This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2025/16: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2025-26

Rhagair

1. Ers 2011, mae Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) wedi cael ei ddarparu i sefydliadau cymwys yng Nghymru. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynghori Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) ynghylch dyraniadau 2025-26 ac yn rhoi canllawiau ar y gofynion adrodd a monitro cysylltiedig. 

Y cefndir

2. Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) wedi cadarnhau y bydd yn darparu cyllid HERC i bedwar corff cyllido AU y DU[1] yn 2025-26. Bydd DSIT yn darparu £4,623,296 yng Nghymru, a bydd Llywodraeth Cymru (LlC) yn gwneud cyfraniad ar ffurf arian cyfatebol, gan greu cyfanswm cronfa o £9,246,592.

Defnydd o’r cyllid

3. Ni cheir ond defnyddio’r cyllid a ddarperir o dan HERC er mwyn buddsoddi cyfalaf yn y seilwaith ffisegol ar gyfer ymchwil. Mae ymchwil yn cynnwys ‘ymchwil wyddonol’ (sy’n golygu ymchwil a datblygu yn unrhyw un o’r gwyddorau gan gynnwys y gwyddorau cymdeithasol neu dechnoleg (adran 6(1) o Ddeddf Gwyddoniaeth a Thechnoleg 1965)) ac ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau.

4. Wrth benderfynu sut i ddefnyddio’u dyraniadau, dylai sefydliadau ystyried gofynion Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r uchelgeisiau a nodwyd yn Strategaeth Arloesi’r DU, Strategaeth Ymchwil ac Arloesi’r DU, Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru a Chynllun Strategol Medr 2025-2030. Dylid ystyried hefyd sut mae cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dyraniadau

5. Dyrennir y Cyllid drwy ddulliau gwahanol ar gyfer elfennau DSIT a LlC:

  1. Dyrennir elfen DSIT y cyllid drwy defnyddio’r data 3 blynedd diweddaraf gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar incwm Cyngor Ymchwil ac Arloesi’r DU. Yn unol â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth DSIT â Medr a Llywodraeth Cymru, dylai’r cyllid ganolbwyntio ar gynnal adrannau ardderchog â’r màs critigol i gystadlu’n fyd-eang, a’r arbenigedd i gydweithio’n agos â busnesau, elusennau a gwasanaethau cyhoeddus.
  2. Dyrennir elfen Llywodraeth Cymru o’r grant ar sail pro rata yn unol â chyfuniad o’r dyraniad Ymchwil Ansawdd cylchol diweddaraf plws incwm ymchwil arall a adroddwyd gan y darparydd ar gofnod cyllid HESA. Defnyddiwyd y dyraniad Ymchwil Ansawdd ar gyfer 2024/25 oddi mewn i’ fformiwla gyllido ar gyfer HERC 2025-26.

Trothwy cyllido

6. Er mwyn bodloni gofyniad y DSIT fod y gronfa’n cefnogi rhagoriaeth ac yn adeiladu màs critigol, mae’r fformiwla’n cynnwys trothwy isafswm o £100k. Dim ond sefydliadau y cyfrifir bod eu dyraniadau uwchlaw’r trothwy cymhwysedd hwn fydd yn derbyn cyllid yn 2025-26.

7. Ceir hyd i ddyraniadau cyllid 2025-26 ar gyfer sefydliadau cymwys yn Atodiad A.

Trefniadau monitro

8. Ym mis Chwefror 2025, cyflwynodd sefydliadau fanylion eu blaenoriaethau cyllido HERC i’r dyfodol ar gyfer 2025-26. Dylid cadarnhau’r buddsoddiadau hyn a chynlluniau posibl i’r dyfodol ar gyfer 2026-27 drwy lenwi a chyflwyno’r profforma yn Atodiad B.

  • Dylai Rhan 1 y profforma i gadarnhau’r defnydd o gyllid yn 2025-26, gan gynnwys cyfanswm costau buddsoddiadau graddfa fawr, lle cyfrannodd cyllid HERC at hynny. Dylai sefydliadau ddangos lle mae cyllid HERC wedi galluogi ac ysgogi capasiti ymchwil, wedi datblygu blaenoriaethau strategol, ac wedi galluogi sefydliadau i gystadlu’n fwy effeithiol am gyllid ymchwil ac arloesi allanol.
  • Dylid defnyddio Rhan 2 o’r profforma i amlinellu blaenoriaethau gwariant ar gyfer 2026-27 yn seiliedig ar ragdybiaeth y bydd cyllid HERC pellach yn cael ei ddarparu.
  • Rhaid anfon Atodiad B yn ôl i Medr erbyn 13 Chwefror 2026 ar yr hwyraf.

9. Er mwyn cadarnhau bod HERC wedi’i wario’n llawn, gofynnir i sefydliadau cymwys gyflwyno’r profforma Cadarnhau Gwariant yn Atodiad C erbyn 24 Ebrill 2026. Dylai sefydliadau sicrhau eu bod yn nodi’n glir a oes unrhyw gyllid heb ei wario wedi’i ymrwymo ac, os felly, y dyddiad pan fydd y cyllid hwnnw wedi’i wario’n llawn. Gall Medr adhawlio unrhyw gyllid heb ei wario os nad yw wedi’i ymrwymo.

10. Bydd yr wybodaeth a gyflwynir gan SAUau yn yr adroddiadau hyn yn sail i ofynion adrodd Medr ar gyfer Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2026 a DSIT ym mis Mehefin 2026. Gallai methu â darparu manylion digonol am brosiectau a gwariant olygu gohirio cadarnhad o ddyraniadau cyllid yn y dyfodol, neu ddangos diffyg effaith posibl yn sgil buddsoddiad HERC yng Nghymru, a allai danseilio’r ddadl o blaid cyllid parhaus.


Trefniadau talu

11. Fel y nodwyd yn Atodiad A bydd cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy ddau daliad ym mis Medi 2025 ac ym mis Ionawr 2026.

Rhagor o wybodaeth / ymatebion i

12. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).

[1] Medr – Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil; Cyngor Cyllido’r Alban; Adran yr Economi (Gogledd Iwerddon); Ymchwil Lloegr

Medr/2025/16: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2025-26

Dyddiad:  12 Medi 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/16

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn: 13 Chwefror 2026 a 24 Ebrill 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi manylion dyraniadau 2025-26 ar gyfer sefydliadau sy’n gymwys i dderbyn cyllid Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch.

Medr/2025/16 Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2025-26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio