Sta/Medr/08/2026: Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2023 i Tachwedd 2025

Mae’r dadansoddiad hwn yn adeiladu ar yr hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol fel rhan o erthygl ystadegol Llywodraeth Cymru Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (Covid-19): Awst 2020 i Orffennaf 2021. Ei nod yw darparu darlun wedi’i ddiweddaru o ddilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol.

Mae’r carfannau Blwyddyn 11 yn y dadansoddiad hwn yn seiliedig ar yr holl ddysgwyr a oedd wedi eu cofrestru ym Mlwyddyn 11 mewn ysgolion uwchradd, canol ac arbennig a gynhelir yng Nghymru. Mae’r ffigurau ar gyfer 2025/26 yn rhai dros dro gan eu bod yn seiliedig ar ddata yn ystod y flwyddyn.

Diffinnir addysg drydyddol yn y dadansoddiad hwn fel darpariaeth sydd bellach yn cael ei chyllido a’i rheoleiddio gan Medr. Mae hyn yn cwmpasu darpariaeth a gyllidir yn gyhoeddus sy’n cael ei chyflwyno gan unedau chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir, colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau yng Nghymru.

Mae hyn yn newid o’r datganiad blaenorol lle defnyddiwyd diffiniad ychydig yn fwy eang o addysg drydyddol a oedd yn cynnwys dysgu ôl-16 mewn ysgolion arbennig a gynhelir a rhaglenni cyflogadwyedd Twf Swyddi Cymru+ / Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru.

Nid yw’r dadansoddiad yn cynnwys cyrchfannau trydyddol mewn ysgolion annibynnol, darparwyr dysgu annibynnol neu arbenigol eraill, dysgu oedolion yn y gymuned (gan gynnwys dysgu a ddarperir gan golegau), addysg drydyddol y tu allan i Gymru nac unrhyw ddarpariaeth EOTAS (Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol) ôl-16 arall.

  • Roedd cyfran dros dro’r dysgwyr a aeth ymlaen o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol yn 85% yn 2025/26, a hithau’n ddigyfnewid ers y 2 flynedd flaenorol.
  • Fe wnaeth nifer y dysgwyr sy’n camu ymlaen gynyddu’n gyson rhwng 2018/19 a 2024/25 cyn gostwng yn 2025/26, yn unol â newidiadau i feintiau carfannau Blwyddyn 11.
  • O’r dysgwyr a aeth ymlaen o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol:
    • Mae cyfran gynyddol yn mynd ymlaen i golegau addysg bellach, gyda gostyngiad cyfatebol yn y rhai sy’n mynd ymlaen i unedau chweched dosbarth.
    • Mae cyfran y dysgwyr sy’n astudio ar lefel 3 (gan gynnwys Safon Uwch Gyfrannol) yn dal i leihau.
  • Ceir gwahaniaethau mewn dilyniant rhwng gwahanol grwpiau o ddysgwyr. Roedd y gyfran a aeth ymlaen yn uwch ar gyfer dysgwyr sydd:
    • Yn fenywaidd
    • Yn byw yn y cymdogaethau lleiaf amddifadus
    • Ddim yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim
    • Ddim yn cael mynediad at ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol
    • O gefndiroedd Asiaidd, Asiaidd Prydeinig neu Asiaidd Cymreig, neu Ddu, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd
    • Yn gymwys neu’n rhugl ar ôl caffael Saesneg fel iaith ychwanegol
    • Yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mlwyddyn 11 neu’n rhugl yn y Gymraeg.
  • Roedd amrywiad sylweddol yn y math o ddarpariaeth a lefel y ddarpariaeth addysg drydyddol rhwng gwahanol grwpiau o ddysgwyr ac yn ddaearyddol.

Sta/Medr/08/2026: Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2023 i Tachwedd 2025

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/08/2026

Dyddiad:  26 Mawrth 2026

Dynodiad:  Ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu

Crynodeb:  Dadansoddiad o gyrchfannau dysgwyr ar ôl gadael Blwyddyn 11, gyda dadansoddiadau yn ôl y math o addysg drydyddol, lefel astudio a nodweddion dysgwyr

Thema:  Chweched dosbarth, addysg bellach, prentisiaethau

Sta/Medr/08/2026 Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2023 i Tachwedd 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/12: Cyllid ychwanegol i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriadau ar gyfer cyllid ychwanegol gwerth £4,000,000 i gydnabod cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg uwch ac awdurdodau lleol ym mlwyddyn academaidd 2025/26.

2. Rhoddodd Llywodraeth Cymru y cyllid hwn fel rhan o’i chyllideb ar gyfer 2025-26 a chaiff ei ddyrannu i ddarparwyr yn ystod blwyddyn ariannol 2025-26.

3. Caiff y cyllid hwn ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ar 31 Mawrth 2026.

Sail resymegol

4. Cyfrifwyd y dyraniad o £4,000,000 ar sail pro rata rhwng yr awdurdodau lleol a’r sefydliadau addysg bellach er mwyn adlewyrchu’r hyn a gyflawnwyd yn ôl adroddiadau’r awdurdodau lleol ym mis Rhagfyr 2025 a’r hyn a gyflawnwyd yn ôl data ciplun mis Rhagfyr 2025 Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.

Symiau ac amseriadau’r cyllid ychwanegol

5. Rhoddir dyraniad o £3,642,212.57 i sefydliadau addysg bellach am gynnydd mewn cyfranogiad ym mlwyddyn academaidd 2025/26, fel y gwelir yn y tabl isod.

Sefydliad addysg bellachAddysg bellach |
Cymorth ychwanegol ar gyfer cyllid prif ffrwd
Coleg Penybont£280,283.87
Coleg Caerdydd a’r Fro£301,014.89
Coleg Cambria£929,602.79
Coleg Gwent£104,367.28
Coleg Sir Gâr-£258,657.33
Coleg y Cymoedd£357,784.78
Coleg Gŵyr Abertawe£226,639.89
Grŵp Llandrillo Menai£988,585.74
Grŵp NPTC£397,677.88
Y Coleg Merthyr Tudful£168,060.99
Coleg Sir Benfro£34,632.66
Coleg Catholig Dewi Sant£112,219.13
Cyfanswm£3,642,212.57

6. Daw’r adhawliad ar gyfer Coleg Sir Gâr yn sgil addasiad i ddyraniad blaenorol.

7. Rhoddir dyraniad o £357,787.41 i awdurdodau lleol am gynnydd mewn cyfranogiad ar gyfer cyllid prif ffrwd ym mlwyddyn academaidd 2025/26, fel y gwelir yn y tabl isod.

Awdurdod lleolAwdurdodau lleol |
Cymorth ychwanegol ar gyfer cyllid prif ffrwd
Cyngor Sir Ynys Môn£42,755.87
Cyngor Caerdydd£132,748.79
Cyngor Sir Ddinbych£43,596.00
Cyngor Sir Fynwy£11,708.37
Cyngor Castell-nedd Port Talbot£16,602.54
Cyngor Sir Penfro£66,853.43
Cyngor Dinas a Sir Abertawe£23,449.58
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen£10,196.21
Cyngor Bro Morgannwg£9,876.62
Cyfanswm£357,787.41

8. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â’r cyfnod o 1 Awst 2025 tan 31 Gorffennaf 2026. Caiff y cyllid ychwanegol hwn i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ar 31 Mawrth 2026.

Medr/2026/12: Cyllid ychwanegol i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol 2025/26

Dyddiad:  26 Mawrth 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/12

At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriadau ar gyfer cyllid ychwanegol gwerth £4,000,000 i gydnabod cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg uwch ac awdurdodau lleol ym mlwyddyn academaidd 2025/26.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru y cyllid hwn fel rhan o’i chyllideb ar gyfer 2025-26 a chaiff ei ddyrannu i ddarparwyr yn ystod blwyddyn ariannol 2025-26.

Caiff y cyllid hwn ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ar 31 Mawrth 2026.

Medr/2026/12 Cyllid ychwanegol i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol 2025/26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2026/11: Cyllid cyfalaf addysg bellach ac Addysg Uwch 2025-26

Cyflwyniad

1. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyllid cyfalaf ychwanegol o £26m ar gael i’w ddyrannu ym mlwyddyn ariannol 2025-26. Gellir dyrannu’r cyllid i wariant a ysgwyddir ym mlwyddyn academaidd 2025/26, yn ogystal ag ymrwymiadau ariannol a wneir erbyn 31 Gorffennaf 2026 a ategir gan gontractau neu archebion prynu. Ar gyfer colegau, bydd yr arian ychwanegol yn helpu i gynyddu cyfranogiad, yn enwedig mewn cyrsiau galwedigaethol er enghraifft drwy ehangu’r ddarpariaeth o ran gweithdai. Mae cyllid blaenorol wedi cael ei ddefnyddio gan brifysgolion i gefnogi prosiectau sy’n lleihau eu costau gweithredu ac yn gwella cyfleusterau i fyfyrwyr a staff. Ni ellir defnyddio cyllid cyfalaf i gefnogi costau staff yn uniongyrchol. Fodd bynnag, gall yr arbedion a gynhyrchir gan fuddsoddiadau cyfalaf ddod â rhywfaint o arbedion refeniw sy’n lleddfu pwysau costau. Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn cynnwys £13m ar gyfer sefydliadau addysg uwch ac £13m ar gyfer sefydliadau addysg bellach.

Sail dyraniadau cyllid cyfalaf

2. Dyrennir y cyllid cyfalaf yn seiliedig ar ddull fformwläig ac fe bennwyd y dyraniadau yn seiliedig ar y canlynol:

i) Addysg uwch: niferoedd myfyrwyr. Mae nifer y myfyrwyr mewn sefydliad yn ddirprwy rhesymol ar gyfer faint o ystâd a chyfleusterau y mae eu hangen. Daw’r niferoedd myfyrwyr a ddefnyddiwyd ar gyfer y dyraniad cychwynnol o ffigyrau Cyfwerth ag Amser Llawn (CagALl) Cofnod Myfyrwyr HESA ar gyfer pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2023/24. Cymhwyswyd isafswm dyraniad o £975,000. O ystyried ei hystâd gyfyngedig yng Nghymru, bydd trothwy isaf o 50% (£487,500) wedi’i bennu ar gyfer y Brifysgol Agored i gyfrannu at brosiectau a fydd o fudd i fyfyrwyr o Gymru. Mae hon yr un sail ag a ddefnyddiwyd i ddyrannu’r cyllid cyfalaf o £10m ym mis Hydref.

ii) Addysg bellach: Cyfanswm dyraniad2025/26. Fe bennwyd y dyraniad amser llawn cychwynnol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 gan ddefnyddio gwybodaeth am gyfrif pennau dysgwyr a gwerth rhaglenni o’r data LLWR diweddaraf ac fe’i goleuwyd gan ddata o’r CYBLD. Dosbarthwyd y dyraniad cyfalaf ychwanegol ar sail pro rata, sy’n cyd-fynd â chyfran pob darparwr o gyfanswm y dyraniad, yn seiliedig ar gyfrif pennau dysgwyr.

Dyraniadau

3. Darperir y dyraniadau canlyniadol ar gyfer pob sefydliad yn Atodiad A ar gyfer sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch.

Cadarnhau’r gallu i wario

4. O ystyried y ffrâm amser gyfyngedig i ddosbarthu’r cyllid hwn, yn lle cynlluniau wedi’u cwmpasu’n llawn rydym yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gadarnhau trwy anfon e-bost i [email protected] eu bod yn gallu defnyddio eu dyraniad yn erbyn prosiectau perthnasol ym mlwyddyn academaidd 2025/26. Sylwer bod rhaid i’r rhain fod yn ddatblygiadau yng Nghymru (neu, yn achos digidol, prosiectau a fydd o fudd yn uniongyrchol i fyfyrwyr o Gymru).

5. Os yw sefydliad yn rhagweld na fydd yn gallu defnyddio ei ddyraniad yn llawn, dylai hysbysu Medr ar y cyfle cynharaf a bydd unrhyw arian gweddillol yn cael ei ailddyrannu i sefydliadau eraill trwy’r dull fformwläig a ddisgrifiwyd yn flaenorol.

Canllawiau

6. Bydd canllawiau’n dilyn y cyhoeddiad hwn a’r rheiny’n amlinellu’r gwariant cymwys, ac felly hefyd dempled i adrodd ar wariant.

Monitro blynyddol

7. Bydd ymarfer monitro’n cael ei gynnal yn 2026 ar ddyddiad addas i sicrhau bod y cyllid wedi cael ei ddefnyddio fel a fwriadwyd ac i ddarparu diweddariad ar yr effaith y mae’r buddsoddiad wedi’i chael.

8. Bydd disgwyl i sefydliadau ddarparu dadansoddiad o’r gwariant cyfalaf a manylu ar unrhyw brosiectau y mae’r cyllid wedi cyfrannu atynt.

Amserlen

9. Bydd Medr yn trefnu bod yr arian a ddyrennir yn cael ei dalu i sefydliadau ar ôl cael y cadarnhad uchod ac ar 31 Mawrth 2026.

10. Bydd y broses fonitro flynyddol yn digwydd yn 2026 ar ddyddiad addas.

Rhagor o wybodaeth

11. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

Modelu cyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer addysg uwch yn 2025/26

SefydliadMyfyrwyr CagALl
2023/24
Dyraniadau pro rata i (£): CagALlCanran a ddyrennir i bob sefydliad CagALl
Prifysgol De Cymru19,177£1,986,656.2015%
Prifysgol Aberystwyth£975,0008%
Prifysgol Bangor£975,0008%
Prifysgol Caerdydd28,326£2,934,453.9523%
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant11,755£1,217,768.359%
Prifysgol Abertawe19,009£1,969,252.1015%
Prifysgol Metropolitan Caerdydd10,578£1,095,836.128%
Prifysgol Wrecsam£975,0008%
Y Brifysgol Agored yng Nghymru8,408£871,033.287%
Cyfanswm97,253.00£13,000,000.00100%

Ffynhonnell: Cofnod myfyrwyr HESA 2023/24

  • Niferoedd Myfyrwyr nas defnyddiwyd yn y cyfrifiad: Poblogaeth gofrestru safonol HESA, pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni.
  • Ffigyrau CagALl a ddefnyddiwyd yn y cyfrifiad: Poblogaeth Sesiwn HESA, pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni.
  • Sylwer fod gwerthoedd CagALl wedi cael eu talgrynnu yn dilyn eu defnyddio yn y cyfrifiadau.

Modelu cyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer addysg bellach yn 2025/26

SefydliadMyfyrwyr CagALl
2023/24
Dyraniadau pro rata i (£): CagALlPercentage allocated to each institution FTE
Coleg Penybont21,257,267£647,440.954.98%
Coleg Caerdydd a’r Fro51,838,831£1,578,875.6812.15%
Coleg Cambria51,831,161£1,578,642.0812.14%
Coleg Gwent59,626,840£1,816,078.1413.97%
Coleg Sir Gâr28,960,384£882,057.826.79%
Coleg y Cymoedd44,337,120£1,350,393.1110.39%
Coleg Gŵyr Abertawe36,295,608£1,105,469.628.50%
Grŵp Llandrillo Menai50,512,285£1,538,472.5511.83%
Grŵp NPTC34,051,497£1,037,119.857.98%
Y Coleg Merthyr Tudful13,503,613£411,284.863.16%
Coleg Sir Benfro16,837,610£512,829.723.94%
Coleg Catholig Dewi Sant9,656,971£294,126.172.26%
Addysg Oedolion Cymru (ALW)8,116,566£247,209.451.90%
Cyfanswm426,825,753£13,000,000.00100%

Medr/2026/11: Cyllid cyfalaf addysg bellach ac addysg uwch 2025-26

Dyddiad: 26 Mawrth 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/11

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach

Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu manylion y sail ar gyfer dyrannu cyllid cyfalaf yn ystod y flwyddyn yn 2025/26 i sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru, yr wybodaeth sy’n ofynnol gan sefydliadau a’n dull o fonitro. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2025/26.

Medr/2026/11 Cyllid cyfalaf addysg bellach ac addysg uwch 2025-26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Sta/Medr/07/2026: Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch: 2024/25

Mae Medr yn bwriadu ystyried a ellid ymgorffori’r cyhoeddiad hwn yn ein cyhoeddiadau Myfyrwyr mewn addysg uwch a Staff mewn sefydliadau addysg uwch gan fod llawer o orgyffwrdd rhwng y dogfennau. Rydym yn bwriadu siarad â defnyddwyr i ddeall a ellir gwneud hyn heb effeithio ar y defnydd o’r ystadegau, gan wneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau.

Os hoffech chi fynegi eich barn ar hyn ac egluro sut rydych yn defnyddio’r cyhoeddiad hwn, cysylltwch â ni yn [email protected] erbyn 29 Mai 2026.

Myfyrwyr

Mae myfyrwyr yn cael eu cyfrif fesul ymrestriad, felly os yw myfyriwr wedi ymrestru ar sawl cwrs mewn blwyddyn academaidd bydd yn cael ei gyfrif sawl gwaith. Mae’r data’n cynnwys ymrestriadau ym mhob darparydd yng Nghymru sy’n cyflwyno data i gofnod myfyrwyr HESA. Mae hyn yn cynnwys darparwyr sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol ar gyfer darpariaeth addysg uwch gan Medr a darparwyr yng Nghymru sy’n dychwelyd data i HESA am gyrsiau wedi’u dynodi’n benodol.

  • Cynyddodd cyfran yr ymrestriadau gan fyfyrwyr ag anabledd yn gyson o 14% yn 2018/19 i 22% yn 2024/25.
  • Cynyddodd cyfran yr ymrestriadau gan fyfyrwyr o’r DU o gefndir lleiafrifol ethnig o 12% yn 2018/19 i 17% yn 2022/23.
  • Myfyrwyr benywaidd oedd y rhan fwyaf o’r ymrestriadau. Myfyrwyr benywaidd fu 57% o’r ymrestriadau bob blwyddyn ers 2022/23.
Staff

Mae’r data am staff yn ymwneud â staff yn yr wyth prifysgol yng Nghymru sy’n cyflwyno data i gofnod staff HESA. Nid yw’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi’i chynnwys gan fod y data a gesglir am staff y Brifysgol Agored yn cynnwys yr holl Deyrnas Unedig, ac nid Cymru yn benodol.

Cyfrifir niferoedd staff drwy ddefnyddio nifer cyfwerth â pherson llawn ar gyfer staff ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn adrodd, er enghraifft 1 Rhagfyr 2024 ar gyfer 2024/25. Nid yw staff ar gontractau annodweddiadol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn gan na ellir eu cymharu â’r rhai ar fathau eraill o gontractau.

  • O 2018/19 i 2024/25, cynyddodd cyfran y staff oedd ag anabledd yn gyson.
    • Ar gyfer staff academaidd cynyddodd y gyfran o 5% yn 2018/19 i 8% yn 2024/25.
    • Ar gyfer staff anacademaidd, cynyddodd y gyfran o 7% yn 2018/19 i 11% yn 2024/25.
  • O 2018/19 i 2024/25, cynyddodd cyfran y staff o gefndir lleiafrifol ethnig.
    • Ar gyfer staff academaidd, cynyddodd y gyfran o 12% yn 2018/19 i 20% yn 2024/25.
    • Ar gyfer staff anacademaidd, cynyddodd y gyfran o 5% yn 2018/19 i 7% yn 2024/25.
  • Yn y gorffennol, mae mwyafrif y staff academaidd wedi bod yn ddynion. Yn 2024/25 roedd ychydig mwy eto o staff academaidd yn ddynion (5,560 aelod o staff) na menywod (5,495), ond roedd y naill a’r llall i gyfrif am 50%. Mewn cymhariaeth â hyn, roedd 53% o staff academaidd yn ddynion yn 2018/19.
  • Roedd mwyafrif y staff anacademaidd yn fenywod. Roedd 63% o staff anacademaidd yn fenywod yn 2024/25, sy’n debyg i’r blynyddoedd cynt.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad llawn ac ar y dangosfwrdd Power BI atodol.

Sta/Medr/07/2026: Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch: 2024/25

Cyfeirnod: Sta/Medr/07/2026

Dyddiad:  24 Mawrth 2026

Crynodeb:  Ystadegau ar nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru o flwyddyn academaidd 2018/19 i flwyddyn academaidd 2024/25

Thema:  Addysg uwch

Ffynhonnell:  Cofnodion Myfyrwyr a Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)

Sta/Medr/07/2026 Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch: 2024/25

Dogfennau eraill

Dangosfwrdd Power BI

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/06/2026: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned, Awst 2024 i Orffennaf 2025

Prentisiaethau
  • Cynyddodd cyfradd llwyddo prentisiaethau 2 pwynt canran yn 2024/25 i 77%. Mae’n dal yn is na’r gyfradd cyn pandemig Covid-19.
  • Prentisiaethau lefel uwch a ddangosodd yr adferiad cryfaf yn 2024/25.
  • Ymhlith y sectorau mwy, roedd cyfradd lwyddo uwch mewn:
    • Rheoli a phroffesiynol;
    • Gweinyddu busnes;
    • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Yr unig sectorau lle gwelwyd y gyfradd lwyddo’n gostwng oedd:
    • Adeiladu;
    • Peirianneg.
  • Mae’r bwlch yn y gyfradd llwyddo rhwng dysgwyr yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf amddifadus wedi cau i 2 pwynt canran.
  • Roedd y gyfradd lwyddo ar gyfer dysgwyr ag anableddau a/neu anawsterau dysgu 6 phwynt canran yn is na dysgwyr heb anableddau a/neu anawsterau dysgu.
  • Roedd deilliannau gweithgareddau prentisiaethau a gwblhawyd yn ddwyieithog ac yn Saesneg yn debyg.
  • Fe gynyddodd y gyfradd lwyddo ar gyfer grwpiau oedran hŷn, tra bo’r gyfradd lwyddo ar gyfer grwpiau oedran iau wedi aros yn llonydd.

Cyfradd llwyddo prentisiaethau yn ôl blwyddyn academaidd

Ffigur 1: Awst 2015 i Orffennaf 2025

Cyfradd llwyddo prentisiaethau yn ôl blwyddyn academaidd
Dysgu oedolion yn y gymuned
  • Cynyddodd y gyfradd cwblhau ar gyfer gweithgareddau dysgu oedolion yn y gymuned o 95% yn 2023/24 i 96% yn 2024/25.
  • Fe arhosodd y gyfradd lwyddo ar gyfer gweithgareddau dysgu oedolion yn y gymuned asesadwy ar 87% yn 2024/25, y tro cyntaf iddi beidio â chynyddu ar ôl y pandemig.
  • Y sectorau lle gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn cyfraddau llwyddo ar y cyfan oedd:
    • Hanes, Athroniaeth a Diwinyddiaeth;
    • Adeiladu, Cynllunio a’r Amgylchedd Adeiledig.
  • Y sectorau lle gwelwyd y gostyngiad mwyaf mewn cyfraddau llwyddo oedd:
    • Sgiliau Byw’n Annibynnol;
    • o Peirianneg a thechnolegau gweithgynhyrchu.
  • Mewn dysgu a ddarperir gan awdurdodau lleol trwy drefniant breinio gyda sefydliad addysg bellach (AB) y gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y gyfradd lwyddo, er mai dyma oedd y math isaf o ddarpariaeth o hyd.

Cyfradd llwyddo dysgu oedolion yn ôl blwyddyn academaidd

Ffigur 2: Awst 2015 i Orffennaf 2025

Cyfradd llwyddo dysgu oedolion yn ôl blwyddyn academaidd

Sta/Medr/06/2026: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned, Awst 2024 i Orffennaf 2025

Cyfeirnod ystadegau:  Sta/Medr/06/2026

Dyddiad:  18 Mawrth 2026

Dynodiad: Ystadegau Swyddogol

Crynodeb:  Ystadegau ar lwyddiant a chwblhau prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned yn ol lefel astudio, math o nod dysgu, sector, a nodweddion dysgu

Thema:  Prentisiaethau, Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Ffynhonnell: Lifelong Learning Record Wales (LLWR)

Sta/Medr/06/2026 Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned, Awst 2024 i Orffennaf 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/05/2026: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2024 – Gorffennaf 2025

Trosolwg

Mae deilliannau ar gyfer addysg uwch yr un fath fwy neu lai â ffigyrau 2023/24, tra bo deilliannau galwedigaethol wedi cynyddu
Ffigur 1.1: Crynodeb o fesurau cyflawniad yn ôl blwyddyn academaidd, rhwng mis Awst 2023 a mis Gorffennaf 2025

Addysg gyffredinol (Safon Uwch)

  • Mae’r graddau a enillwyd yn dal i fod yn uwch na lefelau cyn y pandemig, ond bu lleihad yng nghyfran y dysgwyr a enillodd o leiaf dair A o’i gymharu â 2023/24.
  • Bu lleihad bychan yn y gyfran a gwblhaodd Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a chynnydd bach yng nghyfran y dysgwyr a aeth ymlaen i’w hail flwyddyn Safon uwch yn 2024/25.
  • Roedd gan ddysgwyr benywaidd ddeilliannau gwell na dysgwyr gwrywaidd mewn rhaglenni addysg gyffredinol, heblaw am ddysgwyr a enillodd dair A*.
  • Aeth 52% o’r dysgwyr benywaidd a wnaeth UG ymlaen i ennill o leiaf tair C mewn Safon Uwch, o’i gymharu â 40% o ddysgwyr gwrywaidd.
  • Aeth 48% o ddysgwyr UG 16 oed ymlaen i ennill o leiaf tair C mewn Safon Uwch, o’i gymharu â 24% o ddysgwyr hŷn.  
  • Roedd dysgwyr o gefndiroedd amddifadus yn llai tebygol o gwblhau eu Safon Uwch ac yn llai tebygol o gael graddau uchel os oeddent yn gwneud.
  • Roedd dysgwyr o Grwpiau Ethnig Eraill yn fwy tebygol o ennill o leiaf dri chymhwyster Safon Uwch yn 2024/25. Grwpiau Ethnig Lluosog, Cymysg oedd yr unig grŵp ethnig lle gwelwyd cynnydd yn y gyfran a enillodd o leiaf dri chymhwyster Safon Uwch o’i gymharu â 2023/24.

Addysg alwedigaethol

  • Fe wellodd deilliannau galwedigaethol ar bob lefel rhaglen yn 2024/25, ac eithrio ar gyfer Lefel Mynediad sydd wedi gostwng.
  • Mae’r deilliannau galwedigaethol ar Lefelau 1 i 3 bellach yr un fath â’r ffigyrau cyn y pandemig neu’n uwch na hwy.
  • Mae cyfraddau llwyddo ar gyfer cyrsiau a wnaed fel rhan o raglenni Cyfrif Dysgu Personol yn amrywio yn ôl maes sector pwnc, o 97% mewn Manwerthu a Menter Fasnachol i 47% mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.
  • Bu cynnydd bach mewn dysgwyr na wnaethant gwblhau eu rhaglen oherwydd eu bod ‘Wedi mynd i gyflogaeth’ ac oherwydd ‘Rhesymau ariannol’ yn 2024/25.
  • Roedd gan ddysgwyr galwedigaethol a oedd yn gysylltiedig â phrofiadau o amddifadedd ddeilliannau is na’r rhai nad oeddent yn gysylltiedig â’r profiadau hynny, ond roedd y berthynas yn llai cryf nag mewn addysg gyffredinol.

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

  • Cyflawnodd dysgwyr a astudiodd raglenni addysg gyffredinol ddeilliannau uwch ym Magloriaeth Sgiliau Cymru Uwch na dysgwyr a astudiodd raglenni galwedigaethol.

Sta/Medr/05/2026: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2024 – Gorffennaf 2025

Cyfeirnod yr ystadegau: Sta/Medr/05/2026

Dyddiad: 10 Mawrth 2026

Crynodeb:  Deilliannau ar gyfer addysg gyffredinol, addysg alwedigaethol a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch mewn lleoliadau chweched dosbarth a cholegau.

Thema:  Addysg uwch, chweched dosbarth

Ffynhonnell:   Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR), Casgliad data ôl-16, Cronfa Ddata Arholiadau Cymru (WED)

Sta/Medr/05/2026 Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2024 – Gorffennaf 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr yn croesawu dau aelod newydd i’w uwch dîm

Penodwyd Francesca Hill yn Brif Swyddog Gweithredu ym mis Rhagfyr 2025. Daw Fran â 10 mlynedd o brofiad ym maes pobl, diwylliant a thrawsnewid, a hithau’n fwyaf diweddar wedi arwain proses o ddiwygio diwylliannol a diwygio trefniadau llywodraethu yn y gwasanaethau tân ac achub ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae Fran yn gyfreithiwr cymwysedig, a bu ganddi rôl sylfaenol yn y gwaith i sefydlu Medr, gan arwain ar drosglwyddo staff a sefydlu trefniadau llywodraethu.

Fe ymgymerodd Bethan Evans â rôl Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio a Dadansoddi ym mis Chwefror 2026.

Mae Bethan yn ymuno â Medr o KPMG, lle treuliodd 12 mlynedd ym maes ymgynghori ar gyfer y sector cyhoeddus, gan gynghori cleientiaid mewn diwydiannau a reoleiddir yn helaeth megis dŵr, gofal iechyd, trafnidiaeth, cyfiawnder ac amddiffyn. Mae’n Gyfrifydd Siartredig, ac fe wasanaethodd yn flaenorol fel Pennaeth Ofwat yng Nghymru a Swyddog Cymru’r Comisiwn Etholiadol.

Bydd Fran yn goruchwylio’r Cyfarwyddiaethau Cyllid, Digidol a Gwybodaeth, yn ogystal â’r tîm Pobl a Diwylliant, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd a’r tîm Cynllunio Corfforaethol.

Bydd Bethan yn gyfrifol am swyddogaethau rheoleiddio a dadansoddi Medr, gan sicrhau dull cymesur, seiliedig-ar-risg o fonitro cydymffurfedd, a darparu sylfaen dystiolaeth gref ar gyfer cynllunio a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.

Meddai Fran:

“Rwyf wrth fy modd i fod wedi ymuno â Medr fel Prif Swyddog Gweithredu. Rwy’n credu’n angerddol bod addysg o bwys ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm talentog yn Medr i adeiladau ar yr hyn a gyflawnwyd ers iddo ddod yn weithredol ym mis Awst 2024. Ar adeg pan fo’r sector addysg yn wynebu heriau digynsail, rwy’n ymrwymedig i sicrhau bod gan Medr rôl allweddol i helpu i wella profiad a deilliannau dysgwyr ac ehangu cyfranogiad mewn addysg drydyddol, gan sicrhau yn y pen draw ei fod yn gwireddu’r uchelgeisiau yn ei gynllun strategol.”

Meddai Bethan:

“Rwy’n falch tu hwnt i fod wedi ymuno â Medr ac yn edrych ymlaen at feithrin perthnasoedd cryf ar draws y sector, yn seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth rhwng pawb. Rwy’n benderfynol o gyflawni dull rheoleiddio cymesur, seiliedig-ar-risg sy’n ei gwneud yn bosibl darparu llwybrau rhagorol i ddysgwyr yng Nghymru. Trwy gydweithio a bwrw’r maen i’r wal gam wrth gam, credaf fod gennym gyfle unigryw yn Medr i gyflawni newid ystyrlon er budd dysgwyr, darparwyr a phobl Cymru.”

Meddai James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Rwyf wrth fy modd i groesawu Fran a Bethan i Medr. Roedd hi’n wych ennyn y fath ddiddordeb a thalent aruthrol yn y rolau arwain hollbwysig hyn wrth i ni barhau i gryfhau ein tîm i gyflawni ein cynllun strategol ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil.

“Bydd Fran yn dod â chyfoeth o brofiad i’r rôl ac mae hi wastad yn cyflawni ei gwaith yn egnïol, yn benderfynol ac yn hwyliog.

“Mae Bethan yn cyfuno sgiliau dadansoddi dwfn ag awch i rymuso eraill i wireddu eu potensial a meithrin timau effeithiol.

“Bydd eu harweinyddiaeth a’u harbenigedd yn hollbwysig i ategu ein nod sefydlu, sef sefydlu Medr fel sefydliad hynod effeithiol a rheoleiddiwr yr ymddiriedir ynddo.”

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Diweddariad gan Medr: yr allu i ddilyn cyrsiau gradd arbenigol yn y celfyddydau perfformio yn Lloegr

Diweddariad gan Medr ar effaith y fframwaith dynodi cyrsiau presennol ar allu myfyrwyr sydd â’u domisil yng Nghymru i ddilyn rhai cyrsiau gradd arbenigol yn y celfyddydau perfformio a gyflwynir drwy bartneriaethau prifysgol yn Lloegr

Diweddariad: 24 Mawrth 2026

Ers i ni ryddhau’r datganiad isod yn wreiddiol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi diweddariad ynglŷn â dynodi cyrsiau celfyddydau perfformio a chyrsiau cysylltiedig a ddarperir gan ddarparwyr heb eu rheoleiddio yn Lloegr dros dro ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

4 Mawrth 2026

Cafodd Medr wybod y llynedd am broblemau lle nad oedd myfyrwyr sydd â’u domisil yng Nghymru yn gallu cael cyllid myfyrwyr ar gyfer rhai cyrsiau gradd arbenigol yn y celfyddydau perfformio a gyflwynir drwy bartneriaethau prifysgol yn Lloegr. Er nad yw Medr yn rhan o’r broses awtomatig o ddynodi cyrsiau ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, rydym wedi parhau i fonitro’r sefyllfa ac wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru at effaith hyn ar ddarpar ddysgwyr a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Y llynedd, aeth Llywodraeth Cymru a Cyllid Myfyrwyr Cymru ati i adolygu’r ffordd y caiff darparwyr breiniol sefydliadau yn Lloegr sydd wedi’u cofrestru â’r Swyddfa Fyfyrwyr eu dynodi’n awtomatig. Drwy’r broses hon, daethant o hyd i nifer o achosion lle roedd darparwyr breiniol wedi cael eu lanlwytho’n anghywir i systemau’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr gan y sefydliad breinio.

Nid yw hyn yn golygu bod y ffordd y caiff cyrsiau eu dynodi wedi newid – mae’n golygu bod gwall wedi cael ei wneud gan y sefydliad breinio.

Mae’n bwysig pwysleisio mai cyfrifoldeb y sefydliad breinio yw sicrhau ei fod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr, a chyfleu hynny’n briodol. Dylid hefyd nodi bod y ddeddfwriaeth ynghylch cymorth i fyfyrwyr yn amrywio rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig ac nad yw cymhwysedd mewn un awdurdodaeth yn rhoi cymhwysedd mewn awdurdodaeth arall yn awtomatig.

Dim ond darparwyr sy’n bodloni’r meini prawf deddfwriaethol, megis bod wedi’u cofrestru â’r Swyddfa Fyfyrwyr, a gaiff eu dynodi’n awtomatig. Mae rhagor o wybodaeth am ddynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Pan na fydd modd i gwrs gael ei ddynodi’n awtomatig, gall y sefydliad breinio wneud cais, ar ran ei ddarparwr breiniol, i Medr am Ddynodiad Cwrs Penodol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sydd â’u domisil yng Nghymru. Wedyn, bydd Medr yn gyfrifol am asesu ceisiadau am Ddynodiad Cwrs Penodol a chynghori Gweinidogion Cymru ar eu cymhwysedd.

Os bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi Dynodiad Cwrs Penodol, caiff y benthyciad ffioedd dysgu sydd ar gael i fyfyrwyr ei bennu ar y terfyn ffioedd isaf, sef £6,355 ar hyn o bryd (a fydd yn codi i £6,525 ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27). Rydym yn dal ar gael i drafod prosesau dynodi neu lwybrau gwneud cais gydag unrhyw sefydliad breinio neu ddarparwr sydd am gael eglurder.

Efallai ei bod hefyd yn werth nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad y llynedd ar newidiadau i’r polisi dynodi. Ar wahân i hynny, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cynnig, mewn ymgynghoriad diweddar, y bydd yn rhaid i bartneriaid cyflwyno breiniol sydd â 300 neu fwy o fyfyrwyr fod wedi’u cofrestru â’r Swyddfa Fyfyrwyr er mwyn i gyrsiau a gyflwynir ganddynt gael eu dynodi ar gyfer cyllid myfyrwyr. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i lawer o ddarparwyr gofrestru â’r Swyddfa Fyfyrwyr, a byddai’n effeithio ar eu cymhwysedd i gael eu dynodi yng Nghymru, yn enwedig yng nghyd-destun y newidiadau arfaethedig gan Lywodraeth Cymru.

Bwriedir i’r wybodaeth hon nodi’n glir beth yw rôl Medr o ran dynodi cyrsiau yn dilyn cryn dipyn o ohebiaeth â Medr yn mynegi pryder ynglŷn â’r mater hwn.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/10: Cyllid Ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2024/25

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r cyllid a roddir i sefydliadau addysg bellach ar gyfer darpariaeth prentisiaethau iau ym mlwyddyn academaidd 2024/25.

2. Rhoddir y cyllid ar ffurf ôl-daliadau gwerth cyfanswm o £512,586.34 i sefydliadau addysg bellach fel y gwelir yn y tabl isod.

Sefydliad addysg bellachCyfanswm y dyraniad
£
Coleg Penybont171,673.25
Coleg Caerdydd a’r Fro179,926.67
Coleg Sir Gâr27,996.78
Coleg Gŵyr Abertawe52,739.26
Grŵp NPTC80,250.38
Cyfanswm512,586.34

3. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â thaliadau a wnaed yn ystod y cyfnod o 1 Awst 2024 tan 31 Gorffennaf 2025.

Medr/2026/10: Cyllid Ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2024/25

Dyddiad: 26 Chwefror 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/10

At:  Brifathrawon sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r cyllid a roddir i sefydliadau addysg bellach ar gyfer darpariaeth prentisiaethau iau ym mlwyddyn academaidd 2024/25.

Medr/2026/10 Cyllid Ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2024/25

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/09: Rhaglen brentisiaethau newydd 2027 – dyddiadau allweddol

Cyflwyniad

1. Y camau nesaf allweddol yn y broses o ddatblygu rhaglen brentisiaethau newydd 2027 a’i rhoi ar waith yw:

DyddiadGweithgaredd
17 Chwefror 2026Cyhoeddi’r adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar y rhaglen brentisiaethau newydd
16 Ebrill 2026 and
22 Ebrill 2026
Sesiynau ymgysylltu â darparwyr addysg drydyddol ynghylch model cyllido’r rhaglen brentisiaethau newydd
13 Mai 2026
14 Mai 2026
20 Mai 2026
Digwyddiadau rhanbarthol i brofi dyluniad y rhaglen brentisiaethau newydd:
Y Gogledd
Y Canolbarth
Y De
11 Mai 2026 – 19 Mehefin 2026Ymgynghoriad ar fodel cyllido’r rhaglen brentisiaethau newydd
3 Mehefin 2026Digwyddiad ar-lein ar gyfer yr ymgynghoriad ar fodel cyllido’r rhaglen brentisiaethau newydd
w/c 3 Awst 2026Cyhoeddi’r adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar fodel cyllido’r fframweithiau prentisiaeth newydd
1 Medi 2026 – 31 Rhagfyr 2026Cyhoeddi grant y rhaglen brentisiaethau newydd a chyflwyno ceisiadau a chynigion (caiff rhagor o wybodaeth am y broses hon ei chyhoeddi maes o law)
Ebrill 2027Anfon Llythyrau Dyfarnu Grant
1 Awst 2027Y rhaglen brentisiaethau newydd yn dechrau

Rhagor o wybodaeth

2. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn at Heather Davidson, Pennaeth Prentisiaethau ([email protected]).

Medr/2026/09: Rhaglen brentisiaethau newydd 2027 – dyddiadau allweddol

Dyddiad:  26 Chwefror 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/09

At: Benaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr prentisiaethau cyfredol yng Nghymru / Deiliaid contract prentisiaeth wedi’u comisiynu; Cyrff cynrychioli cyflogwyr; Cyrff cynrychioli dysgwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Y camau nesaf allweddol yn y broses o ddatblygu rhaglen brentisiaethau newydd 2027 a’i rhoi ar waith.

Medr/2026/09 Rhaglen brentisiaethau newydd 2027 – dyddiadau allweddol

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/04/2026: Addysg bellach, prentisiaethau a dysgu cymunedol, Awst 2024 i Orffennaf 2025

  • Roedd 161,920 o ddysgwyr mewn addysg bellach, prentisiaethau neu dysgu cymunedol awdurdod lleol yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25.
  • Cynyddodd nifer y dysgwyr addysg bellach amser llawn i lefel uwch nag erioed.
  • Mae data dros dro ar gyfer chwarter cyntaf 2025/26 yn dangos bod y duedd o gynnydd wedi parhau.
  • Mae nifer y dysgwyr rhan-amser wedi lleihau, am y tro cyntaf ers 4 blynedd.
  • Roedd nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd ar y lefel isaf ers i’r ystadegau hyn ddechrau.
  • Mae’r niferoedd ar gyfer dysgu cymunedol awdurdod lleol yn uwch nag yr oeddent cyn y pandemig.
  • Mae addysg bellach amser llawn lefel 2 wedi bod yn cynyddu’n gyson.
  • Mae nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n cynnwys ‘cryn dipyn’ o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu.
  • Mae dysgwyr sy’n dilyn cwrs addysg bellach, prentisiaeth, a dysgu cymunedol yn fwy tebygol o fyw mewn cymdogaethau amddifadus.
  • Mae gan 1 o bob 6 dysgwr anhawster dysgu neu anabledd, sef y mwyaf ers i’r ystadegau hyn ddechrau
  • Mae dysgwyr yn fwy amrywiol na phoblogaeth Cymru.
Dysgwyr yn ôl math o ddysgu a darparydd

Ffigur 1: Awst 2024 i Orffennaf 2025

Sta/Medr/04/2026 Dysgwyr yn ôl math o ddysgu a darparydd. Ffigur 1: Awst 2024 i Orffennaf 2025.

Mae addysg bellach yn cynnwys dysgwyr sy’n astudio Safon Uwch a chymwysterau cyffredinol eraill, yn ogystal â dysgwyr sy’n astudio cymwysterau galwedigaethol (er enghraifft cymwysterau BTEC).

Mae dysgu cymunedol awdurdod lleol yn gweithgareddau dysgu cymunedol a ariennir gan Medr ac a gynhelir yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. 

Sta/Medr/04/2026: Addysg bellach, prentisiaethau a dysgu cymunedol, Awst 2024 i Orffennaf 2025

Cyfeirnod: Sta/Medr/04/2026

Dyddiad:  26 Chwefror 2026

Crynodeb:  Ystadegau ar nifer y dysgwyr, y rhaglenni a’r gweithgareddau a gyflawnir mewn colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a darpariaeth dysgu cymunedol awdurdodau lleol.

Thema:  Addysg bellach, prentisiaethau, dysgu cymunedol

Sta/Medr/04/2026 Addysg bellach, prentisiaethau a dysgu cymunedol, Awst 2024 i Orffennaf 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/03/2026: Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2024 i Orffennaf 2025

Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y staff a oedd yn cael eu cyflogi mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25, fel y’i casglwyd yng Nghofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Cyfrifir niferoedd staff gan ddefnyddio’r hyn sy’n gyfwerth â pherson llawn ar gyfer staff ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn adrodd, er enghraifft 1 Rhagfyr 2024 ar gyfer 2024/25. Ni chaiff staff ar gontractau annodweddiadol eu cynnwys yn yr adroddiad hwn am nad ydynt yn gymaradwy â staff ar fathau eraill o gontract. Yn 2024/25 roedd 1,170 o staff yn cael eu cyflogi gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gontractau annodweddiadol.

  • Roedd 21,995 o staff yn cael eu cyflogi mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2024/25. Mae hyn yn cynrychioli lleihad o 2.8% o gymharu â’r 22,635 o staff a gofnodwyd yn 2023/24.
  • 2024/25 oedd y flwyddyn academaidd gyntaf ers 2020/21 pan welwyd lleihad yng nghyfanswm nifer y staff.
  • Yn 2024/25, roedd staff amser llawn yn cyfrif am 67.3% o’r holl staff (14,815), ac roedd staff rhan-amser yn cyfrif am 32.7% (7,180) o’r holl staff.
  • Yn 2024/25, roedd staff academaidd a staff anacademaidd yn cyfrif am 50% yr un o gyfanswm y staff. Roedd 11,085 o staff ar gontractau academaidd a 10,910 o staff ar gontractau anacademaidd.
  • Yn 2024/25, roedd 56% o staff yn fenywaidd (12,325) a 44% (9,610) yn wrywaidd.
  • Yn 2024/25, o blith y staff yr oedd eu cefndir ethnig yn hysbys, roedd 86.7% o gefndir Gwyn, roedd 7.4% o gefndir Asiaidd, roedd 2.1% o gefndir Du, roedd 1.9% o gefndir Cymysg ac roedd 2.0% o gefndir Arall.
  • Yn 2024/25, cofnodwyd bod gan 9.3% o staff o leiaf un anabledd hysbys.
  • Y grŵp oedran â’r nifer mwyaf o staff ynddo yn 2024/25 oedd y categori 36 i 45 oed, a oedd yn cyfrif am 28.3% o’r holl staff. Y grŵp oedran â’r nifer lleiaf ynddo oedd y categori 66 oed a hŷn, a oedd yn cyfrif am 2.9% o’r holl staff.

Sta/Medr/03/2026: Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2024 i Orffennaf 2025

Cyfeirnod:  Sta/Medr/03/2026

Dyddiad:  24 Chwefror 2026

Crynodeb:  Ystadegau ar y staff a gyflogir mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Thema:  Addysg Uwch

Ffynhonnell:  Cofnod Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) Staff Record

Sta/Medr/03/2026 Staff mewn sefydliadau addysg uwch: Awst 2024 i Orffennaf 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio