Newyddion
Llwybrau prentisiaeth adeiladu newydd ar gael nawr yng Nghymru
03 Sep 2026
Mae fframweithiau prentisiaeth Lefel 2 newydd ar gael nawr yng Nghymru o fewn y sector adeiladu yn dilyn newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a Medr ar 11 Chwefror 2026.
Bydd y cyfleoedd hyn yn gwella amrywiaeth y llwybrau i mewn i’r sector hwn gan greu cyfleoedd newydd i gyflogwyr ddatblygu talent fedrus. Bwriedir iddynt alluogi prentisiaid i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwysedd y bydd eu hangen arnynt i ymuno â’r sector a chamu ymlaen ynddo. Mae’r llwybrau newydd ar gael ar Lefel 2 mewn gosod brics a gwaith saer ar safle ac ar Lefel 3 mewn gorchuddio lloriau ac oeri, aerdymheru a phympiau gwres.
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Bydd y llwybrau newydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i ddysgwyr a chyflogwyr ar gyfer datblygu sgiliau mewn galwedigaethau adeiladu allweddol. Rydyn ni’n falch o fod wedi gallu cefnogi llwybrau mwy hygyrch er mwyn helpu dysgwyr i ddechrau ar eu gyrfaoedd yn y sector pwysig hwn sy’n tyfu.”
Nodiadau:
- Caiff y fframweithiau prentisiaeth Lefel 3 presennol mewn gosod brics a gwaith saer ar safle eu diddymu ar 31 Hydref 2026.
- Caiff llwybrau prentisiaeth Lefel 3 newydd mewn crefft gosod brics a chrefft gwaith saer ar safle eu cyflwyno ym mis Awst 2027, gan gynnig cyfleoedd i gamu ymlaen i’r dysgwyr hynny sy’n cwblhau un o’r prentisiaethau sylfaen Lefel 2 newydd yn y galwedigaethau hyn yn llwyddiannus.
- Dylai dysgwyr sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i ddilyn prentisiaeth gysylltu â’u coleg addysg bellach neu eu darparwr prentisiaethau lleol.
- Mae prentisiaethau sylfaen newydd mewn gweithrediadau gwella adeiladau ac mewn sgaffaldio wrthi’n cael eu datblygu a byddant ar gael ar ddechrau 2027.
Find out more Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio