Cyhoeddiadau
Medr/2025/22: Canllawiau ar gynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth a chyhoeddiad am gyllid ar gyfer colegau
07 Oct 2025
Canllawiau Cryno: Cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth
Er cysondeb a pharhad, mae’r Canllawiau ar Gynlluniau Gweithredu Gwrth-hiliaeth Addysg Bellach wedi’u llywio gan ganllawiau cyllid blaenorol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys cyfeiriadau uniongyrchol i ganllawiau gwrth-hiliaeth blaenorol. Fe’u datblygwyd ymhellach gan Medr i roi ystyriaeth i’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (CGCW) a diweddariad 2024 gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn croesawu cyfraniad parhaus colegau at y gwaith hwn drwy eu hymrwymiad i’r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Yn unol â’n gwerthoedd, rydym am gydweithio â’r sector er mwyn helpu i fodloni gofynion y canllawiau hyn. Gallwch gysylltu â’r tîm yn [email protected].
Er mwyn sicrhau sefydlogrwydd i golegau, ac wrth inni weithio gyda cholegau ar eu cyfraniad ar y cyd at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: Diweddariad 2024 gan Lywodraeth Cymru, rydym yn dyrannu £21k o gyllid i bob coleg, am gyfnod o un mis ar bymtheg o fis Ebrill 2025 i fis Gorffennaf 2026. O 2026/27 ymlaen, bydd y cyllid yn dychwelyd i gyfnod cyllido blwyddyn academaidd o ddeuddeg mis. Yn 2025/26 rydym hefyd yn dyrannu £4k ychwanegol, ar gyfer y cyfnod rhwng Awst 2025 a Gorffennaf 2026, er mwyn galluogi colegau i fwrw ymlaen â gweithgarwch ychwanegol. Mae’r canllawiau hyn felly’n cadarnhau dyraniad o £25k i bob coleg ar gyfer gwrth-hiliaeth.
YYn ein neges e-bost i’r colegau ym mis Ebrill 2025, anogwyd colegau i ddefnyddio’r cyfnod pedwar mis, o fis Ebrill i fis Gorffennaf 2025, i:
- hunanasesu eu cyflwyniadau inni ar gyfer 2024-25;
- diweddaru eu hasesiadau effaith ar gydraddoldeb;
- ystyried diweddariad y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol; a
- nodi blaenoriaethau sy’n seiliedig ar ddata ar gyfer y coleg.
O fis Gorffennaf 2025 i Gorffennaf 2026, rydym yn disgwyl i golegau:
- barhau i ystyried Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2022 i 2026;
- datblygu ac ymestyn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer 2022-24, gan ystyried y CGCW a chyngor cyfatebol gan y Black Leadership Group;
- parhau i nodi a gwneud cynnydd gyda blaenoriaethau 2025/26 sy’n seiliedig ar ddata; ac
- ymgysylltu â’r prosiect cwricwlwm gwrth-hiliaeth (Metaverse) (a’r gwerthusiad ohono).
Ar wahân i hynny, mewn ymateb i’r dyraniad untro o £4k ar gyfer 2025/26, rydym yn disgwyl i golegau:
- ddefnyddio matrics aeddfedrwydd hunanasesu Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (a atodir ar ffurf Atodiad A); a
- darparu hyfforddiant perthnasol sy’n gysylltiedig â gwrth-hiliaeth, sy’n berthnasol i anghenion y coleg, fel y’u nodwyd drwy asesiad effaith cydraddoldeb a chynlluniau gweithredu.
Dylai cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth colegau fod yn ‘ddogfennau byw’ a gaiff eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd fel rhan o brosesau blynyddol y coleg ar gyfer cynllunio strategol, risg a sicrhau ansawdd.
Medr/2025/22: Canllawiau ar gynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth a chyhoeddiad am gyllid ar gyfer colegau
Dyddiad: 07 Hydref 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/22
At: Benaethiaid Colegau Addysg Bellach
Ymateb erbyn: 14 Tachwedd 2025 a 19 Mehefin 2026
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r canllawiau ar gyfer cynlluniau gwrth-hiliaeth a’r cyllid ar gyfer hynny yn 2025/26 (Ebrill 2025 i Orffennaf 2026).
Bydd £21k yn cael ei ddyrannu i golegau ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2025 a Gorffennaf 2026, ynghyd â £4k ychwanegol ar gyfer y cyfnod rhwng Awst 2025 a Gorffennaf 2026.
Medr/2025/22 Canllawiau ar gynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth a chyhoeddiad am gyllid ar gyfer colegauDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio