Adnoddau Medr: Dysgu a Datblygu

Bydd Adnoddau Medr yn gweithredu ochr yn ochr â gwefan Medr, ac yn caniatáu i weithwyr addysg proffesiynol gael mynediad at ddeunydd ategol fel pecynnau cymorth, astudiaethau achos a chanllawiau ymarferol.

Gellir cael at ddeunydd digidol sy’n ymwneud â phynciau fel cydraddoldeb, addysg awyr agored, dysgu digidol, iechyd meddwl a mwy trwy’r platfform.

I ddechrau, bydd y platfform hwn yn rhoi mynediad i ddefnyddwyr at ddeunydd a oedd ar gael ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru yn flaenorol, ac sy’n fwyaf perthnasol i staff sy’n gweithio ym meysydd addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned.

Dysgu digidol

Safonau digidol: rolau addysgu a dysgu Ôl-16

Mae’r safonau digidol hyn wedi cael eu creu mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y sector ôl-16 a Jisc. Bwriad y fframwaith safonau yw rhoi dealltwriaeth ar y cyd i’r sector o beth yw ymarfer digidol da a’r deilliannau mae’n gallu helpu i’w cyflawni. Defnyddiwyd y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu a Dysgu mewn Addysg Bellach a Dysgu’n Seiliedig ar Waith yng Nghymru fel y fframwaith ar gyfer y set hon o safonau digidol.

Adnoddau

Canllawiau dysgu cyfunol ar gyfer darparwyr Ôl-16

Mae’r casgliad o ddeunydd yma, a ddatblygwyd drwy ymgynghori â’r Gweithgor Dysgu Cyfunol Llywodraeth Cymru, yn gynnwys canllawiau ar ddysgu cyfunol ar gyfer darparwyr dysgu ac ymarferwyr addysgu. Mae’r canllawiau yma’n berthnasol ar gyfer sefydliadau addysg bellach, a darparwyr o ddysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned.

Adnoddau

Datganiad ar y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â Digidol 2030 a’r camau nesaf

Crynhoi’r sefyllfa bresennol o ran fframwaith strategol Digidol 2030 ar gyfer dysgu digidol yn y sector Ôl-16, gan gynnwys gweithgareddau yn ystod pandemig Covid-19 a’r camau nesaf ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22, fel roedd.

Rhestr Chwarae

Digidol 2030: Galwad i weithredu

Cyhoeddwyd y fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol yn sector ôl-16 Cymru, Digidol 2030, yn 2019. Mae’r rhestr chwarae hon yn crynhoi sut roedd y Llywodraeth am fynd ati i weithredu Digidol 2030 rhwng 2022 a 2025.

Rhestr Chwarae

Dylunio a datblygu eich ymarfer dysgu cyfunol (Jisc)

Mae’r rhestr chwarae yma yn cynnwys 5 cwrs ar-lein ar gyfer ymarferwyr addysgu ôl-16 i archwilio’r defnydd o fodelau a damcaniaethau technoleg dysgu i’w helpu i ddatblygu eu dulliau dysgu cyfunol. Mae’r cyrsiau byr hyn wedi’u cynllunio mewn modd hyblyg i’ch galluogi i ‘blymio i mewn ac allan’. Mae’r cyrsiau wedi’u datblygu gan arbenigwyr Jisc, yn dilyn argymhellion gan Estyn, ac wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Rhestr Chwarae

Addysgu’r cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru llythrennedd digidol: ôl-pandemig

Mae’r rhestr chwarae hon yn darparu diweddariad wrth gyfres o weithdai ar gyfer Diemwntau Digidol (cymuned o ymarferwyr sydd yn addysgu’r cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru llythrennedd digidol) gan Jisc. Mae’n cynnwys enghreifftiau o adnoddau llythrennedd digidol a greuwyd a rhannwyd gan ymarferwyr addysgu a gwybodaeth ar offeryn a phlatfformau a defnyddiwyd ar gyfer addysgu llythrennedd digidol. Arianwyd y gweithdai gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2021/22.

Rhestr Chwarae

Dulliau cydweithredol yn defnyddio technoleg ddigidol y sector ôl-16 yng Nghymru

Mae Jisc wedi canfod a datblygu chwech enghraifft o fentrau cydweithredol llwyddiannus sy’n defnyddio offer digidol a thechnoleg mewn dysgu ac addysgu ôl-16 yng Nghymru. Mae’r chwech astudiaeth achos yn cwmpasu cydweithrediadau ar draws addysg bellach a chyda chweched dosbarth, addysg uwch, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol. Mae’r astudiaethau achos a’r adroddiad ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Adnoddau

Adolygiad o ymchwil, polisi ac ymarfer ar gyfer cynllunio dysgu digidol a chyfunol

Comisiynwyd yr adroddiad yma wrth Jisc i lywio meddwl strategol a chynlluniau gweithredu ar gyfer dysgu digidol a chyfunol, fel rhan o’r galwad am weithred o dan strategaeth Ddigidol 2030 ar gyfer sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cyfuno astudiaethau ymchwil diweddar, dogfennau polisi ac enghreifftiau ymarferol, ac yn cynnig cymorth ymarferol i golegau ar gyfer datblygu strategaethau a chynllunio gweithredu.

Adnoddau

Recordio a ffrydio gwersi: canllawiau ar gyfer addysg bellach

Comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, mae Jisc wedi cynyddu canllawiau ymarferol ar recordio a ffrydio gwersi i helpu sefydliadau addysg bellach ac ymarferwyr addysgu i ddarganfod, mabwysiadu neu wella’r defnydd o gynnwys wedi’i recordi a’i ffrydio ar gyfer addysg a dysgu.

Adnoddau

Dysgu cyfunol a hybrid yng ngholegau addysg bellach Cymru – Jisc

Cynhaliodd Jisc astudiaeth i archwilio’r defnydd o ddulliau cyflwyno hybrid a chyfunol yn y sector addysg bellach yng Nghymru. Mae’r adroddiad a’r chwe astudiaeth achos thematig sy’n cyd-fynd ag ef yn amlinellu ffactorau llwyddiant, heriau, datrysiadau posibl, datblygiadau yn y dyfodol ac argymhellion ar gyfer cyflwyno dysgu hybrid a chyfunol.

Adnoddau

Archwilio’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn addysg bellach

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24, fe gefnogodd Llywodraeth Cymru chwe phrosiect dan arweiniad colegau i beilota’r defnydd o offer a thechnoleg Deallusrwydd Artiffisial (AI). Mae’r rhestr chwarae hon yn rhannu gwybodaeth am y prosiectau peilot ac yn amlinellu’r camau nesaf a gefnogwyd gan Medr yn ystod 2024/25.

Rhestr Chwarae

Modiwlau dysgu digidol ar gyfer staff dysgu ac addysgu


Modiwlau dysgu digidol ar gyfer staff dysgu ac addysgu

Modiwlau dysgu digidol gan Jisc ar gyfer staff dysgu ac addysgu, a dyluniwyd i gynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am faterion allweddol ynglŷn â hygyrchedd digidol, hawlfraint ddigidol mewn addysg, cefnogi hunaniaeth a lles digidol dysgwyr, a dysgu a datblygu digidol. Mae’r modiwlau hyn wedi’u cynllunio i fod yn gryno (tua 30 munud yr un).

Rhestr Chwarae

Pecyn cymorth ar gyfer dysgu cyfunol a lywir gan AI

Mae’r pecyn cymorth hwn yn ganlyniad prosiect cydweithredol rhwng tri choleg Addysg Bellach (AB) yn y De-ddwyrain Cymru: Coleg Gwent, Coleg Caerdydd a’r Fro, a Choleg y Cymoedd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Y nod yw gyrru arloesedd a gwella arferion dysgu cyfunol trwy integreiddio technolegau AI datblygedig, gyda chyfeiriad at fathau dysgu ABC.

Adnoddau

Deunydd e-ddysgu: defnydd effeithiol, diogel a moesegol o AI

Mae’r gyfres hon o ddeunyddiau e-ddysgu wedi’i chreu i gefnogi staff a dysgwyr i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) yn effeithiol ac yn foesegol. Mae’r adnoddau hyn yn darparu canllawiau ymarferol ac enghreifftiau byd go iawn o gymwysiadau AI o fewn y sector ôl-16. Mae pecynnau SCORM ar gael i’w lawrlwytho, gan alluogi darparwyr dysgu i osod y modiwlau yn eu hamgylcheddau dysgu rhithwir eu hunain. Mae hyn yn caniatáu i ddarparwyr olrhain cynnydd staff a dysgwyr trwy eu systemau eu hunain. Mae’r astudiaethau deunydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Adnoddau

Cydraddoldeb

Sector addysg bellach wrth-hiliol

Mae’r rhestr chwarae hon yn crynhoi sut roedd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r sector addysg bellach a phartneriaid eraill er mwyn cyflawni’r amcanion yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Rhestr Chwarae

Canllawiau cynllunio gweithredu gwrth-hiliaeth ar gyfer sefydliadau addysg bellach

Datblygwyd y canllawiau hyn gan y Black Leadership Group i gefnogi sefydliadau addysg bellach i gyflawni’r nodau a nodir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.

Adnoddau

Tuag at addysg bellach wrth-hiliol: ymchwil ansoddol ar brofiadau bywyd

Fel rhan o’i chynllun gweithredu i gyflawni uchelgais gwrth-hiliol Cymru ar draws addysg bellach, comisiynodd Llywodraeth Cymru yr ymchwil ansoddol hon ar raddau ac effeithiau hiliaeth ar ddysgwyr a staff.

Adnoddau

Dod yn sefydliad gwrth-hiliol: canllawiau ar gyfer darparwyr prentisiaethau

Datblygwyd y canllawiau hyn gan y Grŵp Arwain Pobl Dduon, i gefnogi darparwyr prentisiaethau i gyflawni’r nodau a nodir yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru Llywodraeth Cymru.

Adnoddau

Iechyd meddwl a llesiant

Adnoddau iechyd meddwl ar gyfer ymarferwyr addysg bellach

Mae’r ‘rhestr chwarae’ hon yn cynnwys adnoddau ar gyfer y sector addysg bellach yng Nghymru er mwyn helpu ymarferwyr i gynorthwyo dysgwyr sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl.

Rhestr Chwarae

Cydnabod ac ymateb i gamddefnyddio sylweddau yn addysg bellach

Dyluniwyd y pecyn cymorth hwn i gefnogi ymarferwyr addysg bellach i ddatblygu strategaeth integredig i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau.

Adnoddau

Gwasanaethau IMPACT – datblygu cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles i staff a dysgwyr

Mae’r casgliad hwn o restrau chwarae yn cyflwyno’r prosiectau IMPACT, arweiniwyd gan Goleg Sir Benfro fel rhan o gronfa Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru yn 2020-21 a 2021-22. Maen nhw’n amlinellu cymorth a ddatblygwyd ar gyfer iechyd meddwl a lles i staff a dysgwyr yn yr ardal Partneriaeth Ranbarthol Dde-orllewin Cymru.

Rhestr Chwarae

Ymwybyddiaeth Llesiant: prosiect iechyd meddwl a lles

Mae’r rhestr chwarae hon yn darparu’r canfyddiadau ac argymhellion allweddol o brosiect Ymwybyddiaeth Llesiant 2021-2022, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n disgrifio gweithgarwch y prosiect i gefnogi lles staff o dan arweiniad yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) ac Unsain a chanfyddiadau’r ymchwil a wnaed gyda thri choleg peilot.

Rhestr Chwarae

Hyrwyddo lles actif yng ngholegau adddysg bellach

Cyfres o saith ffeithlun ar gyfer colegau addysg bellach i’u rhannu a’u defnyddio gyda dysgwyr a staff i hyrwyddo’r cysylltiadau rhwng gweithgarwch, lles a gwell iechyd meddwl. Comisiynwyd yr adnoddau yma gan Colegau Cymru fel rhan o gyllid iechyd meddwl a lles a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021 i 2022.

Adnoddau

Mesurau perfformiad

Mesurau perfformiad ôl-16: trosolwg

Cyflwyniad i fesurau perfformiad cyson Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg bellach a chweched dosbarth, yn amlinellu’r mesurau a sut y cawsant eu datblygu.

Adnoddau

Canllawiauar gyfer dehongli a defnyddio adroddiadau mesur perfformiad cyson

Yn ganllaw syml i helpu ysgolion a cholegau i ddehongli eu hadroddiadau ar y mesurau cyson.

Adnoddau

Mesurau perfformiad ôl-16 cyson

Gwybodaeth am y mesurau perfformiad ôl-16 newydd (bryd hynny) ar gyfer chweched dosbarth ysgolion a cholegau addysg bellach.

Rhestr Chwarae

Dadansoddiad o ffactorau sy’n dylanwadu ar gyflawniad dysgu ôl-16 yng Nghymru (crynodeb)

Nododd yr ymchwil hon y ffactorau sy’n dylanwadu fwyaf ar gyflawniad ôl-16 a lluniodd amcangyfrif o’r canlyniad a ragwelir ar gyfer y darparwr ôl-16 o ystyried nodweddion ei ddysgwyr.

Adnoddau

Addysg awyr agored ac ymweliadau

Pecynnau adnoddau arweiniad chwaraeon Colegau Cymru

Pecynnau adnoddau canllawiau chwaraeon a gwybodaeth ategol i gefnogi colegau a staff addysg bellach sy’n ymwneud â digwyddiadau cydweithredol a thimau cynrychioliaethol. Crëwyd yr adnoddau hyn ar ôl ymgynghori â’r sector a’i fwriad yw cefnogi gweithdrefnau iechyd a diogelwch presennol y coleg a chanllawiau cenedlaethol Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru ar ymweliadau addysgol yn y dyfodol.

Adnoddau

Cynllunio ac arwain ymweliadau addysgiadol

Mae’r modiwlau hyfforddi ar-lein hyn wedi’u creu ar gyfer pob aelod o staff yn sefydliadau addysg bellach gyda chyfrifoldeb dros gynllunio ac arwain ymweliadau addysgiadol. Datblygwyd y modiwlau hyn mewn partneriaeth gyda’r sector addysg bellach a’r Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored.

Adnoddau

Canllawiau ar ymweliadau addysgol ar gyfer sefydliadau addysg bellach

Mae’r rhestr chwarae hon yn cynnwys dolenni ac adnoddau ar gyfer staff mewn sefydliadau addysg bellach sy’n gyfrifol am gynllunio, arwain a chymeradwyo ymweliadau addysgol.

Rhestr Chwarae

Dysgu proffesiynol

Prosiect Archwilio’n Ddwfn 2022/23

Yn y rhestr chwarae hwn mae’r adroddiad gwerthuso, astudiaethau achos ac adnoddau a grëwyd o ganlyniad i weithgareddau gydag undebau llafur a cholegau addysg bellach ar bynciau llesiant proffesiynol a lleihau llwyth gwaith.

Rhestr Chwarae

Partneriaeth gymdeithasol

Partneriaeth gymdeithasol mewn addysg bellach

Mae’r rhestr chwarae hon yn rhoi trosolwg o’r gwaith o ddatblygu partneriaethau cymdeithasol yn y sector addysg bellach, ynghyd ag adnoddau ac astudiaethau achos.

Rhestr Chwarae

Pecyn adnoddau ar gyfer rheoli newid yn Addysg Bellach

Cynlluniwyd y pecyn adnoddau hwn i gefnogi ac arwain staff drwy’r broses newid ac mae’n seiliedig ar egwyddorion partneriaeth gymdeithasol. Fe’i crëwyd fel rhan o’r prosiectau cydweithredol baich gwaith, wedi’i gyd-gynllunio â Jisc, a’i ddatblygu mewn partneriaeth â staff ac arweinwyr o 5 coleg.

Adnoddau

Adnoddau Cymraeg

Pecyn cefnogi tiwtoriaid addysg bellach

Adnoddau a chwrs e-ddysgu i roi hyder i diwtoriaid i gofnodi gweithgareddau yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog; cynyddu eu hymwybyddiaeth o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR); canfod ble mae eu darpariaeth ar hyn o bryd ar y continwwm dwyieithrwydd; ac i gynorthwyo tiwtoriaid i feithrin eu sgiliau addysgu’n ddwyieithog. Datblygwyd yr adnoddau yma fel rhan o Gyllid Datblygiad Proffesiynol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021/22.

Adnoddau

Adnoddau Prentis-Iaith

Nod Prentis-iaith yw cynorthwyo prentisiaid i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg a’u galluogi i gwblhau rhywfaint o’u cwrs yn Gymraeg. Mae’n cynnwys cwrs cyffredinol a phedwar cwrs ar gyfer sectorau galwedigaethol gwahanol. Mae’r cyrsiau ar gael ar bedwar lefel: Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder, Rhuglder ac mae cwis ar gael i ganfod pa lefel sy’n addas ar eich cyfer.

Adnoddau

Prentis-iaith Lefel Dealltwriaeth – Cymraeg yn unig

Mae’r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o’r Gymraeg ac sydd am ehangu’u dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi’r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o’u cwrs yn y Gymraeg.

Adnoddau

Teclyn Iaith: Teclyn Cymraeg Rhyngweithiol

Teclyn a grëwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r teclyn yn gynnwys adnoddau a rhaglenni ymarferol er mwyn i staff wella’u Cymraeg a’u defnyddio gyda’u dysgwyr neu brentisiaid. Bwriad y teclyn ydy rhoi cymorth i staff mewn colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i ddefnyddio’r Gymraeg, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg.

Adnoddau

Amrywiol

Pecynnau cymorth pwnc mwy galluog a thalentog

Rhestr wirio a phecynnau cymorth ar gyfer pynciau penodol i helpu sefydliadau addysg bellach i adnabod dysgwyr mwy galluog a thalentog.

Adnoddau

Dysgwyr mwy galluog a thalentog: Canllawiau i’r sector addysg bellach yng Nghymru

Mae’r canllawiau hyn yn seiliedig ar ddau adolygiad a edrychodd ar sut mae pobl ifanc fwyaf disglair Cymru yn cael y gefnogaeth i gyflawni eu llawn botensial.

Adnoddau

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: modiwlau tiwtorial ar gyfer darparwyr dysgu Ôl-16 yn fformatau SCORM a HTML

Diben y modiwlau hyn (a ddatblygwyd gan Goleg Cambria) yw datblygu geirfa dysgwyr sy’n gysylltiedig â’r saith nod llesiant. Cynllun i’w ddefnyddio gyda dysgwyr ym Mlynyddoedd 10 i 13 (neu lefelau cyfatebol yn y sector Ôl-16). Cynorthwyo gyda thrafodaethau yn yr ystafell ddosbarth, a helpu dysgwyr i adnabod a defnyddio’r termau hyn y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Darperir ffeiliau i’w lawrlwytho gan ddarparwyr dysgu.

Adnoddau

eFodiwlau Sero Net ar gyfer darparwyr addysg bellach

Mae’r gyfres o e-modiwlau hwn, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â cholegau addysg bellach, ac sydd wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio ar gyfer dysgwyr galwedigaethol Lefel 3, yn mynd i’r afael â’r problemau sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd, a’r atebion posibl, ac yn annog dysgwyr i ystyried newidiadau y gallent eu gwneud yn eu bywydau bob dydd a’u gyrfa yn y dyfodol i gefnogi Cymru sero net. Darperir ffeiliau SCORM a RAW i’w lawrlwytho gan ddarparwyr dysgu.

Adnoddau

Diogelu

Pwrpas y modiwlau hyn yw addysgu cyfranogwyr am egwyddorion ac arferion diogelu. Gall sefydliadau addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith lawrlwytho ffeil .Zip sy’n cynnwys pecyn SCORM ar gyfer pob modiwl i’w gosod o fewn eu llwyfannau dysgu rhithwir lleol. Arianwyd datblygiad o’r deunydd yma gan Lywodraeth Cymru.

Adnoddau

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio