Gweithio gyda ni

Rydym yn corff hyd braich newydd Llywodraeth Cymru, yn cyllido, rheoleiddio a goruchwylio: addysg bellach, gan gynnwys colegau a’r chweched dosbarth mewn ysgolion, addysg uwch gan gynnwys ymchwil ac arloesi, addysg oedolion a dysgu oedolion yn y gymuned, a phrentisiaethau a hyfforddiant. 

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i alluogi system addysg ac ymchwil drydyddol sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cymdeithas, a’r economi; gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltu’n greiddiol iddi.  

Ein gwerthoedd

Dysgu – mae dysgu’n greiddiol i bopeth a wnawn. Rydym yn credu bod chwilfrydedd yn hybu arloesi ac yn helpu i ehangu ein gorwelion.

Cydweithio – gallwn gyflawni llawer mwy gyda’n gilydd nag y gallem fyth ei wneud ar ein pen ein hunain.

Cynnwys pawb – rydym yn frwd dros gynhwysiant, gan geisio creu’r amodau cywir i bawb gyflawni eu llawn botensial.

Rhagori – mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru ac rydym felly’n gosod safonau uchel i ni ein hunain er mwyn bod ar ein gorau.

Ochr yn ochr â’ch cyflog, mae Medr yn cyfrannu’n hael at eich pensiwn gwasanaeth sifil.

Rydym hefyd yn darparu:

  • 33 diwrnod o wyliau y flwyddyn (pro rata). 
  • Amgylchedd sy’n hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys amser llesiant bob wythnos. 
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith i wneud perchnogaeth ar feic yn fwy fforddiadwy. 

Gwyddom y gallwch weithiau wynebu heriau neu ddigwyddiadau mewn bywyd sy’n golygu bod angen cymorth ychwanegol arnoch. 

  • Rydym yn darparu rhaglen cymorth-i-gyflogeion gynhwysfawr gyda mynediad o bell at adnoddau a chymorth yn y cnawd pryd bynnag y bo angen hynny.
  • Mae gennym bolisi absenoldeb arbennig sy’n sicrhau bod pawb yn y sefydliad yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt yn ystod cyfnodau anodd. 
  • Mae ein pwyllgor chwaraeon, cymdeithasol a llesiant gweithgar yn cynnig ystod o weithgareddau i ddod ynghyd y tu allan i’r lleoliad gwaith.   
  • Bydd gennych hawl i gymryd 5 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn i wneud gwaith gwirfoddol i gefnogi ein cymunedau.
  • Unwaith y cynigir swydd i chi, byddwn yn dod i’ch adnabod ac yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun cynefino wedi’i bersonoli sy’n ystyried eich profiad, eich sgiliau, eich arddull dysgu a’ch gwybodaeth.
  • Byddwn yn eich helpu i lunio eich cynlluniau datblygu â sgyrsiau ac amcanion gyrfaol wedi’u personoli, gan ystyried nodau cyflawni ochr yn ochr â’ch dyheadau gyrfaol.
  • Rydym yn cynorthwyo ein holl staff i ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg.

Mae gennym ddiddordeb go iawn ynoch chi fel unigolyn a’r hyn y byddwch chi’n ei gynnig i’n sefydliad. Mae ein proses asesu gyfunol wedi’i bwriadu i’n helpu ni i ddod i’ch adnabod chi’n well gan ein galluogi i benodi rhywun a fydd yn ffynnu yn y rôl ac sy’n rhannu ein gwerthoedd ni fel sefydliad.

Rydym yn ymdrechu i greu gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym eisiau eich helpu i ddangos eich potensial llawn beth bynnag fo’r dull asesu a ddefnyddir. Byddwn yn hapus i drafod unrhyw addasiadau i’r broses recriwtio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Cysylltwch â [email protected].

Uwch Reolwr Polisi Cyllido

Rydym yn edrych am Uwch Reolwr Polisi Cyllido a fydd i ymuno â’r tîm gyfrifol am fuddsoddi a monitro cyllideb o fwy na £972m, a ddyrennir er mwyn darparu addysg mewn colegau addysg bellach, chweched dosbarth awdurdodau lleol a darparwyr dysgu yn y gymuned a phrentisiaethau; yn ogystal â chyllido a monitro ffrydiau cyllido addysg uwch eraill ar gyfer addysgu, ymchwil ac arloesi.

Cyflog: £47,519 – £55,019 y flwyddyn

Sesiwn wybodaeth: 13:30, Dydd Llun 06 Hydref (ar-lein)

Dyddiad cau: Dydd Sul, 19 Hydref 2025

Mwy

Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio a Dadansoddi

Rydym am benodi Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio a Dadansoddi i ymuno â’i dîm arweinyddiaeth uwch.

Bydd y rôl yn goruchwylio holl swyddogaethau rheoleiddio Medr, gan ddefnyddio sgiliau arwain pobl i adeiladu perthnasau cryf gyda chydweithwyr, i ddatblygu dull y sefydliad o fonitro cydymffurfiad, ac i sefydlu data fydd yn llywio cynllunio a sut mae’r sefydliad yn gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.

Os ydych chi’n arweinydd strategol, sy’n canolbwyntio ar bobl, gyda phrofiad mewn datblygiad sefydliadol, llywodraethu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, cysylltwch â’r arbenigwyr chwilio gweithredol Goodson Thomas i ddysgu mwy.

Cyflog: £100k

Dyddiad cau: 12:00 canol dydd, 15 Hydref 2025

Asesiadau: w/d 03 Tachwedd 2025

Cyfweliadau Panel Terfynol: w/d 10 Tachwedd 2025

Uwch Reolwr Cymorth i Ddysgwyr

Mae’r tîm Buddsoddi a Monitro yn gyfrifol am fuddsoddi a monitro cyllideb o fwy na £972 miliwn, y mae £16.74 miliwm ohoni ar gyfer Cymorth Dysgu Ychwanegol. 

Mae’r rôl hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb i arwain rheolaeth a datblygiad y gronfa Wrth Gefn Ariannol a chyllid Urddas Mislif, y naill â chyllideb o £6.7 miliwn a’r llall â chyllideb o £0.5 miliwn. Bydd y rôl hon yn cynnwys monitro’r rhaglen Sgiliau Byw’n Annibynnol a’r Grant Cymorth Dysgu Ychwanegol ar gyfer Colegau Addysg Bellach.

Cyflog: £47,519 – £55,019 y flwyddyn

Sesiwn wybodaeth: 13:30, Dydd Llun, 06 Hydref (ar-lein)

Dyddiad cau: Dydd Mercher, 15 Hydref 2025

Mwy

Swyddog Ymgysylltu â Dysgwyr

Fel aelod pwysig o’r Tîm Ymgysylltu â Dysgwyr a’r Gweithlu, byddwch yn helpu i ddatblygu dull cynhwysfawr o ymgysylltu â dysgwyr ar draws y sector addysg drydyddol sy’n sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynnwys yn llawn mewn prosesau penderfynu.

Byddwch yn ymgysylltu â darparwyr a dysgwyr addysg drydyddol a rhanddeiliaid o fewn y sector i gefnogi gwaith i fonitro cydymffurfiaeth y sector â’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gofynion yn gysylltiedig â chwynion. Byddwch yn dadansoddi data a gwybodaeth er mwyn casglu themâu allweddol a llywio gwaith monitro a rheoleiddio darparwyr trydyddol.

Cyflog: £29,856 – £35,439 y flwyddyn

Sesiwn wybodaeth: Dydd Iau, 02 Hydref 11:00 (ar-lein)

Dyddiad cau: Dydd Llun, 13 Hydref 2025

Mwy

Rheolwr Buddsoddi a Monitro

Byddwch yn gweithio ar y polisi cyllido ac ar weithredu a monitro ffrydiau cyllido strategol sy’n ategu cyllid prif ffrwd.  Ar hyn o bryd mae hyn yn cynnwys Cyllid Pontio Ôl-16, Cyllid Adferiad a Chynnydd Dysgwyr a Phrentisiaethau Iau, ond bydd yn cael ei ehangu i gynnwys cyllid arall strategol ar draws y sector Trydyddol.

Cyflog: £38,030 – £44,571 y flwyddyn

Sesiwn wybodaeth: 13:00, Dydd Mawrth 30 Medi (ar-lein)

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 07 Hydref 2025

Mwy

Uwch Reolwr Caffael

Rydym yn edrych am Uwch Reolwr Caffael a fydd yn darparu gwasanaeth caffael proffesiynol o ansawdd uchel, gan sicrhau’r gwerth gorau am yr arian cyhoeddus a roddir yn ein gofal.
Drwy gydweithio’n agos â chydweithwyr ym mhob rhan o Medr, byddwch yn darparu atebion caffael er mwyn galluogi pawb i gyflawni ein hamcanion yn llwyddiannus a chyfrannu at ddatblygu sector addysg drydyddol ac ymchwil cryf yng Nghymru.

Gan reoli’r broses gaffael, byddwch yn sicrhau bod Medr yn cydymffurfio â’r holl reoliadau caffael cyfredol a newydd yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Cyflog: £47,519 – £55,019 y flwyddyn

Sesiwn wybodaeth: 14.30, Dydd Mercher 24 Medi (ar-lein)

Dyddiad cau: Dydd Sul, 05 Hydref 2025

Mwy

Prif Swyddog Gweithredu

Ydych chi’n barod i helpu i lunio dyfodol addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru?

Rydym chwilio am Brif Swyddog Gweithredu i ymuno â’n uwch dîm arwain.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr i arwain rhagoriaeth weithredol, hyrwyddo newid trawsnewidiol, a meithrin diwylliant cynhwysol sy’n perfformio’n uchel.

Os ydych chi’n arweinydd strategol, sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n gallu help Medr i gyflawni ei nodau ar gyfer dysgwyr, cysylltwch â’r arbenigwyr chwilio gweithredol Goodson Thomas i ddysgu mwy.

Cyflog: £100k

Dyddiad cau: 12.00, 29 Medi 2025

Asesiadau: w/d 13 Hydref 2025

Cyfweliadau Panel Terfynol: w/d 20 Hydref 2025

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio