddi’r gyllideb o £2m ym mlwyddyn academaidd 2025/26 ar gyfer y cymorth hwn ac yn manylu ar ddyraniadau ariannol darparwyr. Bydd cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 yn amodol ar gyllideb Medr.

2. Dylid defnyddio’r cyllid hwn i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau AU sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn AU o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol fel a ddiffinnir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

3. Dylai cynlluniau cyflawni adeiladu ar gynnydd a wnaed yn y tair blynedd flaenorol o weithgarwch a gyllidwyd, gan roi darpariaeth hyblyg a phwrpasol i fyfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i’w harfogi â’r cyfalaf cymdeithasol ac ariannol i’w helpu i gael deilliant cadarnhaol ar ôl graddio. Dylai gweithgarwch fod wedi’i dargedu, ystyried llais y myfyriwr a chael ei gyflawni mewn cydweithrediad gydag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys gwasanaethau myfyrwyr a chyflogwyr, gan amcanu at ddileu rhwystrau i gyflogadwyedd a grymuso myfyrwyr i gymryd perchnogaeth ar lywio eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Dyraniadau 2025/26

DarparwrCyfanswm cyllid (£)
Prifysgol De Cymru325,261
Prifysgol Aberystwyth154,148
Prifysgol Bangor150,304
Prifysgol Caerdydd330,000
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant152,469
Prifysgol Abertawe330,000
Prifysgol Metropolitan Caerdydd238,931
Prifysgol Wrecsam100,000
Y Brifysgol Agored yng Nghymru176,503
Grŵp Llandrillo Menai32,385
Grŵp NPTC Group5,000
Coleg Gŵyr Abertawe5,000
Cyfanswm2,000,000

4. Mae dyraniadau darparwyr yn 2025/26 wedi cael eu cyfrifo gan ddefnyddio data gwiriedig diweddaraf HESA ar gyfer 2023/24 yn ôl y fethodoleg gyllido a amlinellir ym mharagraffau 37-41 yn y cyhoeddiad hwn.

5. Bydd taliadau cyfran gyntaf 2025/26 yn cael eu gwneud yn dilyn cymeradwyo cynlluniau cyflawni a monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2024/25.

Llinell amser

6. Mae gofyn i brifysgolion a Grŵp Llandrillo Menai:

  • Gyflwyno cynlluniau cyflawni gan ddefnyddio Atodiad A ac Atodiad B i [email protected] erbyn 19 Medi 2025.
  • Cyflwyno adroddiadau monitro i ni ym mis Chwefror 2026 a mis Medi 2026 (bydd Medr yn anfon templedi unigoledig at ddarparwyr ar wahân).

7. Bydd gofyn i Goleg Gŵyr Abertawe a Grŵp Colegau NPTC:

  • Gyflwyno cynlluniau cyflawni gan ddefnyddio Atodiad C i [email protected] erbyn 19 Medi 2025.
  • Cyflwyno adroddiad monitro i ni ym mis Medi 2026 (bydd templed yn cael ei anfon ar wahân).

Medr/2025/09: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26

Dyddiad:  14 Awst 2025

Cyfeirnod: Medr/2025/09

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer darpariaeth AU

Ymateb erbyn:  19 Medi 2025

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion Medr ar gyfer cyflwyno cynlluniau cyflawni dwy flynedd sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 2025/26 a 2026/27 ar gyfer y darparwyr AU hynny sy’n cael cyllid ar hyn o bryd ar gyfer Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr AU. Mae’n cyhoeddi’r gyllideb o £2m ym mlwyddyn academaidd 2025/26 ar gyfer y cymorth hwn ac yn manylu ar ddyraniadau ariannol darparwyr. Mae hefyd yn cynnwys y llinell amser ar gyfer cyflwyno cynlluniau cyflawni, taliadau a monitro ar gyfer 2025/26 ac yn atodi’r templed ar gyfer cynlluniau cyflawni.

Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi'i Dargedu i Fyfyrwyr AU: Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyrandiadau 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/08: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid

Cyflwyniad

1. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Y Ddeddf), Adran 5 yn nodi bod rhaid i Medr hybu gwelliant parhaus yn ansawdd addysg drydyddol Gymreig ac, wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhoi sylw:
a) i bwysigrwydd sicrhau bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn gallu darparu addysg drydyddol o ansawdd uchel; a
b) i ofynion rhesymol aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol am ddatblygiad proffesiynol parhaus.

2. SMae Adran 5 (3) yn nodi bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn golygu:
a) athrawon personau sy’n cael addysg drydyddol,
b) personau sy’n darparu cymorth i’r athrawon hynny, ac
c) personau sy’n darparu cymorth i ddysgwyr i gymryd rhan mewn addysg drydyddol.

3. I roi cymorth i gyflawni’r ddyletswydd hon, mae dysgu proffesiynol wedi’i gynnwys yng Nghynllun Strategol Medr dan Nod Strategol 3.

Nod Strategol 3
Sicrhau bod dysgwyr yn cael darpariaeth o’r ansawdd gorau mewn system  addysg drydyddol sy’n ymegnïo i wella’n barhaus.
Ymrwymiad twf
Byddwn yn cynorthwyo’r gweithlu addysg drydyddol i gael mynediad at ddysgu proffesiynol effeithiol ac yn archwilio ffyrdd o rannu arfer gorau, gan estyn addysgeg effeithiol ar draws y sector cyfan.

4. Gall dysgu proffesiynol yn y cyd-destun hwn gynnwys hyfforddiant gorfodol, datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), gwybodaeth bynciol a diwydiannol, cymwysterau proffesiynol, ymchwil weithredu ac ymholi proffesiynol.

Defnyddio’r Gronfa Dysgu Proffesiynol

5. Mae llythyr cyllid Llywodraeth Cymru i Medr ar gyfer 2025/26 yn cynnwys £5 miliwn i gefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol y gweithlu addysg bellach. Dyrannwyd cyllid i sefydliadau AB yn seiliedig ar faint y sefydliad fel dirprwy ar gyfer nifer y staff. Nodir y dyraniadau yn Atodiad A.

6. Mae’r cyllid a ddyrennir gan Medr ar gael gyda’r amodau cyffredinol ar gyfer talu arian a nodir yn Nhelerau ac Amodau Cyllid Medr.

7. Bydd cyllid yn cefnogi dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr a staff cymorth dysgu a gellir ei ddefnyddio i alluogi sefydliadau i ddarparu neu gomisiynu dysgu proffesiynol sy’n cyd-fynd â’r themâu a amlinellir yn y canllawiau hyn. Dylai’r cyllid gael ei ddefnyddio dim ond i ddatblygu staff sy’n rhan o ddarparu dysgu ac addysgu mewn AB.

8. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau unigol pob sefydliad, yn seiliedig ar ei bolisïau ei hun a’r anghenion a adnabuwyd ar gyfer ei staff. Anogir sefydliadau hefyd i ddefnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgarwch cydweithredol a gallant ddewis “cyfuno” cyfran o’r cyllid hwn i gefnogi prosiectau cydweithredol.

9. Wrth lunio ceisiadau ar gyfer defnyddio cyllid, rydym yn disgwyl i’r holl sefydliadau ystyried:

  • Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon AB, ymarferwyr dysgu seiliedig-ar-waith ac ymarferwyr addysg oedolion/Addysgwyr Cymru.
  • Cydweithio ar draws y sector i wella effeithlonrwydd, cymorth gan gymheiriaid a rhannu arfer da.
  • Dysgu blaenorol i adeiladu ar y gwaith a ddatblygwyd mewn blynyddoedd blaenorol a gwreiddio’r gwaith hwnnw.
  • Taro cydbwysedd rhwng anghenion dysgu’r sefydliad (DPP) a’r penderfyniadau y mae ymarferwyr yn eu gwneud ynglŷn â’u hanghenion a’u diddordebau dysgu proffesiynol hwy eu hunain.
  • Datblygu sgiliau staff i gefnogi anghenion cymhleth a blaenoriaethau o ran sgiliau.
  • Lle mae sefydliadau’n gwneud dysgu proffesiynol mewn perthynas â darpariaeth ddigidol, byddwn yn gofyn iddynt ddefnyddio’r Safonau Proffesiynol Digidol a ddatblygwyd gan Jisc fel rhan o’n gwaith Digidol 2030.

10. Rhaid i geisiadau ganolbwyntio ar y themâu cymwys a restrir isod. Mae’r rhestr isod yn cwmpasu themâu gorfodol y mae’n rhaid eu cynnwys a themâu dewisol.

Themâu gorfodol

  • Datblygu’r Gymraeg.
  • Dysgu proffesiynol sy’n ofynnol i greu a chefnogi diwylliant gwrth-hiliol.

Themâu dewisol

  • Dysgu digidol.
  • Strategaethau dysgu ac addysgu, gan gynnwys dysgu gwahaniaethol.
  • Llythrennedd a rhifedd.
  • Gwella sgiliau diwydiannol sy’n gysylltiedig ag anghenion y farchnad lafur (gan gynnwys capasiti i ddarparu cymwysterau lefel uchel).
  • Cryfhau addysgeg Safon Uwch a galwedigaethol.
  • Ymchwil weithredu.
  • Dysgu proffesiynol ar gyfer staff addysgu a staff cymorth arbenigol i weithio gyda dysgwyr ag anghenion cymhleth.
  • Darparu gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i gyflymu a chynyddu arbenigedd staff a fydd yn cynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu’r dysgwr.

11. Bydd disgwyl i sefydliadau adrodd yn erbyn pob gweithgaredd fel rhan o’r gofynion adrodd interim a therfynol.

Materion a dulliau gweithio allweddol

12. Wrth baratoi ceisiadau, dylai sefydliadau ystyried polisïau a ffyrdd o weithio trawsbynciol eraill. Rhaid i’r rhain gynnwys:

  • Partneriaeth Gymdeithasol
    Mae disgwyl i SABau ddatblygu eu cynigion gan ddefnyddio egwyddorion partneriaeth gymdeithasol, i sicrhau bod eu hundebau llafur cydnabyddedig yn cael eu cynnwys yn llawn yn y broses o gynllunio, gwneud penderfyniadau, a gweithredu newidiadau a fydd yn effeithio ar staff.
  • Cymru Wrth-hiliol
    Dylai unigolion a sefydliadau gymryd cyfrifoldeb am greu diwylliant gwrth-hiliol a llywio newid cadarnhaol parhaus ac, wrth wneud hynny, byddem yn disgwyl i chi ystyried y dysgu proffesiynol sy’n ofynnol o fewn eich sefydliad i helpu i wireddu’r uchelgais i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030.
  • Creu Cymru ddwyieithog
    Mae gan Medr rôl o ran cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae dyletswydd arno i annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg. Rydym felly’n disgwyl i chi ystyried hyn wrth baratoi eich ceisiadau.

Strategaethau Dysgu Proffesiynol

13. Fel un o’r amodau cyllid, bydd Medr yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl sefydliadau gyflwyno strategaeth dysgu proffesiynol ffurfiol. Gall sefydliadau naill ai adolygu strategaeth bresennol neu ddatblygu un newydd. Gellir defnyddio’r Cyllid Dysgu Proffesiynol i ariannu’r amser rhyddhau staff i ddatblygu a gwerthuso strategaethau, a/neu i ddod ag arbenigedd allanol i mewn i gefnogi’r broses os oes angen. Bydd angen cyflwyno strategaethau i Medr gyda’u hadroddiadau interim ym mis Chwefror 2026.

Gweithgareddau cymwys

14. Gellir defnyddio cyllid i wneud y canlynol:

  • Gwneud cymwysterau addysgu achrededig.
  • Gwneud modiwlau neu unedau hyfforddi penodol i wella sgiliau addysgu (e.e. modiwlau MA).
  • Diweddaru a gwella sgiliau diwydiannol/galwedigaethol staff.
  • Prynu hyfforddiant pwrpasol, gan gynnwys costau hyfforddwyr neu hwyluswyr allanol.
  • Prynu neu ddatblygu pecynnau e-ddysgu.
  • Talu costau cefnlenwi ar gyfer staff sy’n gwneud hyfforddiant proffesiynol.
  • Gwneud ymchwil gan gynnwys ymchwil weithredu.
  • Dylunio a darparu dysgu proffesiynol a datblygiad arweinwyr yn gydweithredol, gan gynnwys hyfforddiant ar y cyd ar sail ranbarthol.
  • Datblygu adnoddau a chanllawiau dysgu proffesiynol dwyieithog er budd y sector cyfan, gan gynnwys mewn dysgu seiliedig-ar-waith ac addysg oedolion.
  • Dysgu proffesiynol ar gyfer staff addysgu a staff cymorth arbenigol i weithio gyda dysgwyr ag anghenion cymhleth. 
  • Darparu gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i gyflymu a chynyddu arbenigedd ar gyfer staff a fydd yn cynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu’r dysgwr.

15. Ni ellir defnyddio’r cyllid i brynu offer neu feddalwedd cyfalaf nac i ddatblygu cyrsiau ar gyfer dysgwyr.

16. Os ydych yn ansicr a yw eich defnydd arfaethedig o’r cyllid yn gymwys cysylltwch â [email protected].

Meini prawf gwerthuso

17. Rhaid i gynigion wneud y canlynol:

Sut i ymgeisio

18. Mae’n ofynnol i bob sefydliad gwblhau a dychwelyd copi wedi’i lofnodi o’r ffurflen yn Atodiad C er mwyn:

  • Cadarnhau’n ffurfiol bod eich sefydliad yn derbyn y cyllid.
  • Enwebu unigolyn priodol yn eich sefydliad fel y cyswllt arweiniol mewn perthynas â’r cyllid hwn.
  • Amlinellu’n fras beth yw eich bwriadau ar gyfer defnyddio’r cyllid hwn.

19. Dylid dychwelyd ffurflenni wedi’u llofnodi i [email protected] erbyn 30 Mehefin 2025. 

20. Rhowch wybod i Medr ar y cyfle cynharaf os ydych yn rhagweld na fyddwch yn gallu gwario eich dyraniad yn llawn. Os yw cyllid yn cael ei ryddhau gan sefydliadau unigol, bydd Medr yn ystyried a yw’n ddichonadwy ailddyrannu’r cyllid hwn.

Monitro a thalu cyllid

21. Ym amodol ar ddychwelyd Atodiad C, bydd taliad interim (65% o ddyraniad cyllid eich sefydliad) yn cael ei amserlennu yn ystod mis Chwefror 2026.

22. Bydd yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth am wariant erbyn 31 Gorffennaf 2026 i ryddhau’r taliad terfynol. Dim ond yn erbyn gwariant gwirioneddol a gafwyd erbyn 31 Gorffennaf 2026 y dylech hawlio. Bydd swm y taliad terfynol hwn yn cael ei addasu yn unol â’r gwariant gwirioneddol a gafwyd, hyd at gyfanswm gwerth dyraniad eich sefydliad.

23. Bydd templedi ar gyfer adroddiadau interim a therfynol ynghyd â gwybodaeth am wariant ar ddiwedd y flwyddyn yn cael eu hychwanegu fel Atodiad D. Bydd arweinwyr cyllid enwebedig yn cael eu hysbysu pan fydd y ffurflenni hyn ar gael.

24. Mae cadarnhau’r dyraniad yn amodol ar gymeradwyo gweithgareddau gan Medr.

Rhagor o wybodaeth

25. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y canllawiau hyn a’r ddogfennaeth ategol at Karron Williams yn [email protected].

Medr/2025/08: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid

Dyddiad: 12 Awst 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/08

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg bellach (SABau) yng Nghymru; Arweinwyr dysgu proffesiynol SABau

Ymateb erbyn: Ceisiadau i’w cyflwyno erbyn canol dydd 7 Gorffennaf 2025

Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi’r dyraniadau cyllid refeniw dysgu proffesiynol (PLF) i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Mae’r ddogfen yn darparu canllawiau ynghylch gwariant cymwys ac anghymwys a thempledi ar gyfer ceisiadau a chostau.

Cyhoeddwyd canllawiau drafft i ddarparwyr ar 9 Mehefin ac mae ymatebion wedi’u derbyn.

Ceir rhagor o wybodaeth yn yr Atodiadau canlynol wrth y canllawiau hyn.

Medr/2025/08 Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/07: Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Cofrestriadau Addysg Uwch 2024/25

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi diffiniadau a chanllawiau i sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch (a elwir ar y cyd yn ddarparwyr addysg uwch) a ariennir gan Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch. Mae’r canllawiau hefyd yn berthnasol i ddarparwyr sy’n cynnig darpariaeth cyrsiau wedi’u dynodi’n benodol, ond nad ydynt yn cael cyllid yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch, gan gynnwys rhai sefydliadau addysg bellach a rhai darparwyr amgen. Mae’r canllawiau’n ymwneud â data diwedd blwyddyn a gaiff eu hechdynnu o gofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar gyfer 2024/25 gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) er mwyn galluogi Medr i wneud y canlynol:
a). cyfrifo dyraniadau cyllid ar gyfer cyllid seiliedig ar gredydau myfyrwyr israddedig rhan-amser a’r premiwm pynciau cost uwch ar gyfer 2026/27;
b). cyfrifo unrhyw addasiadau i gyllid seiliedig ar gredydau myfyrwyr israddedig rhan-amser 2024/25;
c). monitro darpariaeth cyrsiau meddygaeth a deintyddiaeth;
d). canfod niferoedd terfynol myfyrwyr a gwerthoedd credydau darparwyr addysg uwch ar gyfer 2024/25 at ddibenion modelu cyllid a gwybodaeth.

Prif newidiadau ar gyfer 2024/25

2. Mae’r prif newidiadau a wnaed ers arolwg monitro diwedd blwyddyn 2023/24 fel a ganlyn:
a). Mae’r dull ar gyfer canfod nifer y myfyrwyr segur/sy’n ysgrifennu sydd wedi bod yn anweithredol drwy gydol y flwyddyn academaidd wedi newid. Mae Atodiad M yn cynnwys manylion y fethodoleg a ddefnyddiwyd i adnabod myfyrwyr o’r fath yn yr echdyniad data. Mae Atodiad K hefyd wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newid.
b). Mae’r ffordd y caiff credydau meddygaeth a deintyddiaeth eu dynodi i’w categorïau pynciau academaidd wedi newid ac mae’r dull bellach yn defnyddio pwnc a chyfran cymhwyster y cwrs yn hytrach na’r flwyddyn astudio. Mae’r manylion i’w gweld yn Atodiad K, paragraff 17.
c). Mae’r terfynau ffioedd uchaf ar gyfer cyrsiau israddedig a TAR amser llawn wedi cael eu diweddaru. Gweler Atodiad F.
d). Mae’r darparwyr hynny sy’n tanysgrifio i HESA er mwyn cyflwyno data sy’n ymwneud â chyrsiau wedi’u dynodi’n benodol bellach o fewn cwmpas yr echdyniad data monitro diwedd blwyddyn. Diben hyn yw cael darlun recriwtio diwedd blwyddyn ar gyfer y darparwyr hyn. Ni chaiff data eu defnyddio wrth gyfrifo cyllid ac nid oes angen iddynt gael eu cymeradwyo. Mae rhagor o fanylion i’w cael yn yr atodiadau canllaw.

Cynnwys

3. Mae’r cylchlythyr hwn yn rhoi:
a). canllawiau a diffiniadau ar gyfer yr amrywiol gategorïau a ddefnyddir i ddosbarthu myfyrwyr;
b). gwybodaeth am y meini prawf a ddefnyddir i echdynnu data monitro diwedd blwyddyn o gofnod myfyrwyr HESA 2024/25 gan ddefnyddio IRIS;
c). manylion y trefniadau cymeradwyo ar gyfer y tablau a ddarperir drwy allbynnau IRIS HESA (gweler y rhestr o dablau y mae angen eu cymeradwyo ym mharagraff 10). Noder mai dim ond i ddarparwyr addysg uwch sy’n cael cyllid gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch y mae’r broses gymeradwyo’n berthnasol. Nid yw’n ofynnol i ddarparwyr sy’n cyflwyno data i HESA am fod ganddynt gyrsiau wedi’u dynodi’n benodol gymeradwyo’r tablau monitro diwedd blwyddyn, ac mae’r daflen gymeradwyo wedi cael ei thynnu o’u hallbynnau IRIS HESA.

4. Mae cynnwys yr atodiadau fel a ganlyn:

AtodiadRhif tudalen
Atodiad ACanllaw cryno ar arolwg monitro diwedd blwyddyn 2024/255
Atodiad BDiffiniad o gymhwyster addysg uwch cydnabyddedig13
Atodiad CDysgu o bell, campysau, is-sefydliadau, trefniadau breinio, trefniadau dilysu a threfniadau cydweithredol eraill14
Atodiad DDiffiniad o statws preswyl a statws cyllid21
Atodiad EDiffiniad o gategorïau pynciau academaidd25
Atodiad FDiffiniad o ddull astudio27
Atodiad GDiffiniad o lefel astudio30
Atodiad HRheolau ar gyfer cyfrif cofrestriadau31
Atodiad IRheolau ar gyfer cyfrif gwerthoedd credydau38
Atodiad JDisgrifiadau o’r tablau a’r colofnau43
Atodiad KMapiadau HESA/ystadegau cynnar myfyrwyr addysg uwch/monitro diwedd blwyddyn a meini prawf echdynnu data monitro diwedd blwyddyn47
Atodiad LDefnydd o ddata gan Medr57
Atodiad MDosbarthiad myfyrwyr segur/sy’n ysgrifennu59
Atodiad NGrid cyfeirio statws cyllid61
Atodiad OCopïau enghreifftiol o dablau allbwn IRIS wedi’u hechdynnu o ddata HESA63

Addasu cyllid 2024/25

5. At ddibenion cyfrifo canlyniadau tanrecriwtio i gyllid ar gyfer 2024/25, caiff cyllid addysgu seiliedig ar gredydau myfyrwyr israddedig rhan-amser ei ailgyfrifo gan ddefnyddio data monitro diwedd blwyddyn. Caiff gwerthoedd credydau (ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser) sy’n deillio o fodiwlau y gwnaeth myfyrwyr gofrestru ar eu cyfer hyd at a chan gynnwys 1 Tachwedd 2024, ac ar ôl hynny, eu defnyddio a chaiff nifer y gwerthoedd credydau sy’n gysylltiedig â modiwlau y bydd myfyrwyr yn tynnu’n ôl ohonynt ei ddidynnu. Caiff y tablau monitro diwedd blwyddyn wedi’u cymeradwyo o echdyniad IRIS HESA eu defnyddio at y diben hwn.

Y broses ar gyfer cymeradwyo data monitro diwedd blwyddyn a data eraill a gaiff eu hechdynnu o gofnod myfyrwyr HESA

6. Rhaid i ddarparwyr addysg uwch a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch gymeradwyo’r data a gyflwynir yn allbynnau IRIS terfynol cofnod myfyrwyr HESA 2024/25 fel y byddant ar ddyddiad cymeradwyo terfynol HESA, sef 5 Tachwedd 2025. Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd yr allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo i Medr fydd 5 Rhagfyr 2025. Dyma’r drydedd flwyddyn o greu allbynnau IRIS o dan gofnod myfyrwyr newydd HESA. Gwnaethom rai newidiadau y llynedd o ganlyniad i’r ymgynghoriad ar newidiadau i fonitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2023/24, ac rydym yn gwneud rhai newidiadau ychwanegol ar gyfer 2024/25 (gweler paragraff 2). Os gwneir unrhyw ddiwygiadau i’r mapiad neu’r dull echdynnu ar ôl i’r echdyniad gael ei roi ar waith yn y lle cyntaf, byddwn yn rhoi gwybod i ddarparwyr. Dylai darparwyr hefyd roi gwybod i ni os gwelant unrhyw broblemau yn yr echdyniad, naill ai yn y ffordd y caiff yr allbynnau eu cyflwyno neu yn y mapiad a ddefnyddir.

7. Yn ystod y cyfnod gwirio ansawdd data HESA rhwng 1 Awst a 29 Hydref 2025, bydd Medr yn cynnal gwiriadau ansawdd ar y data a gyflwynir. Byddwn yn cysylltu â darparwyr tua chwe wythnos cyn y dyddiad cymeradwyo terfynol ar gyfer cofnod myfyrwyr HESA, sef 5 Tachwedd, a phan fydd darparwyr wedi cadarnhau eu bod yn barod i ni anfon unrhyw ymholiadau ymlaen, byddwn yn darparu cyfres o ymholiadau. Gall darparwyr hefyd ofyn i ni godi cwestiynau’n gynharach na chwe wythnos ymlaen llaw neu bennu dyddiad pan hoffant i ni anfon ein rhestr o ymholiadau atynt os bydd hynny’n well ganddynt, a gallant ofyn unrhyw bryd i ni edrych ar agweddau penodol ar eu data os bydd hynny’n ddefnyddiol iddynt. Diben hyn yw cynorthwyo proses gwirio ansawdd fewnol y darparwr ei hun a sicrhau bod y data’n addas i’r diben i Medr. Fel y disgrifir yn amserlen casglu Cofnodion Myfyrwyr HESA, mae’n ofynnol i ddarparwyr naill ai ailgyflwyno eu data i ddiwygio’r anghysondebau hyn, neu esbonio pam y maent yn ddilys.

8. Cyn cyflwyno’r allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo i Medr, rhaid i ddarparwyr addysg uwch fod wedi cynnal gwiriadau digonol er mwyn bod yn fodlon bod y data wedi’u hechdynnu yn gywir, a/neu wneud diwygiadau lle bo angen os na fydd y data’n gywir. Gan mai 2024/25 yw trydedd flwyddyn y cofnod myfyrwyr newydd o dan Data Futures, a chan fod rhai darparwyr yn dal i gael anawsterau wrth roi’r cofnod newydd ar waith, rydym yn parhau i ganiatáu newidiadau i’r holl allbynnau IRIS ar y cam cymeradwyo. Dylai darparwyr roi esboniad o unrhyw newidiadau a wneir. Bydd rhagor o fanylion am y broses i’w cael yn y cyhoeddiad Gofynion Data ar gyfer 2025/26, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Awst 2025.

9. Ni fydd angen i ni gael copi caled o’r allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo. Dylid cyflwyno’r allbynnau wedi’u cymeradwyo drwy eu hanfon drwy e-bost at Andrea Thomas yn [email protected]. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r allbynnau wedi’u cymeradwyo fydd 5 Rhagfyr 2025. Caiff manylion y broses ei hanfon drwy e-bost ar wahân at lofnodwyr awdurdodedig a chysylltiadau data ym mis Hydref 2025 i’w hatgoffa.

10. Mae gan yr allbynnau IRIS y bydd angen eu cymeradwyo ragddodiad “S” o flaen eu henwau ffeil ac maent fel a ganlyn
a). Monitro Diwedd Blwyddyn
b). Mesurau Cenedlaethol Medr
c). Dyraniadau hepgor ffioedd rhan-amser
d). Monitro hepgor ffioedd rhan-amser
e). Monitro gradd-brentisiaethau (ynghyd â’r wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani)
f). Cyllid y pen
g). Premiwm anabledd
h). Premiwm mynediad a chadw
i). Premiwm cyfrwng Cymraeg
j). Premiwm pynciau drud
k). Dyraniad hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig
l). Cyllid cydraddoldeb hil/llesiant ac iechyd meddwl
m). Cyllid Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu
n). Cyfwerth ag amser llawn (FTE) (ar gyfer dyraniadau cyllid cyfalaf)

Archwilio data

11. Atgoffir darparwyr y gall data monitro diwedd blwyddyn, a thablau eraill fel y disgrifir ym mharagraff 10 a echdynnir o gofnod myfyrwyr HESA gan ddefnyddio IRIS, ac unrhyw ddiwygiadau a wneir i’r echdyniadau, gan gynnwys dulliau a ddefnyddir i gyfrifo unrhyw amcangyfrifon a gaiff eu cynnwys yn y diwygiadau, fod yn destun archwiliad allanol a gynhelir gan Medr neu gan gontractwyr ar ran Medr. Mae’r systemau a’r prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu’r data HESA a echdynnir o fewn cwmpas archwiliadau mewnol y sefydliad.

Rhagor o wybodaeth

12. Dylid anfon unrhyw ymholiadau at Andrea Thomas (e-bost [email protected]).

Medr/2025/07: Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Cofrestriadau Addysg Uwch 2024/25

Dyddiad:  11 Awst 2025

Cyfeirnod: Medr/2025/07

At: Penaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach yng Nghymru sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch

Ymateb erbyn:  05 Rhagfyr 2025

Crynodeb:

Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi diffiniadau a chanllawiau i ddarparwyr addysg uwch ynglŷn â’r data diwedd blwyddyn a gaiff eu hechdynnu o gofnod myfyrwyr HESA 2024/25.

Caiff y data eu hechdynnu gan ddefnyddio Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) HESA a chânt eu defnyddio i gyfrifo cyllid seiliedig ar gredydau ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser a’r premiwm pynciau cost uwch ar gyfer 2026/27, cyfrifo unrhyw addasiad i gyllid addysgu seiliedig ar gredydau myfyrwyr israddedig rhan-amser ar gyfer 2024/25, monitro darpariaeth meddygaeth a deintyddiaeth a chanfod niferoedd terfynol myfyrwyr a gwerthoedd credydau darparwyr ar gyfer 2024/25.

Medr/2025/07 Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Cofrestriadau Addysg Uwch 2024/25

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Bron i £1 biliwn o ddyraniadau cyllid ar gyfer y sector trydyddol wedi’u cadarnhau gan Medr

Mae Medr wedi cadarnhau y bydd prifysgolion, colegau a darparwyr addysg ledled Cymru yn derbyn cyfran o bron i £1 biliwn eleni, wrth rannu manylion ei ddyraniadau cyllid ar gyfer 2025/26.

Ym mis Ionawr, amlinellodd Medr y cyllid yr oedd yn bwriadu ei ddarparu i ddarparwyr addysg drydyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Yn dilyn cadarnhad terfynol o’i gyllideb gan Lywodraeth Cymru, mae Medr bellach wedi cadarnhau’r dyraniadau hynny ac wedi egluro  ymhellach sut y bydd cyllidebau’n cael eu dosbarthu ar draws y sector trydyddol.

Dyma’r tro cyntaf yng Nghymru i gyfanswm cyllidebau o bob rhan o’r sector trydyddol gael eu cyflwyno ochr yn ochr â’i gilydd, ac mae’n cynnwys dadansoddiadau ar draws prentisiaethau, chweched dosbarth ysgolion awdurdodau lleol, darpariaeth awdurdodau lleol ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, addysg bellach ac addysg uwch, gan gynnwys ymchwil ac arloesi.

Yn ôl James Owen, Prif Weithredwr Medr: “Dyma garreg filltir arwyddocaol i addysg yng Nghymru. Mae cyhoeddi ein dyraniadau cyllid cyntaf yn dangos ein hymrwymiad i dryloywder a chyfleoedd addysg ac ymchwil o ansawdd uchel i bawb. Mae Medr bellach yn weithredol ers blwyddyn, ac rydym yn edrych ymlaen i weld effaith gadarnhaol y buddsoddiad hwn ar ein dysgwyr a’n cymunedau.

“Mae ein dull cynhwysfawr o ariannu, sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau yn ein Cynllun Strategol, yn cefnogi sefydliadau fel eu bod yn barod i roi’r profiadau gorau posibl i ddysgwyr yn ogystal ag ymateb i heriau’r dyfodol.”

Tabl 1: Cyfanswm y cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

 Blwyddyn Academaidd 2024/25 £ miliwnBlwyddyn Academaidd 2025/26 £ miliwn
Wedi’i glustnodi  
Contract prentisiaethau134.520134.520
Prentisiaethau iau0.4000.600
   
Craidd  
Chweched dosbarth awdurdodau lleol *116.664116.853
Dysgu Oedolion yn y Gymuned awdurdodau lleol *6.4796.479
Addysg bellach brif ffrwd409.066422.826
Cymorth Dysgu Ychwanegol ar gyfer addysg bellach16.74116.741
Cronfa Ariannol Wrth Gefn addysg bellach7.1926.880
Wedi’i ddal yn ôl o’r dyraniadau i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad pan geir tystiolaeth o hynny yn 2025/26. 21.126
Ymchwil ac arloesi addysg uwch ** 197.29597.121
Cyllid addysgu addysg uwch 269.43469.745
Prentisiaethau gradd9.4119.411
   
Strategol  
Mynediad, llesiant a chynhwysiant ***23.96228.469
Cyflogadwyedd a sgiliau ***3.3203.320
Ymchwil ac arloesi ***1.7332.000
Y myfyriwr/dysgwr a’r gweithlu ***8.2548.254
Data a thechnoleg ***3.9933.993
Datblygiadau strategol2.2503.500
   
Cyfalaf  
Addysg Uwch10.00010.000
Digidol Addysg Bellach3.0003.000
   
Cyfanswm923.240964.536

Mae’n bosibl y ceir mân anghysondebau yn sgil talgrynnu

Hysbyswyd darparwyr am eu dyraniadau ymhell cyn blwyddyn academaidd 2025/26.

Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Nodiadau

Ym mis Ionawr 2025, ysgrifennodd Medr at ddarparwyr i roi esboniad bras o’r rhagdybiaethau cyllido a fyddai’n sail i’w gynlluniau i ddosbarthu ei gyllideb ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Cafodd Medr gadarnhad terfynol o’n cyllideb gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2025.

Rhagdybiaethau cyllido Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 (Ionawr 2025)

Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid i Medr yn flynyddol ar sail blwyddyn ariannol o 1 Ebrill i 31 Mawrth. Mae Medr yn dyrannu cyllid i’r rhan fwyaf o sefydliadau a darparwyr cymwys ar sail blwyddyn academaidd o 1 Awst i 31 Gorffennaf. Mae Medr yn defnyddio’r fformat hwn: 2025-26, i ddynodi’r flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2026, a’r fformat hwn: 2025/26, i ddynodi’r flwyddyn academaidd hyd at 31 Gorffennaf 2026.

Nodiadau Tabl 1:

1 Mae hyn yn cynnwys Ymchwil Cysylltiedig ag Ansawdd (QR), ymchwil ôl-radd (PGR) a Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru (CAYC).

2 Mae hyn yn cynnwys premiymau amser llawn a rhan-amser, dyraniadau ar sail credydau a dyraniadau fesul pen.

*  Yn y gorffennol, byddai dyraniadau chweched dosbarth awdurdodau lleol a Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael eu pennu ar sail blwyddyn ariannol. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, cynigir bod awdurdodau lleol yn cael dyraniad 16 mis o fis Ebrill 2025 hyd at fis Gorffennaf 2026, fel bo modd i Medr symud yr holl ddarpariaeth drydyddol graidd i gylch cyllideb blwyddyn academaidd. Nid yw’r tabl uchod ond yn cynnwys yr ymrwymiad 12 mis sy’n cwmpasu’r flwyddyn academaidd.

**  Ym mlwyddyn academaidd 2024/25, cymhwysodd rhagflaenydd Medr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ostyngiad pro rata untro o £11 miliwn i linellau cyllid craidd ar gyfer addysg uwch ac ymchwil i adlewyrchu gostyngiad yn y cyllid a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Gan nad yw cyllid Llywodraeth Cymru ym mlwyddyn ariannol 2025-26 yn gwrthdroi’r toriad hwnnw, mae’r ffigurau a gyflwynir yn y tabl hwn wedi’u cyfrifo ar sail y ffigurau ar ôl y gostyngiad, ar sail pro rata yn erbyn pob llinell fel bo modd cymharu.

***  Mae cyllidebau strategol yn cynnwys llinellau cyllido strategol a drosglwyddwyd i Medr o Lywodraeth Cymru a CCAUC. mae 49 o linellau cyllido strategol wedi cael eu grwpio i chwe llinell cyllideb thematig. Mae cyllideb sydd i raddau helaeth yn wastad o ran arian parod wedi galluogi sefydlogrwydd yn lefelau’r cyllid, gyda chynnydd i’r gyllideb mynediad, llesiant a chynhwysiant (£2 miliwn i gydnabod cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ynghylch cynnydd o £2 filiwn ar gyfer cymorth iechyd meddwl) a’r gyllideb ymchwil ac arloesi. Mae hyn hefyd wedi caniatáu datblygu cynigion ar gyfer tua £3.5m o gyllid sydd heb ei ddyrannu ar hyn o bryd i gynorthwyo darparwyr addysg drydyddol i gyflawni yn erbyn cynllun gweithredu Medr. Gall y grwpiau hyn newid mewn blynyddoedd dilynol ar ôl gwerthuso effaith a chanlyniadau’r buddsoddiadau strategol hyn.

Cyllid ar gyfer y chweched dosbarth mewn ysgolion awdurdod lleol

Mae cynnydd o 3.0% i’r gyfradd fesul uned wedi’i gymhwyso i’r cyfraddau cyllido fesul dysgwr. Mae’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo dyraniadau chweched dosbarth yr awdurdodau lleol wedi cael ei defnyddio ers blwyddyn ariannol 2015-16 ac fe’i diwygiwyd ychydig ym mlwyddyn ariannol 2023-24 i roi cyfrif am ostyngiad cyson yn niferoedd y disgyblion o Bl. 10 i Bl. 11. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 caiff hyn ei ddiwygio ychydig yn fwy yn sgil cyfraniad ychwanegol ar gyfer y Cynllun Pensiwn Athrawon (CPA), wedi’i ychwanegu ar gyfradd o 3.91%. Ar gyfer y fethodoleg gyllido, defnyddir cyfuniad o niferoedd dysgwyr o’r gorffennol a niferoedd dysgwyr demograffig a ragwelir ar gyfer pob awdurdod lleol, gan luosi’r rhain â chyfrifiad o werth rhaglen gyfartalog. Caiff ychwanegiadau ar gyfer amddifadedd, ardaloedd tenau eu poblogaeth a chyfrwng Cymraeg, ynghyd â 3% o lwfans awdurdod lleol a gadwir yn ganolog a’r cyfraniad CPA o 3.91% eu hadio at hyn i gyfrifo’r dyraniad terfynol. Nid oes darpariaeth chweched dosbarth mewn dau awdurdod lleol, sef Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.

Addysg bellach

Mae darpariaeth amser llawn yn cynnwys darpariaeth Safon Uwch a galwedigaethol ar draws pob lefel addysgol o lefel mynediad i lefel 4 ar gyfer tua 44,000 o ddysgwyr. Mae’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo’r dyraniadau amser llawn wedi cael ei defnyddio ers 2015-16 gan wneud mân newidiadau ym mlwyddyn academaidd 2023/24 i roi cyfrif am ostyngiad cyson yn nifer y disgyblion o Flwyddyn 10 i Flwyddyn 11. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, mae hyn wedi’i ddiwygio ychydig ymhellach, yn sgil cyfraniad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru tuag at gynnydd yng nghostau’r Cynllun Pensiwn Athrawon (CPA) i ddarparwyr AB, wedi’i ychwanegu ar gyfradd o 2.56%. Mae’r fethodoleg gyllido yn defnyddio cyfuniad o niferoedd dysgwyr o’r gorffennol a niferoedd dysgwyr demograffig a ragwelir ar gyfer pob darparydd, gan luosi’r rhain â chyfrifiad o werth rhaglen cyfartalog. At hyn, ceir ychwanegiadau ar gyfer amddifadedd, ardaloedd tenau eu poblogaeth a chyfrwng Cymraeg, ynghyd â 3% o lwfans a gadwir yn ganolog, 2% o lwfans cynnal ystadau a’r cyfraniad diweddaraf o 2.56% at y CPA er mwyn pennu’r dyraniad amser llawn terfynol. Mae cynnydd o 3.0% i’r gyfradd fesul uned wedi’i gymhwyso i’r cyfraddau cyllido fesul dysgwr.

Dyraniadau Cymorth Dysgu Ychwanegol (CDY)

Caiff cyfanswm y gyllideb Cymorth Dysgu Ychwanegol ei rannu fesul cyfran yn ôl dyraniad prif ffrwd pob coleg. Mae hyn yn cydnabod, lle bo coleg yn cynyddu/gostwng nifer ei ddysgwyr, ei bod hi’n debygol y bydd yr angen am Gymorth Ychwanegol i Ddysgwyr yn cynyddu/gostwng yn gymesur â hynny.

Addysg Uwch

Rydym wedi dyrannu cyllid strategol gwerth £650k i’r Brifysgol Agored yng Nghymru, sef yr un swm ag ym mlwyddyn academaidd 2024/25.

Mae cyllid elfen berfformio ar gyfer darpariaeth conservatoire wedi’i ddyrannu i Brifysgol De Cymru ar gyfer darpariaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, sy’n rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru. Darperir dyraniad o £585k i gefnogi datblygiadau strategol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ogystal â’r cyllid elfen berfformio a ddarperir drwy’r premiwm pynciau drud. Mae’r cyllid strategol hwn yr un swm â’r llynedd.

Mae cyllid premiwm yn cynnwys dyraniadau ar gyfer:

Darpariaeth gradd amser llawn ar gyfer:

  • Pynciau drud (meddygaeth/deintyddiaeth glinigol a darpariaeth elfen berfformiad conservatoire).
  • Pynciau cost uwch (meddygaeth/deintyddiaeth anghlinigol, gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, a gwyddorau mathemategol, TG a chyfrifiadura).
  • Modiwlau cyfrwng Cymraeg.

Darpariaeth gradd ran-amser ar gyfer:

  • Modiwlau cyfrwng Cymraeg.
  • Mynediad a chadw.

Yr holl ddulliau a lefelau ar gyfer:

  • Premiwm Anabledd.

Mae dyraniadau ymchwil ac arloesi yn cynnwys:

  • Cyllid Ymchwil Cysylltiedig ag Ansawdd, sy’n gwobrwyo rhagoriaeth ymchwil gynaliadwy;
  • Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru (CAYC), sy’n cefnogi’r ystod o weithgareddau cyfnewid gwybodaeth sy’n arwain at effaith economaidd a chymdeithasol, gan gynnwys rôl ehangach darparwyr o ran eu cenhadaeth ddinesig; a
  • Hyfforddiant ymchwil ôl-radd.

Cyllidebau strategol

Etifeddodd Medr 49 o linellau cyllideb strategol gan CCAUC a Llywodraeth Cymru. Er mwyn galluogi dull strategol sy’n canolbwyntio mwy ar addysg drydyddol, mae’r tair llinell gyllideb ar wahân hyn wedi cael eu cyfuno i greu nifer llai o botiau strategol. Mae hyn yn arwydd o symudiad tuag at ymagwedd addysg drydyddol, gan chwalu rhwystrau rhwng rhannau o’r sector addysg drydyddol o ran y modd y dyrennir cyllid yn y dyfodol, yn unol â Chynllun Strategol Medr.

Yn y dyfodol bydd Medr yn ymgynghori ar bolisi cyllido a fydd yn nodi egwyddorion ar gyfer cyllido addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei lywio gan y gofrestr addysg uwch newydd, lle na fydd ond y rhai yng nghategori craidd y gofrestr yn gymwys i dderbyn cyllid addysg uwch ac ymchwil ac arloesi. Bydd y polisi hefyd yn ystyried dyletswyddau strategol Medr.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/06: Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Cyflwyniad

1. Derbyniodd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ym mis Medi 2022. Yn sgil y Ddeddf sefydlwyd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a adwaenir fel Medr, sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros reoleiddio a chyllido’r rhan fwyaf o ddarpariaeth addysg drydyddol yng Nghymru. Daeth Medr yn weithredol o 1 Awst 2024. Y cyhoeddiad hwn yw’r cyhoeddiad cyntaf o’i fath o ran y gyllideb a chyllido, gan gynnwys yr holl sectorau trydyddol a’r cyllid a ddarperir gan Medr.

2. Cyhoeddodd Medr ei Gynllun Strategol cyntaf ar 12 Mawrth 2025, yn esbonio ei uchelgeisiau ar gyfer addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Cyflwynir yr uchelgeisiau hyn mewn ymrwymiadau sylfaenol i’w cyflawni o fewn dwy flynedd, ac ymrwymiadau ar gyfer twf i’w cyflawni o fewn pum mlynedd. Mae’r cyllid a gyhoeddir yn y cyhoeddiad hwn wedi’i osod yng nghyd-destun yr ymrwymiadau hynny a phwysigrwydd creu sefydlogrwydd i ddarparwyr yn ystod newid i’r oruchwyliaeth dros addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi yng Nghymru.

3. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein cyllid cyffredinol ar gyfer darparwyr addysg drydyddol a gyllidir gan Medr yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Mae’r ddogfen hon hefyd yn cynnwys dyraniadau darparwyr unigol ar gyfer yr holl gyllid craidd a rhai cyllidebau strategol lle bônt ar gael.

4. Ar hyn o bryd mae Medr yn cyllido addysg bellach (AB) ar ran Llywodraeth Cymru drwy gytundeb asiantaeth a gyhoeddwyd o dan adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae Medr yn dyrannu cyllid drwy’r pwerau hyn i sefydliadau o fewn y sector addysg bellach, awdurdodau lleol a darparwyr prentisiaethau dan gontract.

5. Mae Medr yn gweinyddu ei gyllid ar gyfer addysg uwch (AU) yn seiliedig ar bwerau a nodir yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, sy’n pennu natur y gweithgareddau sy’n gymwys ar gyfer cyllid. Y gweithgareddau sy’n gymwys i dderbyn cyllid yw’r rhai a gyflawnir gan sefydliadau addysg uwch yn bennaf. Mae rhywfaint o gyllid addysg uwch yn cael ei ddyrannu i sefydliadau addysg bellach, ond dim ond ar gyfer darparu cyrsiau addysg uwch rhagnodedig y gall Medr ddyrannu’r cyllid hwn.

6. Bydd y cytundeb asiantaeth a’r pwerau a nodir uchod yn parhau nes bo’r pwerau cyllido a nodir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn cael eu gweithredu.

7. Ar wahân i hyn, rydym yn rheoleiddio sefydliadau a chanddynt Gynlluniau Mynediad a Ffioedd cymeradwy o dan bwerau a nodir yn Neddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Yn sgil cael eu rheoleiddio, bydd cyrsiau gradd ac ôl-radd sefydliadau’n cael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr. Ar gyfer cyrsiau nad ydynt wedi’u dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, rydym yn gweinyddu proses sy’n galluogi darparwyr i ddynodi cyrsiau fesul achos. Nid yw‘r ddwy broses hon sy’n arwain at ddynodi cyrsiau gan Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig â’n swyddogaethau i ddarparu cyllid i sefydliadau. Gan hynny, ni fydd cael eu rheoleiddio na chael cyrsiau wedi’u dynodi yn golygu y bydd darparwyr yn derbyn y cyllid a weinyddir gennym ac sydd wedi’i nodi ar ffurf dyraniadau yn y cyhoeddiad hwn.

8. Ar gyfer prifysgolion yng Nghymru a darparwyr eraill yng Nghymru sy’n derbyn cyllid craidd AU, nid yw cyllid Medr yn cynnwys taliadau ar gyfer benthyciadau a grantiau ffioedd dysgu na thaliadau cymorth eraill i fyfyrwyr. Gweinyddir y rhain gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Nid yw darparwyr prentisiaethau, colegau a chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yn derbyn ffioedd dysgu ac eithrio ar gyfer darpariaeth AU. Y cyllid craidd a ddyrennir gan Medr sydd i gyfrif am y rhan fwyaf o’u hincwm.

9. Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid i Medr yn flynyddol ar sail blwyddyn ariannol o 1 Ebrill i 31 Mawrth. Mae Medr yn dyrannu cyllid i’r rhan fwyaf o sefydliadau a darparwyr cymwys ar sail blwyddyn academaidd o 1 Awst i 31 Gorffennaf. Rydym yn defnyddio’r fformat hwn: 2025-26, i ddynodi’r flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2026, a’r fformat hwn: 2025/26, i ddynodi’r flwyddyn academaidd hyd at 31 Gorffennaf 2026.

10. Yn y dyfodol bydd Medr yn ymgynghori ar bolisi cyllido a fydd yn nodi egwyddorion ar gyfer cyllido addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei lywio gan y gofrestr addysg uwch newydd, lle na fydd ond y rhai yng nghategori craidd y gofrestr yn gymwys i dderbyn cyllid addysg uwch ac ymchwil ac arloesi. Bydd y polisi hefyd yn ystyried ein dyletswyddau strategol.

Cynnwys

11. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cwmpasu pob elfen o’n dyraniad cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb derfynol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 ym mis Mawrth 2025. Derbyniwyd y llythyr cyllido cyfatebol ym mis Mawrth 2025.

12. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys yr holl grantiau craidd sy’n seiliedig ar fformiwla. Lle bo modd, mae grantiau a ddyrennir drwy gyllidebau strategol, a all fod yn amodol ar ddarparu cynllun neu strategaeth gwariant benodol, hefyd wedi’u cynnwys.

13. Caiff manylion dyrannu cyfalaf ar gyfer sefydliadau AU[1] eu cyhoeddi ar wahân, yn ogystal â dyraniadau cyllid ar gyfer mentrau addysg drydyddol strategol fel llesiant ac iechyd meddwl a chymorth cyflogadwyedd wedi’i dargedu. Er tryloywder, caiff y dyraniadau hyn eu cyfleu drwy gyhoeddiadau ar wahân.

[1] Darperir cyllid cyfalaf ar gyfer yr ystâd AB yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru drwy’r rhaglen cymunedau cynaliadwy.

Medr/2025/06: Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Dyddiad: 06 Awst 2025

Cyfeirnod: Medr/2025/06

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid colegau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg; Penaethiaid Chweched Dosbarth Ysgolion; Arweinwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned Awdurdodau Lleol; Deiliaid Contractau Prentisiaeth

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos sut y dosberthir cyllid cyffredinol Medr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26 gan gynnwys dyraniadau sefydliadol unigol ar gyfer holl gyllid craidd addysg drydyddol.

Medr/2025/06 Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Atodiadau’r dyraniadau

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/05: Cyfarwyddyd cyfrifon i golegau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer 2024/25

1. Cyflwyniad

1.1 Cyfarwyddyd cyfrifon

Mae’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn yn hysbysu colegau ynghylch gofynion Medr o ran fformat eu datganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer y flwyddyn 2024/25.

Defnyddiwn y term “coleg” i gyfeirio at gorfforaethau addysg bellach a cholegau chweched dosbarth, a sefydlwyd dan ddarpariaethau Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.

Mae Medr yn cyhoeddi’r cyfarwyddyd cyfrifon ar ran Llywodraeth Cymru, sef prif reoleiddiwr colegau addysg bellach Cymru fel elusennau eithriedig. Mae cydymffurfio â’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn yn un o’r gofynion ar gyfer telerau cyllid colegau gyda Medr a chyllidwyr cyhoeddus eraill.

Mae colegau yng Nghymru’n dal i fod yn ddarostyngedig i Femorandwm Ariannol Llywodraeth Cymru nes daw fframwaith rheoleiddio Medr ei hun i rym.

Tybir bod cyfeiriadau at Medr yn cyfeirio at y cydgyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru trwy Medr.

Mae’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn wedi’i fwriadu i gael ei ddefnyddio’n bennaf gan:

This accounts direction for primarily for use by:

a) penaethiaid, prif weithredwyr / swyddogion cyfrifyddu, a chyfarwyddwyr cyllid
b) llywodraethwyr
c) archwilwyr allanol / cyfrifwyr adrodd

1.2 Cefndir

Mae paragraff 36 y Memorandwm Ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015 (dogfen ganllaw rhif: 160/2015), yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gydymffurfio â’r Cyfarwyddyd Cyfrifon a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Medr. Bydd y cyfarwyddyd yn cwmpasu gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y datganiadau ariannol, y modd y dylid eu cyflwyno, y dulliau a’r egwyddorion y cânt eu paratoi yn unol â hwy, ac y byddant yn unol ag Arfer Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y DU a’r Datganiad o’r Arfer a Argymhellir: Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch 2019 (‘SORP AB ac AU’).

Wrth gyhoeddi’r cyfarwyddyd hwn mae Medr yn dymuno sicrhau bod y ffurf, cynnwys a datgeliadau yn natganiadau ariannol sefydliadau’n dilyn arfer da, eu bod yn gyson ar draws y sector ac yn ateb unrhyw ofynion penodol gan Lywodraeth Cymru.


Medr/2025/05: Cyfarwyddyd cyfrifon i golegau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer 2024/25

Dyddiad:  31 Gorffennaf 2025

Cyfeirnod: Medr/2025/05

At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol; Prif swyddogion cyllid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol

Ymateb erbyn: 31 Rhagfyr 2025

Crynodeb:

Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth am ofynion Medr ar gyfer fformat datganiadau ariannol archwiliedig sefydliadau addysg bellach yng Nghymru.

Medr/2025/05 Cyfarwyddyd cyfrifon i golegau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer 2024/25

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Cefnogi dros 1000 o gyflogeion Tata Steel trwy gyllid sgiliau cyhoeddus

Mae dros fil o gyflogeion a oedd yn wynebu dyfodol ansicr o ganlyniad i benderfyniad Tata Steel UK i roi’r gorau i gynhyrchu dur yn y ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot wedi cael eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau newydd trwy raglen arloesol o ddysgu lleol.

Gyda chyllid a ddarparwyr yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru ac a ddarperir ers mis Awst 2024 gan Medr, y corff newydd sy’n gyfrifol am gyllido a rheoleiddio’r sector trydyddol* yng Nghymru, mae niferoedd sylweddol wedi manteisio ar y cynllun Cyfrifon Dysgu Personol (PLA), ac mewn llawer o achosion mae’r cynllun wedi bod yn arfogi dysgwyr yn gyflym â’r sgiliau ar gyfer cyflogaeth amgen. 

Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn unig, mae’r Cyfrifon Dysgu Personol sy’n rhan o’r ymyriad ar gyfer gweithlu Tata Steel wedi cynorthwyo 800 o weithwyr i wneud 995 o gyrsiau Cyfrifon Dysgu Personol, ac mae 215 o ddysgwyr eraill sydd wedi bod yn gwneud ymhell dros 300 o gyrsiau wedi cael eu cefnogi dros y misoedd diwethaf.

Roedd Ben, sy’n 40 oed ac yn dad i ddau o blant yn eu harddegau, wedi bod yn gweithio yn Tata Steel am 24 mlynedd, ac mae’n un o’r cyn-gyflogeion sydd wedi cael budd o Gyfrif Dysgu Personol. Ar ôl adnabod a chwblhau cyrsiau lluosog gyda Choleg Castell-nedd, mae bellach wedi dod o hyd i gyflogaeth amgen. 

Meddai Ben: “Fe ddewisais i’r cyrsiau am mai’r rheiny oedd yn gweddu orau i mi fel ffordd o atgyfnerthu ac adeiladu ar fy mhrofiadau a’m hyfforddiant yn Tata, nad oedd wastad yn cael ei achredu’n swyddogol gan gyrff allanol. A minnau heb gael rhyw lawer o lwyddiant yn y farchnad swyddi ar gyfer y rolau yr oedd gennyf ddiddordeb ynddynt, mae wedi bod yn agoriad llygad go iawn cael gweld effaith yr achrediadau yr wyf wedi eu hennill.

“Ers hynny dangoswyd diddordeb ynof ar gyfer rolau a chan gwmnïau lluosog ac yn ddiweddar rwyf wedi derbyn swydd ar brosiect ynni mawr ar lefel y DU nid nepell o Bort Talbot. Rwyf wir yn ei mwynhau.’

Eglurodd Simon Pirotte, Prif Weithredwr Medr: “Yn amlwg, mae digwyddiadau diweddar ym Mhort Talbot wedi ei gwneud yn ofynnol i nifer o gyflogeion a busnesau yn y gadwyn gyflenwi ystyried eu dyfodol o’r newydd.

“Yr hyn yr ydym ni, a Llywodraeth Cymru o’n blaenau, wedi llwyddo i’w wneud trwy dargedu cyllid i ddiwallu anghenion penodol y rhai sy’n gallu cael mynediad ato, yw gweithio gyda’n colegau, darparwyr hyfforddiant a busnesau lleol nid dim ond i roi optimistiaeth ynglŷn â chyflogaeth amgen i lawer ond, mewn nifer o achosion, darparu’r sgiliau sydd wedi helpu i gyflawni union hynny.

“Rwyf wrth fy modd i gadarnhau y bydd yr ymyriad hwn sydd wedi’i glustnodi, yn dilyn ei lwyddiannau, yn parhau yn ystod 2025/2026.”

Meddai’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: “Rydym wedi gwneud ymrwymiad i’r gymuned gyfan ym Mhort Talbot na fyddent yn cael eu gadael ar ôl o ganlyniad i benderfyniad Tata i newid gweithrediadau yn y gwaith dur yn gyflym ac mae’r Cyfrifon Dysgu Personol pwrpasol hyn yn enghraifft ardderchog o sut yr ydym ni, gan weithio gyda Medr a phartneriaid, yn darparu ymyriadau sy’n cael effaith fawr i ailsgilio pobl a’u cynorthwyo i gael cyflogaeth leol amgen.

“Mae’n dda iawn gennyf weld Medr yn parhau â’r ymyriad hwn yn ystod 2026 a byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys ac nad yw wedi cael mynediad ato eto i ystyried sut y gallai fod o fudd iddynt hwy.”

Nod y rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol yw helpu unigolion i uwchsgilio neu ailsgilio mewn sectorau sy’n flaenoriaeth, yn enwedig y rhai sy’n ennill llai na’r ffigwr blynyddol gros canolrifol ar gyfer oedolion sy’n gweithio’n llawn-amser yng Nghymru. Trwy ganolbwyntio ar sectorau sy’n flaenoriaeth genedlaethol, mae’r rhaglen yn gwella potensial cyfranogwyr i ddilyn gyrfaoedd ac ennill cyflog. Mae Cyfrifon Dysgu Personol Tata yn dileu rhai o’r rhwystrau mynediad er mwyn teilwra’r cymorth yn fwy i anghenion gwahanol y gweithlu.

Gall unigolion ymgeisio naill ai’n uniongyrchol i’r colegau neu drwy Cymru’n Gweithio. Bydd yr holl sefydliadau’n sicrhau bod ganddynt broses ar waith i gefnogi ceisiadau am Gyfrifon Dysgu Personol, cynnal yr asesiad cychwynnol a phrosesu cofrestriadau.

Nodiadau

*Mae’r sector trydyddol yn ymwneud ag addysg ar gyfer pobl uwchlaw oedran ysgol gorfodol – gan gynnwys, ymhlith eraill, colegau, prifysgolion a lleoliadau galwedigaethol.

Mae ymyriad a dargedir ar gyfer gweithlu Tata wedi bod yn weithredol ers 1 Ebrill 2024, Ers hynny, mae’r rhai a gyflogwyd yn uniongyrchol gan Tata Steel UK a chadwyn gyflenwi’r cwmni yng Nghymru wedi bod yn gymwys ar gyfer Cyfrif Dysgu Personol (PLA), gan roi’r cymorth hyblyg sy’n angenrheidiol i ailhyfforddi a newid gyrfa.

Hefyd, rhaid i’r holl ymgeiswyr gael cynnig cymorth cyflogadwyedd trwy Raglen Camau i Gyflogaeth Gyrfa Cymru. Lle mae unigolion wedi cadarnhau y byddent yn croesawu cymorth ychwanegol, rhaid i’r sefydliadau Addysg Bellach amcanu at ddarparu’r offer y mae eu hangen arnynt.

Mae’r cyllid a’r ymyriad hwn yn ychwanegol at gyllid a gyhoeddwyd gan Fwrdd Pontio Tata.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio