This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Sta/Medr/16/2025: Mesurau Monitro Cydraddoldeb Hiliol Addysg Uwch

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn diweddaru’r Mesurau Monitro Cydraddoldeb Hiliol a gyhoeddwyd gan un o’r sefydliadau a ragflaenodd Medr, sef Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yn 2024.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am gefndiroedd ethnig:

  • y rhai sy’n ymgeisio am addysg uwch drwy UCAS.
  • nifer y myfyrwyr gyda ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru a’u canlyniadau gradd.
  • nifer y staff mewn prifysgolion yng Nghymru a’u telerau cyflogaeth.

I gyd-fynd â’r adroddiad hwn ceir taenlen ac arni’r data llawn a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn, ac a geir ar wefan Medr.

Cyhoeddwyd y mesurau’n wreiddiol gan CCAUC i fodloni un o’r camau yn nogfen Llywodraeth Cymru, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2022. Drwy gyhoeddi’r fersiwn ddiweddaraf hon o’r mesurau rydym yn darparu gwybodaeth gyfredol a all gyfrannu at fonitro cynnydd y cynllun hwn.

Mae Medr yn defnyddio’r data i lywio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac yn rhan o’n gwaith monitro i ddibenion rheoleiddio a chyllido. Mae data a thystiolaeth yn llywio ein datblygiadau o ran polisi ac yn cyfrannu at ein hasesiad o’n cyfraniad at Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Wrth i Medr ddatblygu ei brosesau rheoleiddio a chyllido, efallai y byddwn yn defnyddio’r data i lywio ein dealltwriaeth o gyfle cyfartal, lles staff a myfyrwyr, profiad dysgwyr, a pherfformiad a risg.

Mae’r mesurau hefyd yn cyfrannu at fonitro nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a hefyd at ddyletswyddau Medr yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (2022) a’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

Ymgeiswyr a Cheisiadau
  • O blith ymgeiswyr a cheisiadau UCAS sy’n hanu o’r DU i gyrsiau gradd amser llawn gyda darparwyr Addysg Uwch (AU) Cymru mae’r gyfran sydd o gefndir ethnig lleiafrifol wedi cynyddu o 2016 i 2024. Mae hyn yn wir am yr holl grwpiau cefndir ethnig a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn (Asiaidd, Du, Cymysg ac Arall).
  • Mae canran yr ymgeiswyr sy’n cael cynnig yn gyson uwch i’r rhai o gefndir ethnig Gwyn neu Gymysg na’r rhai o gefndir ethnig Asiaidd, Du neu Arall. Mae hyn yn wir am ymgeiswyr 18 oed ac ymgeiswyr o bob oed.
  • Mae cyfran yr ymgeiswyr sy’n bodloni amodau eu cynnig ac sy’n dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wedi cynyddu o 2016 i 2024.
Myfyrwyr
  • Mae cyfran y myfyrwyr sy’n hanu o’r DU o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a ddechreuodd gyrsiau gyda darparwyr AU yng Nghymru wedi cynyddu o 10.3% yn 2016/17 i 17.9% yn 2023/24. Ceir tuedd gyffredinol i gyfran y dechreuwyr o bob un o’r grwpiau cefndir ethnig Asiaidd, Du, Cymysg ac Arall gynyddu, gyda’r cynnydd mwyaf ymhlith y rhai o gefndir ethnig Asiaidd.
  • Rhwng 2016/17 a 2023/24, mae myfyrwyr o gefndir ethnig Gwyn wedi bod yn gyson yn fwy tebygol o gael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf na myfyrwyr o unrhyw gefndir ethnig arall.
  • Mae myfyrwyr o gefndir ethnig Du wedi bod yn fwy tebygol yn gyson o gael gradd ail ddosbarth isaf neu drydydd dosbarth na myfyrwyr o gefndiroedd ethnig eraill.
Staff
  • Mae cyfran y staff, academaidd ac anacademaidd, o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wedi cynyddu o 2016/17 i 2023/24. Gwelwyd y cynnydd mwyaf ymhlith staff o gefndiroedd ethnig Asiaidd.
  • Mae staff o gefndir ethnig Gwyn yn fwy tebygol o fod ar delerau cyflogaeth parhaol na staff o unrhyw gefndiroedd ethnig eraill.
  • Mae staff academaidd o gefndiroedd ethnig Du yn fwy tebygol o gael eu cyflogi ar raddfa ganol neu is o gymharu â staff o gefndiroedd ethnig eraill. Mae cyfran uwch o staff academaidd o’r grwpiau Gwyn a chefndir ethnig Arall yn cael eu cyflogi ar y graddfeydd uwch o’i gymharu â’r grwpiau cefndir ethnig eraill.
  • Mae’r gwahaniaethau rhwng cefndiroedd ethnig o ran cyfran y staff anacademaidd a gyflogir ar bob graddfa wedi culhau rhwng 2016/17 a 2023/24.
  • Er bod nifer y llywodraethwyr yn y sector addysg uwch yn isel, mae’r gyfran sydd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wedi cynyddu o 3.1% yn 2016/17 i 13.6% yn 2023/24.

Sta/Medr/16/2025: Mesurau Monitro Cydraddoldeb Hiliol Addysg Uwch

Cyfeirnod:  Sta/Medr/16/2025

Dyddiad:  30 Hydref 2025

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad wedi’i seilio ar ddata sydd wedi eu cyhoeddi gan UCAS ac Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), gyda ffocws penodol ar gefndiroedd ethnig y rhai sy’n ymgeisio am gwrs gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru, sy’n astudio mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru a staff sy’n gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru.

Sta/Medr/16/2025 Mesurau monitro cydraddoldeb hiliol addysg uwch

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio