This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Sta/Medr/06/2026: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned, Awst 2024 i Orffennaf 2025

Cafodd taflen waith 1.1 yn y tablau cysylltiedig ei diwygio ar 11 Mehefin 2026. Cafodd y data ar gyfer 7 fframwaith prentisiaeth eu rhannu rhwng sawl llinell. Y rheswm dros hyn oedd bod mwy nag un cod adnabod ar gyfer yr un fframwaith ac nid oeddent wedi eu cyfuno yn llawn. Mae’r data wedi cael eu cywiro. Mae’r fframweithiau yr effeithir arnynt wedi cael eu nodi ag [r].
I gefnogi anghenion y sector mae dadansoddiad fesul maes pwnc sector wedi ei ychwanegi (Taflen waith 1.1b).

Prentisiaethau
  • Cynyddodd cyfradd llwyddo prentisiaethau 2 pwynt canran yn 2024/25 i 77%. Mae’n dal yn is na’r gyfradd cyn pandemig Covid-19.
  • Prentisiaethau lefel uwch a ddangosodd yr adferiad cryfaf yn 2024/25.
  • Ymhlith y sectorau mwy, roedd cyfradd lwyddo uwch mewn:
    • Rheoli a phroffesiynol;
    • Gweinyddu busnes;
    • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Yr unig sectorau lle gwelwyd y gyfradd lwyddo’n gostwng oedd:
    • Adeiladu;
    • Peirianneg.
  • Mae’r bwlch yn y gyfradd llwyddo rhwng dysgwyr yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf amddifadus wedi cau i 2 pwynt canran.
  • Roedd y gyfradd lwyddo ar gyfer dysgwyr ag anableddau a/neu anawsterau dysgu 6 phwynt canran yn is na dysgwyr heb anableddau a/neu anawsterau dysgu.
  • Roedd deilliannau gweithgareddau prentisiaethau a gwblhawyd yn ddwyieithog ac yn Saesneg yn debyg.
  • Fe gynyddodd y gyfradd lwyddo ar gyfer grwpiau oedran hŷn, tra bo’r gyfradd lwyddo ar gyfer grwpiau oedran iau wedi aros yn llonydd.

Cyfradd llwyddo prentisiaethau yn ôl blwyddyn academaidd

Ffigur 1: Awst 2015 i Orffennaf 2025

Cyfradd llwyddo prentisiaethau yn ôl blwyddyn academaidd
Dysgu oedolion yn y gymuned
  • Cynyddodd y gyfradd cwblhau ar gyfer gweithgareddau dysgu oedolion yn y gymuned o 95% yn 2023/24 i 96% yn 2024/25.
  • Fe arhosodd y gyfradd lwyddo ar gyfer gweithgareddau dysgu oedolion yn y gymuned asesadwy ar 87% yn 2024/25, y tro cyntaf iddi beidio â chynyddu ar ôl y pandemig.
  • Y sectorau lle gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn cyfraddau llwyddo ar y cyfan oedd:
    • Hanes, Athroniaeth a Diwinyddiaeth;
    • Adeiladu, Cynllunio a’r Amgylchedd Adeiledig.
  • Y sectorau lle gwelwyd y gostyngiad mwyaf mewn cyfraddau llwyddo oedd:
    • Sgiliau Byw’n Annibynnol;
    • o Peirianneg a thechnolegau gweithgynhyrchu.
  • Mewn dysgu a ddarperir gan awdurdodau lleol trwy drefniant breinio gyda sefydliad addysg bellach (AB) y gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y gyfradd lwyddo, er mai dyma oedd y math isaf o ddarpariaeth o hyd.

Cyfradd llwyddo dysgu oedolion yn ôl blwyddyn academaidd

Ffigur 2: Awst 2015 i Orffennaf 2025

Cyfradd llwyddo dysgu oedolion yn ôl blwyddyn academaidd

Sta/Medr/06/2026: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned, Awst 2024 i Orffennaf 2025

Cyfeirnod ystadegau:  Sta/Medr/06/2026

Dyddiad:  18 Mawrth 2026

Dynodiad: Ystadegau Swyddogol

Crynodeb:  Ystadegau ar lwyddiant a chwblhau prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned yn ol lefel astudio, math o nod dysgu, sector, a nodweddion dysgu

Thema:  Prentisiaethau, Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Ffynhonnell: Lifelong Learning Record Wales (LLWR)

Sta/Medr/06/2026 Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned, Awst 2024 i Orffennaf 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio