This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2026/03: Cronfa Datblygu Strategol Ôl-16 – ceisiadau llwyddiannus

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu’r ceisiadau llwyddiannus am gyllid o’r Gronfa Datblygu Strategol Ôl-16.

2. Mae £4.75 miliwn ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 a chawsom 48 o geisiadau a oedd yn werth cyfanswm o fwy na £14 miliwn.

3. Cyfanswm gwerth y ceisiadau llwyddiannus yw £4.92 miliwn a’r rhagdybiaeth yw y ceir tanwariant o’r 12 cais llwyddiannus. Mae Bwrdd Medr wedi cymeradwyo risg o £177k.

Cefndir

4. Diben y cyllid hwn yw annog mwy o gydweithio yn y sector addysg drydyddol. Mae’r broses gwneud cais wedi galluogi Medr i gasglu rhagor o wybodaeth am yr angen am fuddsoddi strategol ym mhob rhan o’r sector.

5. Roedd y Gronfa yn chwilio am geisiadau i fyddai’n mynd i’r afael â’r canlynol:

  • Cydweithio – prosiectau sy’n dangos cydweithio ym mhob rhan o’r sector addysg drydyddol rhwng o leiaf ddau sefydliad.
  • Newydd – prosiectau sy’n cynnwys gweithgarwch newydd ac nad yw’r un rhan ohonynt wedi dechrau’n barod.
  • Strategol – prosiectau sy’n gysylltiedig ag uchelgeisiau strategol Medr.

Ceisiadau a ddaeth i law

6. Nodwyd yn y cyhoeddiad gwreiddiol ei bod yn rhaid i’r partner arweiniol sy’n cyflwyno’r cais fod yn brifysgol, yn sefydliadau addysg bellach, yn awdurdod lleol neu’n ddarparwr prentisiaethau a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr. Gall sefydliadau eraill sy’n gweithio yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru gael eu cynnwys fel partneriaid cydweithredol. O’r 48 o geisiadau a ddaeth i law, cawsom geisiadau gan bartneriaid arweiniol o bob rhan o’r sector addysg drydyddol a oedd yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau partner, megis cyflogwyr, undebau llafur a phartneriaethau sgiliau rhanbarthol.

7. Sefydlodd Medr banel i sgorio’r ceisiadau. Gwnaeth y system sgorio ystyried sut y byddai’r prosiectau’n mynd i’r afael â’r elfennau canlynol:

  1. Cydweithio rhwng darparwyr,
  2. Torri tir newydd,
  3. Nodau strategol Medr,
  4. Strwythurau llywodraethu,
  5. Tystiolaeth o angen,
  6. Amserlenni arfaethedig,
  7. Cynnwys dysgwyr ac undebau llafur,
  8. Costau arfaethedig,
  9. Deilliannau a phethau i’w cyflawni,
  10. Cynaliadwyedd.

Ceisiadau llwyddiannus

8. Mae’r ceisiadau llwyddiannus fel a ganlyn:

Sefydliad arweiniolPartneriaidProsiectSwm y cais
Coleg CambriaPrifysgol WrecsamHyb Sgiliau Uwch Partneriaeth Sgiliau Gogledd-ddwyrain Cymru – Bwriedir i’r Hyb Sgiliau Uwch sicrhau cyflenwad sgiliau integredig o ddarpariaeth cyrsiau byr a fydd yn amrywio o hyfforddiant galwedigaethol Lefel 2 i gymwysterau ôl-raddedig Lefel 7, gan ganolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â phrinder sgiliau rhanbarthol difrifol mewn meysydd fel technolegau digidol, sgiliau gwyrdd a thechnolegau sy’n datblygu, yn ogystal â gweithgynhyrchu uwch ochr yn ochr â gofynion sgiliau’r sector cyhoeddus a diwydiant yn ehangach.£257,100
Grŵp Colegau NPTCColeg Sir Gâr, Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Sir Benfro, partneriaid ym maes dysgu seiliedig ar waith ac mewn diwydiantPartneriaeth y Porthladd Rhydd Celtaidd: Trawsnewid y Cwricwlwm yn Rhanbarthol ar gyfer Ynni Glân – Mae’r cais hwn yn cynnig prosiect cydweithredol i drawsnewid y cwricwlwm a fydd yn cynnwys pedwar coleg addysg bellach ac a gaiff ei gydgysylltu gan Gyfarwyddwr Sgiliau’r Porthladd Rhydd.£550,000
Cyngor CaerdyddColeg Caerdydd a’r Fro, Coleg Catholig Dewi Sant a Chyngor Bro MorgannwgDatgloi Potensial Ôl-16: Sicrhau Mynediad Teg drwy Ddarpariaeth Gydweithredol Ledled Caerdydd a’r Fro – Bydd y prosiect hwn yn datblygu cynnig addysg ôl-16 unedig drwy gyflawni ar y cyd gan nifer o bartneriaid yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.£566,000
Prifysgol Metropolitan CaerdyddColeg Penybont ac ALS TrainingLlwybrau Addysg Drydyddol Hyblyg ar gyfer Uwchsgilio ac Ailsgilio Dysgwyr yng Nghymru – Bydd y prosiect hwn yn sefydlu consortiwm addysg drydyddol dan arweiniad Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn partneriaeth â Choleg Penybont ac ALS Training i dreialu’r gwaith o gyflwyno microgymwysterau pentyradwy ar Lefel 4 a Lefel 5 ar gyfer y diwydiant technoleg ariannol a’r diwydiannau creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ei nod fydd atgyfnerthu gallu’r system addysg drydyddol i ymateb yn hyblyg i ofynion diwydiant a dysgwyr, gan sicrhau y gall dysgwyr o bob oed fanteisio ar gyfleoedd perthnasol o ansawdd da i ddatblygu sgiliau gan ddefnyddio modiwlau gradd-brentisiaethau a modiwlau annibynnol sydd eisoes yn bodoli. £151,572
Prifysgol De CymruColeg Penybont, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Gwent, Y Coleg Merthyr Tudful a Chynghrair Sgrin CymruSgiliau’r Dyfodol: Mynd i’r Afael â Bylchau o ran Sgiliau a Phrinder Llafur mewn Meysydd Cyflogaeth Allweddol – Mae prosiect Sgiliau’r Dyfodol, sef prosiect cydweithredol newydd a fydd yn cynnwys chwe sefydliad a nifer o asiantaethau, yn cynnig dull cydlynol ac integredig o ennyn diddordeb darpar ddysgwyr mewn pynciau â phrinder a meysydd cyflogaeth sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau ymchwil ac arloesi ac yn eu hategu.£595,000
Prifysgol WrecsamPrifysgol Bangor, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo MenaiLlwybrau Llwyddiant – Mae’r prosiect newydd hwn yn cynnig y gallu i dyfu yn unol â’r anghenion, gan wella cyfraddau cyfranogiad a chynnydd dysgwyr mewn addysg bellach ac addysg uwch drwy hyrwyddo gyrfaoedd a chyfleoedd addysgol i ddysgwyr.£803,511
Coleg Catholig Dewi SantArchesgobaeth Caerdydd-Mynyw a Gwasanaeth Addysg yr Eglwys GatholigY Coleg Catholig Cenedlaethol (enw gweithredol) – Bydd y prosiect arfaethedig yn ffurfioli strwythur y Coleg Cenedlaethol fel rhwydwaith cydweithredol o ddarparwyr addysg ôl-16 Gatholig, dan arweiniad Coleg Dewi Sant, ac yn ehangu mynediad at sefydliadau nad ydynt yn Gatholig a sefydliadau gwledig, yn enwedig y rhai â dewis neu leoedd cyfyngedig o ran cymwysterau Safon Uwch. Bydd yn atgyfnerthu prosesau sicrhau ansawdd ym mhob rhan o ddarpariaeth addysg ôl-16 Gatholig drwy ddysgu proffesiynol a rennir, adolygu gan gymheiriaid, a chynllunio’r cwricwlwm ar y cyd. Bydd hyn yn cynnwys creu fframwaith sicrhau ansawdd trosfwaol a fydd yn canolbwyntio ar safonau academaidd a chysoni’r dull strategol hwn â thegwch, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a chynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd y prosiect yn datblygu addysgeg ar-lein arbennig a fydd yn helpu athrawon i gynnal gweithgareddau dysgu digidol o ansawdd da.£225,000
Coleg Gŵyr AbertaweColeg Sir Benfro, Coleg Gwent, Stable a MicrosoftY Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Sgiliau Digidol – Bydd y prosiect yn hyfforddi 15 o aelodau o staff addysgu gwahanol bartneriaid i gyflwyno cymwysterau technoleg ddigidol a gydnabyddir gan ddiwydiant.  Y bwriad yw gwreiddio modiwlau newydd wedi’u hardystio gan Microsoft mewn tri o feysydd y cwricwlwm erbyn mis Gorffennaf 2026. Bydd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Sgiliau Digidol yn datblygu ac yn cynnal hyb cydweithio digidol byw. Bydd hyn yn helpu i wella setiau sgiliau addysgu a chyflwyno’r cwricwlwm er mwyn bodloni’r gofynion o fewn swyddi a hwylusir gan dechnoleg a’r gofynion mewn diwydiant, a hwyluso partneriaethau cryfach â chyflogwyr mewn diwydiannau ledled Cymru. £310,324
Y Brifysgol Agored yng NghymruY Brifysgol Agored yng Nghymru, Y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cymdeithas Dai Trivallis, Addysg Oedolion Cymru, ALS Training Ltd, Prifysgol De Cymru, TUC CymruLlwybrau – Gan ddefnyddio model gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar gyd-ddylunio llwybr ehangu cyfranogiad sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, a’i nod fydd dangos effeithiolrwydd model asesu ac atgyfeirio a fydd yn gallu tyfu’n unol â’r anghenion ac a fydd yn canolbwyntio ar y dysgwr. £359,850
Coleg GwentY Brifysgol AgoredGain4Growth Cymru: Grymuso Dysgwyr, Gwella Deilliannau – Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar brosiect llwyddiannus gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar arferion gorau ym maes arloesi, ac mae’n ceisio cyllid i wella a threialu rhaglen gydweithredol ar gyfer Cymru gyfan i wella cynnydd addysgol, cymorth academaidd a gwaith datblygu sgiliau ar gyfer myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar raglenni gradd a gyflwynir mewn amgylcheddau addysg uwch mewn colegau. Bydd yn creu systemau cymorth cydgysylltiedig, adnoddau a rennir, a chyfleoedd i ddarparwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd a fydd yn mynd y tu hwnt i ddarpariaeth safonol, gan sicrhau y bydd dysgwyr mewn amgylcheddau addysg uwch mewn colegau yn cael mynediad teg at gyfleoedd cyfoethogi academaidd, cymorth i fod yn barod ar gyfer gyrfaoedd, a llwybrau datblygu personol.£201,600
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon TafNifer o Ysgolion yng NghymruCyfleoedd+, Arweinyddiaeth Strategol ar gyfer Addysg Ôl-16 Cyfrwng Cymraeg ledled Ardaloedd Cynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr – Bydd y prosiect yn gwella arweinyddiaeth strategol ym maes addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg ac yn gwella dewis a phrofiad i ddysgwyr yn fawr. Bydd yn meithrin gallu a chynaliadwyedd drwy fynd ati mewn modd strategol a chydweithredol i sicrhau a lledaenu ymarfer effeithiol ac effeithlon a dysgu proffesiynol wedi’i dargedu. Bydd y prosiect yn datblygu modelau cwricwlwm ôl-16 hybrid o ansawdd da a fydd yn gallu tyfu yn unol â’r anghenion ac a fydd yn ymatebol i ofynion a dewis dysgwyr, ac yn atgyfnerthu llwybrau dilyniant, gan gysoni ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, a diwydiant.£375,000
Mae cais 12 wedi’i gymeradwyo ond yn ddibynnol ar wiriadau pellach. £530,000
£4,924,957

9. Mae’r ceisiadau llwyddiannus yn werth cyfanswm o £4.92 miliwn.

Monitro

10. Bydd yn ofynnol cwblhau adroddiad prosiect interim hanner ffordd drwy bob prosiect ac adroddiad prosiect terfynol ar y diwedd, gan ddefnyddio’r templedi yn Atodiadau A a B.

11. Un o’r amodau cyllido yw bod disgwyl i wersi a ddysgir o brosiectau gael eu rhannu. O’r gwaith monitro a nodir yn Atodiadau A a B, byddwn yn canfod gwersi a ddysgwyd ac yn eu rhannu drwy’r rhwydwaith cyfan. Yn ychwanegol at hynny, byddem yn croesawu ceisiadau ar gyfer prosiectau sy’n nodi sut y byddech yn lledaenu’r gwersi a ddysgir gennych.

Amserlen

12. Amserlen ar gyfer y prosiectau:

Taliad60%: 20 Chwefror 2026
40%: 20 Ebrill 2026
Yr holl gyllid wedi’i ymrwymo31 Awst 2026
Ffurflen werthuso hanner ffordd01 Mai 2026
Ffurflen werthuso derfynol01 Tachwedd 2026

Rhagor o wybodaeth

13. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

Medr/2026/03: Cronfa Datblygu Strategol Ôl-16 – ceisiadau llwyddiannus

Dyddiad:  30 Ionawr 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/03

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol; Deiliaid contractau prentisiaeth wedi’u comisiynu

Ymatebwch erbyn:  Adroddiad interim (Atodiad A): 01 Mai 2026; Adroddiad terfynol (Atodiad B): 01 Tachwedd 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu’r ceisiadau llwyddiannus am gyllid o’r Gronfa Datblygu Strategol Ôl-16.

Mae £4.75 miliwn ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 a chawsom 48 o geisiadau a oedd yn werth cyfanswm o fwy na £14 miliwn.

Medr/2026/03 Cronfa Datblygu Strategol Ôl-16 – ceisiadau llwyddiannus

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio