This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Jayne Woods

Aelod y Bwrdd

Aelod y Bwrdd

Mae Jayne Woods yn gymrawd y Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr, a chanddi ddeng mlynedd ar hugain o brofiad fel gweithiwr cyllid proffesiynol. Mae hi wedi gwasanaethu ar fyrddau gweithredol ers dros ddeng mlynedd, gan ganolbwyntio ar gyllid, risg, llywodraethu ac effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithredol.  

Treuliodd Jayne 8 mlynedd fel archwilydd ac ymgynghorydd gyda Deloitte cyn symud ymlaen i ddal nifer o uwch rolau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Ar hyn o bryd mae hi’n aelod o bwyllgorau archwilio Comisiynydd y Gymraeg ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae hi wedi gwasanaethu’n flaenorol fel aelod o fwrdd Cymwysterau Cymru, llywodraethwr mewn Coleg Addysg Bellach yng Nghymru ac fel aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Archwilio a Risg mewn prifysgol yng Nghymru.

Mae Jayne yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn byw gyda’i theulu yng Nghaerfyrddin.