This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Llwybrau prentisiaeth adeiladu newydd ar gael nawr yng Nghymru

Mae fframweithiau prentisiaeth Lefel 2 newydd ar gael nawr yng Nghymru o fewn y sector adeiladu yn dilyn newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a Medr ar 11 Chwefror 2026.

Bydd y cyfleoedd hyn yn gwella amrywiaeth y llwybrau i mewn i’r sector hwn gan greu cyfleoedd newydd i gyflogwyr ddatblygu talent fedrus. Bwriedir iddynt alluogi prentisiaid i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwysedd y bydd eu hangen arnynt i ymuno â’r sector a chamu ymlaen ynddo. Mae’r llwybrau newydd ar gael ar Lefel 2 mewn gosod brics a gwaith saer ar safle ac ar Lefel 3 mewn gorchuddio lloriau ac oeri, aerdymheru a phympiau gwres.

Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Bydd y llwybrau newydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i ddysgwyr a chyflogwyr ar gyfer datblygu sgiliau mewn galwedigaethau adeiladu allweddol. Rydyn ni’n falch o fod wedi gallu cefnogi llwybrau mwy hygyrch er mwyn helpu dysgwyr i ddechrau ar eu gyrfaoedd yn y sector pwysig hwn sy’n tyfu.”

Nodiadau:

  • Caiff y fframweithiau prentisiaeth Lefel 3 presennol mewn gosod brics a gwaith saer ar safle eu diddymu ar 31 Hydref 2026.
  • Caiff llwybrau prentisiaeth Lefel 3 newydd mewn crefft gosod brics a chrefft gwaith saer ar safle eu cyflwyno ym mis Awst 2027, gan gynnig cyfleoedd i gamu ymlaen i’r dysgwyr hynny sy’n cwblhau un o’r prentisiaethau sylfaen Lefel 2 newydd yn y galwedigaethau hyn yn llwyddiannus.
  • Dylai dysgwyr sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i ddilyn prentisiaeth gysylltu â’u coleg addysg bellach neu eu darparwr prentisiaethau lleol.
  • Mae prentisiaethau sylfaen newydd mewn gweithrediadau gwella adeiladau ac mewn sgaffaldio wrthi’n cael eu datblygu a byddant ar gael ar ddechrau 2027.
Rhagor o wybodaeth am fframweithiau prentisiaeth Pwyntiau cyswllt darparwyr prentisiaethau

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio