This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Sta/Medr/05/2026: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2024 – Gorffennaf 2025

Trosolwg

Mae deilliannau ar gyfer addysg uwch yr un fath fwy neu lai â ffigyrau 2023/24, tra bo deilliannau galwedigaethol wedi cynyddu
Ffigur 1.1: Crynodeb o fesurau cyflawniad yn ôl blwyddyn academaidd, rhwng mis Awst 2023 a mis Gorffennaf 2025

Addysg gyffredinol (Safon Uwch)

  • Mae’r graddau a enillwyd yn dal i fod yn uwch na lefelau cyn y pandemig, ond bu lleihad yng nghyfran y dysgwyr a enillodd o leiaf dair A o’i gymharu â 2023/24.
  • Bu lleihad bychan yn y gyfran a gwblhaodd Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a chynnydd bach yng nghyfran y dysgwyr a aeth ymlaen i’w hail flwyddyn Safon uwch yn 2024/25.
  • Roedd gan ddysgwyr benywaidd ddeilliannau gwell na dysgwyr gwrywaidd mewn rhaglenni addysg gyffredinol, heblaw am ddysgwyr a enillodd dair A*.
  • Aeth 52% o’r dysgwyr benywaidd a wnaeth UG ymlaen i ennill o leiaf tair C mewn Safon Uwch, o’i gymharu â 40% o ddysgwyr gwrywaidd.
  • Aeth 48% o ddysgwyr UG 16 oed ymlaen i ennill o leiaf tair C mewn Safon Uwch, o’i gymharu â 24% o ddysgwyr hŷn.  
  • Roedd dysgwyr o gefndiroedd amddifadus yn llai tebygol o gwblhau eu Safon Uwch ac yn llai tebygol o gael graddau uchel os oeddent yn gwneud.
  • Roedd dysgwyr o Grwpiau Ethnig Eraill yn fwy tebygol o ennill o leiaf dri chymhwyster Safon Uwch yn 2024/25. Grwpiau Ethnig Lluosog, Cymysg oedd yr unig grŵp ethnig lle gwelwyd cynnydd yn y gyfran a enillodd o leiaf dri chymhwyster Safon Uwch o’i gymharu â 2023/24.

Addysg alwedigaethol

  • Fe wellodd deilliannau galwedigaethol ar bob lefel rhaglen yn 2024/25, ac eithrio ar gyfer Lefel Mynediad sydd wedi gostwng.
  • Mae’r deilliannau galwedigaethol ar Lefelau 1 i 3 bellach yr un fath â’r ffigyrau cyn y pandemig neu’n uwch na hwy.
  • Mae cyfraddau llwyddo ar gyfer cyrsiau a wnaed fel rhan o raglenni Cyfrif Dysgu Personol yn amrywio yn ôl maes sector pwnc, o 97% mewn Manwerthu a Menter Fasnachol i 47% mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.
  • Bu cynnydd bach mewn dysgwyr na wnaethant gwblhau eu rhaglen oherwydd eu bod ‘Wedi mynd i gyflogaeth’ ac oherwydd ‘Rhesymau ariannol’ yn 2024/25.
  • Roedd gan ddysgwyr galwedigaethol a oedd yn gysylltiedig â phrofiadau o amddifadedd ddeilliannau is na’r rhai nad oeddent yn gysylltiedig â’r profiadau hynny, ond roedd y berthynas yn llai cryf nag mewn addysg gyffredinol.

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

  • Cyflawnodd dysgwyr a astudiodd raglenni addysg gyffredinol ddeilliannau uwch ym Magloriaeth Sgiliau Cymru Uwch na dysgwyr a astudiodd raglenni galwedigaethol.

Sta/Medr/05/2026: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2024 – Gorffennaf 2025

Cyfeirnod yr ystadegau: Sta/Medr/05/2026

Dyddiad: 10 Mawrth 2026

Crynodeb:  Deilliannau ar gyfer addysg gyffredinol, addysg alwedigaethol a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch mewn lleoliadau chweched dosbarth a cholegau.

Thema:  Addysg uwch, chweched dosbarth

Ffynhonnell:   Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR), Casgliad data ôl-16, Cronfa Ddata Arholiadau Cymru (WED)

Sta/Medr/05/2026 Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2024 – Gorffennaf 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio