Newyddion
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026
08 Jul 2026
Mae lefelau boddhad ymhlith myfyrwyr israddedig mewn prifysgolion a cholegau wedi cynyddu gyda 84% o fyfyrwyr gradd ar eu blwyddyn olaf yn dweud eu bod yn fodlon â’u cwrs eleni.
Mae hyn yn gynnydd o gymharu ag 82% o foddhad cyffredinol yn 2025.
Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) ar agor i fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf gyda darparwyr addysg uwch yng ngwledydd y DU. Roedd arolwg eleni ar agor o 8 Ionawr tan 30 Ebrill 2026.
Yr NSS yw un o brif ddangosyddion boddhad myfyrwyr ar gyfer Medr a’r sector addysg drydyddol, gan gasglu adborth cynhwysfawr gan fyfyrwyr addysg uwch israddedig sydd ar eu blwyddyn olaf ar agweddau allweddol ar eu profiad addysgol – o ansawdd yr addysgu a threfniadau cyrsiau hyd at effeithiolrwydd sefydliadau wrth wrando ar leisiau dysgwyr.
Mae Cynllun Strategol Medr yn amlygu ei ymrwymiad i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn darpariaeth o’r ansawdd uchaf mewn sector addysg drydyddol sy’n ymdrechu i wella’n barhaus.
Yn ôl James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Rydym unwaith eto wrth ein bodd o weld cynnal neu welliannau ar draws canlyniadau’r holl gwestiynau i Gymru yn NSS 2026 o gymharu ag NSS 2025.
“Mae’n galonogol bod Cymru, yn gyffredinol, yn parhau i berfformio’n gyson â sgoriau’r DU gyfan ac yn rhagori ar y sgoriau hynny yn y themâu Cymorth Academaidd a Llais y Myfyriwr.Mae’r canlyniadau hyn unwaith eto’n tystio i’r gwaith effeithiol sy’n digwydd ar draws sefydliadau yng Nghymru.
“Mae’r cydweithrediad cryf a welwyd rhwng sefydliadau ac undebau myfyrwyr dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn galonogol, wrth iddynt gydweithio i wella profiad myfyrwyr a chefnogi llwyddiant myfyrwyr. Llongyfarchiadau i bawb a gyfrannodd at y cyflawniadau hyn.
“Yn gynharach eleni, cyflwynwyd ein Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn rhan o’r Fframwaith Rheoleiddio, gan gydnabod rôl bwysig ymgysylltu mewn modd ystyrlon â dysgwyr wrth wneud penderfyniadau. Mae ymgysylltu effeithiol o fudd i ddysgwyr, darparwyr a’r sector addysg drydyddol ehangach yng Nghymru yn y presennol ac yn y dyfodol.
“Mae sefydliadau Cymru yn parhau i roi ystyriaeth o ddifri i ganlyniadau’r NSS ac yn parhau i fod wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a’u cynrychiolwyr i ysgogi gwelliant parhaus a gwella ansawdd.
“Gan edrych ymlaen at flwyddyn academaidd 2026/27, mae profiad myfyrwyr yn parhau i fod ymhlith prif gryfderau addysg uwch yng Nghymru. Rydym yn estyn croeso cynnes i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr y dyfodol, a all ddisgwyl rhaglenni o ansawdd uchel, cymunedau cefnogol a phrofiad cyfoethog yn y brifysgol fydd yn talu ar ei ganfed.”
Canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn 2026: Data cymharol ar gyfer pob cwestiwn
| Cwestiwn | Y DU 2025 (sgôr positifrwydd %) | Y DU 2026 (sgôr positifrwydd %) | Cymru 2025 (sgôr positifrwydd %) | Cymru 2026 (sgôr positifrwydd %) | |
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | Pa mor dda yw’r staff am egluro pethau? | 93 | 94 | 93 | 94 |
| 2 | Pa mor aml y mae staff addysgu’n gwneud y pwnc yn ddiddorol? | 83 | 85 | 83 | 85 |
| 3 | Pa mor aml y mae’r cwrs yn ysgogol yn ddeallusol? | 86 | 86 | 86 | 86 |
| 4 | Pa mor aml y mae eich cwrs yn eich herio i gyflawni eich gwaith gorau? | 87 | 88 | 87 | 88 |
| 5 | I ba raddau ydych chi wedi cael y cyfle i archwilio syniadau a chysyniadau yn fanwl? | 85 | 86 | 85 | 86 |
| 6 | Pa mor dda y mae eich cwrs yn cyflwyno pynciau a sgiliau mewn ffordd sy’n adeiladu ar yr hyn yr ydych eisoes wedi’i ddysgu? | 87 | 89 | 87 | 88 |
| 7 | I ba raddau ydych chi wedi cael y cyfle i ddod â syniadau a gwybodaeth ynghyd o wahanol destunau? | 85 | 86 | 85 | 86 |
| 8 | I ba raddau y mae eich cwrs yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng astudio dan gyfarwyddyd ac astudio annibynnol? | 79 | 81 | 80 | 81 |
| 9 | Pa mor dda mae eich cwrs wedi datblygu gwybodaeth a sgiliau yr ydych yn meddwl y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y dyfodol? | 85 | 87 | 86 | 87 |
| 10 | Pa mor eglur oedd y meini prawf marcio a ddefnyddiwyd i asesu eich gwaith? | 78 | 81 | 80 | 82 |
| 11 | Pa mor deg fu’r marcio a’r asesu ar eich cwrs? | 84 | 86 | 85 | 86 |
| 12 | Pa mor dda y mae’r asesiadau wedi eich galluogi i ddangos yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu? | 84 | 86 | 84 | 86 |
| 13 | Pa mor aml ydych chi wedi cael adborth asesu ar amser? | 83 | 85 | 85 | 85 |
| 14 | Pa mor aml y mae adborth yn eich helpu i wella eich gwaith? | 75 | 77 | 75 | 77 |
| 15 | Pa mor hawdd oedd hi i gysylltu â staff addysgu pan oedd angen i chi wneud hynny? | 88 | 89 | 89 | 90 |
| 16 | Pa mor dda y mae’r staff addysgu wedi cefnogi eich dysgu? | 88 | 90 | 89 | 90 |
| 17 | Pa mor dda y mae eich cwrs wedi’i drefnu? | 77 | 80 | 79 | 80 |
| 18 | Pa mor dda oedd unrhyw newidiadau i addysgu ar eich cwrs yn cael eu cyfleu? | 80 | 82 | 80 | 82 |
| 19 | Pa mor dda y mae’r adnoddau a chyfleusterau TG wedi cefnogi eich dysgu? | 87 | 88 | 87 | 88 |
| 20 | Pa mor dda y mae’r adnoddau llyfrgell (e.e. llyfrau, gwasanaethau ar-lein a mannau dysgu) wedi cefnogi eich dysgu? | 90 | 91 | 90 | 91 |
| 21 | Pa mor hawdd yw hi i gael gafael ar adnoddau pwnc-benodol (e.e. offer, cyfleusterau, meddalwedd) pan fo’u hangen arnoch? | 88 | 89 | 88 | 89 |
| 22 | I ba raddau ydych chi’n cael y cyfleoedd cywir i roi adborth ar eich cwrs? | 85 | 86 | 85 | 86 |
| 23 | I ba raddau mae barn myfyrwyr ynglŷn â’r cwrs yn cael ei gwerthfawrogi gan staff? | 80 | 82 | 81 | 83 |
| 24 | Pa mor eglur yw hi y gweithredir ar adborth myfyrwyr ar y cwrs?? | 68 | 72 | 69 | 72 |
| 25 | Pa mor dda y mae undeb (cymdeithas neu urdd) y myfyrwyr yn cynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr? | 76 | 79 | 78 | 79 |
| 26 | Pa mor dda gafodd gwybodaeth am wasanaethau cymorth lles meddyliol eich prifysgol/coleg ei chyfleu? | 82 | 85 | 79 | 83 |
| 28 | Ar y cyfan, rwy’n fodlon ar ansawdd y cwrs | D/B | D/B | 82 | 84 |
Mae gan bob cwestiwn ddau opsiwn i ymateb yn gadarnhaol – e.e. fel arfer ‘i raddau helaeth’ neu ‘i ryw raddau’; neu ‘yn aml iawn’ neu ‘yn weddol aml’ – a dau opsiwn i ymateb yn negyddol, gyda phumed opsiwn ‘Nid yw hyn yn berthnasol i mi’. Sgôr positifrwydd yw canran yr ymatebwyr a atebodd gan ddefnyddio un o’r ddau opsiwn cadarnhaol.
Nid oes sgôr y DU ar gyfer cwestiwn 28. Gofynnwyd cwestiwn 28 i fyfyrwyr yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn unig ac nid i fyfyrwyr yn Lloegr.
Diwedd
Nodiadau:
- Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn cynnwys y rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf sy’n astudio ar gyfer cymwysterau addysg uwch (AU) yn:
- yr holl brifysgolion a cholegau addysg uwch a gyllidir ag arian cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- sefydliadau addysg bellach yng Nghymru â myfyrwyr addysg uwch a gyllidir yn uniongyrchol.
- colegau addysg bellach yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
- Caiff yr arolwg, a gynhelir gan Ipsos, ei gyllido gan y pedwar corff cyllido a rheoleiddio addysg uwch yn y DU (Medr, y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS), Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon).
- Mae’r canlyniadau llawn ar gael ar wefan yr OfS. Cyhoeddir y data ar y wefan Darganfod Prifysgol yn ddiweddarach, gan ddarparu gwybodaeth i oleuo dewisiadau myfyrwyr posibl ynghylch ble i astudio a beth i’w astudio.
- Y trothwy ar gyfer cyhoeddi ar lefel sefydliad yw bod rhaid bod o leiaf 10 o fyfyrwyr wedi ymateb, ac y dylai’r rhain gynrychioli o leiaf hanner y myfyrwyr a oedd yn gymwys i gyfranogi.
- Fe ymatebodd mwy na 360,000 o fyfyrwyr ar draws y DU i’r arolwg, cyfradd ymateb o 71.8%.
- Mae data boddhad myfyrwyr ar gyfer y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi’i gynnwys yn y ffigyrau ar gyfer y Brifysgol Agored (er bod y data ar gyfer y DU gyfan, fe’i rhestrir fel ‘SAUau Lloegr’).
- Mae canlyniadau blaenorol yr NSS wedi’u rhestru ar wefan yr OfS o dan “archif o ddata”.