This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Deio Owen

Deio Owen
Aelod cyswllt o’r Bwrdd, cynrychiolydd dysgwyr addysg drydyddol

Daw Deio Owen yn wreiddiol o Bwllheli, Pen Llŷn, ble roedd yn Lywydd Undeb Myfyrwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai tra’n astudio ei lefelau A.

Mynychodd Brifysgol Caerdydd gan astudio BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth cyn mynd yn ei flaen i for yr Is Lywydd Iaith, Diwylliant a Chymuned Cymru llawn amser cyntaf Undeb Myfyrwyr y Brifysgol. Ef bellach yw Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wedi iddo gael ei ethol fis Mawrth 2024 gan gychwyn yn y rôl fis Gorffennaf 2024.

Ar hyn o bryd mae Deio yn dilyn prentisiaeth lefel 4 ochr yn ochr â’i waith.

Y tu allan i’w waith, mae Deio hefyd yn un o ymddiriedolwyr Urdd Gobaith Cymru. Mae hefyd yn aelod o gôr a grŵp dawnsio gwerin.

Mae’n siaradwr Cymraeg yn rhugl.