This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Ehangu’r ddarpariaeth prentisiaethau iau ledled Cymru

Mae rhagor o ddisgyblion blwyddyn 10 a blwyddyn 11 yn mynd i gael budd o ddarpariaeth prentisiaethau iau yng Nghymru, gyda chynnydd o 50% mewn cyllid.

Mae prentisiaethau iau’n sicrhau bod dysgwyr a fyddai fel arall yn gallu wynebu risg o ymddieithrio oddi wrth addysg yn cael llwybr ystyrlon at addysg bellach, prentisiaethau a chyflogaeth. 

Trwy Medr, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £600k mewn prentisiaethau iau eleni, sydd wedi helpu i gynorthwyo Grŵp Llandrillo Menai a Choleg y Cymoedd i gynnig llwybrau prentisiaethau iau galwedigaethol ochr yn ochr â phum coleg arall ledled Cymru.

Fe wnaeth adolygiad gan Estyn ym mis Mai 2024 amlygu llwyddiant prentisiaethau iau o ran cefnogi dysgwyr. 

Mae Medr wedi cydweithio’n agos gyda cholegau addysg bellach i ddarparu ar gyfer ehangu prentisiaethau iau i mewn i ddau goleg yn rhagor, gan gynyddu’r ddarpariaeth a’r dewis i ddysgwyr ifainc yng Nghymru.

Mae’r rhaglen yn cynnig addysg sy’n gysylltiedig â gwaith gyda phrofiad gwaith yn gynwysedig. Mae hyn ochr yn ochr â chwrs Lefel 2 sy’n gyfwerth â phedwar neu bum TGAU, mewn ystod o lwybrau galwedigaethol, ynghyd â mathemateg a Chymraeg/Saesneg.

Wedi i Lywodraeth Cymru ofyn iddynt ehangu’r rhaglen ymhellach, gyda chyllid ychwanegol o £200k eleni, bu Medr yn cydweithio’n agos gyda Choleg y Cymoedd a Grŵp Llandrillo Menai i roi cymorth i sefydlu darpariaeth a rhaglenni ar gyfer prentisiaethau iau eleni. Yn awr byddant yn ymuno â’r pum coleg ledled Cymru sydd eisoes yn darparu prentisiaethau iau.

Yn awr bydd Coleg y Cymoedd yn cynnig dewis o dri llwybr ar wahân i ddysgwyr ar ei gampws yn y Rhondda: y cyfryngau creadigol, gwallt a harddwch, a lletygarwch ac arlwyo

Eglurodd Nathan Prygodzicz, Pennaeth Ysgol Gymunedol Glynrhedynog:

Mae Ysgol Gymunedol Glynrhedynog wrth ei bodd i fod yn rhan o gynllun peilot ar gyfer prentisiaethau iau arloesol sy’n cynnwys ysgolion RhCT a Choleg y Cymoedd. Mae gweithio mewn partneriaeth i ehangu’r cyfleoedd y gallwn eu darparu i’n disgyblion wedi bod fel chwa o awyr iach.

“Mae ystod o lwybrau galwedigaethol newydd, cyffrous sy’n ategu ein harlwy 14-16 bresennol wedi cael eu derbyn yn ddiolchgar gan y disgyblion a dargedir a’u rhieni. Mae eisoes wedi cael effaith sylweddol ar les, ymgysylltiad a phresenoldeb disgyblion, ac rydym yn hyderus, trwy barhau i weithio mewn partneriaeth, y gallwn barhau i ddarparu’r cyfleoedd bywyd a chyflogaeth gorau i grŵp o ddisgyblion a oedd wedi ymddieithrio o fewn yr amgylchedd ysgol ‘arferol’.”

  Mae Izzy yn un o’r myfyrwyr sydd wedi cael budd o’r cynllun, ac meddai:

“Cyn y ddarpariaeth hon ro’n i’n dianc rhag gwersi ac yn peidio â chael addysg. Ro’n i’n hen law ar ddianc rhag gwersi ac ni chefais erioed fy nal.

“Yn awr mae cyrraedd ar amser o bwys i mi, mae gen i hyder, ac mae arnaf eisiau llwyddo yn fy nghyrsiau TGAU. Rwyf wedi gwneud ffrindiau hefyd – doedd gen i byth ffrindiau o’r blaen, dim ond cyd-fyfyrwyr oedd yn dianc rhag gwersi gyda mi.

“Rwyf wedi llwyddo i gael y canlyniad gorau i mi ei gael erioed mewn mathemateg, diolch i fod yma. Hwnnw oedd y tro cyntaf i mi fod yn falch o ddangos fy nghanlyniadau i’m rhieni.”

Meddai Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo:

“Mae’r cynllun peilot prentisiaethau iau eisoes wedi dangos yr effaith aruthrol y gall y rhaglen ei chael ar ddysgwyr a’u teuluoedd – mae’r ymgysylltiad, y presenoldeb a’r gwaith galwedigaethol o ansawdd da yr ydym yn eu gweld yn ysbrydoledig, gyda phobl ifanc eisoes yn siarad yn hyderus am eu camau nesaf a’u gyrfaoedd yn y dyfodol mewn sectorau y mae arnynt wir angen eu sgiliau.

“Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth Medr, ein hysgolion lleol, a’r awdurdod lleol. Mae’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan ydym yn cydweithio gyda ffocws clir ar roi dysgwyr yn gyntaf.”

Ychwanegodd Aled Jones Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:

“Mae’r rhaglen prentisiaethau iau’n hollbwysig i sicrhau bod dysgwyr o bob cefndir ac o bob gallu academaidd yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau a fydd yn agor drysau i yrfaoedd yn y dyfodol. Mae’r rhaglen yn rhoi sylfaen gref i ddysgwyr ifainc allu camu ymlaen at astudiaethau amser llawn ac, yn y pen draw, at gyflogaeth werthfawr.

“Rydym yn falch o fod yn cyflwyno’r ddarpariaeth drawsnewidiol hon a gallwn eisoes weld yr effaith gadarnhaol tu hwnt y mae’n ei chael ar fywydau pobl ifanc.”

Ac mae’r manteision i’w gweld yn glir gan rieni hefyd, gyda Rachael yn dweud:

“Rwyf wedi gweld gwahaniaeth ynddo’n barod. Mae’n mwynhau cael ei drin fel oedolyn ifanc.

“Mae’r ardal ymlacio wedi ei helpu i reoli ei ymddygiad, yn enwedig os yw’n teimlo wedi’i orlethu. Cyflwynir y sesiynau mewn ffordd sy’n golygu bod ganddo amser i ystyried yr hyn y mae wedi’i ddysgu. Mae arno eisiau dod i’r coleg ac mae’n codi’n gynharach na fi bob dydd.

“Am y tro cyntaf, mae’n dweud wrthym am yr hyn y mae wedi bod yn ei wneud yn ystod y dydd. Mae’n bod yn wirioneddol agored gyda mi. Rwy’n teimlo bod y cwrs wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas iddo – mae i’w weld gymaint yn fwy sionc. Gallaf uniaethu â’r newid ynddo gan bod pobl yn syml yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol.”

Wrth groesawu’r ddarpariaeth ehangach, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

“Rwy’n falch fy mod wedi cael y cyfle i ymweld â cholegau sy’n darparu’r rhaglen prentisiaethau iau ac i glywed gan y bobl ifanc am yr effaith gadarnhaol y mae’r rhaglen yn ei chael.

“Mae cydweithio’n allweddol i lwyddiant prentisiaethau iau, gydag ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn cydweithio i greu cyfleoedd i bobl ifanc. Mae’n dda gen i weld y ddarpariaeth yn cael ei hehangu yn awr i ddau goleg newydd, ac fe hoffwn ddiolch i Grŵp Llandrillo Menai a Choleg y Cymoedd am eu gwaith.

“Mae’r hyfforddiant galwedigaethol y gall pobl ifanc ei wneud trwy brentisiaeth iau’n amrywiol ac yn darparu sgiliau gwych a all helpu pobl ifanc i gamu ymlaen at gwrs galwedigaethol neu brentisiaeth uwch. Yn hollbwysig, mae prentisiaethau iau’n cynorthwyo dysgwyr a allai fod wedi rhoi’r gorau i addysg neu hyfforddiant fel arall, ymgysylltu’n llawn a cheisio ehangu eu taith ddysgu ar ôl 16.”

Bydd Medr yn parhau i weithio gyda cholegau eraill ledled Cymru i archwilio ffyrdd eraill o gynyddu ac ehangu darpariaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio