Medr/2025/34: Prentisiaethau – Cyllid Dechreuwyr Ychwanegol y Rhaglen Lywodraethu

Nodir manylion y dyraniadau cyllid a gymeradwywyd yn y tabl isod:

Darparydd Dyraniad dechreuwyr ychwanegol
Coleg Sir Benfro£539,714 
ACT£1,030,765 
Cwmni Hyfforddiant Cambrian£316,012 
Coleg Caerdydd a’r Fro£525,556 
Grŵp Llandrillo Menai£225,125 
Educ8£460,841 
Grŵp NPTC £717,370
ITEC£184,617
Cyfanswm£4,000,000

Dyfernir a thelir cyllid Dechreuwyr Ychwanegol ochr yn ochr â phrif Gontract Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau 2025-26. 

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn i sylw Carly Davies [email protected].

Medr/2025/34: Prentisiaethau – Cyllid Dechreuwyr Ychwanegol y Rhaglen Lywodraethu

Dyddiad:  02 Rhagfyr 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/34

At:  Darparwyr Hyfforddiant Prentisiaethau

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu’r symiau o gyllid a’r amserlen ar gyfer £4,000,000 ychwanegol a ddarperir gan Medr i Ddeiliaid Contract Rhaglenni Prentisiaeth.

Cymeradwyodd Bwrdd Medr ailddyrannu £4,000,000 i gefnogi dechreuwyr prentisiaeth newydd ac ychwanegol y tu hwnt i brif ddyraniadau contract cyfredol 2025-26. Nod y cyllid hwn yw cyflymu cynnydd y rhwydwaith tuag at Darged y Rhaglen Lywodraethu o 100,000 o brentisiaethau yn ystod Tymor presennol y Senedd.

Rhaid i ddechreuadau prentisiaeth a gefnogir drwy’r cyllid hwn ddigwydd rhwng 1 Awst 2025 a 30 Ebrill 2026.

Medr/2025/34 Prentisiaethau – Cyllid Dechreuwyr Ychwanegol y Rhaglen Lywodraethu

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/33: Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn gofyn i sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch (a elwir ar y cyd yn ddarparwyr addysg uwch) a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer ddarpariaeth addysg uwch ddychwelyd data cyfanredol ar fyfyrwyr er mwyn galluogi Medr i wneud y canlynol:

a) Cael syniad cynnar o niferoedd y myfyrwyr yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26;
b) Monitro prosesau recriwtio myfyrwyr israddedig a myfyrwyr Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) amser llawn a gwmpesir gan y cynlluniau ffioedd a mynediad;
c) Ariannu a monitro darpariaeth gradd-brentisiaethau o dan gynllun gradd-brentisiaethau Medr.

Noder nad yw’r cais hwn yn cynnwys y pedwar tanysgrifiwr i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) sy’n cynnig darpariaeth cyrsiau addysg uwch sydd wedi’i dynodi’n benodol.

Prif newidiadau ar gyfer 2025/26

2. Mae’r prif newidiadau a wnaed ers Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2024 fel a ganlyn:

a) Dim ond un dyddiad dychwelyd arolwg sydd eleni, a dylai’r holl dablau, gan gynnwys Tabl 3, gael eu dychwelyd erbyn 28 Ionawr 2026;
b) Mae’r terfynau ffioedd uchaf ar gyfer cyrsiau israddedig a TAR amser llawn wedi cael eu diweddaru. Gweler Atodiad F;
c) Mae Atodiad K wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r gwaith mapio a ddefnyddir wrth echdynnu data i wneud gwaith monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2024/25;
d) Mae Tabl 3, sy’n casglu gwybodaeth am radd-brentisiaethau, bellach yn gofyn am amcangyfrifon o’r holl ddechreuwyr newydd ym mlwyddyn academaidd 2025/26, ac nid dim ond y rhai rhwng 1 Awst ac 1 Tachwedd. Gweler Atodiad I.

Data’r arolwg

3. Gofynnir i ddarparwyr addysg uwch a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch ddychwelyd niferoedd myfyrwyr addysg uwch yn Nhablau 1 a 2. Myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar gyrsiau addysg uwch rhagnodedig sy’n arwain at gymwysterau addysg uwch cydnabyddedig yw’r rhain (gweler Atodiad B). Gofynnir i ddarparwyr addysg uwch sy’n cynnig gradd-brentisiaethau a ariennir o dan gynllun Medr (cynllun CCAUC gynt) ddychwelyd niferoedd myfyrwyr a gwerthoedd credydau sy’n gysylltiedig â’r prentisiaethau hynny yn Nhabl 3.

Cynnwys

4. Mae’r cylchlythyr hwn yn rhoi:

a) Canllawiau a diffiniadau ar gyfer yr amrywiol gategorïau a ddefnyddir i ddosbarthu myfyrwyr;
b) Rheolau ar gyfer cyfrif cofrestriadau;
c) Rheolau ar gyfer cyfrif gwerthoedd credydau sy’n gysylltiedig â gradd-brentisiaethau;
d) Manylion y meini prawf y byddwn yn eu defnyddio i echdynnu data o gofnod myfyrwyr HESA ar gyfer gwaith monitro diwedd blwyddyn ac i gael gwybodaeth a gasglwyd mewn arolygon Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch blaenorol;
e) Copïau o dablau’r arolwg a gaiff eu dosbarthu mewn llyfrau gwaith Excel er mwyn i ddarparwyr eu cwblhau a’u dychwelyd.

5. Mae cynnwys yr atodiadau fel a ganlyn:

AtodiadRhif tudalen
Atodiad ACanllaw cryno ar arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2025/265
Atodiad BDiffiniad o gymhwyster addysg uwch cydnabyddedig14
Atodiad CDysgu o bell, campysau, is-sefydliadau, trefniadau breinio a threfniadau cydweithredol eraill15
Atodiad DDiffiniad o statws preswyl a statws cyllid21
Atodiad EDiffiniad o gategorïau pynciau academaidd25
Atodiad FDiffiniad o ddull astudio27
Atodiad GDiffiniad o lefel astudio30
Atodiad HRheolau ar gyfer cyfrif cofrestriadau31
Atodiad ICanllawiau ar ddychwelyd data gradd-brentisiaethau39
Atodiad JDisgrifiadau o’r tablau a’r colofnau45
Atodiad KMapiadau HESA/Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch a meini prawf echdynnu data monitro diwedd blwyddyn48
Atodiad LNodiadau ar y llyfrau gwaith58
Atodiad MGwiriadau dilysu59
Atodiad NDefnydd o ddata gan Medr61
Atodiad OGrid cyfeirio statws cyllid62
Atodiad PCopïau enghreifftiol o dablau i bob darparwr a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer darpariaeth addysg uwch eu cwblhau64

Dychwelyd data

6. Mae’n ofynnol i ddarparwyr roi gwybod i Medr am gofrestriadau myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfan.

7. Dylai llyfrau gwaith wedi’u cwblhau ar gyfer yr arolwg cyfan, gan gynnwys y tabl sy’n ymwneud â gradd-brentisiaethau, gael eu dychwelyd drwy e-bost i Andrea Thomas yn [email protected] erbyn 28 Ionawr 2026 fan bellaf.

8. Nid yw’n ofynnol i ddarparwyr nad ydynt yn cynnig darpariaeth gradd-brentisiaethau a ariennir o dan gynllun Medr ddychwelyd Tabl 3.

9. Anogir darparwyr i ddechrau paratoi’r data y byddant yn eu dychwelyd ymhell cyn y dyddiad dychwelyd fel mai dim ond addasiadau terfynol y bydd angen eu gwneud cyn i’r data wedi’u cwblhau gael eu hanfon.

10. Mae’n bwysig dychwelyd holl ddata’r arolwg yn brydlon fel y bydd modd cael syniad cynnar o niferoedd myfyrwyr ar gyfer 2025/26 ac er mwyn sicrhau y bydd gan Medr ddigon o amser i gwblhau’r broses wirio cyn anfon y gwiriadau er mwyn eu cymeradwyo.

11. Gofynnwn i ddarparwyr roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl, a chyn y dyddiad dychwelyd, sef 28 Ionawr 2026, os byddant yn rhagweld y byddant yn cael anhawster dychwelyd y wybodaeth ofynnol neu y byddant yn cael anhawster bodloni’r amserlen a roddir ym mharagraff 12. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y llofnodwr awdurdodedig, neu’r llofnodwr awdurdodedig amgen, ar gael i gymeradwyo’r gwiriadau erbyn y dyddiadau gofynnol. Ceidw Medr yr hawl i fewnbynnu ei amcangyfrifon ei hun o gofrestriadau myfyrwyr a gwerthoedd credydau ar gyfer darparwyr nad ydynt yn dychwelyd yr arolwg neu’n cymeradwyo’r data’n brydlon, neu os ystyrir bod y data o ansawdd annigonol.

12. Pan gaiff data eu dychwelyd, byddwn yn cynnal proses dilysu a gwirio hygrededd. Pan fydd unrhyw ymholiadau dilynol wedi’u datrys, caiff y data eu hanfon at lofnodwyr awdurdodedig darparwyr i’w gwirio. Bydd y broses yn dilyn yr amserlen a amlinellir isod.

Holl dablau’r arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch:

28 Ionawr 2026Dyddiad dychwelyd
6 Chwefror 2026Anfon gwiriadau at ddarparwyr
16 Chwefror 2026Dyddiad dychwelyd gwiriadau

13. Os caiff dyddiad dychwelyd ei golli heb gytundeb ymlaen llaw, byddwn yn cysylltu â’r pwynt cyswllt ar gyfer data Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch a/neu’r llofnodwr awdurdodedig i ofyn am esboniad. Os caiff dyddiad dychwelyd ei golli o fwy na thri diwrnod gwaith heb gytundeb ymlaen llaw, byddwn yn e-bostio pennaeth y darparwr i’w atgoffa bod Medr yn cadw’r hawl i fewnbynnu ei amcangyfrifon ei hun o gofrestriadau myfyrwyr ar gyfer darparwyr nad ydynt yn dychwelyd yr arolwg yn brydlon a nodi bod Medr yn bwriadu gwneud hynny os na chymerir camau ar unwaith. Os na ddychwelir y data neu’r adroddiad gwirio o fewn dau ddiwrnod gwaith i’r neges e-bost, bydd Prif Weithredwr Medr yn anfon llythyr at bennaeth y darparwr yn datgan y ffigurau a gaiff eu defnyddio yn lle data’r darparwr ei hun.

14. Dylid dychwelyd y gwiriadau wedi’u llofnodi drwy e-bost at Andrea Thomas yn [email protected]. Cyn dychwelyd y gwiriadau wedi’u llofnodi i Medr, rhaid i ddarparwyr fod wedi cynnal gwiriadau digonol er mwyn bod yn fodlon bod y data a ddychwelir yn gywir. Rhaid i anomaleddau data sy’n destun ymholiadau gan Medr fod wedi’u cywiro neu, os ydynt yn ddilys, rhaid cyflwyno esboniad cysylltiedig. Dylai unrhyw newidiadau a wneir i’r gwiriadau cyn eu llofnodi a’u dychwelyd, nad ydynt eisoes wedi’u gwneud i’r fformat Excel, hefyd gael eu cyflwyno mewn fformat Excel.

15. Dylai pob dyddiad dychwelyd dilynol gael ei fodloni hyd yn oed os bu oedi cyn i’r dyddiad dychwelyd blaenorol gael ei fodloni.

16. Caiff data a echdynnir ac a gymeradwyir fel rhan o broses Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) 2024/25 pan fydd darparwyr yn cyflwyno data i HESA ei defnyddio mewn dyraniadau cyllid. Dylai darparwyr nodi y gall fod angen i’r echdyniadau data yn IRIS gael eu hategu gan echdyniadau data ychwanegol pan fydd y dulliau ar gyfer cyllid addysgu ar gyfer 2026/27 wedi’u pennu’n derfynol. Os felly, byddwn yn cysylltu â darparwyr ynglŷn â’r broses gymeradwyo ar gyfer unrhyw ddata ychwanegol sy’n ofynnol ac na fyddant eisoes wedi’u cymeradwyo fel rhan o broses echdynnu data IRIS. Ceir rhagor o fanylion yn y cyhoeddiad ynghylch monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2024/25 a’r cyhoeddiad ynghylch gofynion data ar gyfer 2025/26.

17. Atgoffir darparwyr y gall data a ddychwelir i Medr yn yr arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch, gan gynnwys dulliau a ddefnyddir i gyfrifo unrhyw amcangyfrifon a gaiff eu cynnwys yn y ffigurau a ddychwelir, fod yn destun archwiliad allanol a gynhelir gan Medr neu gan gontractwyr ar ran Medr. Mae’r systemau a’r prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu data Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch o fewn cwmpas archwiliadau mewnol darparwyr.

Datblygiadau yn y dyfodol

18. Mae adran Ystadegau a Data gwefan Medr yn cynnwys gwybodaeth am gasglu data. Os bydd gan ddarparwyr unrhyw awgrymiadau ynglŷn ag unrhyw beth ychwanegol yr hoffent ei weld yn cael ei gynnwys, dylent gysylltu â Medr yn [email protected].

Rhagor o wybodaeth

19. Dylid anfon unrhyw ymholiadau at Andrea Thomas yn [email protected].

Medr/2025/33: Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2025/26

Dyddiad:  27 Tachwedd 2025

Cyfeirnod: Medr/2025/33

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach a ariennir gan Medr ar gyfer darpariaeth addysg uwch

Ymateb erbyn:  28 Ionawr 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn gofyn i ddarparwyr addysg uwch ddychwelyd data cyfanredol ar fyfyrwyr er mwyn galluogi Medr i gael syniad cynnar o niferoedd myfyrwyr; monitro prosesau recriwtio myfyrwyr a gwmpesir gan y cynlluniau ffioedd a mynediad; a chyllido a monitro darpariaeth gradd-brentisiaethau.

Medr/2025/33 Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2025/32: Cronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) 2025-26

Rhagair

1. Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) wedi cadarnhau y bydd yn darparu £1,182,247 i ariannu Dyfarniadau Cefnogi Sefydliadau ar ffurf Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) o dan y Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.

Defnydd o’r cyllid

2. Ni cheir ond defnyddio’r cyllid grant a ddarperir o dan yr ISPF i ariannu gweithgareddau sy’n cydymffurfio â’r ODA, fel y diffinnir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), gyda’r prif ddiben o dargedu llesiant a datblygiad economaidd gwledydd sydd ar restr derbynwyr Pwyllgor Cymorth Datblygu’r OECD. Yn unol â pholisi DSIT, ni cheir defnyddio’r cyllid i gyflawni gweithgareddau sydd oddi mewn i Tsieina, mewn partneriaeth â Tsieina, neu a fyddai o fudd i Tsieina mewn unrhyw ffordd arall.

3. Rhaid i weithgareddau a ariennir drwy Grant Cefnogi Sefydliadau (ODA) yr ISPF i Sefydliadau hefyd gadw at y ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu cyllid ODA y DU:

4. Mae’r cyllid yn darparu cyllid sefydliadol hyblyg y gellir ei ddefnyddio’n strategol i gefnogi Gweithgareddau ODA cymwys. Gall hyn gynnwys ategu gweithgarwch yr ISPF a ariennir drwy bartneriaid cyflawni eraill, neu drwy roi cefnogaeth uniongyrchol i ymchwil sy’n trafod y problemau o flaen gwledydd sy’n datblygu nad yw’n erbyn cyllid drwy grantiau’r ISPF na phartneriaid cyflawni eraill.

5. Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg yn disgwyl y bydd dyraniadau grant cymorth sefydliadol y Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol ar gyfer 2025-26 yn cael eu gwario erbyn 31 Mawrth 2026. Gellir ôl-ddyddio cyllid i 1 Ebrill 2025.

6. Gall sefydliadau ddefnyddio’r cyllid hwn i gefnogi gweithgarwch sy’n digwydd ar ôl 31 Mawrth 2026, ar yr amod bod hynny yn unol â rheolau a gweithdrefnau cyfrifyddu’r sefydliad ac y bydd y gwariant yn cael ei gofnodi ym mlwyddyn ariannol 2025-26. Dylai gweithgareddau fod wedi’u cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn academaidd a ddaw i ben ar 31 Gorffennaf 2026.

7. Ceidw Medr yr hawl i adfer unrhyw ran o ddyraniad SAU nad yw’n cael ei gwario ar weithgareddau Cymorth Datblygu Swyddogol a bydd unrhyw gyllid a gaiff ei adhawlio yn y ffordd yma’n cael ei ddychwelyd at yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg.

Dyraniadau

8. Dyrennir cyllid ar sail cyllid ODA a dderbyniwyd gan SAUau yn y gorffennol, gan gynnwys y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang (GCRF) a Chronfa Newton, yn ogystal â grantiau cystadleuol Cyngor Ymchwil UKRI na chawsant eu dynodi’n ODA yn wreiddiol ond y cafwyd yn ddiweddarach eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer ODA. Darparwyd data gan UKRI yn 2023/24.

9. Gan y byddai dyraniad pro rata uniongyrchol yn arwain at ddyraniadau bach mewn rhai achosion, mae Medr wedi penderfynu na fydd ond yn darparu cyllid i’r sefydliadau hynny a fyddai’n derbyn dyraniad blynyddol isafswm o £50k, gweler Atodiad A. Mae hyn yn gyson â’r dull a fabwysiadwyd ar gyfer dyraniadau blaenorol y GCRF (gweler cylchlythyr W18/02HE CCAUC) ac yn rhoi cyfrif am y gorbenion gweinyddol posibl er mwyn rheoli gweithgareddau ODA.

10. Bydd dyraniadau sefydliadol ar gyfer 2025/26 yn cael eu talu ym mis Tachwedd 2025.

Trefniadau monitro

11. Bydd yn ofynnol i SAUau sy’n derbyn cyllid gadw cofnodion priodol yn manylu ar y gweithgareddau a gefnogwyd, gan gynnwys gwybodaeth berthnasol sy’n gysylltiedig â chydymffurfiaeth ag ODA.

12. Mae Medr wedi darparu templed monitro (Atodiad B) sy’n cynnwys:

  • Teitl y prosiect
  • Crynodeb byr o weithgareddau unigol
  • Rhestr derbynwyr Pwyllgor Cymorth Datblygu’r OECD. Y gwledydd dan sylw, gan gynnwys unrhyw bartneriaid ar restr y Pwyllgor Cymorth Datblygu a heb fod ar y rhestr honno.
  • Cadarnhad bod y gweithgaredd yn cydymffurfio ag ODA fel y’i diffinnir gan yr OECD
  • Dyraniad cyllidebol ar gyfer pob gweithgaredd
  • Adroddiad cynnydd byr
  • Deilliannau’r prosiect

13. Mae’n ofynnol i SAUau gyflwyno eu ffurflenni monitro i Hayley Moss, [email protected] erbyn 31 Mawrth 2026.

14. Gall DSIT dderbyn ymholiadau ad hoc gan y Swyddfa Dramor, Y Gymanwlad a Datblygu (FCDO), y Fenter Tryloywder Cymorth Rhyngwladol (IATI) neu’r OECD. Os oes angen rhagor o wybodaeth, disgwylir i SAUau weithio gyda Medr i ymateb i ymholiadau gan DSIT am ddata ychwanegol.

15. Gall DSIT gynnal gwiriadau ar hap i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymhwysedd ODA. Bydd y gwiriadau hyn yn gymesur ac yn canolbwyntio ar y gwerth a geir gan y sefydliad. Bydd DSIT yn pennu’r wybodaeth sydd ei hangen a’r broses ar gyfer dewis sefydliadau, gyda chefnogaeth gan Medr. Gall Medr hefyd gasglu gwybodaeth  am astudiaethau achos i ddangos effaith gweithgareddau a gyllidir. Mae Medr ar hyn o bryd yn gweithio gyda DSIT i gwblhau gofynion monitro pellach a bydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf i sefydliadau cyn gynted ag y bydd unrhyw rwymedigaethau ychwanegol wedi’u cadarnhau.

Asesu effaith

16. Fel perchennog y gronfa, DSIT sy’n gyfrifol am asesu effaith. Nid ydym wedi nodi effeithiau andwyol posibl na gwahaniaethu yn ein rheolaeth ar y gronfa.

Trefniadau talu

17. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu i SAUau drwy un taliad ym mis Tachwedd 2025.

Rhagor o wybodaeth

18. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).

Medr/2025/32: Cronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) 2025-26

Dyddiad:  27 Tachwedd 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/32

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn: 31 Mawrth 2026

Crynodeb: Mae Medr wedi derbyn cyllid gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) i gefnogi gweithgareddau Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) o fewn sefydliadau addysg uwch (SAUau) cymwys yng Nghymru 2025/26. Mae’r cyhoeddiad hwn yn egluro sut y caiff y cyllid ei ddyrannu i’r SAUau.

Medr/2025/32 Cronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) 2025-26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/17/2025: Y Gymraeg mewn Addysg Uwch, 2023/24

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi rhai o’r tueddiadau allweddol ynglŷn ag astudio yn y Gymraeg a gallu myfyrwyr yn y Gymraeg mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru, ac ar gyfer staff mewn prifysgolion yng Nghymru. Drwy’r adroddiad pan ydym yn cyfeirio at astudio yn Gymraeg, astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a olygir gennym yn hytrach nag astudio Cymraeg fel pwnc.

Ffynonellau’r data yw cofnodion Myfyrwyr a Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Mae’r data ar gael mewn taenlen sy’n cyd-fynd â’r adroddiad. Mae dadansoddiadau pellach o’r data ar gael ar StatsCymru hefyd.

  • Yn 2023/24, roedd yn hysbys bod 13% o’r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru’n rhai gan siaradwyr Cymraeg rhugl. Roedd 15% pellach yn siaradwyr Cymraeg nad oeddent yn rhugl neu’n siaradwyr Cymraeg â gallu anhysbys.
  • Yn 2023/24, fe wnaeth 30% o’r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl astudio o leiaf 1 credyd yn Gymraeg, ac fe wnaeth 21% astudio o leiaf 40 o gredydau yn Gymraeg. Mae’r cyfrannau hyn wedi bod ar yr un lefelau fwy neu lai ers 2017/18.
  • Roedd 4% o’r cofrestriadau gan yr holl fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai nad ydynt o Gymru ac nad yw’n hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg, yn cynnwys astudio o leiaf 1 credyd yn Gymraeg yn 2023/24.
  • Fe wnaeth nifer y cofrestriadau gan yr holl fyfyrwyr ag o leiaf 1 credyd a astudiwyd yn Gymraeg yn 2023/24 ostwng 19% o’i gymharu â 2022/23, a dyma oedd y nifer isaf yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae un o’r ffactor arwyddocaol yn y gostyngiad hwn yn gysylltiedig â newid yn sut y mae faint o astudio a wneir yn Gymraeg yn cael ei gyfrifo mewn rhai darparwyr yn hytrach na newid go iawn yn yr hyn a ddarparwyd.
  • Roedd mwy na dwywaith cymaint o gofrestriadau gan fyfyrwyr benywaidd lle cafodd o leiaf 1 credyd ei astudio yn Gymraeg o’i gymharu â chofrestriadau gan fyfyrwyr gwrywaidd. O’r cofrestriadau ag o leiaf 1 credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg, roedd myfyrwyr benywaidd hefyd yn fwy tebygol o astudio nifer uwch o gredydau yn Gymraeg na myfyrwyr gwrywaidd.
  • Addysg a hyfforddiant oedd y pwnc modiwl â’r nifer a’r gyfran uchaf o gofrestriadau ag o leiaf 1 credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg.
  • Roedd 565 o staff addysgu academaidd wedi’u contractio i addysgu yn Gymraeg yn 2023/24, yr un nifer ag yn 2022/23.

Sta/Medr/17/2025: Y Gymraeg mewn Addysg Uwch, 2023/24

Cyfeirnod:  Sta/Medr/17/2025

Dyddiad: 27 Tachwedd 2025

Designation:  Ystadegau Swyddogol

Crynodeb:  Ystadegau ar nifer y cofrestriadau lle ceir rhywfaint o astudio yn y Gymraeg a gallu myfyrwyr i siarad Cymraeg mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru.

Ystadegau ar nifer y staff addysgu sy’n gallu addysgu yn Gymraeg, ac sydd wedi’u contractio i addysgu yn Gymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru.

Sta/Medr/17/2025 Y Gymraeg mewn Addysg Uwch 2023/24

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2025/31: Cyllid ychwanegol ar gyfer Cymorth Dysgu Ychwanegol 2025/26

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu’r cyllid ychwanegol hwn i Medr yn y flwyddyn ariannol 2025-26 i gefnogi cyflawni diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ym mis Rhagfyr 2025.

Symiau ac amseriadau cyllid ychwanegol

Bydd y cyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol o £3,200,000 yn cael ei ddyrannu i sefydliadau addysg bellach fel y dangosir yn y tabl isod.

DarparwrDyraniad cymorth dysgu ychwanegol gwreiddiol 2025/26Dyraniad ychwanegolCyfanswm dyraniad cymorth dysgu ychwanegol newydd 2025/26
Addysg Oedolion Cymru£317,838.00£60,754.00£378,592.00
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr£853,917.00£163,224.00£1,017,141.00
Coleg Caerdydd a’r Fro£2,087,311.00£398,984.00£2,486,295.00
Coleg Cambria£2,048,807.00£391,624.00£2,440,431.00
Coleg Gwent£2,391,060.00£457,045.00£2,848,105.00
Coleg Sir Gâr£1,096,836.00£209,658.00£1,306,494.00
Coleg y Cymoedd£1,786,653.00£341,514.00£2,128,167.00
Coleg Gŵyr Abertawe£1,456,919.00£278,486.00£1,735,405.00
Grŵp Llandrillo Menai£1,843,225.00£352,328.00£2,195,553.00
Grŵp NPTC £1,266,609.00£242,109.00£1,508,718.00
Coleg Sir Benfro£660,133.00£126,183.00£786,316.00
Coleg Catholig Dewi Sant£388,613.00£74,283.00£462,896.00
Y Coleg Merthyr Tudful£543,079.00£103,808.00£646,887.00
£16,741,000.00£3,200,000.00£19,941,000.00

Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â’r cyfnod rhwng 1 Awst 2025 a 31 Gorffennaf 2026. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ym mis Rhagfyr 2025.

Am ragor o wybodaeth am sut y gellir gwario cyllid, gan gynnwys newidiadau oherwydd cronfeydd ychwanegol, gweler y canllawiau a gyhoeddwyd ar ein gwefan.

Medr/2025/31: Cyllid ychwanegol ar gyfer Cymorth Dysgu Ychwanegol 2025/26

Dyddiad: 25 Tachwedd 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/31

At: Penaethiaid sefydliadau addysg bellach

Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriad ar gyfer cynnydd o £3,200,000 mewn cyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol (CDY) i’w ddarparu gan Medr i sefydliadau addysg bellach yn y flwyddyn academaidd 2025/26.

Medr/2025/31 Cyllid ychwanegol ar gyfer cymorth dysgu ychwanegol 2025/26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Prifysgolion Cymru yn cyflawni Siarteri Cydraddoldeb Hiliol: Prifysgolion yn chwarae eu rhan mewn Cymru wrth-hiliol

Eleni dyfarnwyd Gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hiliol AU Ymlaen i brifysgolion yng Nghymru. Mae’r cyflawniad hwn, a anogwyd yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn dangos ymrwymiad ein sector addysg uwch i ddod yn brifysgolion gwrth-hiliol. Roedd cyflawni’r Siarter yn gydnabyddiaeth bwysig o’r gwaith y mae prifysgolion wedi’i wneud hyd yma, ac mae’n creu’r sylfaen ar gyfer y camau nesaf. Er mwyn llwyddo i ennill y Siarter, roedd yn rhaid i brifysgolion sicrhau ymagwedd sefydliad cyfan wedi’i llywio gan dystiolaeth, data a lleisiau staff a myfyrwyr â phrofiad bywyd. Drwy ddeall profiadau staff a myfyrwyr, mae prifysgolion wedi gallu adeiladu’n well ar eu gwaith presennol i wneud prifysgolion yn fannau diogel a chynhwysol i ddysgu, gweithio a byw ynddynt.

Cyflawnodd yr wyth prifysgol y siarter yn yr amser cyflymaf a welwyd hyd yma, gyda chefnogaeth ariannol gan Medr. Roedd y cyllid yn galluogi prifysgolion i wneud cynnydd cyflym tuag at ymdrin â gwrth-hiliaeth, yn unol â disgwyliadau gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru. Mae’r camau yn canolbwyntio’n glir ar rwystrau i recriwtio, arweinyddiaeth, dyrchafiad a chyfraddau cadw. Mae’r conglfeini hyn yn rhan bwysig o gyflawni er budd cenedlaethau o fyfyrwyr y dyfodol ac i greu Cymru sy’n fwy cyfartal.

A beth sydd wedi newid?

Mae’r siarter yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad prifysgolion i fynd i’r afael â hiliaeth. Nid yw siarteri yn nod ynddynt eu hunain. Yn hytrach, maent yn cadarnhau bwriadau sydd wedi’u cefnogi gan gynlluniau gweithredu y mae’n rhaid eu cyflawni yn rhan o’r garreg filltir adolygu nesaf.

Drwy ddefnyddio safbwynt gwrth-hiliol, fel y cynghorir drwy’r Siarter, caiff systemau llywodraethu a rheoli eu herio i fodloni disgwyliadau, i nodi a chraffu ar wahaniaethau, i goladu data ac asesu anghenion cymorth staff a myfyrwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig. Mae’r ymagwedd prifysgol gyfan hon yn ail gadarnhau bod gan bawb ran i’w chwarae er mwyn sicrhau Cymru gyfartal.

Beth nesaf?

Mae Medr wedi ymrwymo i gefnogi’r sector addysg drydyddol ar ei daith tuag at wrth-hiliaeth. Rydym yn croesawu ymrwymiad parhaus darparwyr y sector trydyddol i fynd i’r afael â gwrth-hiliaeth a’u cyfraniad at Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Mae Medr, sy’n goruchwylio addysg drydyddol yn ymgynghori ar ei amodau rheoleiddio newydd, gan gynnwys yr agweddau ynddynt sy’n berthnasol i gyfle cyfartal, lles staff a dysgwyr a llais y dysgwr. Byddwn yn parhau i sicrhau bod y sector addysg drydyddol yn chwarae ei ran yn llawn er mwyn bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2025/30: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein bwriadau yn 2025/26 i ddyrannu:

  • £2,350,000 o gyllid i brifysgolion er mwyn rhoi strategaethau llesiant ac iechyd ar waith (prifysgolion yn unig);
  • £2,000,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer cymorth llesiant ac iechyd i ddysgwyr (prifysgolion a Darparwyr Addysg Bellach sy’n cael cyllid Addysg Uwch yn uniongyrchol gan Medr);
  • Swm ychwanegol o £400,000 er mwyn cefnogi mentrau llesiant emosiynol a meddyliol ar gyfer staff a myfyrwyr addysg uwch ar lefel genedlaethol; 
  • Cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi prosiectau addysg bellach ac uwch ar y cyd.

2. Mae dyletswydd strategol ar Medr i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg drydyddol a bydd yn cyflwyno amod cofrestru sy’n ymwneud â lles staff a myfyrwyr/dysgwyr. Noda Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Memorandwm Esboniadol:

‘Bydd yr amodau cychwynnol a pharhaus yn ymwneud â chefnogaeth ar gyfer a hyrwyddo lles myfyrwyr a staff yn cyflwyno gofynion rheoleiddiol newydd i ddarparwyr y rhagwelwyd y byddent yn cwmpasu materion fel iechyd meddwl, llesiant a diogelwch dysgwyr a staff yn y darparwr. Bydd yn ofynnol i’r Comisiwn nodi a chyhoeddi gofynion y mae’n rhaid i ddarparwyr cofrestredig eu bodloni o ran eu trefniadau mewn perthynas â’r amodau cychwynnol a pharhaus. O ran lles myfyrwyr a staff, rhagwelir y byddai’r ‘trefniadau’ yn cynnwys polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau cymorth ar gyfer llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘llesiant’ yn golygu llesiant emosiynol ac iechyd meddwl. Mae ‘diogelwch’ yn golygu rhyddid rhag niwed gan gynnwys aflonyddu, camymddwyn, trais (gan gynnwys trais rhywiol), a throseddau casineb.’

3. Yn 2024, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru eu datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi sy’n cynnwys blaenoriaeth i Medr greu fframwaith cyffredin ar gyfer cymorth iechyd meddwl a llesiant ar draws addysg drydyddol.

4. Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddodd Medr ei Gynllun Strategol ar gyfer 2025-30 ac ym mis Mehefin 2025 cyhoeddodd ei gynllun gweithredol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.

5. Mae’r Cynllun Strategol yn cynnwys ymrwymiad sylfaenol i Medr ddatblygu fframwaith cyffredin ar gyfer iechyd meddwl a llesiant erbyn 1 Awst 2026, a fydd yn cadarnhau cyfle cyfartal ac a gaiff ei atgyfnerthu gan amodau rheoleiddio i gefnogi lles staff a dysgwyr.

Llesiant ac iechyd emosiynol a meddyliol addysg uwch, gan gynnwys polisi iechyd meddwl, diweddariad a’n disgwyliadau sy’n deillio ohonynt

6. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol 2025 i 2035. Mae Medr yn disgwyl i’r holl ddarparwyr addysg uwch ystyried y strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol genedlaethol wrth ddatblygu a diwygio eu strategaethau llesiant ac iechyd, eu dulliau atal hunanladdiad a hunan-niweidio a’u polisïau llesiant, a chynnwys camau gweithredu cysylltiedig yn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer 2025/26 lle bo hynny’n briodol.

7. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Cymru. Mae Medr yn annog pob darparwr addysg uwch i gymryd rhan yn y Gymuned Ymarfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio a chyfrannu ati.

Llesiant emosiynol a meddyliol, ac ystyriaethau ehangach sy’n ymwneud â chydraddoldeb a chroestoriadedd

8. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr ystyried effeithiau croestoriadol ar lesiant emosiynol a meddyliol dysgwyr a staff. Felly, dylai darparwyr ystyried sut mae’r cyllid iechyd meddwl a llesiant yn cyfrannu at y cynlluniau cydraddoldeb canlynol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyhoeddi:

  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
  • Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru;
  • Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026 a’r ddogfen gysylltiedig Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: cynllun gweithredu lefel uchel y glasbrint;
  • Cynllun Hawliau Pobl Anabl: 2025 i 2035 sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.
    Er nad yw’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft wedi’i gymeradwyo’n derfynol eto, rydym yn annog darparwyr i ystyried ei flaenoriaethau a’i egwyddorion arfaethedig, lle bo hynny’n briodol.

9. Rhaid i ddarparwyr addysg uwch ddefnyddio canfyddiadau a chasgliad yr asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i lywio cynlluniau, polisïau a gweithdrefnau er mwyn dangos bod camau gweithredu’n seiliedig ar dystiolaeth.

Cyllid ar gyfer strategaethau llesiant ac iechyd a chyllid ar gyfer cynlluniau gweithredu 2025/26 (£2,300,000 i brifysgolion yn unig)

10. Rydym yn disgwyl i gynlluniau gweithredu yn 2025/26 barhau i ddilyn ‘dull prifysgol gyfan’, gan helpu i ddiwallu anghenion staff a myfyrwyr ac ystyried pob agwedd ar fywyd prifysgol, gan gynnwys bywyd cymdeithasol a gwaith. Os bydd prifysgolion yn dewis ariannu gweithgareddau a gwasanaethau llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, gan ddefnyddio cyllid o ffynonellau heblaw Medr, dylech gynnwys y gweithgareddau a’r gwasanaethau hyn a ffynonellau’r cyllid yn y cynlluniau.

11. Yn 2025/26, rhaid i bob prifysgol adolygu ei dull strategol o atal hunanladdiad a rhoi cam(au) lliniaru ar waith yn ei chynllun gweithredu Diogelu rhag Hunanladdiad.

12. Dylai darparwyr ystyried y canllawiau ar atal hunanladdiad sydd wedi’u lanlwytho i gymuned ymarfer atal hunanladdiad addysg uwch ac addysg bellach Padlet. Dylent hefyd ystyried y goblygiadau yn sgil yr Adolygiad Cenedlaethol o Hunanladdiadau Ymhlith Myfyrwyr Addysg Uwch ac ystyried camau gweithredu sy’n mynd i’r afael â’r argymhellion.

13. Dylai cynlluniau gweithredu ar gyfer 2025/26 ystyried dyraniadau cyllid y brifysgol ar gyfer 2025/26 (£2,300,000 ar gyfer strategaethau a £2m o gyllid ychwanegol) ac unrhyw adnoddau ychwanegol a ddarperir o ffynonellau heblaw Medr a chynnwys:

  1. amcanion/bwriadau strategaeth llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, a gaiff eu blaenoriaethu yn 2025/26;
  2. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer yr amcanion/bwriadau, gan gynnwys dyddiadau ar gyfer sefydlu a/neu gwblhau gweithgareddau, gwasanaethau ac adnoddau sy’n newydd neu’n parhau;
  3. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau a ddarperir yn ddwyieithog a/neu ar wahân yn Gymraeg;
  4. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau gan gynnwys dysgwyr mewn sefydliadau breiniol/partner;
  5. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer dysgwyr ôl-raddedig;
  6. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer dysgwyr rhyngwladol;
  7. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau er mwyn sicrhau llesiant ac iechyd staff a dysgwyr, gan gynnwys effeithiau ar iechyd yn sgil aflonyddu, casineb a chamymddwyn a thrais rhywiol, waeth beth fo hunaniaeth yr unigolion dan sylw;
  8. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau a ddarperir yn benodol i staff a dysgwyr â nodweddion gwarchodedig, neu roi gwybodaeth am gefnogi staff a dysgwyr o’r fath;
  9. estyn, gwella neu ddarparu cymhorthdal ar gyfer cynhyrchion urddas mislif a hylendid personol a/neu wasanaethau golchi dillad i fyfyrwyr;
  10. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau sy’n ystyried canfyddiadau ac argymhellion hunanasesu adroddiad Stepchange: mentally healthy universities Universities UK (UUK);
  11. camau gweithredu amlwg i fynd i’r afael â bylchau, blaenoriaethau neu argymhellion a nodwyd o ganlyniad i adolygiad y brifysgol gan ddefnyddio adnodd hunanasesu UUK;
  12. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau sy’n ystyried Fframwaith Diogelu rhag Hunanladdiad a chanllawiau ategol Universities UK (UUK);
  13. cadarnhad o’r ffordd y caiff cynnydd tuag at gyflawni’r cynllun gweithredu ei fonitro a’i fesur;
  14. esboniad o’r ffordd y mae amrywiaeth gynrychiadol o fyfyrwyr, staff a phartïon â diddordeb wedi bod yn rhan o’r broses o ddatblygu’r cynllun;
  15. esboniad o’r ffordd y mae canfyddiadau asesiadau effaith wedi llywio’r amcanion/bwriadau, gweithgareddau a gwasanaethau i’w cyflawni;
  16. esboniad o’r ffordd yr adroddir ar drefniadau monitro ac adolygu’r cynllun gweithredu i strwythurau llywodraethu’r brifysgol a thrwyddynt.

Cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi dysgwyr yn 2025/26 (£2m i brifysgolion a ddarparwyr addysg bellach sy’n cynnig addysg uwch)

14. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau pob sefydliad unigol, yn seiliedig ar ei bolisïau ei hun a’r anghenion cymorth sydd wedi’u nodi ar gyfer ei ddysgwyr, ar sail ei ddata a’i dystiolaeth ei hun.

15. Gall cymorth ariannol gynnwys:

  1. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, ar gyfer dysgwyr;
  2. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau a ddarperir yn ddwyieithog a/neu ar wahân yn Gymraeg;
  3. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau gan gynnwys dysgwyr mewn sefydliadau breiniol/partner;
  4. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer dysgwyr ôl-raddedig; 
  5. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer dysgwyr rhyngwladol;
  6. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau er mwyn sicrhau llesiant ac iechyd dysgwyr, gan gynnwys effeithiau ar iechyd yn sgil aflonyddu, casineb a chamymddwyn a thrais rhywiol, waeth beth fo hunaniaeth yr unigolion dan sylw;
  7. gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau a ddarperir yn benodol i ddysgwyr â nodweddion gwarchodedig, neu roi gwybodaeth am gefnogi dysgwyr o’r fath.

16. Rhaid i brifysgolion a cholegau sicrhau bod cymorth i ddysgwyr yn seiliedig ar asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.

17. Rydym yn annog prifysgolion a cholegau’n gryf, gan weithio gyda’u Hundebau Myfyrwyr neu gorff cyfatebol. Dylai’r holl ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr ôl-radd a rhyngwladol, gael eu hystyried ar gyfer cymorth, yn amodol ar angen.

Prosiect(au) addysg uwch cenedlaethol

18. Yn 2025/26, bydd Medr yn dyrannu swm ychwanegol o £400,000 i sefydliadau addysg uwch er mwyn cefnogi mentrau llesiant emosiynol a meddyliol ar gyfer staff a dysgwyr addysg uwch ar lefel genedlaethol. Bydd Medr yn ymgysylltu â’r sector er mwyn penderfynu pa brosiect(au) cenedlaethol a ddatblygir ymhellach.

Cyllid ychwanegol ar gyfer addysg bellach ac uwch yn 2025/26

19. Yn 2025/26, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol i Medr er mwyn cefnogi darparwyr addysg bellach ac uwch. Mae Medr yn bwriadu dyrannu £350,000 i brifysgolion drwy gyllid fformiwla fel y nodir ym mharagraffau 10 a 13 ac ariannu’r prosiectau addysg bellach ac uwch cenedlaethol canlynol:

  • Parhau i ariannu rhaglen y bartneriaeth genedlaethol iechyd meddwl myfyrwyr a arweinir gan Brifysgol Caerdydd ac adeiladu ar waith peilot a ariannwyd yn wreiddiol gan HEFCW a Llywodraeth Cymru. Yn 2025/26, mae Medr yn darparu cyllid er mwyn parhau i helpu i ddatblygu ateb storio data, parhau i gyflwyno mynegai difrifoldeb iechyd meddwl, archwilio a datblygu protocolau rhannu gwybodaeth a chynnal gwerthusiad allanol o’r rhaglen (£950,000).
  • Myf.Cymru a arweinir gan Brifysgol Bangor er mwyn darparu adnoddau llesiant dysgwyr a rhwydwaith ymarferwyr Cymraeg ar gyfer addysg bellach ac uwch (£150,000).

Dyraniadau cyllid prifysgolion a darparwyr addysg bellach sy’n cael cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr

20. Caiff y cyllid ar gyfer strategaethau a chynlluniau gweithredu llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, yn 2025/26 ei ddyrannu mewn un taliad, yn seiliedig ar niferoedd myfyrwyr, fel y nodir yn Atodiad A.

21. Caiff y cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi dysgwyr yn 2025/26 ei ddyrannu mewn un taliad, yn seiliedig ar niferoedd dysgwyr, fel y nodir yn Atodiad B.

22. Yn 2025/26, byddwn yn dyrannu cyllid Atodiad A ac Atodiad B mewn taliad un gyfran ym mis Rhagfyr 2025 yn amodol ar y canlynol:

  • cyflwyno cynlluniau gweithredu llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, 2025/26 (gweler y templed yn Atodiad C ac Atodiad C1). Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r rhain yw 1 Rhagfyr 2025.

23. Rydym yn disgwyl i brifysgolion reoli a gwario eu dyraniadau ar gyfer 2025/26 yn llawn yn ystod y flwyddyn.

24. Byddwn yn adhawlio unrhyw danwariant heb ei ymrwymo ar ddiwedd 2025/26, oni fydd amgylchiadau eithriadol, a byddwn yn adhawlio cyllid yn y dyfodol neu’n ei gadw’n ôl os bydd adroddiadau anfoddhaol neu gyfyngedig yn erbyn ein gofynion monitro.

25. Caiff y cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi dysgwyr yn 2025/26 ei ddyrannu mewn un taliad, yn seiliedig ar niferoedd dysgwyr, fel y nodir yn Atodiad B.

26. Yn 2025/26, byddwn yn dyrannu cyllid Atodiad B mewn taliad un gyfran ym mis Rhagfyr 2025 yn amodol ar y canlynol:

  • cyflwyno cynlluniau gweithredu 2025/26 ar gyfer cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi dysgwyr (gweler y templed yn Atodiad D). Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r rhain yw 1 Rhagfyr 2025.

27. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr addysg bellach sy’n cael cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr reoli a gwario eu dyraniadau ar gyfer 2025/26 yn llawn yn ystod y flwyddyn.

28. Byddwn yn adhawlio unrhyw danwariant heb ei ymrwymo ar ddiwedd 2025/26, oni fydd amgylchiadau eithriadol, a byddwn yn adhawlio cyllid yn y dyfodol neu’n ei gadw’n ôl os bydd adroddiadau anfoddhaol neu gyfyngedig yn erbyn ein gofynion monitro.

29. Caiff templedi monitro cyllid llesiant ac iechyd eu dosbarthu ym mis Tachwedd 2025.

Amserlen

30. Mae Tabl 1 isod yn nodi’r dyddiadau cau i brifysgolion a ddarparwyr addysg bellach sy’n cael cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer cyflwyno ac adrodd.

Tabl 1

Gofynion cyflwyno ac adroddDyddiad cyflwyno
Cyhoeddi canllawiauTachwedd 2025
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynllun gweithredu 2025/26 ar gyfer llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl01 Rhagfyr2025
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynllun gweithredu 2025/26 ar gyfer cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi dysgwyr01 Rhagfyr2025
Taliad untroRhagfyr2025
Cyflwyno adroddiad monitro terfynol01 Gorffennaf 2026

Further information / responses to

31. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Ryan Stokes ([email protected]).

32. Dylid cyflwyno ymatebion i [email protected].

Asesu effaith ein polisïau

33. Rydym wedi diweddaru ein hasesiad effaith parhaus i ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Gwnaethom hefyd ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg a darpariaeth Gymraeg yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru, a’r effeithiau posibl ar y nodau sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

34. Mae canfyddiadau ein hasesiad effaith yn cynnwys:

  • canfod effeithiau cadarnhaol tebygol ar y nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol. Ni chanfuwyd dim effeithiau negyddol.
  • cadarnhau bod y cyllid yn cefnogi pump o’r saith nod llesiant ac yn ystyried y pum ffordd o weithio sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • nodi bod y cyllid a’r trefniadau monitro yn ceisio cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg.

Medr/2025/30: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2025/26

Dyddiad:  18 Tachwedd 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/30

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach a ariennir yn uniongyrchol yng Nghymru

Ymateb erbyn: Cynllun gweithredu 2025/26 ar gyfer llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, erbyn 1 Rhagfyr 2025 at [email protected]

Cynllun gweithredu 2025/26 ar gyfer cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi dysgwyr erbyn 1 Rhagfyr 2025 at [email protected]

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau cyllid ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer ei ddefnyddio a’i fonitro. Dyraniad cyllid Medr o £2,350,000 i brifysgolion er mwyn rhoi strategaethau llesiant ac iechyd ar waith ar gyfer 2025/26 (prifysgolion yn unig) a’r dyraniad ychwanegol o £2m yn 2025/26 ar gyfer cymorth llesiant ac iechyd ychwanegol i ddysgwyr (prifysgolion a Darparwyr Addysg Bellach sy’n cael cyllid Addysg Uwch yn uniongyrchol gan Medr).

Mae’r cyhoeddiad hefyd yn cadarnhau cyllid ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am gyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau cenedlaethol.

Medr/2025/30 Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr

Ar hyn o bryd mae Medr yn ymgynghori ar system reoleiddio newydd, gan gynnwys Cod Ymgysylltu â Dysgwyr newydd sy’n anelu i gynorthwyo darparwyr a Medr i roi’r prif sylw i anghenion dysgwyr o fewn y sector addysg drydyddol.

Pam mae ymgysylltu â dysgwyr yn bwysig

I ddibenion y Cod, mae ‘ymgysylltu â dysgwyr’ yn cyfeirio at y cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan ym mhroses benderfynu eu darparwyr. Mae dyletswydd statudol ar Medr i baratoi Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, i fonitro cydymffurfiaeth darparwyr â’r Cod, ac i adrodd ar ei effeithiolrwydd.

Bydd ymgysylltu’n effeithiol â dysgwyr wrth wneud penderfyniadau yn creu buddion i ddysgwyr presennol a dysgwyr y dyfodol, i ddarparwyr ac i’r sector addysg drydyddol yng Nghymru. Gall dysgwyr ddatblygu sgiliau a gwella eu profiadau, gall darparwyr wella eu dealltwriaeth o anghenion dysgwyr ac adlewyrchu hynny yn eu darpariaeth, ac fel rheoleiddiwr gall Medr ymateb i safbwyntiau dysgwyr drwy ein penderfyniadau strategol.

Dyma weledigaeth y Cod ar gyfer ymgysylltu â dysgwyr, wedi’i chyfleu mewn modd sy’n ganolog i’r dysgwr:

Fel dysgwyr, ni sydd wrth wraidd addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Rydym yn cael cyfleoedd, fel unigolion a chyda’n cymheiriaid, i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n gwella ac yn effeithio ar ein profiadau dysgu, a phrofiadau dysgu dysgwyr y dyfodol. Mae ein lleisiau’n bwysig drwy gydol ein teithiau dysgu, os ydym yn dechrau cwrs, yn symud ymlaen i gyfleoedd newydd neu’n gwneud cynnydd yn ein gyrfaoedd.

Beth yw’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr?

Mae’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr wedi’i seilio ar gyfres o egwyddorion cyffredin a gynhyrchwyd ar y cyd â’r dysgwyr. Ei nod yw sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn cael eu cynrychioli, eu bod yn cael y cyfle i fynegi barn wrth ddarparwyr am yr addysg a’r hyfforddiant y maent yn ei dderbyn, a’u bod yn gallu cymryd rhan ym mhenderfyniadau eu darparydd. Gallai hyn ddigwydd drwy strwythurau ffurfiol fel undebau myfyrwyr, neu fel unigolion.

Datblygwyd y Cod yn unol â dyletswyddau statudol Medr o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (y Ddeddf). Mae’r Ddeddf hefyd yn nodi y bydd y Cod hefyd yn berthnasol i bob rhan o’r sector addysg drydyddol:

  • addysg bellach
  • addysg uwch
  • prentisiaethau
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • y chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.

Mae’r Cod wedi’i ddatblygu yn rhan o waith ehangach ar system reoleiddio newydd Medr. Bydd yn berthnasol i ddarparwyr sydd wedi’u cofrestru a’u cyllido drwy amodau’r fframwaith rheoleiddio ac i’r chweched dosbarth fel dyletswydd statudol, ac mae hyn hefyd wedi’i nodi yn y Ddeddf.

Sut mae’r drafft wedi cael ei ddatblygu

Mae Medr wedi cydweithio â rhanddeiliaid y sector, gan gynnwys dysgwyr, staff darparwyr a grwpiau cynrychioliadol i ddatblygu’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr. Drwy gyfres o drafodaethau, gweithdai a chyfleoedd i roi adborth, mae rhanddeiliaid wedi llywio datblygiad y Cod ar bob cam. Dyma sut rydym wedi ymgorffori’r adborth cynnar hwnnw gan y sector yn y drafft hwn a pham mae parhau â’r ddeialog i lywio datblygiadau i’r Cod yn y dyfodol mor bwysig:

  • Mae rhanddeiliaid yn gwerthfawrogi’r defnydd o egwyddorion clir a phwyslais ar effaith ymgysylltu â dysgwyr, gan gydnabod amrywiaeth y mecanweithiau ymgysylltu ar draws y sector a sbarduno gwelliant parhaus mewn arfer effeithiol.
  • Arweiniodd adborth at addasu’r egwyddorion fel eu bod o safbwynt y dysgwr, gan ganolbwyntio ar eu profiad o gymryd rhan mewn penderfyniadau.
  • Nid oedd drafftiau cynnar yr egwyddorion yn ddigon eglur i lawer o randdeiliaid. Rydym wedi gweithio gyda’r sector i symleiddio’r iaith a ddefnyddir ac i roi ffocws clir i bob egwyddor.
  • Drwy weithio gyda rhanddeiliaid y sector i ddatblygu’r Cod, rydym wedi gallu cynnwys gwybodaeth gyd-destunol ac enghreifftiau i adlewyrchu gwahanol rannau o’r sector addysg drydyddol.
  • Rydym wedi ymrwymo i ychwanegu rhagor o enghreifftiau, gan gynnwys ar ôl cyhoeddi’r Cod, pan fyddwn yn dechrau rhannu astudiaethau achos o bob cwr o Gymru.
  • Mae rhai rhannau o’r sector wedi sefydlu mecanweithiau ymgysylltu â dysgwyr yr hoffent eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yng ngofynion y Cod. Ar ôl penderfynu peidio â rhagnodi arferion ond, yn hytrach, egwyddorion, nid ydym wedi cynnwys yr elfennau hyn fel gofynion.
  • Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid y sector i ddiweddaru neu ddatblygu canllawiau lle gall Medr fabwysiadu dull mwy rhagnodol, ac i ariannu partneriaid i ddatblygu canllawiau a gwybodaeth arfer da ar gyfer y sector a fydd yn cyd-fynd â’r Cod.
  • Gan adlewyrchu’r ymatebion i ymgynghoriad rheoleiddiol cyntaf Medr, mae ein dull o fonitro cydymffurfiaeth â’r Cod yn anelu i leihau’r baich a defnyddio tystiolaeth sy’n bodoli eisoes lle bynnag y bo modd.
  • Ein bwriad yw defnyddio tystiolaeth sydd eisoes ar gael i Medr i ategu ffurflenni blynyddol gan bob darparydd.
  • Drwy’r ymgynghoriad hwn a’r ddeialog barhaus, rydym yn arbennig o awyddus i greu darlun o’r dystiolaeth a geir eisoes y gellir ei rhannu â Medr er mwyn monitro cydymffurfiaeth â’r Cod.
Sut i ddweud eich dweud

Rydym yn eich annog i ddarllen y drafft Cod Ymgysylltu â Dysgwyr ac yn gwahodd ymatebion i gwestiynau’r ymgynghoriad cysylltiedig drwy ein harolwg ar-lein. Mae’r llwybr ymgynghori ffurfiol hwn ar agor tan 17 Rhagfyr 2025.

Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth i’n helpu i ddatblygu’r Cod er mwyn sicrhau bod yr holl ddysgwyr mewn addysg drydyddol yng Nghymru yn cael cyfleoedd effeithiol i gymryd rhan ym mhenderfyniadau eu darparydd.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau a fydd yn rhoi cyfle i glywed ein staff yn trafod datblygiad y system reoleiddio newydd, a’r cwestiynau allweddol a ofynnir i bob darparydd a rhanddeiliad.

Rhestr lawn o ddigwyddiadau

Digwyddiadau Cod Ymgysylltu â Dysgwyr:

01 Rhagfyr 2025: 10:00–11:00Ymgynghoriad rheoleiddio Medr: Cod Ymgysylltu â Dysgwyr
02 Rhagfyr 2025: 13:00–14:30Digwyddiad ymgynghoriad 1 i awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir mewn perthynas â darpariaeth chweched dosbarth
08 Rhagfyr 2025: 12:30–14:00Digwyddiad ymgynghoriad 2 i awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir mewn perthynas â darpariaeth chweched dosbarth

Diolch am ymgysylltu â datblygiad y Cod. Os hoffech drafod y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr ymhellach, anfonwch e-bost i [email protected].

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Medr/2025/29: Cyllid ar gyfer y prosiect peilot Microgymwysterau Prentisiaeth 2025-26

Symiau ac amseriadau’r cyllid ychwanegol

Bydd dyraniad Dysgu Seiliedig-ar-Waith o £272,559.47 yn cael ei roi i Ddeiliaid Contract Prentisiaeth (ACH) i ddarparu cyrsiau Microgymwysterau byrion ar gyfer prentisiaid presennol fel a ddangosir yn y tabl isod. Cytunwyd ar y dyraniadau yn dilyn proses mynegi diddordeb a roddwyd ar waith gan Medr.

Deiliad Contract PrentisiaethCyfraniad ar gyfer darparu cyrsiau Microgymwysterau
Associated Community Training Ltd£10,000.00
B-wbl Coleg Sir Benfro£66,360.00
Coleg Caerdydd a’r Fro£43,330.00
Coleg Cambria£18,352.40
Coleg Gŵyr Abertawe£41,805.00
Grŵp Llandrillo Menai£53,487.07
Academi Sgiliau Cymru yng Ngrŵp Colegau CNPT£39,225.00
Cyfanswm£272,559.47

Gofynion allweddol a chymhwystra

Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â’r cyfnod rhwng 21 Hydref 2025 a 31 Mawrth 2026. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei dalu’n fisol yn ôl-ddyledus a bydd yn cyd-fynd â gofynion cytundebol presennol.

Rhaid i gymhwystra dysgwyr gyd-fynd yn llawn â’r meini prawf a nodir ym mhrif fanyleb y rhaglen brentisiaethau a gyhoeddwyd ar wefan Medr. Ni fydd unrhyw eithriadau i hyn yn gymwys.

Rhestr o Gyrsiau Microgymwysterau Prentisiaeth

Mae’r ddogfen ganlynol yn nodi’r cyrsiau sy’n gymwys ar gyfer cyllid (gyda gwerthoedd cyllid). Mae’r rhestr o gyrsiau’n cyd-fynd â’r rhaglen Cyfrif Dysgu Personol (PLA) ac fe’i datblygwyd yn dilyn ymgynghori â’r Deiliaid Contract Prentisiaeth, cyrff diwydiant a rhanddeiliaid allweddol.

Ni fydd unrhyw gyrsiau’n cael cyllid y tu hwnt i’r cap o £1,500 y pen nac os nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rhestr gymeradwy o gymwysterau a chyrsiau sy’n amgaeëdig yn Atodiad 1 sydd yn Atodiad A, ‘Canllaw’r Prosiect Peilot Microgymwysterau Prentisiaeth’. Ni fydd unrhyw eithriadau i’r gofyniad hwn.

Gallai cyrsiau gael eu hychwanegu at y rhestr neu gael eu tynnu oddi arni, ac mae’r broses ar gyfer gofyn am gyrsiau newydd wedi cael ei rhannu gyda’r Deiliaid Contract Prentisiaeth. Rhaid i bob cymhwyster a chwrs gael ei gymeradwyo gan Medr a rhaid bod gwerthoedd cyllid wedi cael eu cytuno cyn y darperir cyrsiau ar gyfer dysgwyr. Ni fydd unrhyw eithriadau i hyn yn gymwys. 

Medr/2025/29: Cyllid ar gyfer y prosiect peilot Microgymwysterau Prentisiaeth 2025-26

Dyddiad: 06 Tachwedd 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/29

At: Ddeiliaid Contract Prentisiaeth (ACH)

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriad ar gyfer cyllid ychwanegol o £272,559 a fydd yn cael ei ddarparu gan Medr i Ddeiliaid Contract Prentisiaeth ar gyfer y Prosiect Peilot Prentisiaethau Dysgu Seiliedig-ar-Waith ym mlwyddyn ariannol 2025-26.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu’r cyllid hwn i Medr ym mlwyddyn ariannol 2025-26, ac mae’n cyd-fynd yn uniongyrchol â’r rhaglen brentisiaethau a gomisiynwyd ar gyfer 2025-26. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei dalu’n fisol yn ôl-ddyledus a bydd yn cyd-fynd â gofynion cytundebol presennol.

Medr/2025/29 Cyllid ar gyfer y prosiect peilot Microgymwysterau Prentisiaeth 2025-26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/28: Gradd-brentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am gyllid gradd-brentisiaethau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, gan gynnwys y ffordd y caiff y cyfanswm cyllid o £9,415,165 ei ddyrannu i sefydliadau addysg uwch, ac mae’n nodi’r meini prawf y bydd angen i sefydliadau addysg uwch a phrentisiaethau eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid. Mae llythyrau ariannu hefyd wedi cael eu hanfon ar wahân i sefydliadau sy’n cael cyllid.

2. Caiff cyllid Medr ar gyfer gradd-brentisiaethau ei roi i sefydliadau addysg uwch tuag at dalu’r costau sy’n gysylltiedig â chynnal y cyrsiau hyn. Caiff unrhyw gyllid cymorth i fyfyrwyr unigol y gall gradd-brentisiaid fod yn gymwys i’w gael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

3. Anogir darparwyr i hysbysebu’r cyllid sydd ar gael i gyflogwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau y gall cynifer â phosibl o brentisiaid gael budd o raglen gradd-brentisiaeth gymwys a chofrestru arni.

Dull ariannu

4. Mae Medr wedi pennu blaenoriaethau ariannu strategol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 sy’n ystyried data o’r sector sy’n dangos ble y gellid gwella deilliannau a gwneud y defnydd gorau o’r gyllideb sydd ar gael.

5. Mae’r blaenoriaethau ariannu ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn academaidd 2025/26 fel a ganlyn:

  • prentisiaethau sy’n parhau;
  • dechreuwyr newydd, yn enwedig y rhai hynny sydd rhwng 18 a 24 oed (yn unol â’r Warant i Bobl Ifanc)
  • uwchsgilio cyflogeion presennol;
  • prentisiaid â nodweddion gwarchodedig;
  • darpariaeth Gymraeg

6. Mae’r trefniadau ariannu fel a ganlyn:

  • Dyrennir cyllid yn seiliedig ar nifer disgwyliedig y prentisiaethau a fydd yn parhau a’r rhai newydd a fydd yn dechrau yn ystod 2025/26;
  • Bydd y cyllid yn cwmpasu fframweithiau gradd-brentisiaeth ym meysydd adeiladu, digidol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch;
  • Mae’r gwerth credyd wedi cael ei gyfrifo gan ddefnyddio cyfanswm o £27,000 ar gyfer cwrs â gwerth credyd nodweddiadol o 360, h.y. £75 fesul gwerth credyd. Felly, bydd prentis y disgwylir iddo astudio 120 o gredydau y flwyddyn ar gwrs tair blynedd yn denu £9,000 o gyllid y flwyddyn.

7. Ni ellir hawlio cyllid am gydnabod dysgu blaenorol a/neu gostau cysylltiedig y broses hon.

Cyllid yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26

8. Caiff Medr ei gyllideb gan Lywodraeth Cymru fesul blwyddyn ariannol. Wedyn, caiff y gyllideb ei throsi’n ddyraniadau ar gyfer blwyddyn academaidd sy’n tybio y bydd y gyllideb yn parhau i fod ar gael y flwyddyn ariannol ganlynol. Caiff dyraniadau i ddarparwyr eu gwneud fesul blwyddyn academaidd.

9. Y gyllideb ar gyfer gradd-brentisiaethau yn ystod blwyddyn ariannol 2025-26 yw £9.411m, sy’n cynnwys cyllid o gyllidebau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Economi ac Addysg. Y swm sydd ar gael i’w ddyrannu i sefydliadau yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26 yw £9.416m, sy’n adlewyrchu’r defnydd o ddull dyrannu newydd i ariannu dysgwyr sy’n parhau a dysgwyr newydd hyd at £9000 fesul prentis.

10. Mae dyraniadau sefydliadau’n ystyried y cynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr sy’n parhau. Cytunwyd ar y dull o ddyrannu cyllid ar gyfer dechreuwyr newydd yn ystod 2025/26 gyda darparwyr gradd-brentisiaethau ac mae’n seiliedig ar weithgarwch yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25.

Methodoleg dyrannu

11. Mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gapio’r cyllidebau yn unol â’r cyllid sydd ar gael yn seiliedig ar nifer o gamau:

  1. Mae nifer y myfyrwyr sy’n parhau ar fframweithiau yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26 yn seiliedig ar niferoedd a gyflwynwyd gan bob sefydliad ac mae’r cyllid yn seiliedig ar y gyfradd gyllido yn unol â hyd disgwyliedig y cwrs. Daw’r cyfanswm cyllid hwn sy’n ofynnol ar y sector ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau o gyfanswm y gyllideb sydd ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.
  2. Caiff cyllid blwyddyn academaidd 2025/26 ar gyfer dechreuwyr newydd ar fframweithiau gradd-brentisiaeth ei ddosbarthu ar sail y dull a gafodd y mwyaf o gefnogaeth yn ein hymgynghoriad anffurfiol.

12. Mae’r dyraniad cyllid yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

  • Ariannu dysgwyr sy’n parhau yn unol â’r nifer a gyflwynwyd gan bob sefydliad;
  • Dyrannu cyllid ar gyfer o leiaf bum dechreuwr newydd, yn seiliedig ar £9,000 fesul prentis, i bob sefydliad
  • Dyrannu cyllid ar gyfer dechreuwyr newydd ychwanegol yn gymesur â nifer y dechreuwyr newydd yn 2024/25, yn seiliedig ar £9,000 fesul prentis.

13. Yr uchafswm y gellir ei ddyrannu er mwyn bodloni gofynion pob prentisiaeth yw £27,000. Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi dyrannu cyllideb o £9,000 y flwyddyn fesul prentis, yn seiliedig ar y dybiaeth mai tair blynedd fydd hyd rhaglen. Ar gyfer 2025/26, mae uchafswm y gyllideb a ddyrennir ar gyfer gradd-brentisiaethau newydd a’r rhai sy’n parhau yn seiliedig ar yr hyd cwrs byrraf, ond, pan fydd hyd y cwrs yn hwy, caiff y cyllid ei dalu ar sail nifer gwirioneddol y credydau a gwblheir.

14. Mae cyllideb uchaf gyfunol ar gyfer prentisiaethau newydd a’r rhai sy’n parhau ym mlwyddyn academaidd 2025/26 wedi cael ei dyrannu, fel y bydd modd rheoli’r rhaglen gradd-brentisiaethau yn hyblyg o fewn sefydliadau a rhwng fframweithiau a chymwysterau er mwyn bodloni’r galw gan gyflogwyr. Gofynnwyd i sefydliadau gadarnhau nifer y dechreuwyr newydd yn 2025/26 ar ôl cael y llythyr dyrannu. Mae hyn wedi arwain at ailddyrannu rhywfaint o gyllid i sefydliadau, a fydd yn sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r gyllideb sydd ar gael.

Dyraniadau cyllid 2025/26

15. Cyfanswm yr arian sydd ar gael i’w ddyrannu yw £9,415,165.

DarparwrCyfanswm y cyllid (£)
Prifysgol De Cymru2,283,868
Prifysgol Bangor992,766
Prifysgol Caerdydd256,873
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant2,083,361
Prifysgol Abertawe1,211,389
Prifysgol Metropolitan Caerdydd1,055,465
Prifysgol Wrecsam1,416,693
Y Brifysgol Agored114,750
Cyfanswm9,415,165

Talu grant

16. Dylai sefydliadau addysg uwch ddisgwyl cael dau daliad ar gyfer gradd-brentisiaethau yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26. Caiff 60% o gyfanswm dyraniad cyllid sefydliad ei dalu ym mis Hydref 2025 a chaiff y 40% sy’n weddill ei dalu ym mis Mawrth 2026. Caiff addasiadau i’r ail daliad eu cyfrifo fel yr amlinellir ym mharagraffau 21-23.

17. Os bydd newidiadau i’r gyllideb neu gyfyngiadau ar reoli arian parod (e.e. terfyn Medr ar gario ymlaen o un flwyddyn ariannol i’r llall), mae’n bosibl y bydd angen addasu proffil yn ystod y flwyddyn. Rhoddir gwybod yn ysgrifenedig ymlaen llaw os bydd hyn yn digwydd.

Gofynion gradd-brentisiaethau

18. Er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid, rhaid i brentis fod wedi’i gofrestru ar fframwaith prentisiaeth cymeradwy a rhaid i’r ddarpariaeth gydymffurfio â’r gofynion canlynol:

  • Bydd prentisiaid yn treulio 51% neu fwy o’u hamser yn gweithio yng Nghymru;
  • Rhaid i gytundeb prentisiaeth fod ar waith ac wedi’i lofnodi gan y dysgwr, y cyflogwr a’r darparwr;
  • Cynhelir asesiad cychwynnol gyda’r prentis er mwyn sicrhau y caiff profiad a dysgu blaenorol eu cydnabod, lle bo hynny’n briodol, ac y caiff gofynion cymorth dysgu ychwanegol eu hadnabod a’u cefnogi; gall prentisiaid feddu ar gymwysterau ar lefel gyfatebol sy’n eu galluogi i ddilyn y fframwaith ac a allai fod y tu allan i’r sector a ddewiswyd;
  • Caiff prentisiaid eu cefnogi yn y gweithle ag o leiaf 20% o ddysgu i ffwrdd o’r gwaith neu chwe awr o hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith bob wythnos ar gyfer unigolyn cyfwerth ag amser llawn (unigolyn sy’n gweithio 30 awr neu fwy) a/neu’r hyn sy’n cyfateb i oriau dan arweiniad tybiannol ar gyfer y credydau a gaiff eu hastudio;
  • Bydd prentisiaid yn ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith;
  • Caiff cynnydd prentisiaid ei adolygu’n aml mewn proses a fydd yn cynnwys y sefydliad a/neu’r darparwr a ariennir gan Medr, y prentis a’r cyflogwr;
  • Bydd prentisiaid yn gallu manteisio ar yr ystod lawn o wasanaethau myfyrwyr a gynigir gan y darparwr, a’i undeb myfyrwyr;
  • Cyflwynir data fel y bo’n ofynnol gan Medr;
  • Gall prentis ymadael â’r cymhwyster ag achrediad neu ardystiad o’r hyn a ddysgwyd. Ni fydd hyn yn gyfystyr â chwblhau prentisiaeth lawn yn llwyddiannus.

19. Bydd bodloni’r gofynion ar gyfer gradd-brentisiaethau a chyflawni’r blaenoriaethau ariannu yn rhoi sicrwydd i Medr bod cysondeb agos â’r rhaglen brentisiaethau ehangach yng Nghymru a bod y gofynion deddfwriaethol perthnasol yn cael eu bodloni. Mae Medr yn disgwyl i sefydliadau a ariennir ddogfennu tystiolaeth eu bod yn bodloni’r gofynion ac mae’n cadw’r hawl i archwilio’r wybodaeth honno.

Newid mewn amgylchiadau

20. Os bydd newid mewn amgylchiadau, mae’n bosibl na fydd prentis yn gymwys i ddilyn y brentisiaeth neu i gael cyllid gan Medr yn ystod cyfnod astudio mwyach. Mewn achos o’r fath, bydd yn rhaid i’r darparwr roi gwybod i Medr er mwyn iddo ystyried parhad y cyllid prentisiaeth.

Monitro ac adhawlio cyllid

21. Caiff y cyllid a ddyfernir ar gyfer 2025/26 ei fonitro gan ddefnyddio data recriwtio arolwg ystadegau cynnar myfyrwyr addysg uwch (HESES) 2025/26 a gesglir ar gyfer dechreuwyr newydd hyd at 1 Mawrth 2026 a dysgwyr sy’n parhau o flynyddoedd blaenorol. Caiff data HESES 2025/26 eu casglu a’u gwirio ym mis Chwefror 2026.

22. Bydd y cyllid yn seiliedig ar nifer y gwerthoedd credyd wedi’u cwblhau a gyflwynir. Gallai’r cyllid gael ei addasu tuag i lawr os bydd modiwlau heb eu cwblhau, os bydd myfyrwyr wedi tynnu’n ôl neu os bydd nifer y credydau ar gyfer y cwrs cyfan yn llai na 360 o gredydau yn sgil cydnabod dysgu blaenorol.

23. Caiff addasiadau cyllid eu cyfrifo tua diwedd y flwyddyn ariannol gan ddefnyddio data HESES, y bydd sefydliadau’n eu gwirio fel rhan o’r broses casglu data ar gyfer gradd-brentisiaethau. Gellir cael rhagor o wybodaeth gan Hannah Falvey, [email protected].

Amodau grant

24. Mae’r cyllid a ddyrennir gan Medr ar gael yn ddarostyngedig i’r amodau cyffredinol ar gyfer cyllid a delir gan Medr i Gorff Llywodraethu sefydliad. Nodir y rhain yn Nhelerau ac Amodau Cyllid Medr 2025/26.

Hyrwyddo gradd-brentisiaethau

25. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr hyrwyddo cyfleoedd am radd-brentisiaethau i amrywiaeth o ddysgwyr, yn enwedig dysgwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg drydyddol ac yn y gweithlu yng Nghymru yn y sectorau perthnasol.

26. Disgwylir i ddarparwyr gradd-brentisiaethau gymryd rhan yn y canlynol:

  • Gweithgareddau marchnata ac ymgyrchoedd cenedlaethol Medr;
  • Cystadlaethau sgiliau fel World Skills. Mae’r cystadlaethau hyn yn cynnig profiadau a heriau ychwanegol i brentisiaid a fydd yn fuddiol iddynt yn eu gyrfaoedd. Maent hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddangos cryfder sector addysg drydyddol Cymru drwy gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn WorldSkills UK.

Asesu effaith ein polisïau

27. Byddwn yn cynnal prawf sgrinio asesiadau effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb. Hefyd, rydym wedi ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg a darpariaeth Gymraeg yn y sector addysg uwch yng Nghymru, a’r effeithiau posibl ar y gallu i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys ein Hamcanion Llesiant. Cysylltwch ag [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am asesiadau effaith. Darparwyr sy’n gyfrifol am adolygu eu hasesiadau effaith eu hunain mewn perthynas â gradd-brentisiaethau.

28. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Simon Phelps neu Kelly Hillard yn prentisiaethau@medr.cymru.

Medr/2025/28: Gradd-brentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Dyddiad:  04 Tachwedd 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/28

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant annibynnol

Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi dyraniadau cyllid Medr i sefydliadau addysg uwch ar gyfer gradd-brentisiaethau ym mlwyddyn academaidd 2025/26. Mae’r ddogfen yn rhoi arweiniad ar ofynion y cyllid a’r ffordd y caiff ei weinyddu.

Medr/2025/28 Gradd-brentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Sta/Medr/16/2025: Mesurau Monitro Cydraddoldeb Hiliol Addysg Uwch

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn diweddaru’r Mesurau Monitro Cydraddoldeb Hiliol a gyhoeddwyd gan un o’r sefydliadau a ragflaenodd Medr, sef Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yn 2024.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am gefndiroedd ethnig:

  • y rhai sy’n ymgeisio am addysg uwch drwy UCAS.
  • nifer y myfyrwyr gyda ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru a’u canlyniadau gradd.
  • nifer y staff mewn prifysgolion yng Nghymru a’u telerau cyflogaeth.

I gyd-fynd â’r adroddiad hwn ceir taenlen ac arni’r data llawn a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn, ac a geir ar wefan Medr.

Cyhoeddwyd y mesurau’n wreiddiol gan CCAUC i fodloni un o’r camau yn nogfen Llywodraeth Cymru, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2022. Drwy gyhoeddi’r fersiwn ddiweddaraf hon o’r mesurau rydym yn darparu gwybodaeth gyfredol a all gyfrannu at fonitro cynnydd y cynllun hwn.

Mae Medr yn defnyddio’r data i lywio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac yn rhan o’n gwaith monitro i ddibenion rheoleiddio a chyllido. Mae data a thystiolaeth yn llywio ein datblygiadau o ran polisi ac yn cyfrannu at ein hasesiad o’n cyfraniad at Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Wrth i Medr ddatblygu ei brosesau rheoleiddio a chyllido, efallai y byddwn yn defnyddio’r data i lywio ein dealltwriaeth o gyfle cyfartal, lles staff a myfyrwyr, profiad dysgwyr, a pherfformiad a risg.

Mae’r mesurau hefyd yn cyfrannu at fonitro nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a hefyd at ddyletswyddau Medr yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (2022) a’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

Ymgeiswyr a Cheisiadau
  • O blith ymgeiswyr a cheisiadau UCAS sy’n hanu o’r DU i gyrsiau gradd amser llawn gyda darparwyr Addysg Uwch (AU) Cymru mae’r gyfran sydd o gefndir ethnig lleiafrifol wedi cynyddu o 2016 i 2024. Mae hyn yn wir am yr holl grwpiau cefndir ethnig a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn (Asiaidd, Du, Cymysg ac Arall).
  • Mae canran yr ymgeiswyr sy’n cael cynnig yn gyson uwch i’r rhai o gefndir ethnig Gwyn neu Gymysg na’r rhai o gefndir ethnig Asiaidd, Du neu Arall. Mae hyn yn wir am ymgeiswyr 18 oed ac ymgeiswyr o bob oed.
  • Mae cyfran yr ymgeiswyr sy’n bodloni amodau eu cynnig ac sy’n dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wedi cynyddu o 2016 i 2024.
Myfyrwyr
  • Mae cyfran y myfyrwyr sy’n hanu o’r DU o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a ddechreuodd gyrsiau gyda darparwyr AU yng Nghymru wedi cynyddu o 10.3% yn 2016/17 i 17.9% yn 2023/24. Ceir tuedd gyffredinol i gyfran y dechreuwyr o bob un o’r grwpiau cefndir ethnig Asiaidd, Du, Cymysg ac Arall gynyddu, gyda’r cynnydd mwyaf ymhlith y rhai o gefndir ethnig Asiaidd.
  • Rhwng 2016/17 a 2023/24, mae myfyrwyr o gefndir ethnig Gwyn wedi bod yn gyson yn fwy tebygol o gael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf na myfyrwyr o unrhyw gefndir ethnig arall.
  • Mae myfyrwyr o gefndir ethnig Du wedi bod yn fwy tebygol yn gyson o gael gradd ail ddosbarth isaf neu drydydd dosbarth na myfyrwyr o gefndiroedd ethnig eraill.
Staff
  • Mae cyfran y staff, academaidd ac anacademaidd, o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wedi cynyddu o 2016/17 i 2023/24. Gwelwyd y cynnydd mwyaf ymhlith staff o gefndiroedd ethnig Asiaidd.
  • Mae staff o gefndir ethnig Gwyn yn fwy tebygol o fod ar delerau cyflogaeth parhaol na staff o unrhyw gefndiroedd ethnig eraill.
  • Mae staff academaidd o gefndiroedd ethnig Du yn fwy tebygol o gael eu cyflogi ar raddfa ganol neu is o gymharu â staff o gefndiroedd ethnig eraill. Mae cyfran uwch o staff academaidd o’r grwpiau Gwyn a chefndir ethnig Arall yn cael eu cyflogi ar y graddfeydd uwch o’i gymharu â’r grwpiau cefndir ethnig eraill.
  • Mae’r gwahaniaethau rhwng cefndiroedd ethnig o ran cyfran y staff anacademaidd a gyflogir ar bob graddfa wedi culhau rhwng 2016/17 a 2023/24.
  • Er bod nifer y llywodraethwyr yn y sector addysg uwch yn isel, mae’r gyfran sydd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wedi cynyddu o 3.1% yn 2016/17 i 13.6% yn 2023/24.

Sta/Medr/16/2025: Mesurau Monitro Cydraddoldeb Hiliol Addysg Uwch

Cyfeirnod:  Sta/Medr/16/2025

Dyddiad:  30 Hydref 2025

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad wedi’i seilio ar ddata sydd wedi eu cyhoeddi gan UCAS ac Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), gyda ffocws penodol ar gefndiroedd ethnig y rhai sy’n ymgeisio am gwrs gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru, sy’n astudio mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru a staff sy’n gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru.

Sta/Medr/16/2025 Mesurau monitro cydraddoldeb hiliol addysg uwch

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/27: Cyllid Ychwanegol ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 2025-26

Cyflwyniad

Mae’r cyhoeddiad hwn yn egluro’r trefniadau a’r amseriad ar gyfer £3,000,000 o gyllid ychwanegol sydd i’w ddarparu gan Medr i sefydliadau addysg bellach (AB) ac awdurdodau lleol (ALlau) fel Cyllid Pontio Ôl-16 ym mlwyddyn academaidd 2025/26.

Dyfernir £798,000 o’r cyllid i ALlau ar gyfer ysgolion prif ffrwd â chweched dosbarth a £2,202,000 i sefydliadau AB.

Dylai sefydliadau AB ac awdurdodau lleol gadw at y ‘Nodyn Cyfarwyddyd Cyllid Pontio Ôl-16 ar gyfer Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach 2025/26’.

Symiau ac amseriad cyllid ychwanegol

Bydd £798,000 yn cael ei ddyrannu i ALlau ar gyfer ysgolion prif ffrwd â chweched dosbarth ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 yn 2025/26, fel y dangosir yn y tabl isod. Dyrennir cyllid ar sail £6,000 fesul ysgol.

Awdurdod LleolDyraniad (£)
Pen-y-bont ar Ogwr54,000.00
Caerffili48,000.00
Caerdydd78,000.00
Sir Gaerfyrddin48,000.00
Ceredigion36,000.00
Conwy42,000.00
Sir Ddinbych36,000.00
Sir y Fflint36,000.00
Gwynedd42,000.00
Ynys Môn30,000.00
Sir Fynwy24,000.00
Castell-nedd Port Talbot12,000.00
Casnewydd54,000.00
Sir Benfro24,000.00
Powys66,000.00
Rhondda Cynon Taf66,000.00
Abertawe42,000.00
Bro Morgannwg42,000.00
Torfaen6,000.00
Wrecsam12,000.00
Cyfanswm798,000.00

Bydd £2,202,000 yn cael ei ddyrannu i sefydliadau AB ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 yn 2025/26, fel y dangosir yn y tabl isod.

Sefydliad addysg bellachDyraniad (£)
Coleg Penybont112,437.45
Coleg Caerdydd a’r Fro265,680.26
Coleg Cambria287,556.28
Coleg Gwent312,212.51
Coleg Sir Gâr148,801.31
Coleg y Cymoedd232,971.08
Coleg Gŵyr Abertawe202,059.60
Grŵp Llandrillo Menai246,514.71
Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot162,533.78
Y Coleg Merthyr Tudful76,611.91
Coleg Sir Benfro93,671.66
Coleg Catholig Dewi Sant60,949.45
Cyfanswm2,202,000.00

Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â’r cyfnod 1 Tachwedd 2025 i 31 Gorffennaf 2026. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad i SABau ac awdurdodau lleol ym mis Rhagfyr 2025.

Medr/2025/27: Cyllid Ychwanegol ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 2025-26

Dyddiad:  28 Hydref 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/27

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol

Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn egluro’r trefniadau a’r amseriad ar gyfer £3,000,000 o gyllid ychwanegol sydd i’w ddarparu gan Medr i sefydliadau addysg bellach (AB) ac awdurdodau lleol (ALlau) fel Cyllid Pontio Ôl-16 ym mlwyddyn academaidd 2025/26.

Medr/2025/27 Cyllid Ychwanegol ar gyfer Cyllid Pontio Ôl-16 2025-26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio