Cyhoeddiadau
Medr/2025/09: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26
14 Aug 2025
Crynodeb o’r cyhoeddiad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion Medr ar gyfer cyflwyno cynlluniau cyflawni dwy flynedd sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 2025/26 a 2026/27 ar gyfer darparwyr addysg uwch (AU) sy’n cael cyllid ar hyn o bryd ar gyfer Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr AU. Mae’n cyhoeddi’r gyllideb o £2m ym mlwyddyn academaidd 2025/26 ar gyfer y cymorth hwn ac yn manylu ar ddyraniadau ariannol darparwyr. Bydd cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 yn amodol ar gyllideb Medr.
2. Dylid defnyddio’r cyllid hwn i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau AU sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn AU o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol fel a ddiffinnir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
3. Dylai cynlluniau cyflawni adeiladu ar gynnydd a wnaed yn y tair blynedd flaenorol o weithgarwch a gyllidwyd, gan roi darpariaeth hyblyg a phwrpasol i fyfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i’w harfogi â’r cyfalaf cymdeithasol ac ariannol i’w helpu i gael deilliant cadarnhaol ar ôl graddio. Dylai gweithgarwch fod wedi’i dargedu, ystyried llais y myfyriwr a chael ei gyflawni mewn cydweithrediad gydag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys gwasanaethau myfyrwyr a chyflogwyr, gan amcanu at ddileu rhwystrau i gyflogadwyedd a grymuso myfyrwyr i gymryd perchnogaeth ar lywio eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Dyraniadau 2025/26
Darparwr | Cyfanswm cyllid (£) |
---|---|
Prifysgol De Cymru | 325,261 |
Prifysgol Aberystwyth | 154,148 |
Prifysgol Bangor | 150,304 |
Prifysgol Caerdydd | 330,000 |
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant | 152,469 |
Prifysgol Abertawe | 330,000 |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 238,931 |
Prifysgol Wrecsam | 100,000 |
Y Brifysgol Agored yng Nghymru | 176,503 |
Grŵp Llandrillo Menai | 32,385 |
Grŵp NPTC Group | 5,000 |
Coleg Gŵyr Abertawe | 5,000 |
Cyfanswm | 2,000,000 |
4. Mae dyraniadau darparwyr yn 2025/26 wedi cael eu cyfrifo gan ddefnyddio data gwiriedig diweddaraf HESA ar gyfer 2023/24 yn ôl y fethodoleg gyllido a amlinellir ym mharagraffau 37-41 yn y cyhoeddiad hwn.
5. Bydd taliadau cyfran gyntaf 2025/26 yn cael eu gwneud yn dilyn cymeradwyo cynlluniau cyflawni a monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2024/25.
Llinell amser
6. Mae gofyn i brifysgolion a Grŵp Llandrillo Menai:
- Gyflwyno cynlluniau cyflawni gan ddefnyddio Atodiad A ac Atodiad B i [email protected] erbyn 19 Medi 2025.
- Cyflwyno adroddiadau monitro i ni ym mis Chwefror 2026 a mis Medi 2026 (bydd Medr yn anfon templedi unigoledig at ddarparwyr ar wahân).
7. Bydd gofyn i Goleg Gŵyr Abertawe a Grŵp Colegau NPTC:
- Gyflwyno cynlluniau cyflawni gan ddefnyddio Atodiad C i [email protected] erbyn 19 Medi 2025.
- Cyflwyno adroddiad monitro i ni ym mis Medi 2026 (bydd templed yn cael ei anfon ar wahân).
Medr/2025/09: Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr Addysg Uwch (AU): Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyraniadau 2025/26
Dyddiad: 14 Awst 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/09
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer darpariaeth AU
Ymateb erbyn: 19 Medi 2025
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion Medr ar gyfer cyflwyno cynlluniau cyflawni dwy flynedd sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 2025/26 a 2026/27 ar gyfer y darparwyr AU hynny sy’n cael cyllid ar hyn o bryd ar gyfer Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu i Fyfyrwyr AU. Mae’n cyhoeddi’r gyllideb o £2m ym mlwyddyn academaidd 2025/26 ar gyfer y cymorth hwn ac yn manylu ar ddyraniadau ariannol darparwyr. Mae hefyd yn cynnwys y llinell amser ar gyfer cyflwyno cynlluniau cyflawni, taliadau a monitro ar gyfer 2025/26 ac yn atodi’r templed ar gyfer cynlluniau cyflawni.
Medr/2025/09 Cymorth Cyflogadwyedd wedi'i Dargedu i Fyfyrwyr AU: Cynlluniau Cyflawni 2025/26 – 2026/27 a dyrandiadau 2025/26Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio