Cyhoeddiadau
Medr/2026/36: Cronfa Cymorth a Llesiant 2026/27 – Cam 1: sefydliadau addysg bellach
28 Jul 2026
Rhagair
1. Yng nghyhoeddiad Medr Medr/2026/16: Buddsoddiad ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2026/27 (Mai 2026), cyflwynwyd amlen gyllido gyfun newydd, sef cyfuniad o 5 llinell gyllideb bresennol, ar gyfer y sector addysg bellach (AB) o dan y teitl gweithredol Cronfa Llesiant Dysgwyr. Yn dilyn rhagor o waith datblygu ac ymgysylltu, teitl ffurfiol y cyllid hwn bellach yw Y Gronfa Cymorth a Llesiant.
Diben a rhesymeg
2. Mae’r Gronfa Cymorth a Llesiant yn dod â phum ffrwd gyllido sy’n bodoli eisoes ynghyd i ffurfio fframwaith trosfwaol cyfun, gan gadw hunaniaeth y ffrydiau unigol:
- Cymorth Dysgu Ychwanegol (CDY) (Atodiad B)
- Cronfa Ariannol Wrth Gefn (Atodiad C)
- Adferiad a Chynnydd Dysgwyr (Atodiad D)
- Iechyd Meddwl a Llesiant (Atodiad E)
- Urddas Mislif (Atodiad C paragraff 24)
3. Er bod gofynion cyflawni pob ffrwd gyllido yn wahanol, maent gyda’i gilydd yn cynrychioli system gydgysylltiedig o gymorth i ddysgwyr ac wedi’u tanategu gan amcanion cyffredin cryf, sy’n cynnwys:
- Galluogi cymorth â ffocws i ddysgwyr sy’n agored i niwed ac o dan anfantais;
- Cefnogi cyfranogiad gweithredol;
- Gwella llesiant yn ei ystyr ehangach;
- Cael gwared â rhwystrau i ddysgu;
- Hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant.
4. Drwy newid i un gronfa gyffredinol rydym yn cydnabod mai darparwyr sydd yn y sefyllfa orau i ddeall y gydberthynas rhwng gwahanol fathau o gymorth ac ymhle y bydd adnoddau’n cael yr effaith fwyaf ar eu dysgwyr. Gall defnydd darparwyr o’r buddsoddiad hwn newid yn flynyddol. Mae hyn yn adlewyrchu bwriad strategol Medr i:
- Annog cydweithio i sicrhau mwy o gydlyniant a lleihau achosion o ail-wneud gwaith ar draws gwahanol ffrydiau cyllido;
- Galluogi dull mwy cyfannol o gefnogi dysgwyr;
- Rhoi mwy o ymreolaeth a hyblygrwydd i ddarparwyr;
- Cefnogi penderfyniadau lleol, yn seiliedig ar angen y dysgwr, er mwyn gwella effaith y buddsoddiad.
Dyraniad cyllid
5. Bydd pob darparydd yn derbyn dyraniad ar ffurf cyfanswm o dan y Gronfa Cymorth a Llesiant, sy’n cynnwys y dyraniadau cydrannol a roddir yn Nhabl 1.
6. Defnyddir blwyddyn academaidd 2026/27 fel cyfnod peilot ar gyfer y Gronfa Cymorth a Llesiant. Bydd hyn yn caniatáu i Medr a darparwyr:
- Brofi sut mae’r hyblygrwydd yn cael ei ddefnyddio yn ymarferol;
- Deall yr effeithiau ar ddysgwyr ac ar ddarpariaeth;
- Nodi risgiau, cyfyngiadau a chyfleoedd;
- Llywio datblygiad dull Cam 2 yn 2027/28.
Tabl 1: Dyraniadau darparwyr
| Sefydliad | Buddsoddiad Cymorth Dysgu Ychwanegol | Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn | Urddas mislif | Adferiad a Chynnydd Dysgwyr | Iechyd meddwl a llesiant | Cyfanswm y Gronfa Cymorth a Llesiant |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Coleg Penybont | £1,066,111 | £381,857 | £25,785 | £419,586 | £216,827 | £2,110,166 |
| Coleg Sir Gâr | £1,341,108 | £486,576 | £33,109 | £516,455 | £250,693 | £2,627,941 |
| Coleg Gwent | £2,957,320 | £1,056,786 | £70,784 | £1,165,073 | £541,070 | £5,791,033 |
| Grŵp Llandrillo Menai | £2,331,423 | £756,684 | £56,541 | £946,392 | £449,134 | £4,540,174 |
| Y Coleg Merthyr Tudful | £694,145 | £280,817 | £15,856 | £275,700 | £170,286 | £1,436,804 |
| Coleg Sir Benfro | £814,036 | £246,113 | £19,981 | £316,061 | £187,653 | £1,583,844 |
| Coleg Catholig Dewi Sant | £485,323 | £229,008 | £10,758. | £202,054 | £148,161 | £1,075,304 |
| Coleg Gŵyr Abertawe | £1,808,793 | £727,140 | £42,354 | £661,731 | £330,936 | £3,570,954 |
| Coleg Caerdydd a’r Fro | £2,558,705 | £970,363 | £60,727 | £858,871 | £468,139 | £4,916,805 |
| Coleg Cambria | £2,607,521 | £718,076 | £62,642 | £1,023,827 | £483,850 | £4,895,916 |
| Coleg y Cymoedd | £2,213,526 | £770,607 | £51,302 | £776,159 | £404,986 | £4,216,580 |
| Grŵp Colegau NPTC | £1,571,257 | £549,154 | £38,327 | £598,439 | £310,189 | £3,067,366 |
| Addysg Oedolion Cymru | £391,732 | £62,184 | £11,834 | — | £88,077 | £553,827 |
Strwythur y gronfa ar gyfer 2026/27
7. Beth sydd wedi newid:
- Mae’r pum ffrwd gyllido bellach wedi’u cynnwys o fewn un Gronfa Cymorth a Llesiant.
- Mae gan ddarparwyr fwy o hyblygrwydd i symud cyllid rhwng y cydrannau hyn.
- Cyflwynir un broses gynllunio i gofnodi blaenoriaethau strategol a bwriadau o ran cyflawni.
- Pan fydd arian yn cael ei drosglwyddo o ffrwd gyllido gydrannol i ffrwd arall, bydd y cyllid a drosglwyddir yn ddarostyngedig i ganllawiau a gofynion y gydran y mae’r cyllid yn cael ei symud iddi.
8. Beth sydd heb newid:
- Mae pob un o’r pum ffrwd gyllido gydrannol yn dal i fodoli.
- Mae canllawiau manwl sy’n amlinellu gweithgarwch cymwys a disgwyliadau ar gyfer pob ffrwd gydrannol yn parhau i fod ar waith. Sylwch fod canllawiau ar gyllid Urddas Mislif wedi’u hymgorffori yng nghanllawiau’r Gronfa Wrth Gefn Ariannol.
- Mae cyllid Iechyd Meddwl a Llesiant yn cefnogi dysgwyr a staff.
Gofynion darparwyr a chanllawiau ategol
9. Mae’n ofynnol i bob darparydd AB gyflwyno Cynllun Cronfa Cymorth a Llesiant (Atodiad A) erbyn 9 Hydref 2026 i [email protected].
10. Bydd Medr yn adolygu’r holl gynlluniau a gyflwynir i sicrhau bod:
- Sail resymegol glir a thystiolaeth o angen i gefnogi dyraniadau a gynigir;
- Y risgiau a’r effeithiau posibl wedi’u nodi a’u lliniaru’n briodol;
- Unrhyw gyllid sy’n cael ei symud yn gyson â diben cyffredinol y Gronfa Cymorth a Llesiant.
11. Bydd Medr yn rhoi adborth ar gynlluniau erbyn 3 Tachwedd 2026. Gall hyn gynnwys ceisiadau am ragor o wybodaeth neu eglurhad a thrafodaeth lle bo pryderon ynghylch yr effaith ar ddysgwyr.
12. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr roi diweddariad ar gynlluniau cyflawni a gwariant erbyn 12 Chwefror 2027. Bydd hyn yn cynnwys:
- Cynnydd yn erbyn y cynlluniau gwreiddiol;
- Newidiadau a wnaed i ddyraniadau (os o gwbl);
- Effeithiau a chanlyniadau sy’n dod i’r amlwg;
- Y sefyllfa ddiweddaraf o ran risg a mesurau lliniaru.
13. Er bod y gronfa wedi’i chyflwyno fel un dyraniad ar gyfer 2026/27, dylid darllen y ddogfen hon ochr yn ochr â chanllawiau manwl ar gyfer pob cydran gyllido.
14. Bydd gwaith monitro yn dal i ddigwydd ar lefel y cydrannau. Darperir trefniadau adrodd a manylion pellach yn y dogfennau canllaw unigol.
15. Bydd unrhyw danwariant yn erbyn cyfanswm dyraniad darparydd o’r Gronfa Cymorth a Llesiant yn cael ei hawlio’n ôl yn llawn. Bydd symiau sydd i’w hawlio’n ôl yn cael eu cyfrifo ar ôl cyflwyno’r disgwyliadau monitro gofynnol ar gyfer pob ffrwd gyllido gydrannol. Ni fydd cyfle i gario cyllid heb ei wario ymlaen i’r blynyddoedd nesaf.
16. Bwriedir datblygu dull Cam 2 ar gyfer 2027/28, yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd eleni. Bydd Medr yn ymgysylltu â’r sector yn ystod diwedd hydref/dechrau gwanwyn 2026/27 i lywio’r cam nesaf ac ystyried effaith wirioneddol y dull hwn. Byddwn yn ystyried adborth darparwyr a phrofiadau cyflawni ac yn archwilio modelau cyllido a monitro i’r dyfodol. Ceisir adborth ochr yn ochr â diweddariad Chwefror 2027 a thrwy weithgarwch ymgysylltu ychwanegol.
Asesu effaith ein polisïau
17. Rydym wedi cwblhau Asesiad Effaith Integredig i ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, effeithiau economaidd-gymdeithasol, llais y dysgwr, ystyriaethau’r Gymraeg ac effeithiau posibl y Gronfa Cymorth a Llesiant ar y nodau llesiant a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
18. Mae effeithiau cadarnhaol disgwyliedig wedi’u nodi a fydd yn deillio o gyflwyno’r Gronfa Cymorth a Llesiant, yn enwedig o ran gwella cydlyniant, hyblygrwydd a gallu’r gronfa gymorth i ymateb i anghenion. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol tebygol ar y cam hwn.
19. Mae llawer o’r effeithiau’n parhau i fod yn seiliedig ar ragolygon, yn hytrach na bod tystiolaeth ohonynt. Bydd Medr felly yn monitro gweithrediad, defnydd darparwyr o elfen hyblyg y cyllid a’r effeithiau sy’n dod i’r amlwg drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn cael eu nodi, ac i lywio datblygiad y gronfa yn y dyfodol.
20. Mae canfyddiadau ein hasesiad effaith yn cynnwys:
- Nodi effeithiau cadarnhaol tebygol ar gyfer dysgwyr ag anableddau a’r rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
- Nodi effeithiau cadarnhaol tebygol ar draws nodweddion gwarchodedig anabledd a rhyw. Ni nodwyd unrhyw effeithiau niweidiol tebygol ar gydraddoldeb.
- Mae’r gronfa’n cyfrannu’n gadarnhaol at nifer o nodau a dangosyddion llesiant cenedlaethol, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lleihau rhwystrau i ddysgu.
- Ni nodwyd unrhyw effeithiau niweidiol ar y Gymraeg.
Medr/2026/36: Cronfa Cymorth a Llesiant 2026/27 – Cam 1: sefydliadau addysg bellach
Dyddiad: xx Gorffennaf 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/36
At: Benaethiaid colegau addysg bellach
Ymateb erbyn: 09 October 2026
Crynodeb: Mae’r Gronfa Cymorth a Llesiant yn dod â phum ffrwd gyllido sy’n bodoli eisoes ynghyd i ffurfio fframwaith trosfwaol cyfun:
* Cymorth Dysgu Ychwanegol
* Cronfa Ariannol Wrth Gefn
* Adferiad a Chynnydd Dysgwyr
* Iechyd Meddwl a Llesiant
* Urddas Mislif
Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am ei ddefnydd a’i ofynion.
Dogfennau eraill
- Medr/2026/36 Atodiad A
- Medr/2026/36 Atodiad B Canllawiau Cyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol Addysg Bellach
- Medr/2026/36 Atodiad C Cronfa Ariannol Wrth Gefn 2026/27 Addysg Bellach
- Medr/2026/36 Atodiad D Manyleb y Rhaglen Cyllid Adferiad a Chynnydd Dysgwyr: Sefydliadau addysg bellach
- Medr/2026/36 Atodiad E Cronfa Iechyd Meddwl a Llesiant 2026/27 addysg bellach
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio