Sta/Medr/10/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2024

  • Dechreuodd 7,185 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch1 2024/25, o gymharu â 8,145 yn Ch1 2023/24. Mae hwn yn ostyngiad o 12% yn nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd.
  • Mae’r gostyngiad yn nifer y dechreuadau yn cyd-daro â gostyngiad mewn cyllid prentisiaethau yng nghyllideb 2024-25, yn dilyn colli cyfraniadau o Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Dechreuwyd cyflwyno newidiadau i ddarpariaeth o fis Tachwedd 2023, wrth ddisgwyl am y gyllideb.
  • Ymhlith y Prentisiaethau Uwch y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf o gymharu â Ch1 y flwyddyn gynt.
  • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch1 2024/25 hefo 2,210 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 31% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Roedd 53% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr gwrywaidd yn Ch1 2024/25, roedd hyn wedi gostwng 1 pwynt canran o gymharu â Ch1 2023/24.
  • Roedd 34% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr iau nag 19 oed yn Ch1 2024/25 o gymharu â 35% yn Ch1 y flwyddyn gynt.
  • Roedd 12% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch1 2024/25, roedd hyn wedi cynyddu 3 pwynt canran o gymharu â Ch1 2023/24.
  • Roedd 12% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch1 2024/25 gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu, dim newid o Ch1 2023/24.
  • Mae 70,110 o brentisiaethau wedi’u dechrau ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau.
  • Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.
Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiol

Sta/Medr/10/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2024

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/10/2025

Dyddiad:  07 Mai 2025

Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd.

Sta/Medr/10/2025 Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2024

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Adroddiad Estyn ar Ymddygiad Dysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach: argymhellion ar gyfer colegau addysg bellach a Medr

Datganiad gan Medr:

Rydym yn croesawu adroddiad Estyn ar ymddygiad dysgwyr mewn colegau addysg bellach, gan gynnwys ei archwiliad o ymddygiadau cadarnhaol a negyddol, a’r prosesau sydd gan golegau. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynorthwyo colegau AB i adeiladu ar arfer da, ac i gefnogi datblygiad dull cydlynol o reoli ymddygiad.

Fel a amlinellir yn ein Cynllun Strategol 2025-2030, byddwn yn gweithio gyda cholegau addysg bellach i alluogi staff a dysgwyr i fod ag amgylchedd dysgu cadarnhaol, cynhyrchiol a chynhwysol lle mae’r holl staff a dysgwyr yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi. Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn cydweithio gyda cholegau i ystyried argymhellion yr adroddiad ar gyfer colegau.

Mae’r adroddiad yn gwneud argymhelliad (A8) mewn perthynas â’n dull cyllido. Fe wnaethon ni ymrwymo yn ein Cynllun Strategol i ymgynghori ar ein system gyllido. Bydd adroddiadau seiliedig-ar-dystiolaeth, fel hwn, yn cael eu hystyried wrth ddatblygu ein dulliau cyllido, a byddant yn goleuo’r penderfyniadau a wnawn.

Ymddygiad Dysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Casglu darpariaeth addysg drawswladol (TNE) a dyfarniadau yn y DU yn unig ar gofnod myfyrwyr HESA- newid y gofynion

Ym mis Medi 2024, cyhoeddwyd y byddai cofnod myfyrwyr HESA yn cael ei ehangu i gasglu data ar fyfyrwyr TNE a dyfarniadau yn y DU yn unig ar sail unigol o 2026/27. Y nod oedd cael gwell dealltwriaeth o’r ddarpariaeth hon i ddibenion ansawdd a rheoleiddio.

Nid yw Medr bellach yn mynnu bod darpariaeth TNE a dyfarniad yn y DU yn unig yn cael eu casglu ar gofnod myfyrwyr HESA o 2026/27 ac mae’n gohirio’r gofyniad i ddychwelyd y data hyn i Jisc ar sail unigol, nes y clywir yn wahanol. Yn lle hynny, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr ddychwelyd data TNE ar Gofnod Alltraeth Cyfun (AOR) HESA sydd wedi’i ehangu o 2026/27.

Mabwysiadwyd y dull hwn i gydnabod y byddai dychwelyd y data hyn ar sail unigol yn arbennig o heriol ar hyn o bryd, ac ar sail canlyniadau’r adolygiad annibynnol o weithrediad Dyfodol Data. Mae hefyd yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar weithredu’r trefniadau i gasglu data myfyrwyr yn ystod y flwyddyn yn llwyddiannus.

Rydym wedi ysgrifennu at ddarparwyr i roi gwybod iddynt am y newid hwn.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag [email protected].

Mae gwybodaeth am Jisc a chofnod myfyrwyr HESA ar gael ar wefan HESA.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/09/2025: Myfyrwyr mewn Addysg Uwch, 2023/24

  • Roedd 150,680 o gofrestriadau yn DAUwyr Cymru yn 2023/24, 2% yn llai na’r 154,385 yn 2022/23.
  • Fe ostyngodd nifer y cofrestriadau ar lefel israddedig lai nag 1%; o 111,745 yn 2022/23 i 111,320 yn 2023/24.
  • Fe ostyngodd nifer y cofrestriadau ar lefel ôl-radd 8%; o 42,640 yn 2022/23 i 39,360 yn 2023/24. 
  • Roedd 35% o fyfyrwyr ôl-radd yn astudio’n rhan-amser, o’i gymharu â 25% o israddedigion.
  • Y grŵp pynciau mwyaf poblogaeth yn DAUwyr Cymru ar lefel israddedig ac ôl-radd yn 2023/24 oedd Busnes a rheoli.
  • Roedd 57% o gofrestriadau yn 2023/24 yn rhai gan fyfyrwyr benywaidd, yr un gyfran ag yn 2022/23.
  • Roedd 20% o gofrestriadau yn 2023/24 yn rhai gan fyfyrwyr ag anabledd hysbys. Roedd hyn yn gynnydd o’i gymharu ag 17% yn y flwyddyn flaenorol.
  • O’r myfyrwyr o’r DU y mae eu hethnigrwydd yn hysbys, roedd 16% o gofrestriadau yn 2023/24 yn rhai gan fyfyrwyr o gefndir ethnig leiafrifol. Mae hyn yn gynnydd o’i gymharu ag 14% yn 2022/23.
  • Roedd 46% o gofrestriadau yn DAUwyr Cymru yn 2023/24 yn rhai gan fyfyrwyr yr oedd eu cyfeiriad parhaol ar adeg mynediad i’w cwrs yn gyfeiriad yng Nghymru. Roedd 35% arall o weddill y DU, 1% o’r UE ac roedd 17% o wledydd eraill.
  • Roedd 103,185 o gofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn Narparwyr Addysg Uwch (DAUwyr) y DU yn 2023/24, 5% yn llai nag yn 2022/23. 
  • Roedd 83,350 o’r cofrestriadau hyn ar lefel israddedig yn 2023/24, 3% yn llai nag yn 2022/23. Roedd 32% o fyfyrwyr israddedig yn astudio’n rhan-amser.
  • Roedd 19,840 o’r cofrestriadau hyn ar lefel ôl-radd yn 2023/24, 10% yn llai nag yn 2022/23. Roedd 61% o fyfyrwyr ôl-radd yn astudio’n rhan-amser.
  • Roedd 62% o fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru’n fyfyrwyr benywaidd, yr un gyfran ag yn  2022/23.
  • Roedd gan 23% o fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru anabledd hysbys yn 2023/24, sy’n gynnydd o’i gymharu â 21% yn 2022/23.
  • O’r myfyrwyr y mae eu hethnigrwydd yn hysbys, roedd 11% o fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru yn 2023/24 o gefndir ethnig leiafrifol, sy’n gynnydd o’i gymharu â 10% yn 2022/23.
  • Fe ostyngodd nifer y cofrestriadau israddedig amser llawn o’r ardaloedd mwyaf amddifadus yng Nghymru (Cwintel 1 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019) 6%, o 9,940 o gofrestriadau yn 2022/23 i 9,385 o gofrestriadau yn 2023/24.
  • Fe ostyngodd nifer y cofrestriadau israddedig amser llawn o’r ardaloedd lleiaf amddifadus yng Nghymru (Cwintel 5 MALlC 2019) 2% (o 15,195 o gofrestriadau yn 2022/23 i 14,855 o gofrestriadau yn 2023/24).
  • Mae Cymru’n fewnfudwr net myfyrwyr amser llawn o weddill y DU. 
  • Roedd 45,045 o fyfyrwyr amser llawn o wledydd eraill y DU yn DAUwyr Cymru, o’i gymharu â 27,785 o fyfyrwyr amser llawn o Gymru’n astudio mewn DAUwyr yng ngweddill y DU.
  • Roedd 44% o israddedigion amser llawn o Gymru’n astudio mewn gwledydd eraill yn y DU. Roedd 38% o fyfyrwyr ôl-radd amser llawn o Gymru’n astudio mewn gwledydd eraill yn y DU.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Cefnogaeth o’r newydd i sicrhau uniondeb ymchwil y DU

Mae fframwaith y DU ar gyfer ymddygiad a llywodraethu da ym maes ymchwil wedi cael ei ail-lansio heddiw yn dilyn ymgynghoriad ac adolygiad ar ran y sector addysg uwch ac ymchwil.

Mae’r Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil wedi darparu fframwaith a dogfen gyfeirio ymarferol ar uniondeb ymchwil yn y DU i ymchwilwyr, cyflogwyr ymchwilwyr a noddwyr ymchwil ers 2012.

Er nad oes unrhyw newid i strwythur a gofynion sylfaenol y Concordat, ac ynddo bum ymrwymiad a phum egwyddor creiddiol, mae’r adolygiad wedi sicrhau ei fod yn parhau i fod:

  • yn berthnasol yn sgil datblygiadau diweddar ym maes ymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys datblygiadau technolegol.
  • wedi’i alinio’n briodol â fframweithiau rhyngwladol ar gyfer llywodraethu ymchwil i gefnogi ymchwil a wneir mewn cyd-destunau rhyngwladol.
  • mor ddefnyddiol ac ymarferol ag sy’n bosibl.

Mae Grŵp Llofnodwyr y Concordat Uniondeb Ymchwil (RICS), sy’n cynnwys Medr, a Phwyllgor Uniondeb Ymchwil y DU, wedi cytuno ar y Concordat a’r diweddariadau.

Ceir crynodeb o’r ymgynghoriad a’r newidiadau a wnaed mewn ymateb i hynny ar wefan UKCORI.

Dylai sefydliadau sy’n llunio datganiadau blynyddol yn rhan o’u hymrwymiad i’r Concordat ddefnyddio’r cynnwys diwygiedig erbyn mis Ebrill 2026; a pharhau i ddefnyddio’r templed adrodd datganiad blynyddol presennol.

Notes

  • Gwybodaeth bellach: Y Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil – UKCORI
  • Mae Pwyllgor Uniondeb Ymchwil y DU bellach yn darparu rôl letyol ac ysgrifenyddol i’r Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil a Grŵp Llofnodwyr y Concordat Uniondeb Ymchwil (RICS).
  • Mae’r Pwyllgor yn gweithio’n agos gyda Grŵp RICS i gynllunio’r camau nesaf ac i gefnogi’r sector ymchwil i barhau i wella arferion yn gysylltiedig ag uniondeb.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/08/2025: Y Gymraeg mewn Addysg Uwch 2022/23

  • Fe astudiodd 4% o fyfyrwyr o leiaf un credyd yn Gymraeg yn 2022/23.
  • Gostyngodd nifer y myfyrwyr a astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg 3% o’i gymharu â 2021/22 a 5% o’i gymharu â 2020/21. Fodd bynnag, roedd yn dal i fod yn nifer uwch nag yn y tair blynedd cyn 2020/21.
  • Gostyngodd cyfran y myfyrwyr a astudiodd o leiaf 5 credyd yn Gymraeg i 3% yn 2022/23, a oedd yn is nag yn unrhyw un o’r pum mlynedd flaenorol. Gostyngodd cyfran y myfyrwyr a astudiodd o leiaf 120 o gredydau yn Gymraeg islaw 1% yn 2022/23, a oedd yn is nag unrhyw un o’r pum mlynedd flaenorol.
  • Fe astudiodd mwy na dwywaith cymaint o fyfyrwyr benywaidd o leiaf 1 credyd yn Gymraeg o’u cymharu â myfyrwyr gwrywaidd.
  • Addysg a hyfforddiant oedd y pwnc modiwl â’r nifer uchaf a’r gyfran fwyaf o fyfyrwyr yn astudio o leiaf un credyd yn Gymraeg.
  • Roedd yn hysbys bod 13% o’r myfyrwyr a oedd yn hanu o Gymru’n siaradwyr Cymraeg rhugl yn 2022/23.
  • Fe gynyddodd nifer y staff addysgu a oedd wedi eu contractio i addysgu yn Gymraeg 1% i 565 yn 2022/23 ar ôl gostwng o un flwyddyn i’r llall ers 2018/19.

Sta/Medr/08/2025: Y Gymraeg mewn Addysg Uwch 2022/23

Cyfeirnod: Sta/Medr/08/2025

Dyddiad: 26 Mawrth 2025

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

E-bost: [email protected]

Crynodeb:  Ystadegau ar nifer y myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau yn y Gymraeg a gallu myfyrwyr sy’n hanu o Gymru i siarad Cymraeg mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru.

Ystadegau ar nifer y staff addysgu sy’n gallu addysgu yn Gymraeg, ac sydd wedi eu contractio i addysgu yn Gymraeg mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Sta/Medr/08/2025 Y Gymraeg mewn Addysg Uwch 2022/23

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/01: Cyllid cyfalaf ychwanegol addysg uwch 2024-25

Cefndir

1. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyllid cyfalaf ychwanegol o £18.5m ar gael i’w ddyrannu ym mlwyddyn ariannol 2024-25. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi blaenoriaethau strategol gan gynnwys Sero Net/Datgarboneiddio, gwella cyfleusterau a symud yr agenda ddigideiddio yn ei blaen.

Sail dyraniadau cyllid cyfalaf

2. Bydd y cyllid cyfalaf yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar ddull fformiwläig. Gan y dylai’r cyllid gael ei ddefnyddio, yn rhannol o leiaf, i gefnogi dysgu ac addysgu, profiad myfyrwyr a’r seilwaith ar gyfer myfyrwyr, mae’r dyraniadau wedi cael eu pennu yn seiliedig ar niferoedd myfyrwyr. Mae nifer y myfyrwyr mewn sefydliad yn ddirprwy rhesymol ar gyfer faint o ystâd a chyfleusterau y mae eu hangen. Mae’r dull hwn yn gyson â dyraniadau cyfalaf blaenorol a weinyddwyd gan CCAUC.

3. Y niferoedd myfyrwyr a ddefnyddiwyd ar gyfer y dyraniad cychwynnol yw Myfyrwyr Cyfwerth ag Amser Llawn (CagALl) Cofnod Myfyrwyr HESA ar gyfer pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2022/23. Mae hon yr un sail ag a ddefnyddiwyd i ddyrannu’r cylch blaenorol o gyllid cyfalaf.

Cymhwyso isafswm dyraniad cyllid

4. Er mwyn darparu cyllid cyfalaf a fydd yn galluogi’r holl sefydliadau i fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn cael effaith gynaliadwy, fe gymhwyswyd isafswm dyraniad o £1,387,500. O ystyried ei hystâd gyfyngedig yng Nghymru, bydd isafswm o 50% (£693,750) wedi ei bennu fel trothwy ar gyfer y Brifysgol Agored i gyfrannu at brosiectau a fydd o fudd i fyfyrwyr Cymru.

5. Mae’r cyllid ar gyfer sefydliadau lle gwnaeth y dyraniad gwreiddiol yn seiliedig ar eu myfyrwyr CagALl gwympo islaw’r gwerth hwn wedi cael ei gynyddu i’r swm hwn ac mae’r myfyrwyr CagALl ar gyfer y sefydliadau hynny wedi cael eu tynnu allan o’r cyfrifiad wedyn. Mae gweddill y cyllid sydd ar gael wedi cael ei ddosrannu rhwng y sefydliadau eraill yn seiliedig ar y myfyrwyr CagALl sy’n weddill yn y cyfrifiad.

6. Caiff y dyraniadau canlyniadol ar gyfer pob sefydliad eu darparu yn Atodiad A.

Cadarnhad o’r gallu i wario

7. O ystyried y ffrâm amser gyfyngedig i ddosbarthu’r cyllid hwn, yn lle cynlluniau wedi eu cwmpasu’n llawn rydym yn disgwyl i sefydliadau gadarnhau trwy anfon e-bost i [email protected] eu bod yn gallu defnyddio eu dyraniad yn erbyn prosiectau perthnasol ym mlwyddyn ariannol 2024-25. Sylwer bod rhaid i’r rhain fod yn ddatblygiadau yng Nghymru (neu, yn achos digidol, prosiectau a fydd o fudd uniongyrchol i fyfyrwyr Cymru).

8. Pe bai sefydliad yn rhagweld na fydd yn gallu defnyddio ei ddyraniad llawn, dylai hysbysu Medr ar y cyfle cynharaf a bydd unrhyw arian sy’n weddill yn cael ei ailddyrannu i sefydliadau eraill trwy’r dull fformiwläig a ddisgrifiwyd yn flaenorol.

Monitro blynyddol

9. Bydd ymarfer monitro’n cael ei gynnal yn 2025 ar ddyddiad addas (yn yr hydref mwy na thebyg) i sicrhau bod y cyllid wedi cael ei ddefnyddio fel a fwriadwyd ac i ddarparu diweddariad ar yr effaith y mae’r buddsoddiad wedi ei chael.

10. Bydd disgwyl i sefydliadau ddarparu dadansoddiad o’r gwariant cyfalaf a manylu ar unrhyw brosiectau y mae’r cyllid wedi cyfrannu atynt.

11. Byddwn yn gofyn i sefydliadau ddarparu crynodeb ansoddol o’r effeithiau cadarnhaol y mae’r cyllid hwn wedi eu cael/yn eu cael ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’r meini prawf a nodir uchod.

Amserlen

12. Byddwn yn gofyn i ddarparwyr gadarnhau eu gallu i wario eu dyraniad llawn erbyn 19 Mawrth 2025.

13. Bydd Medr yn trefnu bod yr arian a ddyrennir yn cael ei dalu i sefydliadau ar ôl cael y cadarnhad uchod ac ar 20 Mawrth 2025.

14. Bydd y broses fonitro flynyddol yn digwydd yn 2025 ar ddyddiad addas.

Rhagor o wybodaeth

15. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

SefydliadNiferoedd Myfyrwyr a CagALl 2022/23Dyraniadau pro rata i (£): CagALlCanran a ddyrennir i bob sefydliad CagALl
Prifysgol De Cymru17,8552,638,89514%
Prifysgol Aberystwyth1,387,5008%
Prifysgol Bangor1,387,5008%
Prifysgol Caerdydd28,0154,140,32522%
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant12,6001,861,78710%
Prifysgol Abertawe18,6402,754,55115%
Prifysgol Metropolitan Caerdydd11,9501,765,87510%
Prifysgol Wrecsam1,387,5008%
Y Brifysgol Agored7,9601,176,0676%
Cyfanswm97,01518,500,000100%

Ffynhonnell: Cofnod myfyrwyr HESA 2022/23

Niferoedd Myfyrwyr nas defnyddiwyd yn y cyfrifiad: Poblogaeth gofrestru safonol HESA, pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni.

Niferoedd Myfyrwyr CagALl a ddefnyddiwyd yn y cyfrifiad: Poblogaeth Sesiwn HESA, pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni.

Sylwer bod gwerthoedd CagALl wedi cael eu talgrynnu yn dilyn eu defnyddio yn y cyfrifiadau.

Medr/2025/01: Cyllid cyfalaf ychwanegol addysg uwch 2024-25

Dyddiad: 11 Mawrth 2025

Cyfeirnod: Medr/2025/01

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Rhagor o wybodaeth:  [email protected]

Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu manylion y sail a fydd yn cael ei defnyddio i ddyrannu cyfalaf ychwanegol i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2024-25, yr wybodaeth sy’n ofynnol oddi wrth sefydliadau a’n dull o fonitro.

Medr/2025/01 Cyllid cyfalaf ychwanegol addysg uwch 2024-25

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Swydd wag: Prif Weithredwr

Dyddiad cau: hanner dydd, dydd Llun, 14 Ebrill 2025

Cenhadaeth y rôl hon yw sicrhau system ymatebol a chydlynol o addysg drydyddol, sgiliau, ymchwil ac arloesi.

Bydd y Prif Weithredwr yn gyfrifol am oruchwylio buddsoddiad gwerth £1 biliwn ac arwain tîm o 120 o arbenigwyr.

Cyflog: £140K

Asesiadau ymgeiswyr: o 5 Mai 2025 ymlaen

Cyfweliadau panel: 27 – 30 Mai 2025

Mwy

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Cyhoeddi gweledigaeth Medr ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru

Mae’r Cynllun, fu’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Medi a mis Hydref 2024, yn nodi uchelgeisiau Medr am sector cydweithredol sy’n darparu dysgu ac ymchwil o ansawdd uchel, gan ddiwallu anghenion yr economi a chymdeithas, gwella cyfraddau cyfranogiad mewn addysg drydyddol, a chreu llwybrau mwy hyblyg i ddysgwyr.

Rhoddodd Medr gyfle i gyflogwyr, undebau llafur a dysgwyr, ochr yn ochr â darparwyr addysg drydyddol a rhanddeiliaid eraill, gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, a ddenodd fwy na 100 o ymatebion.

Ystyriwyd yr ymatebion hyn wrth greu’r fersiwn derfynol, a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ar 25 Chwefror 2025.

Yn ôl yr Athro Fonesig Julie Lydon, Cadeirydd Medr:

“Rwy’n falch o fod yma gan fy mod yn credu yng ngrym trawsnewidiol addysg drydyddol ac ymchwil – yn wir, rwy’n gynnyrch y grym hwnnw. Rydyn ni i gyd yn uchelgeisiol ynghylch dyfodol Cymru: er budd ein pobl, ein cymunedau a’n heconomi. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y sector addysg drydyddol ac ymchwil yn chwarae ei ran.

“Er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael hyd i’w lwybr, mae angen system addysg drydyddol ac ymchwil gydlynol arnom – un sy’n gwneud y gorau o botensial ein pobl a’n darparwyr. Mae Medr yma i sicrhau bod gennym system o’r fath.

“Y Cynllun hwn yw’r cam cyntaf tuag at wireddu’r weledigaeth hirdymor uchelgeisiol honno. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i’w wireddu.”

Yn ôl Simon Pirotte OBE, Prif Weithredwr Medr:

“Rydym am i bob dysgwr yng Nghymru gael hyd i’r ddarpariaeth dysgu sydd orau iddyn nhw: y math cywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir. Rydym yn hyderus bod ein gweledigaeth yn cael ei rhannu ledled Cymru, a thrwy symud ymlaen gyda’n gilydd, fel un sector sydd wedi’i uno gan uchelgais a phwrpas cyffredin, y gallwn ddatgloi potensial system sy’n fwy na chyfanswm ei rhannau.

“Gwyddom fod cynnwys ein rhanddeiliaid a’n partneriaid mewn modd ystyrlon yn allweddol er mwyn i Medr lwyddo i sicrhau bod ein system addysg ac ymchwil drydyddol yn cyflawni er budd dysgwyr a Chymru. Dyna pam ein bod wedi ymgysylltu’n rheolaidd â phob rhan o’r system: dysgwyr, darparwyr, a sefydliadau sy’n gweithredu ar draws y sector, yn ogystal ag awdurdodau lleol, undebau llafur, Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill. Rydym hefyd wedi mynd ati’n weithredol i gynnwys ein gweithlu wrth ddatblygu’r Cynllun. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth wrth inni roi ein cynllun ar waith.

“Rydym eisoes wedi cyflawni ein hamcan byrdymor i roi’r sefydliad newydd ar waith. O’r cyfnod pontio llyfn hwn, byddwn nawr yn symud tuag at gyflawni ein gweledigaeth, ar ein cyfer ni ein hunain fel corff rheoleiddio, ac ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil. Mae’n fraint bod eraill wedi ymddiried ynof i adeiladu’r sefydliad hwn, ac i osod sylfaen gadarn er mwyn i Medr allu gwireddu ei uchelgais am sector addysg drydyddol ac ymchwil cryf.”

Yn ôl y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:

“Mae llawer o gyfleoedd ar gael i ddysgwyr ôl-16 yng Nghymru, boed y rheiny’n academaidd neu’n alwedigaethol. Rôl Medr yw helpu i siapio ac ysgogi gwelliant ar draws y sector addysg drydyddol yng Nghymru er mwyn rhoi’r gefnogaeth orau i’n dysgwyr.

“Daw cynllun Medr ar adeg bwysig iawn i addysg ôl-16. Fel llywodraeth rydym am gynyddu cyfranogiad yn y maes hwn. Bydd Medr yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith hwn i barhau i ddarparu’r addysg, y sgiliau a’r twf economaidd sydd eu hangen arnom yng Nghymru.”

Cynllun Strategol 2025-2030

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Sta/Medr/07/2025: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau, Awst 2023 i Orffennaf 2024

Mae ystadegau dysgu cymunedol awdurdodau lleol wedi’u tynnu o’r datganiad hwn oherwydd problemau’n gysylltiedig ag ansawdd data. Gweler yr wybodaeth am Ansawdd a Methodoleg am fanylion yr ymchwiliad sy’n cael ei gynnal i’r problemau ansawdd data, a’r ymdriniaeth â’r problemau hynny.

Diwygiwyd ar 26 Mawrth 2025

Mae’r gyfradd llwyddo ar gyfer gweithgareddau dysgu wedi cael ei diwygio yn y daenlen: Sta/Medr/07/2025 Adroddiadau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau o fis Awst 2023 i fis Gorffennaf 2024. Gwnaed y diwygiad am fod gweithgareddau Twf Swyddi Cymru+ wedi cael eu cynnwys yn anghywir yn yr adroddiad pan gafodd ei gyhoeddi’n wreiddiol ar 12 Mawrth 2025. Mae’r diwygiad yn effeithio ar y gyfradd llwyddo ar gyfer y tair blynedd sydd wedi’u cynnwys. Mae’r daenlen hon yn cynnwys dadansoddiadau ar gyfer darparwyr unigol.

Nid effeithir ar yr un o’r ffigurau yn y prif adroddiad na’r tablau sy’n cyd-fynd â’r adroddiad.

Nid effeithir ar gyfradd llwyddo’r fframwaith ar gyfer prentisiaethau.

  • Cynyddodd cyfradd llwyddo prentisiaethau yn 2023/24 i 74%. Mae’n dal yn is na’r gyfradd cyn pandemig Covid-19.
  • Prentisiaethau lefel sylfaen a ddangosodd yr adferiad cryfaf yn 2023/24.
  • Mae’r gyfradd llwyddo ar gyfer prentisiaethau uwch yn llawer is nag ar gyfer lefelau eraill, a dyna’r gyfradd lle gwelwyd yr adferiad lleiaf ers y pandemig.
  • Ni wnaeth prentisiaid uwch ond pasio ychydig dros hanner y gweithgareddau sgiliau hanfodol cymhwyso rhif a gwblhawyd ganddynt.
  • Bu cynnydd yn y gyfradd llwyddo gyffredinol yn y sectorau mwy canlynol:
    • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus;
    • Peirianneg;
    • Lletygarwch.
  • Ymhlith y sectorau mwy, gostyngodd y gyfradd llwyddo mewn:
    • Adeiladu;
    • Rheolaeth a Phroffesiynol.
  • Mae’r bwlch yn y gyfradd llwyddo rhwng dysgwyr yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf amddifadus yn cau.
  • Bu cynnydd mawr yng nghyfradd llwyddo dysgwyr ar draws cefndiroedd lleiafrifol ethnig.
  • Cafwyd cyfradd llwyddo uwch na’r cyffredin mewn gweithgareddau prentisiaeth a gwblhawyd yn gyfan gwbl yn Gymraeg.
Ffigur 1: Awst 2013 I Orfennaf 2024

Ffigur 1: Awst 2013 I Orffennaf 2024

Disgrifiad: Mae’r gyfradd llwyddo prentisiaethau yn parhau i adfer yn dilyn y pandemig. Ceir bwlch o hyd rhwng y gyfradd llwyddo gyfredol a’r cyfraddau llwyddo cyn y pandemig.

Data ar StatsCymru

Sta/Medr/07/2025: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau, Awst 2023 i Orffennaf 2024

Cyfeirnod ystadegau:  Sta/Medr/07/2025

Dyddiad: 12 Mawrth 2025

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

E-bost:   [email protected]

Crynodeb: Ystadegau ar lwyddiant a chwblhau prentisiaethau yn ôl lefel astudio, math o nod dysgu, sector, a nodweddion dysgu

Sta/Medr/07/2025 Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau 2023-24

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Aelodau Pwyllgor – Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi

Dyddiad cau: Dydd Gwener 4 Ebrill 2025

Rydym yn chwilio am dri aelod annibynnol sydd â phrofiad o ymchwil ac arloesi.

Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad/cefndir mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

Prif Ymchwilydd
  • Profiad o fod yn gyfrifol am gyflawni ymchwil annibynnol ac/neu arloesi mewn cyd-destun academaidd.
  • Proffil rhyngwladol a mynediad at ystod o rwydweithiau disgyblaethol ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Cynrychiolydd Diwydiant
  • Profiadau mewn rôl ymchwil ac/neu arloesi, mewn cyd-destun diwydiannol neu fusnes.
  • Profiad o gynlluniau cydweithredol ag ymchwilwyr prifysgol, o adeiladu ymchwil ym mhroffil eich sefydliad ac/neu o gyfrannu at y tirlun arloesi yn eich maes.
Aelod o staff sy’n galluogi ymchwil
  • Profiad o gefnogi datblygiad a gweithrediadau sy’n gysylltiedig ag ymchwil ac/neu arloesi yng nghyd-destun addysg drydyddol.
  • Profiad o weithredu prosiectau a rhaglenni mawr a ariennir yn allanol, fel canolfannau ar gyfer hyfforddiant doethurol, rhaglenni ymchwil mawr ac/neu rwydweithiau a ariennir, a chefnogi mentrau ac ymyriadau ymchwil strategol a ariennir yn fewnol yn eich sefydliad.

Manylion llawn, a sut i wneud cais

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/06/2025: Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: Awst 2023 i Orffennaf 2024

Mae ystadegau dysgu cymunedol awdurdodau lleol wedi cael eu tynnu o’r datganiad hwn oherwydd problemau’n gysylltiedig ag ansawdd data. Gweler yr wybodaeth am Ansawdd a Methodoleg am fanylion yr ymchwiliad sy’n cael ei gynnal i’r problemau ansawdd data, a’r ymdriniaeth â’r problemau hynny.

Nid yw’r problemau ansawdd data yn berthnasol i unrhyw ddata dysgu cymunedol a gyflwynir gan golegau. Mae dysgu cymunedol lle bo colegau’n ddarparwyr arweiniol yn dal wedi’i gynnwys yn yr adroddiad yn rhan o addysg bellach ran-amser.

  • Roedd 155,580 o ddysgwyr mewn addysg bellach, prentisiaethau neu ddarpariaeth dysgu arall seiliedig ar waith yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24.
  • Mae niferoedd dysgu rhan-amser yn gwella, ar ôl dirywiad hir.
  • Bu gostyngiad o 5% yn nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â’r flwyddyn gynt.
  • Mae prentisiaethau Lefel 3 ar gynnydd, a phrentisiaethau sylfaen yn gostwng, o gymharu â’r flwyddyn gynt.
  • Mae mwy o ddysgwyr yn astudio o leiaf yn rhannol yn Gymraeg.
  • Bu cynnydd mewn gweithgareddau Paratoi am Fywyd a Gwaith.
  • Bu cynnydd yng nghanran y cyrsiau dysgu seiliedig ar waith a ddilynwyd gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig heblaw Gwyn.
  • Mae dysgwyr a gafodd brofiad o amddifadedd yn ystod yr ysgol uwchradd yn llai tebygol o ddilyn cymwysterau Safon Uwch.

Dysgwyr yn ôl math o ddysgu a darparydd

Ffigur 1: Awst 2023 i Orffennaf 2024, Dysgwyr yn ôl math o ddysgu a darparydd
Ffigur 1: Awst 2023 i Orffennaf 2024, Dysgwyr yn ôl math o ddysgu a darparydd

Mae addysg bellach yn cynnwys dysgwyr sy’n astudio Safon Uwch a chymwysterau cyffredinol eraill, yn ogystal â dysgwyr sy’n astudio cymwysterau galwedigaethol (er enghraifft cymwysterau BTEC).

Mae ‘dysgu arall seiliedig ar waith’ yn cynnwys cymwysterau pontio i bobl sy’n gweithio gyda phlant mewn lleoliadau chwarae neu ofal plant.

Sta/Medr/06/2025: Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: Awst 2023 i Orffennaf 2024

Cyfeirnod ystadegau:  Sta/Medr/06/2025

Dyddiad: 27 Chwefror 2025

Dynodiad:  Ystadegau swyddogol

E-bost:   [email protected]

Crynodeb: Ystadegau ar nifer y dysgwyr, y rhaglenni a’r gweithgareddau a gyflawnir mewn colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a darpariaeth dysgu cymunedol awdurdodau lleol.

Sta/Medr/06/2025 Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol, Awst 2023 i Orffennaf 2024

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio