Cyhoeddiadau
Medr/2025/10: Biwroau Cyflogaeth a Menter canllawiau a chyllid 2025/26
18 Aug 2025
Crynodeb o’r cyhoeddiad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion a threfniadau cyllido Medr ar gyfer gweithgarwch Biwroau Cyflogaeth a Menter (EEB) yn 2025/26. Mae’n cadarnhau trefniadau monitro, llinellau amser ac yn atodi templedi monitro.
2. Nod y Biwroau Cyflogaeth a Menter yw cyflawni deilliannau cyflogaeth a hunangyflogaeth cadarnhaol ar gyfer myfyrwyr, trwy ddarparu pecyn o gymorth i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, menter ac entrepreneuraidd dysgwyr. Dylid rhoi’r cymorth hwn trwy gydweithio gyda chyflogwyr, Gyrfa Cymru, y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu cyfleoedd i ddysgwyr yn eu rhanbarthau.
3. Dylid defnyddio’r cyllid i barhau i integreiddio darpariaeth menter ac entrepreneuriaeth o fewn y Biwroau Cyflogaeth a Menter, gan amcanu at gynyddu’r cyfleoedd hunangyflogaeth sydd ar gael i ddysgwyr ac ymadawyr, yn ogystal â hybu’r arfer o wreiddio cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth o fewn y cwricwlwm er budd dysgwyr.
Cyllid 2025/26
4. Mae cyfanswm y gyllideb sydd ar gael i gefnogi’r Biwroau Cyflogaeth a Menter rhwng 1 Awst 2025 a 31 Gorffennaf 2026 yn £1,320,000. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £960,000 o gyllid Medr a £360,000 gan Busnes Cymru, y mae’n rhaid ei ddefnyddio i gefnogi’r elfen Menter ac Entrepreneuriaeth o weithgarwch y Biwroau Cyflogaeth a Menter mewn SABau yng Nghymru. Bydd cyfanswm y dyraniad yn parhau i gael ei rannu’n gyfartal ar draws y 12 SAB yng Nghymru fel bod pob SAB yn cael cyfanswm dyraniad o £110,000 yn 2025/26.
Monitro a ffrâm amser
5. Mae’n ofynnol i SABau gyflwyno adroddiad monitro interim a diwedd blwyddyn, gan ddefnyddio’r templedi yn Atodiad A ac Atodiad B, i Medr erbyn y dyddiadau a nodir yn y llinell amser ym mharagraff 24. Gan bod y cyllid menter ar gyfer 2025/26 yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, bydd gwybodaeth yr adroddir arni wrth Medr yn erbyn y gofynion hynny’n cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru fel y gellir monitro effaith ei chyllid.
| Cam gweithredu | Cyfrifoldeb | Dyddiad |
|---|---|---|
| Cyhoeddi canllawiau’r Biwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2025/26 | Medr | Awst 2025 |
| Taliad cyntaf o £83,600 i Fiwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2025/26 | Medr | Medi 2025 |
| Cyflwyno adroddiad interim i Medr | Biwroau Cyflogaeth a Menter | 31 Ionawr 2026 |
| Taliad olaf o £26,400 i Fiwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2025/26 | Medr | Ebrill 2026 |
| Cyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn i Medr | Biwroau Cyflogaeth a Menter | 31 Gorffennaf 2026 |
| Cyflwyno Datganiad o Wariant i Medr | Biwroau Cyflogaeth a Menter | 31 Awst 2026 |
Medr/2025/10: Biwroau Cyflogaeth a Menter canllawiau a chyllid 2025/26
Dyddiad: 18 Awst 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/10
At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach
Ymateb erbyn: Cyflwyno adroddiad interim – 31 Ionawr 2026; Cyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn – 31 Gorffennaf 2026
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion a threfniadau cyllido Medr ar gyfer gweithgarwch Biwroau Cyflogaeth a Menter (EEB) yn 2025/26. Mae’n cadarnhau trefniadau monitro, llinellau amser ac yn atodi templedi monitro.
Medr/2025/10 Biwroau Cyflogaeth a Menter canllawiau a chyllid 2025/26Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio