Cyhoeddiadau
Sta/Medr/03/2026: Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2024 i Orffennaf 2025
24 Feb 2026
Prif bwyntiau
Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y staff a oedd yn cael eu cyflogi mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25, fel y’i casglwyd yng Nghofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).
Cyfrifir niferoedd staff gan ddefnyddio’r hyn sy’n gyfwerth â pherson llawn ar gyfer staff ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn adrodd, er enghraifft 1 Rhagfyr 2024 ar gyfer 2024/25. Ni chaiff staff ar gontractau annodweddiadol eu cynnwys yn yr adroddiad hwn am nad ydynt yn gymaradwy â staff ar fathau eraill o gontract. Yn 2024/25 roedd 1,170 o staff yn cael eu cyflogi gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gontractau annodweddiadol.
- Roedd 21,995 o staff yn cael eu cyflogi mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2024/25. Mae hyn yn cynrychioli lleihad o 2.8% o gymharu â’r 22,635 o staff a gofnodwyd yn 2023/24.
- 2024/25 oedd y flwyddyn academaidd gyntaf ers 2020/21 pan welwyd lleihad yng nghyfanswm nifer y staff.
- Yn 2024/25, roedd staff amser llawn yn cyfrif am 67.3% o’r holl staff (14,815), ac roedd staff rhan-amser yn cyfrif am 32.7% (7,180) o’r holl staff.
- Yn 2024/25, roedd staff academaidd a staff anacademaidd yn cyfrif am 50% yr un o gyfanswm y staff. Roedd 11,085 o staff ar gontractau academaidd a 10,910 o staff ar gontractau anacademaidd.
- Yn 2024/25, roedd 56% o staff yn fenywaidd (12,325) a 44% (9,610) yn wrywaidd.
- Yn 2024/25, o blith y staff yr oedd eu cefndir ethnig yn hysbys, roedd 86.7% o gefndir Gwyn, roedd 7.4% o gefndir Asiaidd, roedd 2.1% o gefndir Du, roedd 1.9% o gefndir Cymysg ac roedd 2.0% o gefndir Arall.
- Yn 2024/25, cofnodwyd bod gan 9.3% o staff o leiaf un anabledd hysbys.
- Y grŵp oedran â’r nifer mwyaf o staff ynddo yn 2024/25 oedd y categori 36 i 45 oed, a oedd yn cyfrif am 28.3% o’r holl staff. Y grŵp oedran â’r nifer lleiaf ynddo oedd y categori 66 oed a hŷn, a oedd yn cyfrif am 2.9% o’r holl staff.
Sta/Medr/03/2026: Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2024 i Orffennaf 2025
Ystadegau swyddogol
Cyfeirnod: Sta/Medr/03/2026
Dyddiad: 24 Chwefror 2026
Crynodeb: Ystadegau ar y staff a gyflogir mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru
Thema: Addysg Uwch
Ffynhonnell: Cofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) Staff Record
Sta/Medr/03/2026 Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2024 i Orffennaf 2025Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio