This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Sta/Medr/07/2026: Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch: 2024/25

Mae Medr yn bwriadu ystyried a ellid ymgorffori’r cyhoeddiad hwn yn ein cyhoeddiadau Myfyrwyr mewn addysg uwch a Staff mewn sefydliadau addysg uwch gan fod llawer o orgyffwrdd rhwng y dogfennau. Rydym yn bwriadu siarad â defnyddwyr i ddeall a ellir gwneud hyn heb effeithio ar y defnydd o’r ystadegau, gan wneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau.

Os hoffech chi fynegi eich barn ar hyn ac egluro sut rydych yn defnyddio’r cyhoeddiad hwn, cysylltwch â ni yn [email protected] erbyn 29 Mai 2026.

Myfyrwyr

Mae myfyrwyr yn cael eu cyfrif fesul ymrestriad, felly os yw myfyriwr wedi ymrestru ar sawl cwrs mewn blwyddyn academaidd bydd yn cael ei gyfrif sawl gwaith. Mae’r data’n cynnwys ymrestriadau ym mhob darparydd yng Nghymru sy’n cyflwyno data i gofnod myfyrwyr HESA. Mae hyn yn cynnwys darparwyr sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol ar gyfer darpariaeth addysg uwch gan Medr a darparwyr yng Nghymru sy’n dychwelyd data i HESA am gyrsiau wedi’u dynodi’n benodol.

  • Cynyddodd cyfran yr ymrestriadau gan fyfyrwyr ag anabledd yn gyson o 14% yn 2018/19 i 22% yn 2024/25.
  • Cynyddodd cyfran yr ymrestriadau gan fyfyrwyr o’r DU o gefndir lleiafrifol ethnig o 12% yn 2018/19 i 17% yn 2022/23.
  • Myfyrwyr benywaidd oedd y rhan fwyaf o’r ymrestriadau. Myfyrwyr benywaidd fu 57% o’r ymrestriadau bob blwyddyn ers 2022/23.
Staff

Mae’r data am staff yn ymwneud â staff yn yr wyth prifysgol yng Nghymru sy’n cyflwyno data i gofnod staff HESA. Nid yw’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi’i chynnwys gan fod y data a gesglir am staff y Brifysgol Agored yn cynnwys yr holl Deyrnas Unedig, ac nid Cymru yn benodol.

Cyfrifir niferoedd staff drwy ddefnyddio nifer cyfwerth â pherson llawn ar gyfer staff ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn adrodd, er enghraifft 1 Rhagfyr 2024 ar gyfer 2024/25. Nid yw staff ar gontractau annodweddiadol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn gan na ellir eu cymharu â’r rhai ar fathau eraill o gontractau.

  • O 2018/19 i 2024/25, cynyddodd cyfran y staff oedd ag anabledd yn gyson.
    • Ar gyfer staff academaidd cynyddodd y gyfran o 5% yn 2018/19 i 8% yn 2024/25.
    • Ar gyfer staff anacademaidd, cynyddodd y gyfran o 7% yn 2018/19 i 11% yn 2024/25.
  • O 2018/19 i 2024/25, cynyddodd cyfran y staff o gefndir lleiafrifol ethnig.
    • Ar gyfer staff academaidd, cynyddodd y gyfran o 12% yn 2018/19 i 20% yn 2024/25.
    • Ar gyfer staff anacademaidd, cynyddodd y gyfran o 5% yn 2018/19 i 7% yn 2024/25.
  • Yn y gorffennol, mae mwyafrif y staff academaidd wedi bod yn ddynion. Yn 2024/25 roedd ychydig mwy eto o staff academaidd yn ddynion (5,560 aelod o staff) na menywod (5,495), ond roedd y naill a’r llall i gyfrif am 50%. Mewn cymhariaeth â hyn, roedd 53% o staff academaidd yn ddynion yn 2018/19.
  • Roedd mwyafrif y staff anacademaidd yn fenywod. Roedd 63% o staff anacademaidd yn fenywod yn 2024/25, sy’n debyg i’r blynyddoedd cynt.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad llawn ac ar y dangosfwrdd Power BI atodol.

Sta/Medr/07/2026: Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch: 2024/25

Cyfeirnod: Sta/Medr/07/2026

Dyddiad:  24 Mawrth 2026

Crynodeb:  Ystadegau ar nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru o flwyddyn academaidd 2018/19 i flwyddyn academaidd 2024/25

Thema:  Addysg uwch

Ffynhonnell:  Cofnodion Myfyrwyr a Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)

Sta/Medr/07/2026 Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch: 2024/25

Dogfennau eraill

Dangosfwrdd Power BI

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio