This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Sta/Medr/07/2025: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau, Awst 2023 i Orffennaf 2024

Mae’r datganiad hwn wedi’i ddiweddaru ag ystadegau awdurdodau lleol ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned. Cafodd y rhain eu hepgor yn y gorffennol oherwydd problemau’n gysylltiedig ag ansawdd data.

Roedd un awdurdod lleol wedi bod yn cyflwyno data dysgu i Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) na ddylid bod wedi’u cynnwys. Mae’r awdurdod lleol wedi mynd ati i ganfod y data cywir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 ac rydym wedi dileu’r data anghywir o’n hystadegau. Datgelodd yr ymchwiliad fod y problemau ansawdd data hyn hefyd yn bodoli mewn blynyddoedd blaenorol, ond nid yw’r blynyddoedd hyn wedi cael eu cywiro. Gellir cymharu ystadegau cenedlaethol dysgu oedolion â blynyddoedd blaenorol, ond dylid cofio effaith y broblem yn gysylltiedig ag ansawdd data.

Gweler yr wybodaeth am Ansawdd a methodoleg am fanylion.

  • Cynyddodd y gyfradd cwblhau ar gyfer gweithgareddau dysgu oedolion o 94% yn 2022/23 i 95% yn 2023/24.
  • Cynyddodd y gyfradd llwyddo ar gyfer gweithgareddau dysgu oedolion asesadwy o 84% yn 2022/23 i 87% yn 2023/24.
  • Cynyddodd cyfradd llwyddo prentisiaethau yn 2023/24 i 74%. Mae’n dal yn is na’r gyfradd cyn pandemig Covid-19.
  • Prentisiaethau lefel sylfaen a ddangosodd yr adferiad cryfaf yn 2023/24.
  • Mae’r gyfradd llwyddo ar gyfer prentisiaethau uwch yn llawer is nag ar gyfer lefelau eraill, a dyna’r gyfradd lle gwelwyd yr adferiad lleiaf ers y pandemig.
  • Ni wnaeth prentisiaid uwch ond pasio ychydig dros hanner y gweithgareddau sgiliau hanfodol cymhwyso rhif a gwblhawyd ganddynt.
  • Bu cynnydd yn y gyfradd llwyddo gyffredinol yn y sectorau mwy canlynol:
    • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus;
    • Peirianneg;
    • Lletygarwch.
  • Ymhlith y sectorau mwy, gostyngodd y gyfradd llwyddo mewn:
    • Adeiladu;
    • Rheolaeth a Phroffesiynol.
  • Mae’r bwlch yn y gyfradd llwyddo rhwng dysgwyr yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf amddifadus yn cau.
  • Bu cynnydd mawr yng nghyfradd llwyddo dysgwyr ar draws cefndiroedd lleiafrifol ethnig.
  • Cafwyd cyfradd llwyddo uwch na’r cyffredin mewn gweithgareddau prentisiaeth a gwblhawyd yn gyfan gwbl yn Gymraeg.
Figure 1 / Ffigur 1

Ffigur 1: Awst 2013 i Orffennaf 2024

Disgrifiad: Mae cyfradd llwyddo dysgu oedolion yn parhau i wella ers y pandemig, ond mae bwlch yn dal i fodoli rhwng y gyfradd llwyddo bresennol a’r gyfradd llwyddo cyn y pandemig.

Data ar StatsCymru

Sta/Medr/07/2025: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau, Awst 2023 i Orffennaf 2024

Cyfeirnod ystadegau:  Sta/Medr/07/2025

Dyddiad: 12 Mawrth 2025; diweddarwyd ar 03 Hydref 2025

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

E-bost:   [email protected]

Crynodeb: Ystadegau ar lwyddiant a chwblhau prentisiaethau yn ôl lefel astudio, math o nod dysgu, sector, a nodweddion dysgu

Sta/Medr/07/2025 Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned 2023-24 v2

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio