Ymgysylltu â dysgwyr
Mae cynllun strategol Medr yn sefydlu ein nod i roi lle creiddiol i anghenion y dysgwr yn y sector addysg drydyddol. Rydym yn anelu i helpu darparwyr addysg drydyddol roi’r profiad gorau bosib i ddysgwyr.
Os ydych chi’n ddysgwr neu’n fyfyriwr mewn addysg bellach neu uwch, yn ddisgybl chweched dosbarth, yn oedolyn sy’n dysgu neu’n brentis, ein nod yw rhoi’r sgiliau i ddysgwyr ddechrau a pharhau â’u taith drwy addysg drydyddol a thu hwnt, er mwyn ichi allu llwyddo mewn bywyd ac mewn gwaith.
Yn Medr, rydym ar hyn o bryd yn adeiladu ein gwaith o amgylch dysgwyr ac yn sefydlu strwythurau i ymgysylltu’n uniongyrchol â’n dysgwyr yng Nghymru. Roedd peth o’r gwaith ar y tudalennau hyn yn cael ei gyflawni’n flaenorol gan Lywodraeth Cymru neu Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Dros amser, rydym yn cynllunio dull mwy cydgysylltiedig o ymgysylltu â dysgwyr ac o roi llais i’r dysgwr ar draws yr holl sector addysg drydyddol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynnwys y tudalennau gwe hyn, cysylltwch â [email protected].
Ymgysylltu â dysgwyr wrth wneud penderfyniadau
Bydd Medr yn datblygu Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, gyda’r bwriad o sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn cael eu cynrychioli, eu bod yn cael y cyfle i fynegi barn wrth ddarparwyr am yr addysg a’r hyfforddiant y maent yn ei dderbyn, a’u bod yn gallu cymryd rhan ym mhenderfyniadau eu darparydd.
Bydd gofyn i brifysgolion, colegau, y chweched dosbarth mewn ysgolion, darparwyr prentisiaethau a darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned gydymffurfio â’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr.
Ym mis Hydref 2025 lansiwyd ymgynghoriad gennym ar ddrafft y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, sydd i fod i gael ei gwblhau’n derfynol a’i gyhoeddi yn nhymor y gwanwyn 2026.
Mae llais y myfyriwr/dysgwr yn llywio gwaith cyrff llywodraethu ar draws yr holl sefydliadau sy’n darparu addysg uwch a phellach ac yn helpu i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir gan gyrff llywodraethu yn ystyried anghenion y corff amrywiol o ddysgwyr.
Mae myfyrwyr-lywodraethwyr yn gwneud cyfraniad arbennig i brifysgolion a cholegau bob blwyddyn, ac yn cyflwyno cyd-destun a phersbectif hynod werthfawr i’w sefydliadau ac i’r ffordd y cânt eu cynnal. Mae’r Canllaw i fyfyrwyr sy’n llywodraethwyr yng Nghymru, a luniwyd gan AU Ymlaen wedi’i anelu at fyfyrwyr-lywodraethwyr i’w cefnogi yn eu rôl.
Mae Medr yn ariannu hyfforddiant i Fyfyrwyr-Lywodraethwyr ledled Cymru fel y gall myfyrwyr-lywodraethwyr mewn addysg uwch ac addysg bellach ddechrau eu tymor yn deall eu rôl ac wedi’u grymuso. Bydd Elusen NUS yn darparu’r hyfforddiant hwn ar gyfer blynyddoedd academaidd 2025/26 a 2026/27. Am ragor o wybodaeth am y rhaglen hon cysylltwch â [email protected].
Mae ymgysylltu â dysgwyr yn rhan allweddol o adolygiadau ansawdd allanol a gynhelir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer darparwyr addysg uwch, ac mae wedi’i gynnwys yn rhan o arolygiadau Estyn ar gyfer pob rhan arall o’r sector addysg drydyddol.

Diogelu dysgwyr
Disgwylir i ddarparwyr addysg drydyddol (ac eithrio’r chweched dosbarth) baratoi Cynllun Diogelu Dysgwyr, gan egluro sut y byddant yn diogelu buddiannau dysgwyr os bydd cwrs yn cael ei derfynu neu ddarparydd yn methu, a pha fecanweithiau sydd ganddynt i gefnogi dysgwyr a allai fod eisiau trosglwyddo i gwrs arall.
Mae gan Medr ddyletswydd i sicrhau bod gan ddarparwyr addysg drydyddol(ac eithrio’r chweched dosbarth) weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion a wneir gan ddysgwyr a chyn-ddysgwyr, a’u bod yn sicrhau bod eu dysgwyr yn ymwybodol o’r gweithdrefnau hynny.
Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol yw’r corff sy’n gyfrifol am adolygu cwynion myfyrwyr am ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru ac yn Lloegr.
Gall dysgwyr hefyd wneud cwyn i Medr am broblemau systematig yn gysylltiedig ag ansawdd a safonau o fewn eu darparydd, fel arfer ar ôl mynd drwy weithdrefnau cwyno’r darparydd hwnnw.

Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio