This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Gwenllian Lansdown Davies

Aelod y Bwrdd

Gwenllian Lansdown Davies
Aelod y Bwrdd

Dr Gwenllian Lansdown Davies yw Prif Weithredwr Dysgu, corff dysgu ac arwain proffesiynol o fewn y sector addysg.

O 2014 tan 2025, Gwenllian oedd Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin, sefydliad gwirfoddol a’r prif gorff sy’n darparu ac yn galluogi gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector gwirfoddol.

Yn 2011, fe’i penodwyd yn Swyddog Cyhoeddiadau i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth lle bu hefyd yn gyfrifol am ei gyfnodolyn ymchwil y Coleg, ‘Gwerddon’.

Ar ôl cael ei hethol i gynrychioli Glan-yr-afon ar Gyngor Sir Caerdydd yn 2004, bu’n gweithio fel Rheolwr Swyddfa i Leanne Wood AS yn y Rhondda cyn cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Plaid Cymru yn 2007.

Astudiodd Gwenllian Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen a bu’n byw am gyfnod yn Galicia a Brwsel cyn cwblhau MScEcon a doethuriaeth mewn Theori Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd lle bu hefyd yn addysgu.

Mae Gwenllian yn Ymddiriedolwr gyda Chronfa’r Loteri Genedlaethol yng Nghymru ac yn gwirfoddoli yn ei Chylch Meithrin lleol fel yr Unigolyn Cyfrifol ar y pwyllgor.

Mae hi’n hanu o Fangor ond bellach yn byw gyda’i gŵr a phedwar o blant yn Llanerfyl, Powys.