James Davies
Aelod y Bwrdd
Ym mis Ebrill 2017, daeth James Davies yn Brif Weithredwr Diwydiant Cymru (corff hyd braich i Lywodraeth Cymru), er mwyn cyflwyno llais y diwydiant technoleg, peirianneg a gweithgynhyrchu i Lywodraeth Cymru a Rhanddeiliaid y DU, gan gynnwys pob sector.
Mae Diwydiant Cymru hefyd yn gyfrifol am bedwar fforwm yn y sector Diwydiant: TechnologyConnnected, Fforwm Awyrofod Cymru, Fforwm Modurol Cymru a Diwydiant Sero Net Cymru, sy’n gyfrifol am ddatgarboneiddio diwydiant.
Cyn hynny bu James yn gweithio am 32 mlynedd yn CalsonicKansei (cyflenwr Moduro mawr) yn y DU, Ewrop a Japan, gan arwain eu Hadran Rheoli Thermol ($2.5bn).
Mae James yn aelod o’r Bwrdd Cynghori Gweinidogol ar yr Economi, a hefyd wedi cwblhau tymhorau ar Dasglu’r Cymoedd a Chomisiwn Lord Burns a Thrafnidiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWTC).
Roedd James yn aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) rhwng 2018 a 2024, ac mae’n aelod o Fwrdd Strategaeth Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe; Grŵp Cynghori Strategol y Cymoedd Technoleg; a Phartneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd; ac mae’n Aelod o Fwrdd Arloesi Anadlol Cymru.
Ganed James ym Mhenrhyn Gŵyr a graddio o Brifysgol Abertawe (Mech Eng).