This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2026/35: Gofynion Data Addysg Uwch 2026/27

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn hysbysu darparwyr addysg uwch (DAUwyr) am y data addysg uwch (AU) a ddefnyddir i’r dibenion canlynol:

  • cyfrifo dyraniadau cyllid;
  • monitro Mesurau Cenedlaethol;
  • monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth;
  • darparu data i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg;
  • cyhoeddiadau;
  • dadansoddi ansawdd data cofnodion myfyrwyr HESA;
  • monitro hepgoriadau ffioedd rhan-amser;
  • monitro prentisiaethau gradd;
  • cyhoeddi Ystadegau Swyddogol;
  • monitro darpariaeth Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn Addysg Bellach (AB)
  • llywio polisi.

2. Yn y cyhoeddiad hwn, mae Sefydliadau Addysg Uwch yn cynnwys sefydliadau addysg bellach (SABau) sy’n darparu addysg uwch a sefydliadau addysg uwch (SAUau), a gyllidir gan Medr. Cynhwysir hefyd ddarparwyr sy’n tanysgrifio i HESA i ddychwelyd data ar gyrsiau a ddarperir ganddynt sydd wedi’u dynodi’n benodol, ond nad ydynt yn cael eu cyllido gan Medr am eu darpariaeth addysg uwch. Nid yw’r darparwyr hyn wedi’u cynnwys yn y data na’r dadansoddiadau sy’n gysylltiedig â chyllido, ond maent wedi’u cynnwys ym mheth o’r data a’r dadansoddiadau eraill a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn. Nodir y data a gynhwysir yn ôl math o ddarparydd o dan y penawdau unigol isod, gyda chrynodeb pellach yn y tabl yn Atodiad R.

3. Mae’r mapio yn yr atodiadau sy’n ymwneud â data myfyrwyr yn seiliedig ar ddata cofnodion myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a gesglir gan Jisc ar gyfer blwyddyn casglu data 2025/26. Mae’r mapio a gyflwynwyd wedi’i brofi ar ddata a ddychwelwyd ar gofnod myfyrwyr HESA ar gyfer 2024/25 a chyflwyniadau cynnar ar gyfer 2025/26. Rydym yn croesawu unrhyw adborth sydd gan ddarparwyr ar y mapio yn yr atodiadau, naill ai yn ystod proses gyflwyno 2025/26 fel y gallwn wneud newidiadau ar unwaith i raglenni’r Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) yn ôl yr angen, neu i gyfrannu at ein hadolygiad o’r mapio hwn yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dylid anfon unrhyw sylwadau sydd gan ddarparwyr at [email protected]. Mae mapiau ar gyfer echdynnu data monitro diwedd blwyddyn wedi’u cynnwys yn Atodiad K o’r Cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn. Croesewir sylwadau ar y mapio hwnnw hefyd. Bydd unrhyw newidiadau sylweddol i’r mapio, naill ai yn y ddogfen hon neu yn y cyhoeddiad monitro diwedd blwyddyn, a wneir yn ystod y broses gyflwyno, yn cael eu rhannu â darparwyr.

4. Os ceir unrhyw broblemau mawr wrth echdynnu data yn ystod y broses gyflwyno, er enghraifft problemau gyda’r mapio, system IRIS neu broblemau gyda darparwyr unigol, sy’n golygu nad oes modd defnyddio unrhyw allbwn, neu gyfran o allbwn IRIS, mae’n bosibl y bydd data yn cael eu hailechdynnu ar ôl casglu. Os yw hyn yn debygol, byddwn yn hysbysu darparwyr.

5. Nid yw dulliau cyllido ar gyfer 2027/28 yn derfynol ar adeg cyhoeddi’r cylchlythyr hwn a gallai rhai dulliau dyrannu newid. Y dulliau cyllido a geir yn y cylchlythyr hwn yw’r dulliau ar gyfer 2026/27. Tybir, er mwyn echdynnu data, y bydd y dulliau cyllido yn aros yr un peth ar gyfer 2027/28.

Prif newidiadau ar gyfer 2026/27 o gymharu â 2025/26

6. Dyma’r prif newidiadau sydd wedi’u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn o gymharu â chyhoeddiad Medr Medr/2025/14: Gofynion Data Addysg Uwch 2025/26:

  • Mae Atodiad E wedi’i ddiweddaru i amlinellu’r dulliau echdynnu data sy’n gysylltiedig â chyhoeddiadau Ystadegau Swyddogol Medr.
  • Mae Atodiad F wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau a wnaed ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar adolygu allbynnau’r dadansoddiad o ansawdd data. Mae’r atodiad yn cynnwys crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae manylion yr allbynnau wedi’u diweddaru ar gyfer 2025/26 na chawsant eu gweithredu yn IRIS 2024/25, ac unrhyw newidiadau lle bydd angen gwaith pellach wedi’u cynnwys yn Atodiad S. Rydym hefyd wedi cynnwys taflenni ychwanegol yn allbynnau’r dadansoddiad ansawdd data sy’n dangos y data myfyrwyr a ddefnyddiwyd yn y tablau.
  • Mae Atodiad P newydd wedi’i gyflwyno i amlinellu’r dull echdynnu data sy’n gysylltiedig â data a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid lleoliadau Addysg Gychwynnol Athrawon (Statws Athro Cymwysedig).
  • Mae Atodiad Q newydd wedi’i gyflwyno i amlinellu’r dull echdynnu data sy’n gysylltiedig â data a ddefnyddir i nodi myfyrwyr Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) ymhlith myfyrwyr Addysg Bellach (AB).

Cynnwys

7. Dyma gynnwys yr atodiadau:

Atodiad AData a ddefnyddir wrth ddyrannu cyllid addysgu
Atodiad BData a ddefnyddir ar gyfer dyraniadau cyllid ymchwil
Atodiad CData a ddefnyddir wrth ddyrannu cyllid hyfforddiant Ymchwil Ôl-radd
Atodiad DData a ddarperir i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Atodiad EData a ddefnyddir yng nghyhoeddiadau Ystadegau Swyddogol Medr
Atodiad FData a ddarperir i ddarparwyr addysg uwch yn y dadansoddiad o ansawdd data cofnodion myfyrwyr HESA
Atodiad GData a ddefnyddir ar gyfer dyrannu a monitro’r cynllun hepgor ffioedd israddedig rhan-amser
Atodiad HData a ddefnyddir i ddadansoddi incwm
Atodiad IData a ddefnyddir ar gyfer monitro mesurau cenedlaethol
Atodiad JData a ddefnyddir i fonitro ac addasu cyllid prentisiaethau gradd
Atodiad KData a ddefnyddir wrth gyfrifo Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru
Atodiad LData a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid gwrth-hiliol a chyllid llesiant ac iechyd meddwl
Atodiad MData a ddefnyddir mewn dyraniadau cymorth cyflogadwyedd wedi’u targedu
Atodiad NData a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid cyfalaf
Atodiad OData a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru
Atodiad PData a ddefnyddir wrth gyfrifo cyllid lleoliadau Addysg Gychwynnol Athrawon (Statws Athro Cymwysedig)
Atodiad QData a ddefnyddir i nodi myfyrwyr Tystysgrif Addysg i Raddedigion mewn Addysg Bellach
Atodiad RManylion yr allbynnau y bydd pob math o ddarparydd yn eu derbyn drwy IRIS a’r gofynion cymeradwyo cysylltiedig
Atodiad SCrynodeb o newidiadau i Ddadansoddiad Ansawdd Data IRIS yn dilyn adolygiad 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae croeso i ddarparwyr gysylltu â ni os oes arnynt angen rhagor o eglurder neu os oes ganddynt sylwadau am y mapiadau a amlinellir yn yr atodiadau; bydd unrhyw ddiweddariadau pellach sy’n ofynnol yn cael eu cyfleu i ddarparwyr.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn at Rachael Clifford ([email protected]).

Medr/2026/35: Gofynion Data Addysg Uwch 2026/27

Dyddiad:  16 Gorffennaf 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/35

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch; Penaethiaid darparwyr sy’n dychwelyd data ar ddapariaeth cyrsiau wedi’u dynodi’n benodol ar gofnod myfyrwyr HESA

Ymateb erbyn: 27 Tachwedd 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad yn hysbysu darparwyr addysg uwch am y data addysg uwch a ddefnyddir i gyfrifo dyraniadau cyllid; i fonitro Mesurau Cenedlaethol; i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth; ar gyfer cyhoeddi; ar gyfer darpariaeth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol; ar gyfer dadansoddiad o ansawdd data cofnodion myfyrwyr HESA; i fonitro hepgoriadau ffioedd rhan-amser a phrentisiaethau gradd; ac i lywio polisi.

Medr/2026/35 Gofynion Data Addysg Uwch 2026/27

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio