Cyhoeddiadau
Medr/2025/14: Gofynion Data Addysg Uwch 2025/26
01 Sep 2025
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn hysbysu darparwyr addysg uwch (DAUwyr) ynghylch y data addysg uwch (AU) a ddefnyddir at y dibenion canlynol:
- cyfrifo dyraniadau cyllid;
- monitro’r Mesurau Cenedlaethol;
- monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth;
- darparu data i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg;
- cyhoeddiadau;
- dadansoddi ansawdd data cofnod myfyrwyr HESA;
- monitro cynlluniau hepgor ffioedd rhan-amser;
- monitro gradd-brentisiaethau;
- goleuo polisi.
2. Yn y cyhoeddiad hwn mae DAUwyr yn cynnwys sefydliadau addysg bellach (SABau) sy’n darparu addysg uwch a sefydliadau addysg uwch (SAUau), a gyllidir gan Medr. Hefyd wedi’u cynnwys mae darparwyr sy’n tanysgrifio i HESA i ddychwelyd eu darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol, ond nad ydynt yn cael eu cyllido gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch. Nid yw’r darparwyr hyn wedi’u cynnwys yn yr echdyniadau a’r dadansoddiadau mewn perthynas â chyllid ond maent wedi’u cynnwys yn rhai o’r echdyniadau a dadansoddiadau data eraill a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn. Caiff y mathau o ddarparwyr sydd wedi’u cynnwys eu dynodi dan y penawdau unigol isod ac fe’u crynhoir ymhellach yn y tabl yn Atodiad P.
3. Mae’r mapiadau yn yr atodiadau sy’n ymwneud â data myfyrwyr yn seiliedig ar ddata cofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a gesglir gan Jisc ar gyfer blwyddyn casglu data 2024/25. Mae’r mapiadau a gyflwynir wedi cael eu profi ar ddata a ddychwelwyd ar gofnod myfyrwyr HESA ar gyfer 2023/24 a data a gyflwynwyd yn gynnar ar gyfer 2024/25. Rydym yn croesawu unrhyw adborth sydd gan ddarparwyr ar y mapiadau yn yr atodiadau, naill ai yn ystod proses gyflwyno 2024/25 fel y gallwn wneud newidiadau ar unwaith i raglenni’r Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd ar Wybodaeth (IRIS) fel y bo angen, neu i fwydo i mewn i’n hadolygiad o’r mapiadau hyn yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dylai unrhyw sylwadau sydd gan ddarparwyr gael eu hanfon i [email protected]. Mae mapiadau ar gyfer yr echdyniad data monitro diwedd blwyddyn wedi’u cynnwys yn Atodiad K o’r cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn (EYM). Croesewir sylwadau ar y mapiad hwnnw hefyd. Bydd unrhyw newidiadau sylweddol i’r mapiadau naill ai yn y ddogfen hon neu yn y cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn, a wneir yn ystod y broses gyflwyno, yn cael eu cyfleu i ddarparwyr.
4. Pe bai unrhyw broblemau mawr gyda’r echdyniadau data yn ystod y broses gyflwyno, er enghraifft materion gyda’r mapiad, y system IRIS neu faterion mewn darparwyr unigol, sy’n golygu nad yw rhai neu’r cyfan o’r allbynnau IRIS yn ddefnyddiadwy, yna ceir posibilrwydd i ail-echdynnu ar ôl casglu. Os yw hyn yn debygol, byddwn yn hysbysu darparwyr.
5. Nid yw dulliau cyllido ar gyfer 2026/27 yn derfynol ar adeg cyhoeddi’r cylchlythyr hwn a gall rhai dulliau dyrannu newid. Y rhai ar gyfer 2025/26 yw’r dulliau cyllido a gynhwysir yn y cylchlythyr hwn. Tybir er mwyn echdynnu data y bydd y dulliau cyllido’n aros yr un fath ar gyfer 2026/27.
Prif newidiadau ar gyfer 2025/26 o’i gymharu â 2024/25
6. Y prif newidiadau a gynhwysir yn y cyhoeddiad hwn o’i gymharu â chyhoeddiad Medr, Medr/2024/01: Gofynion Data Addysg Uwch 2024/25, yw:
- Mae’r holl atodiadau sy’n cynnwys data myfyrwyr wedi cael eu diweddaru i gyfeirio at unrhyw newidiadau sy’n ymwneud yn benodol ag IRIS a wnaed o ganlyniad i’r ymgynghoriad ynghylch newidiadau ar gyfer Monitro Diwedd Blwyddyn 2023/24, na chawsant eu rhoi ar waith yn 2023/24, er enghraifft codio cofrestriadau myfyrwyr segur/myfyrwyr sy’n ysgrifennu eu traethawd ymchwil a dosrannu credydau meddygaeth a deintyddiaeth.
- Mae Atodiad F wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau a wnaed ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar yr adolygiad o allbynnau’r dadansoddiad o ansawdd data. Mae’r atodiad yn cynnwys crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae manylion yr allbynnau wedi’u diweddaru yn IRIS 2024/25, ac unrhyw newidiadau a fydd yn cael eu hymgorffori yn IRIS 2025/26, wedi cael eu cynnwys yn Atodiad Q.
- Mae Atodiad K (Data a ddefnyddir i fonitro cynlluniau bwrsariaeth Meistr Ôl-radd a Addysgir) o gyhoeddiad y llynedd wedi cael ei dynnu allan gan mai 2023/24 oedd y flwyddyn olaf y cafodd dyraniadau eu monitro gan ddefnyddio data cofnod myfyrwyr HESA. Mae’r holl Atodiadau dilynol wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu’r ffaith bod yr Atodiad hwn wedi cael ei dynnu allan.
Ffynonellau Data
7. Mae Medr yn defnyddio data o’i arolygon ei hun, data a gasglwyd gan HESA a data o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) wrth gyflawni’r dibenion a ddisgrifir ym mharagraff 1 uchod. Mae data arall megis data Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS) yn cael ei ddefnyddio hefyd i oleuo polisi a darparu gwybodaeth am y sector AU yng Nghymru.
8. Mae Medr yn casglu data gan DAUwyr yng Nghymru a gyllidir ar gyfer eu darpariaeth AU trwy:
- yr arolwg ystadegau cynnar myfyrwyr addysg uwch (HESES); a hefyd
- y ceisiadau am ragolygon myfyrwyr a chyllid (SAUau yn unig).
9. Mae Jisc yn casglu data gan yr holl SAUau yn y DU ar gofnodion HESA ar y canlynol:
- gweithgarwch myfyrwyr, gan gynnwys hynt graddedigion;
- gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr trwy’r dychweliadau Darganfod Prifysgol;
- cyllid;
- Rhyngweithiad Addysg Uwch-Busnes a Chymuned (HE-BCI);
- staff; a
- rheoli ystadau.
10. Mae Jisc yn casglu’r data canlynol ar gofnodion HESA gan SABau Cymru sy’n darparu AU a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr a SABau Cymru a darparwyr amgen â darpariaeth cyrsiau AU a ddynodwyd yn benodol:
- gweithgarwch myfyrwyr, gan gynnwys hynt graddedigion;
- gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr trwy’r dychweliad Darganfod Prifysgol.
11. Tybir bod darllenwyr y cyhoeddiad hwn yn gyfarwydd ag arolygon HESES a Monitro Diwedd Blwyddyn, cofnodion ac arolygon HESA, y system IRIS a Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 (SAUau yn unig). Mae’r cyhoeddiadau HESES, Monitro Diwedd Blwyddyn a rhagolygon diweddaraf ar gael ar y dudalen casglu data ar wefan Medr; mae llawlyfrau data diweddaraf HESA ar gael ar wefan HESA ac mae cylchlythyrau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ar gael ar wefan REF 2021. Ceir dolenni i gyhoeddiadau neu gylchlythyrau perthnasol neu gyfeiriadau atynt drwy’r cyhoeddiad hwn hefyd.
Sicrhau cywirdeb data
12. Mae data HESA a ddefnyddir wrth ddyrannu cyllid yn amodol ar gadarnhad gan DAUwyr bod Medr wedi echdynnu’r data’n gywir o gofnodion HESA. Fel rheol, ni chaniateir i DAUwyr ddiwygio’r data yn ystod y broses gadarnhau os yw eu data HESA yn anghywir. Yr eithriad i hyn yw pan fo newidiadau i’r dulliau echdynnu neu’r data a ddefnyddir wrth gyllido, neu lle defnyddir ffynhonnell ddata wahanol. Yn yr achosion hyn, byddwn yn caniatáu diwygio’r data a echdynnwyd ar y cam cadarnhau. Gan bod rhai anawsterau’n cael eu profi o hyd wrth ddychwelyd data dan gofnod myfyrwyr newydd HESA rydym yn dal i ganiatáu gwneud newidiadau i’r holl allbynnau IRIS ar y cam cymeradwyo. Dylai darparwyr ddarparu eglurhad o unrhyw newidiadau a wneir. Nid oes angen i ddarparwyr sy’n dychwelyd data at HESA am eu darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol, nad ydynt yn cael eu cyllido gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU, gymeradwyo unrhyw rai o’r allbynnau IRIS a ddarperir iddynt.
13. Mae’n bwysig bod DAUwyr yn hyderus bod eu holl ddata HESA yn gywir cyn y cyflwynir dychweliadau terfynol i HESA ac y cymeradwyir y data. Dylai DAUwyr nodi unrhyw anghysonderau yn eu data HESA a ganfuwyd mewn blynyddoedd blaenorol, gan gynnwys y rhai a amlygwyd fel rhan o unrhyw ddadansoddiadau o ansawdd data a gyflawnwyd gan Medr, materion a ganfuwyd yng ngweithgarwch DAUwyr eu hunain i graffu ar y crynodebau a allbynnwyd trwy IRIS, problemau y mae HESA neu Medr wedi’u dwyn i’w sylw, a materion a gwallau a ganfuwyd trwy archwiliadau mewnol neu allanol. Yn arbennig, dylai DAUwyr sicrhau eu bod yn astudio’r adroddiadau a gynhyrchwyd gan HESA yn fanwl pan ydynt yn traddodi eu data a gwneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol o ganlyniad cyn cymeradwyo’r data i sicrhau bod eu data’n gredadwy. Rydym yn cydnabod y bu newidiadau helaeth i’r broses casglu data o ganlyniad i roi’r cofnod myfyrwyr newydd ar waith dan Dyfodol Data yn 2022/23, felly byddwn yn parhau i weithio gyda darparwyr a Jisc i roi cyngor ac arweiniad i sicrhau bod ansawdd data’n cael ei gynnal. Gallwn hefyd ddefnyddio’r broses diwygiadau hanesyddol os yn briodol, ar gyfer cofnod myfyrwyr HESA 2024/25.
14. Trefnir bod nifer o adroddiadau cadarnhau ar gael yn y system IRIS ac mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo gan y DAUwyr a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU, a chael eu dychwelyd at Medr ar ôl i’r data a gyflwynir i gofnod myfyrwyr HESA ar gyfer 2024/25 gael ei gymeradwyo a hynny erbyn 5 Tachwedd 2025. I leihau nifer y gwiriadau data ar wahân a gynhelir yn ystod y flwyddyn, mae’r rhan fwyaf o’r dychweliadau y mae’n ofynnol eu cymeradwyo trwy adroddiad cadarnhau yn cael eu prosesu trwy IRIS.
15. Bydd manylion y broses ddychwelyd IRIS, elfennau y mae gofyn eu cymeradwyo a therfynau amser cysylltiedig ar gael ar y dudalen we IRIS a thrwy’r cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn 2024/25. Mae amserlen casglu data llawn Medr ar gael trwy ein gwefan.
16. Caiff y terfyn amser ar gyfer cymeradwyo’r allbynnau IRIS ei amlinellu yn y cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn, a 5 Rhagfyr 2025 yw’r dyddiad. Os yw darparwyr yn meddwl y byddant yn cael unrhyw anhawster cyflwyno gwybodaeth erbyn y terfyn amser hwn, dylent gysylltu â ni trwy [email protected].
17. Ar gyfer y cadarnhadau data hynny lle na dderbynnir diwygiadau. os oes gwall yn nata HESA DAU, ac y byddai’r gwall hwn yn arwain at ddyrannu cyllid i’r DAU sy’n fwy na’r hyn y mae ganddo hawl iddo, bydd disgwyl i’r DAU hysbysu Medr fel bod y cyllid yn gallu cael ei addasu’n briodol.
Codio pynciau
18. Mae cofnod myfyrwyr HESA yn defnyddio’r system godio Dosbarthu Pynciau Addysg Uwch (HECoS), ac mae codau HECoS yn cael eu grwpio’n Hierarchaeth Cydgasglu Cyffredin (CAH) ar dair lefel. Mae manylion y codau a’r lefelau CAH, ynghyd â mapio o godau HECoS i’r grwpiadau CAH, ar gael ar dudalen we HECoS. Mae gwybodaeth mewn perthynas â mapio codau HECoS i Gategorïau Pynciau Academaidd (ASC) Medr ar gael ar wefan Medr.
Data a ddefnyddir mewn dyraniadau cyllid addysgu
19. Roedd y dyraniadau cyllid addysgu seiliedig-ar-gredydau ar gyfer darpariaeth israddedig ran-amser yn 2025/26 yn seiliedig ar ddata gwerthoedd credydau 2023/24 a gymerwyd o’r echdyniad data monitro diwedd blwyddyn. Dyrannwyd cyllid y pen ar gyfer 2025/26 ar gyfer pob dull astudio a lefel astudio a addysgir a dyrannwyd y premiwm anabledd ar gyfer pob dull a lefel astudio, gan gynnwys ymchwil ôl-radd. Dyrannwyd yr holl gyllid premiwm arall fel a ganlyn:
- Premiwm mynediad a chadw (darpariaeth israddedig ran-amser yn unig);
- Premiwm cyfrwng Cymraeg (darpariaeth israddedig ran-amser i gyd a darpariaeth israddedig amser llawn a nodir yn unig);
- Premiwm pynciau drud (deintyddiaeth a meddygaeth glinigol ac Elfen Perfformio Conservatoire, darpariaeth israddedig amser llawn yn unig);
- Premiwm pynciau cost uwch (deintyddiaeth a meddygaeth anghlinigol, gwyddoniaeth a pheirianneg a thechnoleg, a gwyddorau mathemategol, TG a chyfrifiadura, darpariaeth israddedig amser llawn yn unig).
Mae’r cyhoeddiad hwn yn tybio:
- y bydd y dyraniadau cyllid addysgu seiliedig-ar-gredydau ar gyfer darpariaeth israddedig ran-amser yn 2026/27 yn seiliedig ar ddata gwerthoedd credydau Monitro Diwedd Blwyddyn 2024/25 a
- bod cyllid y pen a’r un premiymau’n cael eu dyrannu mewn perthynas â’r un grwpiau o fyfyrwyr ar gyfer 2026/27 ag yn 2025/26, at ddibenion cyflwyno gwybodaeth yn y cyhoeddiad hwn.
20. Dylid nodi y gall y tybiaethau hyn newid.
21. Mae’r premiymau mynediad a chadw, anabledd, cyfrwng Cymraeg, pynciau drud a phynciau cost uwch a’r dyraniad y pen yn seiliedig ar ddata ôl-weithredol a gafwyd o gofnod myfyrwyr HESA.
22. Defnyddir data diwedd blwyddyn a echdynnwyd o gofnod myfyrwyr HESA i gyfrifo unrhyw addasiad i gyllid addysgu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cyllid yn ymwneud â hi. Er enghraifft, bydd data Monitro Diwedd Blwyddyn sy’n ymwneud â blwyddyn academaidd 2024/25 yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo unrhyw addasiad sy’n ofynnol i gyllid seiliedig-ar-gredydau israddedig rhan-amser 2024/25. Mae manylion y data diwedd blwyddyn a echdynnwyd o gofnod HESA wedi’u cynnwys yn Atodiad K y cyhoeddiad Monitro Diwedd Blwyddyn (gweler paragraff 1) ac nid ydynt yn cael eu hatgynhyrchu yma.
23. Caiff rhagor o wybodaeth am y data a ddefnyddir mewn cyllid addysgu, gan gynnwys yr elfennau cyllid premiwm a chyllid y pen, ei nodi yn Atodiad A.
24. Mae’r weithdrefn gymeradwyo ar gyfer data a ddefnyddir yn y cyllid y pen a’r cyllid premiwm ar gyfer 2026/27 wedi’i chynnwys yn y broses IRIS. Bydd unrhyw ddata arall y mae gofyn ei defnyddio yn y dyraniadau cyllid addysgu neu gyllid arall ar gyfer 2026/27, nad yw ar gael yn yr allbynnau IRIS, yn cael ei wirio a’i gymeradwyo ar wahân. Dim ond ar gyfer darparwyr a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU y caiff allbynnau IRIS at ddibenion cyllid addysgu eu cynhyrchu.
Data a ddefnyddir mewn dyraniadau cyllid ymchwil
25. Yn dilyn REF 2021, defnyddiwyd methodoleg gyllido newydd i gyfrifo’r dyraniad cyllid QR o 2022/23 ymlaen. Cafodd y data a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyllid QR 2022/23 ei gymryd o REF 2021 ac o gofnod cyllid HESA 2018/19, 2019/20 a 2020/21. Gan bod yr holl ddata a fewnbynnir yn cael ei rewi, mae’r cylchlythyr hwn yn nodi dull cyllid QR fel yr oedd ar gyfer 2022/23 yn Atodiad B. Dim ond SAUau, heb gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru, a gynhwysir mewn dyraniadau cyllid QR.
26. Yn dilyn REF 2021, defnyddiwyd methodoleg newydd i gyfrifo’r dyraniad hyfforddiant ymchwil ôl-radd hefyd, sy’n defnyddio data ôl-weithredol a gymerwyd o gofnod myfyrwyr HESA. Bydd dyraniad hyfforddiant ymchwil ôl-radd 2026/27 yn defnyddio data o gofnod myfyrwyr HESA 2024/25. Darperir rhagor o wybodaeth am y meysydd HESA a ddefnyddir yn Atodiad C. Fel a amlinellwyd ym mharagraff 25, rydym yn bwriadu parhau i gael cymeradwyaeth i gymaint o ddata â phosibl trwy’r broses IRIS, a bydd data ymchwil ôl-radd yn cael ei gymeradwyo ym mhroses IRIS 2024/25. Dim ond SAUau, heb gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru, a gynhwysir mewn dyraniadau cyllid ymchwil ôl-radd; felly ni chynhyrchir allbwn ymchwil ôl-radd IRIS ar gyfer y Brifysgol Agored yng Nghymru, SABau na darparwyr amgen.
Data a ddarperir i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
27. Mae Medr yn darparu data bob blwyddyn, dan gytundeb rhannu data, i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hefyd o 2020/21, mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, fe wnaed gwaith monitro ar y strwythur codio a’r data ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg a ddychwelwyd ar gofnod myfyrwyr HESA. Mae’r data yma’n cael ei grynhoi a’i gynnwys yn IRIS ar gyfer yr holl ddarparwyr hefyd, gan gynnwys y darparwyr hynny sy’n dychwelyd data am gyrsiau a ddynodwyd yn benodol. Manylir ar y meysydd a’r meini prawf a ddefnyddir i echdynnu’r ddwy set o ddata yn Atodiad D.
Data a ddefnyddir i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth
28. Mae Medr yn defnyddio data HESA i fonitro ethnigrwydd, anabledd, rhyw ac oedran myfyrwyr yn DAUwyr Cymru a staff yn SAUau Cymru. Cyhoeddir y dadansoddiad ar wefan Medr: Sta/Medr/02/2025: Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch: 2016/17 i 2022/23
29. Cyhoeddodd CCAUC adroddiad monitro cydraddoldeb hil. Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg fanylach ar ddata ethnigrwydd na’r gweithgarwch monitro cydraddoldeb safonol y cyfeirir ato uchod. Bydd dadansoddiad pellach yn cael ei gyhoeddi gan Medr.
30. Ceir rhagor o wybodaeth am y meysydd a ddefnyddir yn Atodiad E.
Data a ddefnyddir ar gyfer cyhoeddiadau
31. Mae Medr yn gynhyrchydd ystadegau swyddogol. Byddwn hefyd yn cyhoeddi adroddiadau ystadegol ar sail ad hoc. Bydd manylion y data a’r fethodoleg a ddefnyddir mewn unrhyw gyhoeddiadau ystadegau swyddogol ac adroddiadau ystadegol yn cael eu cynnwys gyda’r adroddiad. Gellir cael mynediad at gyhoeddiadau trwy wefan Medr.
Dadansoddi ansawdd data cofnod myfyrwyr HESA
32. Mae Medr yn darparu crynodeb (y cyfeirir ato fel ‘dadansoddiad o ansawdd data HESA’) i bob DAU o’i ddata ar gyfer amrywiaeth o feysydd a ddefnyddir ar gyfer cyllido, dadansoddi a monitro, sydd wedi’i fwriadu i roi cymorth i wella ansawdd y cofnod myfyrwyr a bod yn ddefnyddiol i Medr a DAUwyr.
33. Mae’r crynodebau hyn wedi’u bwriadu i ategu’r adroddiadau a ddarperir gan HESA pan fo DAUwyr yn cyflwyno eu cofnod myfyrwyr. Cynhyrchir y crynodebau ansawdd data ar gyfer yr holl ddarparwyr gan gynnwys y darparwyr hynny sy’n dychwelyd data am gyrsiau a ddynodwyd yn benodol.
34. Mae’r crynodebau a gynhyrchir gan Medr yn cael eu cynnwys yn allbwn IRIS fel bod DAUwyr yn gallu gweld eu data eu hunain ar gyfer y flwyddyn gyfredol a data cyfrannau hanesyddol ar gyfer eu DAU a’r sector.
35. Fe adolygwyd fformat yr allbynnau hyn ym mis Mehefin 2025 ac mae canlyniad yr adolygiad a manylion allbynnau wedi’u diweddaru wedi’u cynnwys yn Atodiad F.
36. Ceir rhagor o wybodaeth am y meysydd a’r mapiadau a ddefnyddir yn y dadansoddiad o ansawdd data HESA yn Atodiad F.
Hepgor ffioedd rhan-amser
37. O gyllid 2022/23, mae data a ddefnyddir i ddyrannu’r cynllun hepgor ffioedd rhan-amser wedi bod yn cael ei echdynnu o gofnod myfyrwyr HESA. Fe ychwanegwyd yr echdyniad at y system IRIS ar gyfer 2021/22 a bydd data a echdynnwyd trwy’r system IRIS yn cael ei gymeradwyo gan DAUwyr i gadarnhau bod y data’n gywir. Mae’r broses ar gyfer dyraniadau 2024/25 i’w chael yng nghylchlythyr CCAUC Cynllun hepgor ffioedd israddedig rhan-amser CCAUC (W24/15HE). Ar gyfer dyraniadau 2025/26, bydd manylion yn cael eu cyhoeddi gan Medr yn hydref 2025. Ceir manylion y data a echdynnwyd i DAUwyr ei gymeradwyo yn Atodiad G.
38. Caiff data a ddefnyddir i fonitro gwerth gwirioneddol hepgoriadau ffioedd rhan-amser a hawliwyd gan DAUwyr dan gynllun Medr ei echdynnu o gofnod myfyrwyr HESA trwy’r system IRIS. Bydd data a echdynnwyd trwy’r system IRIS yn cael ei gymeradwyo gan DAUwyr i gadarnhau bod y data’n gywir. Mae’r broses ar gyfer gweithgarwch monitro 2023/24 i’w chael yng nghylchlythyr CCAUC Cynllun hepgor ffioedd israddedig rhan-amser CCAUC (W24/15HE). I fonitro dyraniadau 2024/25, bydd manylion yn cael eu cyhoeddi gan Medr yn haf 2025. Ceir manylion y data a echdynnir i DAUwyr ei gymeradwyo yn Atodiad G. Dim ond ar gyfer darparwyr a gyllidir gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU y cynhyrchir y dyraniadau hepgor ffioedd rhan-amser ac allbynnau monitro IRIS.
Dadansoddi incwm
39. Fel rhan o’r gwaith a wneir i fonitro incwm yn DAUwyr Cymru, defnyddiwyd data mewn perthynas â niferoedd myfyrwyr a staff CagALl yn DAUwyr Cymru. Mae crynodeb o’r data wedi’i gynnwys yn yr allbwn IRIS er gwybodaeth. Ceir manylion y meini prawf a ddefnyddir i echdynnu’r data yn Atodiad H. Cynhyrchir yr allbynnau dadansoddi incwm ar gyfer yr holl ddarparwyr.
Mesurau cenedlaethol
40. Daw’r data a ddefnyddir i fonitro’r mesurau cenedlaethol o gofnodion myfyrwyr, staff, cyllid ac alltraeth cyfanredol HESA; arolygon Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE) a hynt graddedigion (GO) HESA; y Dangosyddion Perfformiad a gyhoeddwyd ar gyfer AU yn y DU; ac arolwg Rhyngweithiad Addysg Uwch-Busnes a Chymuned HESA. Defnyddir ffynonellau eraill, megis yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS), yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) a Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol hefyd. Mae data ar gyfer SABau a gyllidir ar gyfer eu darpariaeth AU gan Medr wedi’i gynnwys mewn is-set o’r mesurau a daw’r data yma o gofnod myfyrwyr HESA, arolygon Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch a Hynt Graddedigion HESA; y Dangosyddion Perfformiad a gyhoeddwyd ar gyfer AU yn y DU, yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol.
Y mesurau a gaiff eu monitro gan ddefnyddio’r data yma yw:
- Ehangu mynediad;
- Cyfranogi;
- Cadw;
- Rhan-amser;
- Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr;
- Cyfrwng Cymraeg;
- Symudedd myfyrwyr;
- Ansawdd;
- Cwynion
- Cyflogaeth;
- Cyflogaeth graddedigion;
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus;
- Cyfanswm incwm Rhyngweithiad Addysg Uwch-Busnes a Chymuned am bob aelod o staff academaidd CagALl;
- Gweithgarwch cwmnïau deilliedig;
- Gweithgarwch dechrau busnes (graddedigion);
- Staff Ymchwil;
- Myfyrwyr Ymchwil Ôl-radd;
- Doethuriaethau a ddyfarnwyd;
- Incwm ymchwil;
- Myfyrwyr o’r UE/Myfyrwyr Tramor;
- Staff o’r UE/Staff Tramor;
- Addysg drawswladol.
41. Ceir disgrifiad o bob un o’r mesurau hyn a’r data a ddefnyddir i’w monitro yn Atodiad I.
42. Mae meysydd eraill a gaiff eu monitro a’u cynnwys yn y rhestr o fesurau cenedlaethol yn cynnwys:
- Amrywiaeth y boblogaeth myfyrwyr;
- Deilliannau effaith REF;
- Deilliannau REF;
- Iechyd ariannol;
- Ystadau;
- Cyflog uwch aelodau o staff a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau;
- Data staff mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth
ond nid yw mesurau unigol wedi’u nodi; yn lle hynny, mae’r rhain yn feysydd sydd eisoes yn cael eu dadansoddi’n fwy eang a’u cyhoeddi gan Medr. Ceir gwybodaeth ble i ddod o hyd i’r dadansoddiadau hyn yn Atodiad I hefyd.
43. Mae’r mesurau sy’n seiliedig ar gofnod myfyrwyr HESA yn cael eu hechdynnu trwy’r system IRIS a byddant yn cael eu cymeradwyo gan DAUwyr, heblaw am y rhai sy’n cyflwyno data am eu cyrsiau a ddynodwyd yn benodol, i gadarnhau bod y data’n gywir. Nid yw’r darparwyr hynny sy’n cyflwyno data am eu cyrsiau a ddynodwyd yn benodol yn cael eu cynnwys wrth gyhoeddi a monitro’r mesurau hyn, er bod yr allbynnau ar gael iddynt trwy IRIS er gwybodaeth.
44. Cafodd y mesurau cyfranogiad a chadw eu monitro gan ddefnyddio data a gasglwyd ar gofnod myfyrwyr HESA, a gyfrifwyd ac a gyhoeddwyd gan HESA fel dangosyddion perfformiad y DU. Gan nad yw Dangosyddion Perfformiad y DU yn cael eu diweddaru mwyach rydym wedi datblygu ein methodoleg ni ein hunain ar gyfer y mesur cyfranogiad, ac mae gwaith yn parhau ar gyfrifo’r mesur cadw.
Data a ddefnyddir i fonitro gradd-brentisiaethau
45. Fe wnaeth cylchlythyr CCAUC W23/04HE gyhoeddi cynigion ar gyfer cyllido gradd-brentisiaethau 2023/24 a 2024/25 a darparu rhagor o wybodaeth am y broses gyflwyno ar gyfer DAUwyr. Yn yr ymgynghoriad Medr/2024/02, gofynnwyd i ddarparwyr wneud sylwadau am y cynnig i gasglu data ar raglenni gradd-brentisiaethau a gyllidir gan Medr fel rhan o arolwg HESES 2024/25, a fyddai’n disodli’r tri adroddiad monitro yn ystod y flwyddyn a gesglir ar hyn o bryd. Derbyniwyd y cynnig hwn gan DAUwyr ac fe’i rhoddwyd ar waith fel rhan o arolwg HESES 2024/25.
46. Caiff data a ddefnyddir i fonitro’r darlun ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer nifer y myfyrwyr a gofrestrwyd ar radd-brentisiaethau mewn DAUwyr ei echdynnu o gofnod myfyrwyr HESA trwy’r system IRIS a bydd yn cael ei gymeradwyo gan DAUwyr i gadarnhau bod y data’n gywir. Ceir manylion y data a echdynnir i DAUwyr ei gymeradwyo yn Atodiad J. Nid yw’r allbynnau gradd-brentisiaethau o IRIS yn cael eu cynhyrchu ar gyfer SABau na darparwyr amgen.
47. Bydd y data HESA a ddarperir yn y system IRIS yn cael ei ddefnyddio i wirio’r data a gasglwyd fel rhan o ddychweliad HESES 2024/25, ac a ddefnyddiwyd i ddyrannu cyllid. Mae’n bosibl y bydd yn ofynnol gwneud addasiadau i gyllid. Os felly, bydd gwybodaeth am sut y bydd addasiadau i gyllid yn cael eu rhoi ar waith yn cael ei chyfleu i DAUwyr ar wahân.
Data a ddefnyddir i gyfrifo Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF)
48. Mae cylchlythyr CCAUC W22/41HE yn adrodd ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar yr adolygiad yn 2022 o Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF) ac yn cadarnhau’r fethodoleg ddyrannu a gofynion eraill wedi’u diweddaru sy’n gysylltiedig â Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru a gyflwynwyd yn 2023/24. Caiff data a ddefnyddir yn y dyraniad ei ddisgrifio yn Atodiad K. Dim ond SAUau a gynhwysir yn nyraniadau cyllid Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru.
Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid Cyfalaf
49. Mae cylchlythyr CCAUC W24/12HE yn amlinellu’r fethodoleg ddyrannu a ddefnyddiwyd ar gyfer cyllid Cyfalaf 2024/25. Caiff data CagALl myfyrwyr a ddefnyddiwyd yn y dyraniad ei ddisgrifio yn Atodiad N. Dim ond SAUau a gynhwysir yn y dyraniadau cyllid Cyfalaf.
Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid Cydraddoldeb hil a chyllid Llesiant ac iechyd
50. Fe wnaeth cyhoeddiad Medr, Medr/2024/03, gyhoeddi dyraniadau cyllid cydraddoldeb hil ar gyfer 2024/25 ac fe wnaeth cyhoeddiad Medr, Medr/2024/07, gyhoeddi dyraniadau gweithredu strategaethau Llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, a dyraniad ychwanegol ar gyfer Llesiant ac iechyd yn 2024/25. Mae’r dyraniadau cydraddoldeb hil a’r dyraniadau llesiant ac iechyd yn defnyddio’r un data o gofnod myfyrwyr HESA a ddisgrifir yn Atodiad L. Bydd y data ar gael yn system IRIS 2024/25 a bydd yn cael ei gymeradwyo gan DAUwyr a gyllidir gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU, i gadarnhau bod y data’n gywir. Dim ond ar gyfer DAUwyr a gyllidir gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU y cynhyrchir yr allbynnau o IRIS i gyfrifo’r cyllid hwn.
Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu (TES)
51. Mae cyhoeddiad Medr, Medr/2025/09: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26, yn gwahodd darparwyr AU i gyflwyno cynlluniau cyflawni dwy flynedd ar gyfer y cyfnod rhwng 2025/26 a 2026/27 ac yn nodi dyraniadau sefydliadol ar gyfer 2025/26. Byddwn yn defnyddio’r un fethodoleg gyllido i gyfrifo dyraniadau 2026/27 gan ddefnyddio data gwiriedig sydd wedi’i gynnwys yn y system IRIS ar gyfer 2024/25. Dylai data gael ei gymeradwyo gan DAUwyr a gyllidir gan Medr ar gyfer eu darpariaeth AU, i gadarnhau bod y data’n gywir. Ceir manylion y data a echdynnir i DAUwyr ei gymeradwyo yn Atodiad M. Nid yw’r allbynnau o IRIS i gyfrifo’r cyllid hwn yn cael eu cynhyrchu ar gyfer y darparwyr hynny sy’n dychwelyd data at HESA ynghylch eu darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol.
Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru
52. Fe wnaeth cyhoeddiad Medr, Medr/2024/08, gyhoeddi cyllid parhaus i gefnogi gweithgareddau newydd a phresennol mewn sefydliadau cymwys sy’n gwella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil cadarnhaol. Caiff y data a ddefnyddir i gyfrifo’r cyllid hwn ei ddisgrifio yn Atodiad O. Defnyddir data myfyrwyr a staff HESA. Bydd y data myfyrwyr yn cael ei gymeradwyo yn y broses IRIS yn 2024/25. Dim ond SAUau, heb gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru, a gynhwysir yn y dyraniadau cyllid ac fe gynhyrchir yr allbynnau o IRIS ar gyfer y rhai a gyllidir yn unig.
Ffyrdd eraill y defnyddir y data
53. Gall unrhyw ddata a ddisgrifir gael ei ddefnyddio i oleuo polisi. Yn arbennig, bydd data ar fyfyrwyr a addysgir yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg, a staff sy’n addysgu neu sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn cael ei ddefnyddio i oleuo polisi ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Bydd data sy’n ymwneud â myfyrwyr mewn SABau a gyllidir yn uniongyrchol, sydd mewn SABau dan drefniadau breinio o SAUau, neu mewn SABau â darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol, yn cael ei ddefnyddio i oleuo polisi ar AU mewn SABau.
54. Mae HESA yn gweithredu cyfleuster newidiadau hanesyddol ar gyfer data myfyrwyr a chyfleuster cronfa ddata sefydlog ar gyfer ffrydiau data eraill sy’n rhoi’r cyfle i DAUwyr wneud newidiadau ar ôl casglu i set ddata yn dilyn cau’r casgliad data byw. Mae’r cyfleuster hwn ar wahân i’r brif broses casglu data, fe godir tâl amdano a dim ond ar ôl cael awdurdodiad penodol gan Medr y mae ar gael. Mae’r cyfleuster ar agor am beth amser ar ôl i’r casgliad data byw cyfatebol gau, felly dylai darparwyr fod yn ymwybodol efallai na fydd data a gyflwynir ganddynt trwy’r cyfleuster hwn yn cael ei ddefnyddio ar unwaith a’i bod yn bosibl mai dim ond mewn dadansoddiadau o gyfresi amser yn y dyfodol y bydd yn ymddangos.
55. Caiff y data a ddisgrifir ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru yn ei dadansoddiad o’r sector addysg uwch hefyd, gan gynnwys dadansoddiad a gyhoeddir yn ei bwletinau ystadegol a data a gyflwynir ar wefan StatsCymru.
56. Caiff data sy’n ymwneud â niferoedd myfyrwyr a ragwelir mewn SAUau yn unig ei gasglu trwy’r cyhoeddiad cais am ragolygon sydd ar gael ar wefan Medr: Medr/2025/04: Cais am ragolygon 2025. Defnyddir y data yma ar gyfer prosesau monitro a chynllunio mewnol Medr ac nid yw’n cael ei gyhoeddi ar lefel darparwyr.
57. Dylid nodi, er bod y cyhoeddiad hwn yn nodi’r meysydd HESA a ddefnyddir gan Medr, y gall unrhyw un neu rai o’r meysydd y mae DAUwyr yn eu dychwelyd ar gofnodion HESA gael ei/eu d(d)efnyddio yn y dyfodol at ddibenion cyllido, at ddibenion rheoleiddiol, at ddibenion monitro, i oleuo polisi neu ar gyfer cyhoeddiadau, a’u bod hefyd yn cael eu defnyddio gan sefydliadau eraill. Felly, mae’n bwysig bod yr holl feysydd HESA yn cael eu cwblhau’n llawn ac yn gywir i ddangos darlun teg o’r ddarpariaeth a’r gweithgarwch yn y DAU.
Archwilio
58. Gallai’r holl ddata a ddefnyddir ar gyfer cyllido a monitro gael ei archwilio. Mae manylion y broses archwilio ddiweddaraf ar gyfer data addysg uwch a rhagor o fanylion am archwilio mewnol ac allanol wedi’u cynnwys ar y dudalen data a dadansoddi ar wefan Medr.
59. 2021/22 oedd y flwyddyn olaf yn y cylch archwilio allanol cyfredol ar gyfer data AU. Cyfrifoldeb Medr bellach yw’r broses archwilio allanol a bydd y broses yn cael ei hadolygu.
60. Fel mesur interim, yn lle archwiliadau allanol, a hyd oni fydd y broses wedi cael ei hadolygu gan Medr, bydd aelodau o dîm Ystadegau Addysg Uwch Medr yn cwrdd â chysylltiadau data ym mhob darparwr ar wahân, lle byddwn yn trafod eitemau megis ansawdd data a chanfyddiadau archwilio blaenorol.
Defnyddio meysydd a ddeilliwyd o HESA
61. Lle mae meysydd a ddeilliwyd o HESA wedi cael eu defnyddio fe’u dangosir yn y manylion codio ym mhob adran berthnasol o’r atodiadau a ganlyn. Caiff yr holl feysydd a ddeilliwyd o HESA ar gyfer y cofnod myfyrwyr eu dangos yn y fformat Endid.Z_ENWMAES, ac ar gyfer y cofnod staff yn y fformat Xenwmaes. Caiff manylion meysydd a ddeilliwyd o HESA ar gyfer cofnod myfyrwyr a chofnod staff 2024/25 eu cyhoeddi ar wefan HESA. Lle defnyddiwyd maes a ddeilliwyd, mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i ddeillio’r maes o’r meysydd gwreiddiol yng nghofnod HESA ar gael trwy wefan HESA.
Cynnwys
62. Mae cynnwys yr atodiadau fel a ganlyn:
Atodiad A | Data a ddefnyddir mewn dyraniadau cyllid addysgu |
Atodiad B | Data a ddefnyddir mewn dyraniadau cyllid ymchwil |
Atodiad C | Data a ddefnyddir yn y dyraniad cyllid hyfforddiant ymchwil ôl-radd |
Atodiad D | Data a ddarperir i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Atodiad E | Data a ddefnyddir ar gyfer cyhoeddiadau a monitro |
Atodiad F | Data a ddarperir i ddarparwyr addysg uwch yn y dadansoddiad o ansawdd data cofnod myfyrwyr HESA |
Atodiad G | Data a ddefnyddir i ddyrannu a monitro’r cynllun hepgor ffioedd israddedig rhan-amser |
Atodiad H | Data a ddefnyddir i ddadansoddi incwm |
Atodiad I | Data a ddefnyddir i fonitro’r mesurau cenedlaethol |
Atodiad J | Data a ddefnyddir i fonitro ac addasu cyllid gradd-brentisiaethau |
Atodiad K | Data a ddefnyddir i gyfrifo Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru |
Atodiad L | Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid Cydraddoldeb hil a chyllid Llesiant ac iechyd |
Atodiad M | Data a ddefnyddir mewn dyraniadau cymorth cyflogadwyedd wedi’i dargedu |
Atodiad N | Data a ddefnyddir i gyfrifo cyllid cyfalaf |
Atodiad O | Data a ddefnyddir i gyfrifo dyraniadau Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru |
Atodiad P | Manylion allbynnau y bydd pob math o ddarparwr yn eu cael trwy IRIS a gofynion cymeradwyo cysylltiedig |
Atodiad Q | Crynodeb o Newidiadau i’r Dadansoddiad o Ansawdd y Data IRIS Yn Dilyn Adolygiad 2025 |
Rhagor o wybodaeth
63. Mae croeso i ddarparwyr gysylltu â ni os oes arnynt angen rhagor o eglurder neu os oes ganddynt sylwadau am y mapiadau a amlinellir yn yr atodiadau; bydd unrhyw ddiweddariadau pellach sy’n ofynnol yn cael eu cyfleu i ddarparwyr.
64. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn at Rachael Clifford ([email protected]).
Medr/2025/14: Gofynion Data Addysg Uwch 2025/26
Dyddiad: 01 Medi 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/14
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach sy’n darparu addysg uwch; Penaethiaid darparwyr sy’n dychwelyd darpariaeth cyrsiau a ddynodwyd yn benodol ar gofnod myfyrwyr HESA
Ymateb erbyn: 05 Rhagfyr 2025
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad yn hysbysu darparwyr addysg uwch ynghylch y data addysg uwch a ddefnyddir i gyfrifo dyraniadau cyllid; i fonitro’r Mesurau Cenedlaethol; i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth; ar gyfer cyhoeddiadau; i ddarparu data i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol; i ddadansoddi ansawdd data cofnod myfyrwyr HESA; i fonitro cynlluniau hepgor ffioedd rhan-amser a gradd-brentisiaethau; ac i oleuo polisi.
Medr/2025/14 Gofynion Data Addysg Uwch 2025/26Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio