Cyhoeddiadau
Sta/Medr/07/2025: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau, Awst 2023 i Orffennaf 2024
12 Mar 2025
Nodyn:
Mae’r datganiad hwn wedi’i ddiweddaru ag ystadegau awdurdodau lleol ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned. Cafodd y rhain eu hepgor yn y gorffennol oherwydd problemau’n gysylltiedig ag ansawdd data.
Roedd un awdurdod lleol wedi bod yn cyflwyno data dysgu i Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) na ddylid bod wedi’u cynnwys. Mae’r awdurdod lleol wedi mynd ati i ganfod y data cywir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 ac rydym wedi dileu’r data anghywir o’n hystadegau. Datgelodd yr ymchwiliad fod y problemau ansawdd data hyn hefyd yn bodoli mewn blynyddoedd blaenorol, ond nid yw’r blynyddoedd hyn wedi cael eu cywiro. Gellir cymharu ystadegau cenedlaethol dysgu oedolion â blynyddoedd blaenorol, ond dylid cofio effaith y broblem yn gysylltiedig ag ansawdd data.
Gweler yr wybodaeth am Ansawdd a methodoleg am fanylion.
Prif bwyntiau
- Cynyddodd y gyfradd cwblhau ar gyfer gweithgareddau dysgu oedolion o 94% yn 2022/23 i 95% yn 2023/24.
- Cynyddodd y gyfradd llwyddo ar gyfer gweithgareddau dysgu oedolion asesadwy o 84% yn 2022/23 i 87% yn 2023/24.
- Cynyddodd cyfradd llwyddo prentisiaethau yn 2023/24 i 74%. Mae’n dal yn is na’r gyfradd cyn pandemig Covid-19.
- Prentisiaethau lefel sylfaen a ddangosodd yr adferiad cryfaf yn 2023/24.
- Mae’r gyfradd llwyddo ar gyfer prentisiaethau uwch yn llawer is nag ar gyfer lefelau eraill, a dyna’r gyfradd lle gwelwyd yr adferiad lleiaf ers y pandemig.
- Ni wnaeth prentisiaid uwch ond pasio ychydig dros hanner y gweithgareddau sgiliau hanfodol cymhwyso rhif a gwblhawyd ganddynt.
- Bu cynnydd yn y gyfradd llwyddo gyffredinol yn y sectorau mwy canlynol:
- Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus;
- Peirianneg;
- Lletygarwch.
- Ymhlith y sectorau mwy, gostyngodd y gyfradd llwyddo mewn:
- Adeiladu;
- Rheolaeth a Phroffesiynol.
- Mae’r bwlch yn y gyfradd llwyddo rhwng dysgwyr yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf amddifadus yn cau.
- Bu cynnydd mawr yng nghyfradd llwyddo dysgwyr ar draws cefndiroedd lleiafrifol ethnig.
- Cafwyd cyfradd llwyddo uwch na’r cyffredin mewn gweithgareddau prentisiaeth a gwblhawyd yn gyfan gwbl yn Gymraeg.
Cyfradd llwyddo dysgu oedolion yn ôl blwyddyn academaidd

Ffigur 1: Awst 2013 i Orffennaf 2024
Disgrifiad: Mae cyfradd llwyddo dysgu oedolion yn parhau i wella ers y pandemig, ond mae bwlch yn dal i fodoli rhwng y gyfradd llwyddo bresennol a’r gyfradd llwyddo cyn y pandemig.
Data ar StatsCymru
Sta/Medr/07/2025: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau, Awst 2023 i Orffennaf 2024
Ystadegau Medr
Cyfeirnod ystadegau: Sta/Medr/07/2025
Dyddiad: 12 Mawrth 2025; diweddarwyd ar 03 Hydref 2025
Dynodiad: Ystadegau Swyddogol
E-bost: [email protected]
Crynodeb: Ystadegau ar lwyddiant a chwblhau prentisiaethau yn ôl lefel astudio, math o nod dysgu, sector, a nodweddion dysgu
Sta/Medr/07/2025 Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned 2023-24 v2Dogfennau eraill
- Sta/Medr/07/2025 Atodiad A Ansawdd a Methodoleg Prentisiaethau2023-24 v2
- Sta/Medr/07/2025 Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau 2023-24 v2
- Sta/Medr/07/2025 Adroddiadau ar ddeilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau 2023-24 v3
- Sta/Medr/07/2025 Rhestr o'r rhai sy'n gweld yr ystadegau cyn eu rhyddhau
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio