Newyddion
Medr yn penodi James Owen yn Brif Weithredwr parhaol cyntaf
05 Jun 2025
Mae Medr, y corff sy’n gyfrifol am gyllido a goruchwylio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, wedi cyhoeddi heddiw ei fod wedi penodi James Owen fel ei Brif Weithredwr newydd.
Bydd James yn olynu’r Prif Weithredwr interim, Simon Pirotte, ac yntau wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredu Medr ers i’r corff ddod i fodolaeth y llynedd.
Wrth gyhoeddi’r penodiad, meddai Cadeirydd Medr, yr Athro Fonesig Julie Lydon: “Mae’n dda iawn wir gennyf gyhoeddi’r penodiad hwn. Mae James wedi rhagori ochr yn ochr â Simon wrth sefydlu Medr ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i sicrhau bod ei safonau uchel a’i arbenigedd yn trosi’n weithgarwch gan Medr i wireddu ei uchelgeisiau i gefnogi ac annog sector addysg drydyddol ffyniannus yng Nghymru.”
Meddai Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: “Rwy’n croesawu penodiad Prif Weithredwr parhaol cyntaf Medr. Roedd Mr Owen yn llwyddiannus ymhlith ymgeiswyr cryf iawn yn ôl yr hyn a ddeallaf ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gydag ef a’r tîm ehangach yn Medr wrth inni wireddu ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer dysgwyr ledled Cymru. Hoffwn hefyd ddiolch i Simon Pirotte am ei waith fel Prif Weithredwr interim ac yntau wedi helpu i sefydlu Medr.”
Ychwanegodd James Owen, a fydd yn dechrau yn ei rôl newydd dros yr wythnosau nesaf: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy mhenodi’n Brif Weithredwr Medr. Rwy’n llwyr ymwybodol o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector yng Nghymru ac edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos gyda’n partneriaid i sicrhau ein bod yn defnyddio’r holl arbenigedd ac ysgogwyr sydd gan Medr hyd yr eithaf i gyflawni sector addysg drydyddol ac ymchwil sy’n gydnerth ac yn ffyniannus i’n dysgwyr, ein sefydliadau ac i Gymru.”
Nodiadau
Daw James â chyfoeth o brofiad, yn fwyaf diweddar yn ei rôl fel Prif Swyddog Gweithredu Medr ac yn flaenorol ar draws nifer o rolau arwain wrth galon Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ac yntau’n un o Gymrodorion Siartredig y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, mae gan James hanes profedig o sicrhau’r gorau gan bobl a’u cefnogi hwy a’r rhai o’u cwmpas i gyrraedd eu potensial.
Bydd Mr Pirotte, a benodwyd yn wreiddiol gan Weinidogion Llywodraeth Cymru yn 2023 mewn rôl am gyfnod penodedig tan fis Medi, yn parhau yn ei rôl interim nes bod James yn ymgymryd yn ffurfiol â’i ddyletswyddau fel Prif Weithredwr.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio