James Owen

James Owen
Prif Weithredwr
Penodwyd James Owen yn Prif Weithredwr ym mis Awst 2025 ar ôl ymuno â Medr fel Prif Swyddog Gweithredu yn 2024.
Mae James yn gyfrifol am oruchwylio buddsoddiad o £1bn mewn addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru; adeiladu perthnasoedd cydweithredol â phartneriaid yn seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth cilyddol; ac arwain y tîm i gyflawni uchelgeisiau ac ymrwymiadau’r Cynllun Strategol i greu sector mwy cydgysylltiedig a chynhwysol yng Nghymru – un sy’n helpu pob dysgwr i ddod o hyd i’w lwybr ac yn sicrhau bod y system yn diwallu anghenion ein cymdeithas a’n heconomi, nid yn unig nawr, ond hefyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Cyn hynny roedd James yn Gyfarwyddwr Dros Dro yn Llywodraeth Cymru a oedd yn gyfrifol am sefydlu Medr. Ar ran Gweinidogion Cymru, arweiniodd y rhaglen ddiwygio hon i’r sector cyfan er mwyn sefydlu’r corff hyd braich newydd sy’n. Cyn hynny roedd wedi dal nifer o swyddi arweinyddol uwch yn Llywodraeth Cymru a bu’n gweithio i Swyddfa’r Cabinet yn Whitehall.
Mae James yn teimlo’n angerddol dros helpu pobl i wireddu eu llawn botensial, yn arbennig fel hyfforddwr a mentor gweithredol. Y mae hefyd yn eiriolwr grymus o blaid y model cymdeithasol o anabledd.