Cyhoeddiadau
Sta/Medr/09/2026: Cyllid sefydliadau addysg uwch, o fis Awst 2024 i fis Gorffennaf 2025
19 May 2026
Cyflwyniad
Mae’r datganiad ystadegol hwn yn rhoi crynodeb o wybodaeth ariannol a gyflwynwyd i gofnod cyllid yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Medr yr adroddiad Cynaliadwyedd ariannol y sector addysg uwch yng Nghymru sy’n rhoi asesiad manylach o gyllid y sector addysg uwch yng Nghymru. Ceir rhai gwahaniaethau rhwng y ffigurau yn y naill adroddiad a’r llall. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys Prifysgol Cymru gan ei bod yn cyflwyno data i gofnod cyllid HESA, ond nid yw’r adroddiad ar gynaliadwyedd ariannol yn cynnwys y sefydliad hwn (gweler yr adran Data).
Incwm
Siart 1: Dadansoddiad o gategorïau incwm yn yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25
Ffynhonnell: Cofnod Cyllid HESA, Tabl 1
Cyfanswm incwm cyfunol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2024/25 oedd £1.90 biliwn. Yn 2022/23 ac yn 2023/24, y cyfanswm oedd £1.98 biliwn.
Roedd ffioedd dysgu a chontractau addysg yn cyfrif am £1.04 biliwn o’r incwm yn 2024/25, sy’n golygu mai’r categori hwn oedd y ffynhonnell incwm fwyaf. Mae hyn yn cynrychioli lleihad o 6% ers 2023/24, pan gofnodwyd £1.11 biliwn.
Grantiau cyrff cyllido oedd yr unig gategori incwm lle y gwelwyd cynnydd rhwng 2023/24 a 2024/25, gan godi 3% o £276 miliwn i £285 miliwn. Yn ogystal â chyllid gan Medr, gall grantiau cyrff cyllido gynnwys cyllid ar gyfer sefydliadau addysg bellach o fewn grwpiau addysg uwch, a rhywfaint o gyllid arall gan Lywodraeth y DU.
Roedd grantiau a chontractau ymchwil yn cyfrif am werth £237 miliwn o incwm yn 2024/25.
Gwelwyd lleihad ym mhob un o’r categorïau incwm sy’n weddill yn ystod 2024/25.
Gwariant
Noder: mae’r dull o gyfrifo gwariant sylfaenol yn y datganiad hwn yn wahanol i ddatganiad 2023/24 am ei fod yn cadw addasiadau cyfrifyddu technegol nad ydynt yn arian parod i gynlluniau pensiwn â buddion wedi’u diffinio ar wahân i gostau llog a chostau cyllid eraill, yn ogystal â chostau staff. Dim ond eu cadw ar wahân i gostau staff a wnaed yn natganiad 2023/24. Gwnaed y newid hwn er mwyn cyd-fynd ag arferion safonol yn y sector a chyhoeddiadau eraill gan Medr.
Nid yw cofnod cyllid HESA yn casglu ffigurau wedi’u hailddatgan ar gyfer addasiadau costau pensiwn, felly defnyddiwyd y ffigurau a gyflwynwyd yn wreiddiol.
Tabl 1: Cymhariaeth o fathau o wariant ar gyfer yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25 (£M)
| Math o wariant | 2022/23 (£M) | 2023/24 (£M) | 2024/25 (£M) |
|---|---|---|---|
| Cyfanswm y gwariant | 1,889 | 1,679 | 2,020 |
| Gwariant sylfaenol | 1,945 | 2,056 | 2,026 |
| Gwariant gweithredu sylfaenol | 1,943 | 2,039 | 1,977 |
Ffynonellau: Cofnod Cyllid HESA, Tabl 1, Tabl 8 a Thabl 12.
(Mae Tabl 1 yn cynnwys y categorïau gwariant cyffredinol. Mae Tabl 8 yn cynnwys yr addasiadau pensiwn i’r categori ‘costau llog a chostau cyllid eraill’ yn y golofn ‘Interest and other finance costs’, y gellir ei gweld pan fydd ‘Other expenditure’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd grŵp canolfan gostau HESA a phan fydd ‘Pension cost adjustment’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd costau HESA. Mae Tabl 12 yn cynnwys y newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn ar gyfer costau staff.)
Mae cyfanswm y gwariant, fel y’i nodir mewn cyfrifon statudol, yn cynnwys addasiadau pensiwn technegol nad ydynt yn arian parod ac eitemau untro megis costau ailstrwythuro sylfaenol. Mae’r addasiadau pensiwn yn seiliedig ar brisiadau actiwaraidd o’r cynlluniau pensiwn, a gallant amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar werth marchnadol ar adeg prisio. Gall hyn roi darlun camarweiniol o’r costau sylfaenol.
Mae gwariant sylfaenol yn tynnu addasiadau pensiwn technegol nad ydynt yn arian parod allan o gostau staff a chostau llog a chostau cyllid eraill.
Nid yw gwariant gweithredu sylfaenol yn cynnwys costau ailstrwythuro sylfaenol chwaith. Gan mai costau untro yw costau ailstrwythuro, nid ydynt yn rhan o weithrediadau parhaus arferol.
Yn 2024/25, bu lleihad o 3% mewn gwariant gweithredu sylfaenol, i £1.98 biliwn.
Siart 2: Dadansoddiad o gategorïau gwariant mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, o 2022/23 i 2024/25
Ffynonellau: Cofnod Cyllid HESA, Tabl 1, Tabl 8 a Thabl 12
(Mae Tabl 1 yn cynnwys y categorïau gwariant cyffredinol. Mae Tabl 8 yn cynnwys yr addasiadau pensiwn i’r categori ‘costau llog a chostau cyllid eraill’ yn y golofn ‘Interest and other finance costs’, y gellir ei gweld pan fydd ‘Other expenditure’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd grŵp canolfan gostau HESA a phan fydd ‘Pension cost adjustment’ wedi’i ddewis ar gyfer hidlydd costau HESA. Mae Tabl 12 yn cynnwys y newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn ar gyfer costau staff.)
Bu lleihad mewn costau staff (heb gynnwys newidiadau technegol nad ydynt yn arian parod i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn) a chostau gweithredu eraill yn 2024/25. Cofnodwyd costau staff o £1.1 biliwn yn 2024/25; bu lleihad o lai nag 1%.
Bu lleihad o 8% mewn costau gweithredu eraill, i £681 miliwn yn 2024/25.
Y sefyllfa weithredu sylfaenol
Y gwarged neu’r diffyg yn sgil gweithgareddau gweithredol craidd mewn prifysgolion yw’r sefyllfa weithredu sylfaenol. Yn y cyhoeddiad hwn, fe’i cyfrifwyd drwy dynnu’r gwariant gweithredu sylfaenol (nad yw’n cynnwys addasiadau pensiwn technegol nad ydynt yn arian parod na chostau ailstrwythuro sylfaenol untro) o gyfanswm yr incwm.
Yn 2024/25, cofnododd prifysgolion yng Nghymru ddiffyg gweithredu cyfunol o £81 miliwn. Yn 2023/24, £56 miliwn oedd y diffyg hwn. Yn 2022/23, roedd gwarged gweithredu o £40 miliwn.
Data
Ffigurau ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2025 yw ffigurau 2024/25, ac mae data’r blynyddoedd blaenorol yn dilyn yr un patrwm.
Nid yw’r datganiad hwn yn cynnwys data gan y Brifysgol Agored yng Nghymru, gan mai dim ond data ariannol ar sail y DU gyfan y mae’r Brifysgol Agored yn eu cynhyrchu. Mae Prifysgol Cymru (swyddogaethau canolog) wedi cael ei chynnwys yn y datganiad hwn, sy’n golygu ei bod yn bosibl y bydd y ffigurau fymryn yn wahanol i’r adroddiad Cynaliadwyedd ariannol y sector addysg uwch yng Nghymru Medr, nad oedd yn cynnwys Prifysgol Cymru yn ei ffigurau, am nad yw Prifysgol Cymru yn gorff dyfarnu i sefydliadau eraill yng Nghymru ar hyn o bryd ac am fod ganddi weithgarwch cyfyngedig fel endid annibynnol. Nid yw sefydliadau addysg bellach, colegau chweched dosbarth na darparwyr addysg uwch amgen wedi’u cynnwys chwaith.
Mae cofnod cyllid HESA yn caniatáu i ddarparwyr ddiwygio eu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn yn y cyflwyniad dilynol. Mae’r cyhoeddiad hwn yn defnyddio’r ffigurau a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar. Daeth ffigurau 2023/24 o gyflwyniad 2024/25 ac felly mae’n bosibl y byddant yn wahanol i gyhoeddiadau blaenorol. Yr eithriad i hyn yw addasiadau pensiwn nad ydynt yn arian parod sydd wedi’u cynnwys o fewn ‘costau llog a chostau cyllid eraill’, lle nad yw’r cofnod cyllid yn casglu gwerth diwygiedig.
Mae’r data i’w gweld ar wefan Data Agored HESA, sydd hefyd yn cynnwys data ar gyfer darparwyr unigol.
Sta/Medr/09/2026: Cyllid sefydliadau addysg uwch, o fis Awst 2024 i fis Gorffennaf 2025
Ystadegau Medr
Cyfeirnod: Sta/Medr/09/2026
Dyddiad: 19 Mai 2026
Dynodiad: Official Statistics
Crynodeb: Dadansoddiad o incwm a gwariant sefydliadau addysg uwch yng Nghymru o fis Awst 2024 i fis Gorffennaf 2025
Sta/Medr/09/2026 Cyllid sefydliadau addysg uwch, o fis Awst i fis Gorffennaf 2025Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio