Medr/2025/03: Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2024/25

Cyflwyniad

1. Diben y cyfarwyddyd cyfrifon hwn yw hysbysu sefydliadau am ofynion Medr ynghylch fformat eu datganiadau ariannol archwiliedig ar gyfer y flwyddyn 2024/25.

2. Mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn dal i fod yn ddarostyngedig i fframwaith cod rheoli ariannol (CRhA) CCAUC (Cylchlythyr CCAUC W17/16HE) nes i fframwaith rheoleiddio Medr ei hun ddod i rym.

Newidiadau o gyfarwyddyd cyfrifon 2023/24

3. Cyflwynwyd y diwygiadau canlynol i’r dogfen hon ers y fersiwn derfynol ar gyfer 2023/24:

a. Ychwanegu tudalen gynnwys er mwyn gallu cael hyd i wahanol adrannau’n rhwydd.
b. Mân newidiadau i’r naratif / teipograffeg a diweddaru dolenni’r rhyngrwyd
c. Ychwanegu paragraff 10, gan amlygu ymhellach bwysigrwydd cysondeb rhwng dadansoddiadau yn y datganiadau ariannol cyhoeddedig a chofnod cyllid HESA.
d. Ychwanegu paragraff 12 i gefnogi tryloywder.
e. Ychwanegu paragraff 32 gan gadarnhau’r ffaith bod Medr yn disgwyl cael hysbysiad ac esboniad os rhagwelir na fydd dyddiadau terfyn gofynnol yn cael eu cyrraedd.
f. Ychwanegu paragraff 33. Mae hyn yn diwygio dyddiad cyflwyno is-gyrff ansylweddol, os bodlonir gofynion penodol ac yr hysbysir Medr amdanynt.
g. Diweddaru’r cyfeiriadau a’r dolenni o CCAUC i Medr, fel bo’n briodol.

Cyfarwyddyd cyfrifon ar gyfer 2024/25

4. Mae’n ofynnol i sefydliadau addysg uwch ddilyn y Datganiad o’r Arfer a Argymhellir: Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch 2019 (FEHE SORP), neu unrhyw ddogfennau sy’n olynu’r SORP hwn,  wrth lunio’u datganiadau ariannol. Gellir cael hyd i ddolenni i’r FEHE SORP a chanllawiau ar weithredu rhai meysydd yn yr adran SORP ar wefan Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Prifysgolion Prydain (BUFDG). Os oes unrhyw anghysondebau rhwng gofynion y FEHE SORP a’r cyfarwyddyd cyfrifon hwn, y cyfarwyddyd cyfrifon hwn fydd yn drech.

5. Fel y nodwyd yn y SORP, rhaid i sefydliadau gymhwyso’r holl ofynion o dan FRS 102: y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

6. Yn achos sefydliad sydd hefyd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, mae’r cyfarwyddyd hwn yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Cwmnïau 2006.

7. Bydd y datganiadau ariannol yn cael eu llofnodi gan y Swyddog Atebol a chan y Cadeirydd neu un aelod arall o’r corff llywodraethu a benodir gan y corff hwnnw.

8. Dylai sefydliadau nodi y dylid dilyn fformatau’r prif ddatganiadau cyfrifyddu (datganiad cyfunol o incwm a gwariant cynhwysfawr, datganiad cyfunol o newidiadau mewn cronfeydd wrth gefn, mantolen, a datganiad llif arian cyfunol). Dylai’r datganiadau ariannol ddilyn datganiadau ariannol enghreifftiol diweddaraf BUFDG lle bo modd, i hyrwyddo cysondeb o ran ymdriniaeth o fewn y sector, gan roi sylw digonol i amrywiaeth sefydliadau, a’r angen am eglurder wrth gyflwyno’r wybodaeth i ddefnyddwyr. Gellir cael hyd i’r model yn adran SORP ar wefan BUFDG.

9. Wrth i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) symud i ddarparu data agored, mae defnyddwyr trydydd parti yn gynyddol yn echdynnu data am sefydliadau a’r sector o’r ffynhonnell hon er mwyn cymharu a gwneud sylwadau yn hytrach nag o’r datganiadau ariannol cyhoeddedig. Byddem felly’n disgwyl i Sefydliadau roi sylw digonol i ddiffiniadau a chanllawiau HESA wrth gategoreiddio o fewn y datganiadau ariannol, er mwyn sicrhau bod y datganiadau ariannol, fel y cawsant eu cymeradwyo gan y corff llywodraethu, yn cyd-fynd â’r cofnod cyllid a gyflwynwyd i HESA wedi hynny.

10. Mae cysondeb rhwng cofnod cyllid HESA a datganiadau ariannol cyhoeddedig yn hyrwyddo cymhariaeth well rhwng sefydliadau a chysondeb y data a ddefnyddir i ddadansoddi sectorau’r DU.

11. Dylai’r nodiadau i’r cyfrifon gynnwys dadansoddiadau o incwm a gwariant ac eitemau ar y fantolen sy’n gyson ag arfer cyfrifyddu da cydnabyddedig, a dylent fod yn ddigon manwl fel bod defnyddwyr yn gallu cael dealltwriaeth glir o berfformiad ariannol y sefydliad.

12. Os yw’r cyfrifon yn cynnwys eitemau incwm neu wariant sylweddol nad ydynt yn debygol o ddigwydd eto ac/neu nad ydynt yn adlewyrchu’r perfformiad ariannol sylfaenol, dylid rhoi esboniad am hynny.

13. Dylai’r datganiadau ariannol gydymffurfio ymhellach ag unrhyw ofynion perthnasol yn Neddf Elusennau 2011 i’r graddau y mae’r Ddeddf honno’n berthnasol i sefydliad.

14. Dylai sefydliadau hefyd:

a) Sicrhau bod contractau ar gyfer archwilio allanol yn nodi bod yn rhaid i’r archwilydd allanol gynnwys adroddiad i’r corff llywodraethu yn y datganiadau ariannol ynghylch a yw’r canlynol yn wir, ym mhob ffordd berthnasol:

i. bod y datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y sefydliad addysg uwch, ac o’i incwm a’i wariant, ei enillion a’i golledion, newidiadau i’w gronfeydd wrth gefn a’i lifoedd arian am y flwyddyn. Dylent roi ystyriaeth i ofynion statudol perthnasol, ac i ofynion datgelu a chyfrifyddu gorfodol eraill, ac i ofynion Medr;

ii. bod y datganiadau ariannol wedi’u paratoi’n briodol yn unol ag Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y DU, sef y safon adrodd ariannol (FRS102), y datganiad o’r arfer a argymhellir: cyfrifyddu ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch (FEHE SORP), a deddfwriaeth berthnasol;

iii. bod arian o ba bynnag ffynhonnell a weinyddir gan y sefydliad addysg uwch i ddibenion penodol wedi’i gymhwyso’n briodol i’r dibenion hynny a’i reoli yn unol â deddfwriaeth berthnasol;

iv. bod y sefydliad wedi defnyddio incwm, lle bo’n briodol, yn unol â pharagraff 145 y Cod Rheoli Ariannol (CRhA) (HEFCW W17/16HE) ac a yw grantiau Cynghorau Cyllido (gan gynnwys grantiau gan Medr) wedi’u cymhwyso’n unol â’r telerau ac amodau cysylltiedig, a’u defnyddio i’r dibenion y’u derbyniwyd ar eu cyfer, gan gynnwys y Telerau ac Amodau Cyllido; a

v. bod gofynion cyfarwyddyd cyfrifon Medr wedi’u bodloni.

b) Darparu dadansoddiad a datgeliad manwl o fewn y datganiadau ariannol o ffioedd archwilio a ffioedd eraill a delir i archwilwyr allanol, yn unol ag Offeryn Statudol SI 2008 Rhif 489 – Rheoliadau Cwmnïau (Datgelu Tâl Archwilwyr a Chytundebau Cyfyngu Atebolrwydd) 2008 a’r Diwygiadau i’r Rheoliadau hyn sydd wedi’u cynnwys yn Offeryn Statudol OS 2011 Rhif 2198. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer y sefydliadau hynny y mae cyfraith cwmnïau yn berthnasol iddynt. Gellir gweld yr Offeryn Statudol ar Wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (www.legislation.gov.uk).

c) Yn eu hadroddiadau neu eu llythyrau at reolwyr, dylai archwilwyr roi sylw digonol i ofynion penodol Medr, fel cydymffurfio â chodiadau i drothwyon ymrwymiadau ariannol, neu agweddau eraill ar ddiffyg cydymffurfio.

Busnes gweithredol a risg hylifedd

15. Rhaid i aelodau’r corff llywodraethu gadarnhau yn yr adroddiad blynyddol fod y datganiadau ariannol wedi’u paratoi ar sail busnes gweithredol. Rhaid iddynt hefyd gadarnhau eu bod wedi cynnal asesiad cadarn o’r prif risgiau a’r ansicrwydd perthnasol sy’n wynebu’r sefydliad, gan gynnwys y rhai a fyddai’n bygwth ei fodel busnes, ei berfformiad yn y dyfodol, ei solfedd neu ei hylifedd. Rhaid i’r adroddiad ddisgrifio’r risgiau hynny ac egluro sut maen nhw’n cael eu rheoli neu eu lliniaru.

Adrodd ar gynaliadwyedd

16. Disgwylir i adran y datganiadau ariannol sy’n adrodd ar agweddau gweithredol ac ariannol esbonio sut mae’r sefydliad yn sicrhau ei gynaliadwyedd, gan gynnwys drwy ei strategaeth, ansawdd ei addysgu a’i ymchwil, metrigau cynaliadwyedd ariannol, rheolaeth ar risgiau allweddol gan gynnwys rheoli llif arian, ymrwymiadau ariannol a gynigir a phrydlesoedd perthnasol, a buddsoddiadau mewn ystadau a seilwaith. Dylai sefydliadau gyflwyno’r wybodaeth hon drwy ddefnyddio’r fformat y cytunwyd arno ar gyfer templed yr adroddiad llywodraethu blynyddol a grëwyd yn dilyn yr Adolygiad o Drefniadau Llywodraethu Prifysgolion yng Nghymru.

17. Byddem yn disgwyl i strategaeth y sefydliad fod yn glir ac yn gyson â dogfennau eraill cyhoeddedig.

Adrodd ar faterion amgylcheddol

18. Rhaid i sefydliadau gynnwys sylwadau ar y camau a gymerwyd ac a gynlluniwyd i sicrhau bod adnoddau cymdeithasol ac amgylcheddol yn gynaliadwy ar raddfa ehangach. Dylai hyn gynnwys datganiad o darged sero net y sefydliad, ymhlith agweddau eraill (lle bo hynny wedi’i ddatgan yn gyhoeddus) a’r cynnydd tuag at gyflawni hyn.  Gallai agweddau i’w hystyried gynnwys gwella effeithlonrwydd ystadau, y defnydd o ynni, lleihau gwastraff hyd yr eithaf, effeithlonrwydd adnoddau, defnydd o ddŵr, caffael, bioamrywiaeth, teithio a lleihau effeithiau amgylcheddol eraill. Cyfeirir Canllawiau Llywodraeth Cymru i sylw sefydliadau ynghylch y maes hwn, sy’n nodi’r hyn i’w flaenoriaethu ar sail dosbarthu fel allyriadau uniongyrchol (cwmpas 1), allyriadau anuniongyrchol (cwmpas 2 a 3) a Defnydd o Dir, Newid y Defnydd o Dir a Choedwigaeth. Ceir canllawiau pellach yn y Fframwaith Allyriadau Carbon Safonol (SCEF) a’r Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol sy’n Gysylltiedig â’r Hinsawdd.

Llywodraethu corfforaethol a rheolaeth fewnol

19. Rhaid i sefydliadau gynnwys ‘datganiad llywodraethu corfforaethol’ yn eu datganiadau ariannol. Rhaid i’r datganiad hwn roi disgrifiad o drefniadau llywodraethu corfforaethol y sefydliad a datganiad o gyfrifoldebau’r corff llywodraethu. Rhaid iddo ymwneud yn benodol â’r cyfnod a drafodir yn y datganiadau ariannol, a’r cyfnod hyd at ddyddiad cymeradwyo’r datganiadau ariannol archwiliedig.

20. Rhaid i sefydliadau gynnwys ‘datganiad rheolaeth fewnol’ yn y datganiadau ariannol. Mae’r datganiad rheolaeth fewnol yn ymwneud â threfniadau’r sefydliad ar gyfer atal a chanfod llygredd, twyll, llwgrwobrwyo ac anghysondebau eraill. Rhaid iddo gynnwys esboniad o’r modd y cafodd egwyddorion rheolaeth fewnol eu cymhwyso.

21. Gall sefydliadau gyfuno’r datganiad llywodraethu corfforaethol â’r datganiad rheolaeth fewnol, yn amodol ar wneud yr holl ddatgeliadau gofynnol. Wrth lunio eu datganiadau, dylai sefydliadau gyfeirio at ganllawiau arfer gorau, gan gynnwys canllawiau gan Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Prifysgolion Prydain (BUFDG). Mae canllawiau pellach ar y gofynion hyn wedi’u cynnwys yn Atodiad C.

22. Mae Cod Llywodraethu Addysg Uwch y Pwyllgor Cadeiryddion Prifysgol (Cod y CUC), a gafodd ei ailwampio a’i ailgyhoeddi yn 2020, yn argymell y dylai sefydliadau gynnwys yn eu datganiadau ariannol archwiliedig ddatganiad sy’n esbonio’r trefniadau llywodraethu ac yn cadarnhau y rhoddwyd sylw i God y CUC wrth fabwysiadu’r trefniadau hyn. Dylai’r datganiadau ariannol gynnwys datganiad penodol naill ai i gadarnhau bod y sefydliad wedi cydymffurfio â holl egwyddorion y Cod neu, lle ceir eithriadau, i esbonio sut yr ymdrinnir â’r rhain, gan gynnwys llinellau amser.

23. Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys datganiad penodol bod y sefydliad wedi mabwysiadu’r Siarter Llywodraethu ar gyfer Prifysgolion yng Nghymru (y Siarter Llywodraethu) yn seiliedig ar yr Adolygiad o Drefniadau Llywodraethu Prifysgolion yng Nghymru gan Gillian Camm.

24. Rhaid i’r adroddiad blynyddol ddefnyddio’r templed adroddiad llywodraethu blynyddol a ddatblygwyd mewn ymateb i adolygiad Camm fel canllaw ar gyfer strwythur yr adroddiad blynyddol.

25. Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys datganiad ar gydymffurfiaeth y sefydliad ag adolygiad Camm Ymrwymiad i Weithredu, gan gynnwys cynnydd tuag at weithredu argymhellion yr adolygiad yn llawn, lle na lwyddwyd i wneud hynny eisoes.

Datgeliadau partïon cysylltiedig

26. Atgoffir sefydliadau o’r gofynion datgelu ar gyfer trafodion partïon cysylltiedig. Rhaid datgelu trafodion o’r fath sy’n cynnwys ymddiriedolwyr, p’un a ydynt yn cael eu cynnal ar sail hyd braich ai peidio, ynghyd ag enw(au) y parti neu’r partïon cysylltiedig sy’n gwneud y trafodion. Dylai’r datgeliad hefyd gynnwys disgrifiad o’r berthynas rhwng y partïon (gan gynnwys buddiant y parti neu’r partïon cysylltiedig yn y trafodiad, disgrifiad o’r trafodiad, a’r symiau dan sylw).

27. Rhaid i sefydliadau ddatgelu rhestr o ymddiriedolwyr sy’n dal swydd yn ystod y flwyddyn ynghyd â manylion penodiadau ac ymddiswyddiadau hyd at y dyddiad llofnodi.

Tâl staff ar gyflog uwch

28. Yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru i fod yn agored a thryloyw, mae’n ofynnol i sefydliadau ddatgelu’r canlynol:

a. cyfanswm tâl gwirioneddol pennaeth y sefydliad;

b. tâl sylfaenol a chyfanswm tâl pennaeth y sefydliad, wedi’i gyflwyno ar ffurf cymhareb o gyflogau sylfaenol a chyfanswm cyflogau amser llawn staff;

c. cyfiawnhad dros dâl pennaeth y sefydliad;

d. tâl aelodau o staff sy’n derbyn cyflog uwch mewn bandiau o £5,000 gan ddefnyddio £100,000 fel man cychwyn;

e. cyfanswm y tâl i bersonél rheoli allweddol, ynghyd â naill ai nifer y personél rheoli allweddol neu restr o swyddi cymwys; a

f. manylion unrhyw iawndal a dalwyd neu sy’n daladwy i bennaeth y sefydliad ac i staff y mae eu tâl blynyddol yn fwy na £100,000, neu ddatganiad yn cadarnhau nad oedd unrhyw iawndal yn daladwy i staff ar y lefel hon yn ystod y flwyddyn.

Anogir sefydliadau i roi sylw arbennig i’r gofynion datgelu ar gyfer staff â chyflog uwch fel y manylir uchod, yn enwedig o ran y diffiniad o ‘dâl’ a’r dadansoddiad o gyflog, buddion mewn nwyddau a chyfraniadau pensiwn y cyflogwr. Ceir manylion pellach am y gofynion yn Atodiad A am dâl ac Atodiad B am iawndal.

Deddf Elusennau 2011

29. Cynghorir sefydliadau, o dan Ddeddf Elusennau 2011 y dylid cynnwys yr wybodaeth ganlynol yn eu datganiadau ariannol archwiliedig a’r adroddiadau cysylltiedig:

a. statws elusennol y sefydliad;

b. yr ymddiriedolwyr a wasanaethodd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol a hyd at y dyddiad y cymeradwywyd y datganiadau ariannol yn ffurfiol;

c. datganiad bod yr elusen wedi rhoi sylw i ganllawiau’r Comisiwn Elusennau ar fudd y cyhoedd;

d. adroddiad sy’n egluro sut mae’r sefydliad wedi cyflawni ei ddibenion elusennol er budd y cyhoedd; a

e. gwybodaeth am daliadau i ymddiriedolwyr neu ar eu rhan, gan gynnwys treuliau; taliadau i ymddiriedolwyr am wasanaethu fel ymddiriedolwyr (a thaliadau o’r fath sydd wedi’u hepgor); trafodion partïon cysylltiedig sy’n cynnwys ymddiriedolwyr.

Dyddiad cyflwyno datganiadau ariannol archwiliedig i Medr

30. Dylid paratoi’r adroddiad a’r cyfrifon blynyddol fel eu bod y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Gorffennaf.

31. Dyma’r dyddiadau cau terfynol ar gyfer cyflwyno datganiadau ariannol archwiliedig i Medr a’u cyhoeddi:

Dyddiad cau
Datganiadau ariannol archwiliedig30 Tachwedd 2025
Cyhoeddi ar y wefan31 Ionawr 2026
Datganiadau ariannol is-gyrff archwiliedig31 Rhagfyr 2025

32. Os daw sefydliad yn ymwybodol na fydd y gofynion uchod wedi’u cyflawni erbyn y dyddiadau cau, bydd Medr yn disgwyl cael gwybod am yr oedi a’r rhesymau am hynny ymlaen llaw, ynghyd â llinell amser ddisgwyliedig, a diweddariad rheolaidd.

33. Os bydd hi’n amlwg bod datganiadau ariannol is-gorff yn amherthnasol i farn archwilio’r grŵp, gellir defnyddio dyddiad cau arferol Tŷ’r Cwmnïau (30 Ebrill) neu’r Comisiwn Elusennau (31 Mai). Rhaid i sefydliadau a’u harchwilwyr hysbysu Medr yn ysgrifenedig cyn 31 Rhagfyr 2025 gan gadarnhau na fydd yr is-gorff/is-gyrff a enwir yn effeithio ar farn archwilio’r grŵp yn unigol na chyda’i gilydd, a’u bod yn gallu defnyddio’r eithriad hwn. Nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol i is-gyrff sy’n cyflawni gweithgareddau trydyddol a fyddai oddi mewn i gylch gwaith Medr.

34. Dylid cyflwyno datganiadau ariannol i [email protected].

35. Adolygir y cyfarwyddyd cyfrifon yn flynyddol. Bydd y cyfarwyddyd cyfrifon yn parhau i fod mewn grym oni hysbysir sefydliadau fel arall.

36. Rydym yn argymell rhoi copi o’r cylchlythyr hwn a’i atodiadau gerbron eich Pwyllgorau Cyllid ac Archwilio er gwybodaeth.

Rhagor o wybodaeth

37. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Diane Rowland ([email protected]).

Medr/2025/03: Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2024/25

Dyddiad:  26 Mehefin 2025

Cyfeiriad: Medr/2025/03

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Brif swyddogion cyllid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Ymateb erbyn: 30 Tachwedd 2025 [is-gyrff perthnasol 31 Rhagfyr 2025]

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth am ofynion Medr ynghylch fformat datganiadau ariannol archwiliedig sefydliadau addysg uwch Cymru.

M/2025/03 Cyfarwyddyd cyfrifon i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer 2024/25

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Mae Medr yn parhau i ymgysylltu ynghylch trefniadau rheoleiddio newydd drwy ddigwyddiadau â phresenoldeb uchel

Mae Medr wedi cwblhau’r ail o’i ddigwyddiadau ymgysylltu ar gynigion ar gyfer system newydd i reoleiddio darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant, gyda phartïon â diddordeb a phartïon yr effeithir arnynt.

Mae’r digwyddiadau, gyda 150 o bobl yn bresennol ym mhob un, wedi rhoi trosolwg o’r hyn y mae’r cynigion yn ei olygu i’r sector, y sail resymegol wrth wraidd penderfyniadau a sut y gall y sector gynorthwyo ymhellach i lunio’r rheoliadau terfynol, y daw’r rhan fwyaf ohonynt i rym o 1 Awst 2026.

Mae’r rhain ar gael i’w gwylio eto:

Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllid

Mae Medr yn awyddus i sicrhau bod pob rhanddeiliad yn hyddysg yng nghynigion y fframwaith rheoleiddio ac yn ymgysylltu’n dda â nhw – sy’n cynnwys amodau rheoleiddio a chyllido amrywiol, pwerau ymyrryd a’r fframwaith ansawdd.

Lansiwyd cam cyntaf yr ymgynghoriad ar 15 Mai a daw’r cam hwnnw i ben ar 18 Gorffennaf – anogir a chroesewir pob safbwynt. Gellir anfon unrhyw gwestiynau pellach at [email protected] am ymateb.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr yn dathlu achrediad Cyflog Byw

Mae Medr, y corff sy’n gyfrifol am gyllido a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru wedi cael ei achredu gan y Living Wage Foundation fel cyflogwr Cyflog Byw.

Nod yr ymrwymiad i Gyflog Byw yw cefnogi cyflogeion drwy roi safon byw weddus iddynt, a chynyddu safonau er mwyn mynd i’r afael â thlodi mewn gwaith.

Mae’r achrediad yn golygu bod Medr wedi ymrwymo i dalu Cyflog Byw go iawn i’w holl gyflogeion a’i weithwyr contract.

Mae hyn yn adeiladu ar ymrwymiad Medr i bartneriaeth gymdeithasol, ar ôl troi’n un o’r cyrff cyntaf yng Nghymru i sefydlu consensws ag undebau llafur ynghylch ein hamcanion llesiant, yn unol â nodau partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Yn ôl James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Rydym am fod yn sefydliad sy’n croesawu arfer gorau, yn trin staff yn deg ac, wrth wneud hynny, yn arddangos arweinyddiaeth i’r sector addysg drydyddol ac ymchwil.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi dod i gytundeb â PCS, ein hundeb llafur cydnabyddedig, ynghylch ein hamcanion llesiant cyn cwblhau ein Cynllun Strategol cyntaf yn gynharach eleni. Rydym yn gweithio’n agos gyda phob partner, gan gynnwys yr undebau, i sicrhau bod nodau ac anghenion y sefydliad yn cyd-fynd yn agos â nodau ac anghenion ein gweithlu.”

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Adlewyrchu ehangder cylch gwaith Medr wrth iddo gyhoeddi ei Gynllun Gweithredol cyntaf

Mae Medr, y corff sy’n cyllido ac yn rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, wedi cyhoeddi ei Gynllun Gweithredol cyntaf.

Daw hyn ar ôl cyhoeddi ei Gynllun Strategol ym mis Mawrth 2025, a oedd yn amlinellu ei uchelgeisiau ar gyfer sector mwy cydgysylltiedig a chynhwysol.

Mae’r Cynllun Gweithredol, sy’n cwmpasu blwyddyn ariannol 2025-26, yn amlygu’r ystod o weithgareddau y bydd Medr yn eu cyflawni dros y misoedd nesaf i gefnogi cydraddoldeb, y Gymraeg a chyfranogiad. Mae hefyd yn amlinellu’r gweithgareddau allweddol a fydd yn gwella’r ffordd y caiff y sector addysg drydyddol yng Nghymru ei gyllido a’i reoleiddio, mewn cydweithrediad gyda darparwyr, partneriaid a rhanddeiliaid.

Maent yn cynnwys:

  • Cefnogi sector addysg drydyddol ac ymchwil eangfrydig, diogel a chyfartal, y mae llesiant, ffyniant a llais dysgwyr yn ganolog iddo.
  • Datblygu system reoleiddio a fframwaith ansawdd newydd a chadarn gan barhau i weithredu trefniadau presennol yn y cyfamser.
  • Deall a datblygu’r sgiliau a’r ddarpariaeth y mae ar ddysgwyr a chymunedau eu hangen.
  • Annog darparwyr arloesol a blaengar sy’n cefnogi eu staff a phartneriaethau cymdeithasol.
  • Datblygu amgylcheddau ymchwil ac arloesi sy’n cael effaith fawr ac sy’n gefnogol.
  • Datblygu cynllun Cymraeg cenedlaethol ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil.
  • Mynd ati ymhellach i wreiddio sylfaen data a thystiolaeth ar gyfer cynllunio a gwneud penderfyniadau ar draws Medr ac ar gyfer y sector.
  • Cefnogi gweithlu effeithiol ac amrywiol o fewn Medr; a gwreiddio egwyddorion partneriaeth gymdeithasol.

Meddai Simon Pirotte OBE, Prif Weithredwr Medr:

“Roedd ein Cynllun Strategol yn seiliedig ar ymrwymiadau sefydlu a thwf. Yn awr rydym wedi cymryd yr uchelgeisiau hynny a blaenoriaethu meysydd y mae arnom eisiau gwneud cynnydd cyflym a sylweddol ynddynt i gyflawni’r ymrwymiadau sefydlu hynny. Mae’r Cynllun Gweithredol yn dangos yr hyn y byddwn yn ei wneud i gyrraedd ein nodau.

“Rydym yn lansio ein Cynllun Gweithredol ar adeg allweddol o ran cryfhau ein dyletswyddau. Rydym newydd agor ein hymgynghoriad mawr cyntaf ar system newydd i reoleiddio darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant. Mae mewnbwn darparwyr a rhanddeiliaid yn hollbwysig i sicrhau system reoleiddio sy’n gwireddu’r uchelgeisiau hyn, ac rydym yn croesawu ac yn annog pob ymgysylltiad yn ystod y broses hon.

“Eto, mae’r edefyn sy’n rhedeg trwy ein sefydliad yn dal i fod yr un fath: bod popeth a wnawn yn canolbwyntio ar ddysgwyr – yn eu holl amrywiaeth. Bydd y ffocws clir hwn yn ein helpu ni, ynghyd â darparwyr a phartneriaid eraill, i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer system addysg drydyddol ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cymdeithas a’r economi, gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltu’n ganolog iddi.”

Cynllun Gweithredol Medr 2025-26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr yn penodi James Owen yn Brif Weithredwr parhaol cyntaf

Mae Medr, y corff sy’n gyfrifol am gyllido a goruchwylio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, wedi cyhoeddi heddiw ei fod wedi penodi James Owen fel ei Brif Weithredwr newydd.

Bydd James yn olynu’r Prif Weithredwr interim, Simon Pirotte, ac yntau wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredu Medr ers i’r corff ddod i fodolaeth y llynedd.

Wrth gyhoeddi’r penodiad, meddai Cadeirydd Medr, yr Athro Fonesig Julie Lydon: “Mae’n dda iawn wir gennyf gyhoeddi’r penodiad hwn. Mae James wedi rhagori ochr yn ochr â Simon wrth sefydlu Medr ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i sicrhau bod ei safonau uchel a’i arbenigedd yn trosi’n weithgarwch gan Medr i wireddu ei uchelgeisiau i gefnogi ac annog sector addysg drydyddol ffyniannus yng Nghymru.”

Meddai Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch:  “Rwy’n croesawu penodiad Prif Weithredwr parhaol cyntaf Medr. Roedd Mr Owen yn llwyddiannus ymhlith ymgeiswyr cryf iawn yn ôl yr hyn a ddeallaf ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gydag ef a’r tîm ehangach yn Medr wrth inni wireddu ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer dysgwyr ledled Cymru. Hoffwn hefyd ddiolch i Simon Pirotte am ei waith fel Prif Weithredwr interim ac yntau wedi helpu i sefydlu Medr.”

Ychwanegodd James Owen, a fydd yn dechrau yn ei rôl newydd dros yr wythnosau nesaf: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy mhenodi’n Brif Weithredwr Medr. Rwy’n llwyr ymwybodol o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector yng Nghymru ac edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos gyda’n partneriaid i sicrhau ein bod yn defnyddio’r holl arbenigedd ac ysgogwyr sydd gan Medr hyd yr eithaf i gyflawni sector addysg drydyddol ac ymchwil sy’n gydnerth ac yn ffyniannus i’n dysgwyr, ein sefydliadau ac i Gymru.”

Nodiadau

Daw James â chyfoeth o brofiad, yn fwyaf diweddar yn ei rôl fel Prif Swyddog Gweithredu Medr ac yn flaenorol ar draws nifer o rolau arwain wrth galon Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ac yntau’n un o Gymrodorion Siartredig y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, mae gan James hanes profedig o sicrhau’r gorau gan bobl a’u cefnogi hwy a’r rhai o’u cwmpas i gyrraedd eu potensial.

Bydd Mr Pirotte, a benodwyd yn wreiddiol gan Weinidogion Llywodraeth Cymru yn 2023 mewn rôl am gyfnod penodedig tan fis Medi, yn parhau yn ei rôl interim nes bod James yn ymgymryd yn ffurfiol â’i ddyletswyddau fel Prif Weithredwr.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/13/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Tachwedd 2024 i Ionawr 2025 (dros dro)

  • Dechreuodd 3,620 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch2 2024/25 (p), o gymharu â 4,525 yn Ch2 2023/24.
  • Ymhlith y Prentisiaethau lefel 3 y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf o gymharu â Ch2 y flwyddyn gynt, sy’n ostyngiad o 26%.
  • Roedd 205 yn llai o brentisiaethau adeiladu a ddechreuwyd o’i gymharu â Ch2 yn y flwyddyn flaenorol, sy’n ostyngiad o 48%.
  • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch2 2024/25 (p) hefo 1,720 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 48% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Roedd 62% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr benywaidd yn Ch2 2024/25 (p), roedd hyn wedi cynyddu 3 pwynt canran o gymharu â Ch2 2023/24.
  • Roedd 42% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr 25 i 39 oed yn Ch2 2024/25 (p) o gymharu â 38% yn Ch2 y flwyddyn gynt.
  • Roedd 15% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch2 2024/25 (p), roedd hyn wedi cynyddu 3 pwynt canran o gymharu â Ch2 2023/24.
  • Roedd 13% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch2 2024/25 (p) gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu, roedd hyn wedi cynyddu 2 pwynt canran o gymharu â Ch2 2023/24.
  • Mae 73,795 o brentisiaethau wedi’u dechrau ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau.
  • Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.

Nodyn: Mae (p) yn dynodi ffigurau dros dro.

Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y flwyddyn ariannol 2023-24 yn £139m ac yn £144m yn 2024-25 (Ffynhonnell: Cyllideb Derfynol 2023 i 2024 / Cyllideb Derfynol 2024 i 2025).

Yn ystod blynyddoedd blaenorol, roedd cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (dros £40m yn 2023-24 Drafft Cyllid 2025 i 2026: tystiolaeth i Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd). Fe ddaeth hyn i ben erbyn y flwyddyn ariannol 2024-2025.

Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiol

Sta/Medr/13/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Tachwedd 2024 i Ionawr 2025 (dros dro)

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol:  Sta/Medr/13/2025  

Dyddiad:  04 Mehefin 2025

Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd.

Sta/Medr/13/2025 Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Tachwedd 2024 i Ionawr 2025 (dros dro)

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Aelodau Pwyllgor – Pwyllgor Pobl a Diwylliant

Dyddiad cau: Dydd Llun 16 Mehefin 2025

Bydd y Pwyllgor yn sicrhau bod y Strategaeth yn cyd-fynd â gweledigaeth a gwerthoedd Medr, a bydd yn monitro ac yn cynghori Bwrdd Medr ynghylch perfformiad y sefydliad yn erbyn y Strategaeth.

Rydym yn chwilio am aelodau annibynnol ag awch am ddatblygu pobl ac amrywiaeth o brofiad o feithrin diwylliant, capasiti a gallu sefydliadol i ddod â safbwynt annibynnol, allanol i waith y Pwyllgor.

Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad/cefndir mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

  • datblygu a gweithredu Strategaeth Pobl a Diwylliant
  • datblygu pobl ac arweinwyr
  • datblygu sefydliadol a rheoli newid
  • tâl a chydnabyddiaeth ariannol
  • gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur
Manylion llawn, a sut i wneud cais Ffurflen monitro cydraddoldeb

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Corff trydyddol newydd yn lansio ymgynghoriad mawr ar bwerau rheoleiddio

Mae Medr wedi lansio ei ymgynghoriad cyntaf ar system newydd i reoleiddio darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant.

Mae’r ymgynghoriad yn nodi ei gynigion ar gyfer rheoleiddio mewn ffordd sy’n dryloyw, yn gymesur ac yn seiliedig ar risg.

Mae hefyd yn ceisio barn pobl ynglŷn â’r fframwaith rheoleiddio – gan gynnwys rhai amodau rheoleiddio a chyllid – pwerau ymyrryd, a’r fframwaith ansawdd.

Fe wnaeth Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 sefydlu’r fframwaith statudol newydd sy’n integreiddio trefniadau rheoleiddio darpariaeth addysg drydyddol.

Bydd y system newydd ar waith i raddau helaeth o 1 Awst 2026, gyda rhai amodau sy’n weddill ar gyfer darparwyr cofrestredig ar waith o fis Awst 2027.

Byddai angen i unrhyw ddarparwr sy’n ceisio lle ar y gofrestr – gan hwyluso mynediad at gyllid Medr neu gyllid benthyciadau i fyfyrwyr yn ôl y math o ddarparwr – ddangos ei fod yn cydymffurfio’n barhaus ag amodau penodol, megis sicrhau ansawdd y ddarpariaeth, llywodraethu a rheoli effeithiol, a dangos ei gynaliadwyedd ariannol.

Byddai amodau cyllid yn berthnasol i ddarparwyr yn y sector trydyddol ehangach hefyd, gan amlinellu’r disgwyliadau ar eu cyfer mewn perthynas â chael a rheoli cyllid gan Medr.

Byddai disgwyl hefyd i ddarparwyr cofrestredig ddangos gwelliant parhaus a darparu deilliannau sy’n gyson o ansawdd da ar gyfer dysgwyr.

Bydd gan Medr hefyd y pŵer i ymyrryd lle cyfyd materion ac i roi cyngor a chanllawiau y mae’n rhaid i ddarparwyr eu dilyn.

Meddai Simon Pirotte, Prif Weithredwr Medr: “Mae hyn yn nodi dechrau dull rheoleiddio newydd ar gyfer yr holl ddarparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru.

“Yn dilyn ein proses o bontio’n esmwyth i Medr, yn awr rydym yn cymryd y camau cyntaf tuag at wireddu ein gweledigaeth a chryfhau ein system drydyddol.

“Mae’r amgylchedd rheoleiddio’n newid yn sylweddol. Rydym yn awyddus i wneud yr uchelgeisiau ar gyfer y sector addysg drydyddol yn realiti wrth i ni ddatblygu system sy’n mynd ati’n well i ddiogelu dysgwyr, gwarchod cyllid cyhoeddus, a chynnal enw da’r sector trydyddol yng Nghymru.

“Mae mewnbwn darparwyr a rhanddeiliaid yn hollbwysig i sicrhau system reoleiddio sy’n gwireddu’r uchelgeisiau hyn, ac rydym yn croesawu ac yn annog pob ymgysylltiad yn ystod y broses hon.”

Fe lansiodd yr ymgynghoriad ar 15 Mai ac mae’n cau ar 18 Gorffennaf.

Diwedd

Nodiadau

Medr yw’r corff cyllido a rheoleiddio newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Daeth Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 â’r trefniadau ar gyfer cyllido a rheoli’r sector addysg drydyddol ac ymchwil dan un corff hyd braich am y tro cyntaf, gan sefydlu Medr yn 2024.

Dull rheoleiddio cyfredol

Ar hyn o bryd mae Medr yn rheoleiddio lefelau ffioedd mewn sefydliadau addysg uwch, yn sicrhau bod fframwaith yn ei le ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch ac yn craffu ar berfformiad darparwyr addysg drydyddol.

Mae Medr yn datblygu system reoleiddio newydd ar gyfer addysg drydyddol a ddylai fod wedi’i sefydlu i raddau helaeth erbyn mis Awst 2026, ac wedi’i sefydlu’n llawn erbyn mis Awst 2027.

Mae dyletswyddau penodol Medr mewn perthynas â rheoleiddio’n ymwneud â’r canlynol:

  • monitro’r modd y mae sefydliadau rheoleiddiedig yn cydymffurfio â chynlluniau ffioedd a mynediad
  • asesu ansawdd addysg
  • monitro’r modd y mae sefydliadau’n cydymffurfio â’r Cod Rheolaeth Ariannol
  • darparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru.

Mae Medr hefyd yn monitro’r modd y mae darparwyr trydyddol eraill yn cydymffurfio â Thelerau ac Amodau Cyllid.

Dull rheoleiddio arfaethedig

Gall yr holl ddarparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch ac sy’n gweithredu yng Nghymru ymgeisio i fod wedi’u cofrestru trwy Medr o 2026.

Mae Cynllun Strategol Medr yn amlinellu ei weledigaeth am y pum mlynedd nesaf, ac yn cynnwys ei nod sefydlu, sef “Sefydlu Medr fel sefydliad hynod effeithiol a rheoleiddiwr yr ymddiriedir ynddo”. I ategu’r nod hwn, mae ei Ddull Rheoleiddio a’i Bwerau Ymyrryd yn nodi’r egwyddorion arweiniol y bydd yn eu dilyn wrth gyflawni ei ddyletswyddau rheoleiddio, gan amcanu at alluogi: “system addysg drydyddol ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cymdeithas a’r economi, gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltu’n greiddiol iddi”.

Mae Medr yn ymrwymedig i reoleiddio mewn modd sy’n dryloyw, yn gymesur, yn gyson ac yn seiliedig ar risg, ac sy’n cyd-fynd â’i werthoedd, gan gyfuno cryfderau rheoleiddio sy’n seiliedig ar reolau (cydymffurfedd) a rheoleiddio sy’n seiliedig ar nodau (gwella’n barhaus).

Mae’r ymgynghoriad yn agor ar 15 Mai ac yn cau ar 18 Gorffennaf, ac yn cwmpasu’r canlynol:

  • Dull Rheoleiddio a Phwerau Ymyrryd: Mae hyn yn amlinellu sut y mae Medr yn bwriadu gweithredu system reoleiddio gymesur, seiliedig-ar-risg, gan gyfuno dulliau sy’n seiliedig ar reolau ac sydd â ffocws ar ddeilliannau. Ein nod yw diogelu dysgwyr, gwarchod cyllid cyhoeddus, a chynnal enw da’r sector trydyddol yng Nghymru. Mae’r ddogfen yn manylu ar bwerau ymyrryd Medr, gan ddiffinio’r prosesau a’r camau’n glir – o gyngor anffurfiol i rybuddion ffurfiol, cyfarwyddydau, neu ddatgofrestru.
  • Fframwaith Rheoleiddio: Mae hwn yn nodi disgwyliadau ar gyfer darparwyr cofrestredig ynghylch ansawdd, llywodraethu, cynaliadwyedd ariannol ac amodau cofrestru eraill. Hefyd, bydd amodau cyllid penodol yn berthnasol i rai darparwyr yn y sector trydyddol, gan ddiffinio’n glir beth yw’r disgwyliadau mewn perthynas â chael a rheoli arian cyhoeddus.
  • Fframwaith Ansawdd: Mae’r fframwaith hwn, sy’n ganolog i’n system reoleiddio, yn pwysleisio gwelliant parhaus a deilliannau sy’n gyson o ansawdd da ar gyfer dysgwyr. Mae’n amlinellu cyfrifoldebau darparwyr am hunanwerthuso, ymgysylltu â dysgwyr, asesiadau allanol, a datblygiad proffesiynol.
Gwahoddir ymatebion trwy Smart Survey Mwy

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2025/02: Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllid

Cefndir

1. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (‘Y Ddeddf’) yn nodi’r gofynion o ran system reoleiddio newydd ar gyfer darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad hwn i ateb y gofynion canlynol yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022:

  • 27 (5) Amodau Cofrestru Cychwynnol;
  • 28 (7) Amodau Cofrestru Parhaus Cyffredinol;
  • 50 (4) Fframweithiau Sicrhau Ansawdd; a
  • 81 (3) Datganiad ar Swyddogaethau Ymyrryd.

Trosolwg

2. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn pobl ynglŷn â’r canlynol ar gyfer Medr:

  • Dull Rheoleiddio arfaethedig, sy’n nodi sut yr ydym yn cynnig gweithredu fel rheoleiddiwr cymesur a seiliedig-ar-risg, a Phwerau Ymyrryd arfaethedig, sy’n darparu datganiad o’n pwerau ymyrryd a sut y gallai’r pwerau hynny gael eu defnyddio (Atodiad A).
  • Fframwaith Rheoleiddio arfaethedig sy’n cynnwys rhan gyntaf o’r Amodau Cofrestru a’r Amodau Cyllid drafft; canllawiau ynghylch y gofynion ar gyfer cydymffurfio; gwybodaeth am drefniadau ar gyfer monitro parhaus; a’r broses ar gyfer sut y mae’n rhaid adrodd am ddigwyddiadau, a’r math o ddigwyddiadau y mae’n rhaid adrodd amdanynt, wrth Medr (Atodiad B).
  • Fframwaith Ansawdd arfaethedig, sy’n tanategu gofynion yr amod a’r trefniadau monitro sy’n ymwneud ag ansawdd (Atodiad C).

Dull Ymgynghori

3. Gwahoddir ymatebion i’r ymgynghoriad trwy ein harolwg ar-lein. Mae’r cwestiynau a amlinellir yn y ddogfen ymgynghoriad (Cyhoeddiad Medr/2025/02) yn darparu amlinelliad o strwythur bras yr arolwg. Bydd rhai agweddau ar yr arolwg yn fwy perthnasol i wahanol fathau o ddarparwr yn y sector trydyddol – bydd y cwestiynau’n eich tywys trwy hyn, a bydd gan ddefnyddwyr y gallu i gadw eu hymatebion a dychwelyd atynt.

Digwyddiadau

4. Yn ystod y cyfnod ymgynghori byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad ar-lein a fydd yn rhoi cyfle i glywed gan ein staff am ddatblygiad y system newydd a’r cwestiynau allweddol yr ydym yn eu gofyn i’r holl ddarparwyr a rhanddeiliaid yn ein hymgynghoriad. Bydd y naill ddigwyddiad a’r llall yn darparu trosolwg eang o’r datblygiadau, ond bydd ffocws gwahanol i’r naill a’r llall:

I gadarnhau eich presenoldeb, cofrestrwch trwy ein tudalen Eventbrite os gwelwch yn dda.

Amserlen

5. Gwahoddir rhanddeiliaid i gyflwyno ymatebion ymgynghori trwy ein harolwg erbyn 5pm ar 18 Gorffennaf 2025.

6. Bydd ymgynghori pellach yn digwydd yn hwyrach yn 2025 ar y system reoleiddio newydd yn ei chyfanrwydd gan gynnwys yr elfennau hynny nad ydynt wedi eu cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn sydd wrthi’n cael eu datblygu ar hyn o bryd.

7. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

Medr/2025/02: Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllid

Dyddiad:  15 Mai 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/02

At: Yr holl ddarparwyr addysg drydyddol

Rhagor o wybodaeth: [email protected]

Ymateb erbyn: 18 Gorffennaf 2025

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn pobl ynglŷn ag elfennau o’r system reoleiddio newydd ar gyfer darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru. Bydd ymgynghori pellach yn digwydd yn hwyrach yn 2025 ar y system reoleiddio newydd yn ei chyfanrwydd. Bydd y system newydd yn cael ei rhoi ar waith yn 2026.

Medr/2025/02 Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllid

Dogfennau eraill

Arolwg ar-lein

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/12/2025: Cyllid sefydliadau addysg uwch, Medi 2023 – Awst 2024

Nodyn

Cafodd y naratif yn adran ‘Gwariant’ y cyhoeddiad hwn ei ddiweddaru ar 21 Mai 2025 er mwyn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â graddfa’r addasiadau cyfrifyddu technegol nad ydynt yn ymwneud ag arian parod i ddarpariaethau pensiwn, a chostau ailstrwythuro nad ydynt wedi’u cynnwys yn y gwariant sylfaenol.  Rydym hefyd wedi cynnwys brawddeg i ddangos sut y bydd sefyllfa sylfaenol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn newid os caiff costau ailstrwythuro eu cynnwys. Nid yw’r diweddariad hwn yn effeithio ar y ffigurau a gyhoeddwyd yn wreiddiol.

  • Adroddwyd fod cyfanswm incwm sefydliadau addysg uwch Cymru’n £1.98bn yn 2023/24, yr un faint ag yn 2022/23.
Siart 1: Dadansoddiad o incwm sefydliadau addysg uwch Cymru
Siart 1: Dadansoddiad o incwm sefydliadau addysg uwch Cymru
  • Fe gynyddodd incwm trwy ffioedd dysgu a chontractau addysg 5% i £1.11bn yn 2023/24. Roedd ffioedd dysgu a chontractau addysg yn rhoi cyfrif am 56% o incwm yn 2023/24.
  • Roedd grantiau gan gyrff cyllido’n rhoi cyfrif am 14% (£276m) o incwm sefydliadau addysg uwch Cymru yn 2023/24. Gostyngodd incwm o grantiau gan gyrff cyllido 15% rhwng 2022/23 a 2023/24. Yn ogystal â chyllid gan Medr, gall grantiau gan gyrff cyllido gynnwys cyllid ar gyfer sefydliadau addysg bellach mewn grwpiau addysg uwch, a pheth cyllid arall gan Lywodraeth y DU a delir trwy Medr.
  • Roedd grantiau a chontractau ymchwil yn 12% (£239m) o incwm sefydliadau addysg uwch Cymru yn 2023/24. Fe ostyngodd incwm o grantiau a chontractau ymchwil 12% rhwng 2022/23 a 2023/24.
  • Cyfanswm gwariant sylfaenol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2023/24 oedd £2.04bn, sydd 4% yn fwy na chyfanswm y gwariant sylfaenol yn 2022/23 (£1.96bn). Nid yw’r gwariant sylfaenol yn cynnwys addasiadau cyfrifyddu technegol nad ydynt yn ymwneud ag arian parod i ddarpariaethau pensiwn gwerth £380m (2022/23 – £73m) a fyddai, o’u cynnwys, yn lleihau cyfanswm y gwariant, gan roi adlewyrchiad ffug o gostau’r sector. Gwnaeth gwelliannau yn y farchnad ehangach gynyddu gwerth cynlluniau pensiwn, felly, yn 2023/24, roedd angen neilltuo llai ar gyfer newidiadau posibl yn y dyfodol. Nid yw’r gwariant sylfaenol ychwaith yn cynnwys costau ailstrwythuro o £16m (2022/23 – £1m) nad ydynt, wrth natur, yn rhan o wariant gweithredol rheolaidd.
  • Sefyllfa weithredu sylfaenol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru (cyfanswm yr incwm llai cyfanswm y gwariant sylfaenol fel y’i diffinnir uchod) yn 2023/24 oedd diffyg o £61m (2022/23 – gwarged o £21m). Diffyg o £77m fyddai’r sefyllfa sylfaenol gan gynnwys costau ailstrwythuro (2022/23 – gwarged o £22m).
  • Roedd cyfanswm gwariant sefydliadau addysg uwch Cymru (gan gynnwys addasiadau a chostau ailstrwythuro) yn 2023/24 yn £1.68bn, 11% yn is na ffigwr 2022/23, sef £1.89bn.
Siart 2: Dadansoddiad o wariant sefydliadau addysg uwch Cymru
Siart 2: Dadansoddiad o wariant sefydliadau addysg uwch Cymru
  • Roedd cynnydd o 6% mewn costau staff (heb gynnwys newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn) o £1.05bn yn 2022/23 i £1.11bn yn 2023/24. Nodyn: mae hyn yn wahanol i sut y mae’r data wedi cael ei ddarparu mewn fersiynau blaenorol o’r datganiad hwn lle’r oedd newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn yn cael eu cynnwys gyda’r costau staff.

Mae ffigyrau 2023/24 ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2024 ac mae ffigyrau 2022/23 ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2023.

Y ffigyrau ar gyfer 2022/23 yn y datganiad hwn yw’r gwerthoedd wedi’u hailddatgan a gasglwyd wrth gasglu cofnod cyllid 2023/24. Mae hyn yn golygu y gall ffigyrau 2022/23 fod yn wahanol i’r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol gan bod darparwyr yn gallu diwygio’r rhain os oes angen.

Gellir dod o hyd i’r data ar wefan Data Agored HESA sydd hefyd yn cynnwys data ar gyfer darparwyr unigol.

Sta/Medr/12/2025: Cyllid sefydliadau addysg uwch, Medi 2023 – Awst 2024

Cyfeirnod:  Sta/Medr/12/2025

Dyddiad:  13 Mai 2025; diweddarwyd ar 21 Mai 2025

Dynodiad:  Ystadegau Sywddogol

Crynodeb:  Dadansoddiad o incwm a gwariant sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Medi 2023 a mis Awst 2024

Sta/Medr/12/2025 Cyllid sefydliadau addysg uwch, Medi 2023 – Awst 2024

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Sta/Medr/11/2025: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2023 – Gorffennaf 2024

Addysg gyffredinol (Safon Uwch)
  • Mae deilliannau o ran graddau’n dal i fod yn uwch na chyn y pandemig, ond roedd gostyngiad yng nghyfrannau’r dysgwyr a enillodd o leiaf dair A ac o leiaf thair C o’i gymharu â 2022/23.
  • Roedd cynnydd bach yng nghyfraddau cwblhau Safon UG a gostyngiad bach yng nghyfran y dysgwyr a aeth ymlaen i’w hail flwyddyn o Safon Uwch o’i gymharu â 2022/23.
  • Roedd dysgwyr a oedd yn gwneud Mathemateg, Cemeg, Ffiseg a Bioleg yn arbennig o debygol o gael graddau uchel.
  • Roedd gan ddysgwyr benywaidd ddeilliannau gwell na dysgwyr gwrywaidd mewn rhaglenni addysg gyffredinol, heblaw am ddysgwyr a enillodd dair A*.
  • Aeth 51% o’r dysgwyr benywaidd a wnaeth UG ymlaen i ennill o leiaf tair C mewn Safon Uwch, o’i gymharu â 40% o ddysgwyr gwrywaidd.
  • Aeth 48% o ddysgwyr UG 16 oed ymlaen i ennill o leiaf tair C mewn Safon Uwch, o’i gymharu â 22% o ddysgwyr hŷn.  
  • Roedd dysgwyr o gefndiroedd amddifadus yn llai tebygol o gwblhau eu Safon Uwch ac yn llai tebygol o gael graddau uchel os oeddent yn gwneud.
  • Roedd gan ddysgwyr o gefndir Du, Affricanaidd, Caribïaidd, Du Prydeinig neu Ddu Cymreig ddeilliannau Safon Uwch is fel rheol na grwpiau ethnig eraill, ond dyma oedd yr unig grŵp ethnig lle gwelwyd cynnydd o ran ennill o leiaf dair A o’i gymharu â 2022/23.
Addysg alwedigaethol
  • Fe wnaeth deilliannau galwedigaethol ar yr holl lefelau rhaglenni wella yn 2023/24. Fe barhaodd yr adferiad o’r gostyngiad mewn deilliannau yn dilyn pandemig y coronafeirws (Covid-19) ac mae deilliannau ar lefelau 1 i 3 bellach yn gyson fwy neu lai â’r ffigyrau cyn y pandemig.
  • Mae cyfraddau cwblhau a llwyddiant ar gyfer rhaglenni galwedigaethol ar lefel mynediad ill dwy 3 phwynt canran yn uwch na chyn y pandemig.
  • Mae cyfran y dysgwyr na wnaethant gwblhau eu rhaglen oherwydd ‘Rhesymau personol’ wedi aros yn llonydd. Fe wnaeth llai o ddysgwyr beidio â chwblhau eu rhaglen oherwydd ‘Methu’.
  • Gwelwyd cynnydd o 10 pwynt canran mewn dysgwyr na wnaethant gwblhau eu rhaglen oherwydd rhesymau ‘Eraill’ o’i gymharu â 2022/23.
  • Roedd gan ddysgwyr galwedigaethol a oedd yn gysylltiedig â phrofiadau o amddifadedd ddeilliannau is na’r rhai nad oeddent yn gysylltiedig â phrofiadau o amddifadedd, ond roedd y berthynas yn llai cryf nag mewn addysg gyffredinol.
  • Nid oedd unrhyw fwlch rhwng y rhywiau mewn cyfraddau llwyddiant ar gyfer rhaglenni galwedigaethol.
Bagloriaeth Cymru
  • Roedd deilliannau ar gyfer Bagloriaeth Cymru’n uwch na 2022/23 ar gyfer dysgwyr ar raglenni addysg gyffredinol a galwedigaethol, ac eithrio ar gyfer cyfrannau’r dysgwyr galwedigaethol a enillodd raddau A*, A* i A ac A* i B yn y Dystysgrif Her Sgiliau, a oedd ychydig yn is neu’n dal i fod yr un fath.

Crynodeb o fesurau cyflawniad yn ôl blwyddyn academaidd, rhwng mis Awst 2022 a mis Gorffennaf 2024

Crynodeb o fesurau cyflawniad yn ôl blwyddyn academaidd, rhwng mis Awst 2022 a mis Gorffennaf 2024
Disgrifiad: Fe gwblhaodd 75% o ddysgwyr Safon Uwch eu rhaglen ddwy flynedd ym mlwyddyn academaidd 2023/24. Fe gwblhaodd 87% o ddysgwyr galwedigaethol eu rhaglen. Fe gwblhaodd 70% o ddysgwyr Bagloriaeth Cymru y cymhwyster.

Sta/Medr/11/2025: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2023 – Gorffennaf 2024

Cyfeirnod yr ystadegau:  Sta/Medr/11/2025

Dyddiad:  08 Mai 2025

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

Crynodeb: Deilliannau ar gyfer addysg gyffredinol, addysg alwedigaethol a Bagloriaeth Cymru yn y chweched dosbarth ac mewn colegau.

Sta/Medr/11/2025 Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2023 – Gorffennaf 2024

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Sta/Medr/10/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2024

  • Dechreuodd 7,185 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch1 2024/25, o gymharu â 8,145 yn Ch1 2023/24. Mae hwn yn ostyngiad o 12% yn nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd.
  • Mae’r gostyngiad yn nifer y dechreuadau yn cyd-daro â gostyngiad mewn cyllid prentisiaethau yng nghyllideb 2024-25, yn dilyn colli cyfraniadau o Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Dechreuwyd cyflwyno newidiadau i ddarpariaeth o fis Tachwedd 2023, wrth ddisgwyl am y gyllideb.
  • Ymhlith y Prentisiaethau Uwch y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf o gymharu â Ch1 y flwyddyn gynt.
  • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch1 2024/25 hefo 2,210 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 31% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Roedd 53% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr gwrywaidd yn Ch1 2024/25, roedd hyn wedi gostwng 1 pwynt canran o gymharu â Ch1 2023/24.
  • Roedd 34% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr iau nag 19 oed yn Ch1 2024/25 o gymharu â 35% yn Ch1 y flwyddyn gynt.
  • Roedd 12% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch1 2024/25, roedd hyn wedi cynyddu 3 pwynt canran o gymharu â Ch1 2023/24.
  • Roedd 12% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch1 2024/25 gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu, dim newid o Ch1 2023/24.
  • Mae 70,110 o brentisiaethau wedi’u dechrau ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau.
  • Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.
Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiol

Sta/Medr/10/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2024

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/10/2025

Dyddiad:  07 Mai 2025

Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd.

Sta/Medr/10/2025 Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2024

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio