Newyddion
Mae Medr yn parhau i ymgysylltu ynghylch trefniadau rheoleiddio newydd drwy ddigwyddiadau â phresenoldeb uchel
19 Jun 2025
Mae Medr wedi cwblhau’r ail o’i ddigwyddiadau ymgysylltu ar gynigion ar gyfer system newydd i reoleiddio darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant, gyda phartïon â diddordeb a phartïon yr effeithir arnynt.
Mae’r digwyddiadau, gyda 150 o bobl yn bresennol ym mhob un, wedi rhoi trosolwg o’r hyn y mae’r cynigion yn ei olygu i’r sector, y sail resymegol wrth wraidd penderfyniadau a sut y gall y sector gynorthwyo ymhellach i lunio’r rheoliadau terfynol, y daw’r rhan fwyaf ohonynt i rym o 1 Awst 2026.
Mae’r rhain ar gael i’w gwylio eto:
Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllidMae Medr yn awyddus i sicrhau bod pob rhanddeiliad yn hyddysg yng nghynigion y fframwaith rheoleiddio ac yn ymgysylltu’n dda â nhw – sy’n cynnwys amodau rheoleiddio a chyllido amrywiol, pwerau ymyrryd a’r fframwaith ansawdd.
Lansiwyd cam cyntaf yr ymgynghoriad ar 15 Mai a daw’r cam hwnnw i ben ar 18 Gorffennaf – anogir a chroesewir pob safbwynt. Gellir anfon unrhyw gwestiynau pellach at [email protected] am ymateb.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio