Cyhoeddiadau
Medr/2025/06: Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26
06 Aug 2025
Cyflwyniad
1. Derbyniodd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ym mis Medi 2022. Yn sgil y Ddeddf sefydlwyd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a adwaenir fel Medr, sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros reoleiddio a chyllido’r rhan fwyaf o ddarpariaeth addysg drydyddol yng Nghymru. Daeth Medr yn weithredol o 1 Awst 2024. Y cyhoeddiad hwn yw’r cyhoeddiad cyntaf o’i fath o ran y gyllideb a chyllido, gan gynnwys yr holl sectorau trydyddol a’r cyllid a ddarperir gan Medr.
2. Cyhoeddodd Medr ei Gynllun Strategol cyntaf ar 12 Mawrth 2025, yn esbonio ei uchelgeisiau ar gyfer addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Cyflwynir yr uchelgeisiau hyn mewn ymrwymiadau sylfaenol i’w cyflawni o fewn dwy flynedd, ac ymrwymiadau ar gyfer twf i’w cyflawni o fewn pum mlynedd. Mae’r cyllid a gyhoeddir yn y cyhoeddiad hwn wedi’i osod yng nghyd-destun yr ymrwymiadau hynny a phwysigrwydd creu sefydlogrwydd i ddarparwyr yn ystod newid i’r oruchwyliaeth dros addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi yng Nghymru.
3. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein cyllid cyffredinol ar gyfer darparwyr addysg drydyddol a gyllidir gan Medr yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Mae’r ddogfen hon hefyd yn cynnwys dyraniadau darparwyr unigol ar gyfer yr holl gyllid craidd a rhai cyllidebau strategol lle bônt ar gael.
4. Ar hyn o bryd mae Medr yn cyllido addysg bellach (AB) ar ran Llywodraeth Cymru drwy gytundeb asiantaeth a gyhoeddwyd o dan adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae Medr yn dyrannu cyllid drwy’r pwerau hyn i sefydliadau o fewn y sector addysg bellach, awdurdodau lleol a darparwyr prentisiaethau dan gontract.
5. Mae Medr yn gweinyddu ei gyllid ar gyfer addysg uwch (AU) yn seiliedig ar bwerau a nodir yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, sy’n pennu natur y gweithgareddau sy’n gymwys ar gyfer cyllid. Y gweithgareddau sy’n gymwys i dderbyn cyllid yw’r rhai a gyflawnir gan sefydliadau addysg uwch yn bennaf. Mae rhywfaint o gyllid addysg uwch yn cael ei ddyrannu i sefydliadau addysg bellach, ond dim ond ar gyfer darparu cyrsiau addysg uwch rhagnodedig y gall Medr ddyrannu’r cyllid hwn.
6. Bydd y cytundeb asiantaeth a’r pwerau a nodir uchod yn parhau nes bo’r pwerau cyllido a nodir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn cael eu gweithredu.
7. Ar wahân i hyn, rydym yn rheoleiddio sefydliadau a chanddynt Gynlluniau Mynediad a Ffioedd cymeradwy o dan bwerau a nodir yn Neddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Yn sgil cael eu rheoleiddio, bydd cyrsiau gradd ac ôl-radd sefydliadau’n cael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr. Ar gyfer cyrsiau nad ydynt wedi’u dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, rydym yn gweinyddu proses sy’n galluogi darparwyr i ddynodi cyrsiau fesul achos. Nid yw‘r ddwy broses hon sy’n arwain at ddynodi cyrsiau gan Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig â’n swyddogaethau i ddarparu cyllid i sefydliadau. Gan hynny, ni fydd cael eu rheoleiddio na chael cyrsiau wedi’u dynodi yn golygu y bydd darparwyr yn derbyn y cyllid a weinyddir gennym ac sydd wedi’i nodi ar ffurf dyraniadau yn y cyhoeddiad hwn.
8. Ar gyfer prifysgolion yng Nghymru a darparwyr eraill yng Nghymru sy’n derbyn cyllid craidd AU, nid yw cyllid Medr yn cynnwys taliadau ar gyfer benthyciadau a grantiau ffioedd dysgu na thaliadau cymorth eraill i fyfyrwyr. Gweinyddir y rhain gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Nid yw darparwyr prentisiaethau, colegau a chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yn derbyn ffioedd dysgu ac eithrio ar gyfer darpariaeth AU. Y cyllid craidd a ddyrennir gan Medr sydd i gyfrif am y rhan fwyaf o’u hincwm.
9. Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid i Medr yn flynyddol ar sail blwyddyn ariannol o 1 Ebrill i 31 Mawrth. Mae Medr yn dyrannu cyllid i’r rhan fwyaf o sefydliadau a darparwyr cymwys ar sail blwyddyn academaidd o 1 Awst i 31 Gorffennaf. Rydym yn defnyddio’r fformat hwn: 2025-26, i ddynodi’r flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2026, a’r fformat hwn: 2025/26, i ddynodi’r flwyddyn academaidd hyd at 31 Gorffennaf 2026.
10. Yn y dyfodol bydd Medr yn ymgynghori ar bolisi cyllido a fydd yn nodi egwyddorion ar gyfer cyllido addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei lywio gan y gofrestr addysg uwch newydd, lle na fydd ond y rhai yng nghategori craidd y gofrestr yn gymwys i dderbyn cyllid addysg uwch ac ymchwil ac arloesi. Bydd y polisi hefyd yn ystyried ein dyletswyddau strategol.
Cynnwys
11. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cwmpasu pob elfen o’n dyraniad cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb derfynol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 ym mis Mawrth 2025. Derbyniwyd y llythyr cyllido cyfatebol ym mis Mawrth 2025.
12. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys yr holl grantiau craidd sy’n seiliedig ar fformiwla. Lle bo modd, mae grantiau a ddyrennir drwy gyllidebau strategol, a all fod yn amodol ar ddarparu cynllun neu strategaeth gwariant benodol, hefyd wedi’u cynnwys.
13. Caiff manylion dyrannu cyfalaf ar gyfer sefydliadau AU[1] eu cyhoeddi ar wahân, yn ogystal â dyraniadau cyllid ar gyfer mentrau addysg drydyddol strategol fel llesiant ac iechyd meddwl a chymorth cyflogadwyedd wedi’i dargedu. Er tryloywder, caiff y dyraniadau hyn eu cyfleu drwy gyhoeddiadau ar wahân.
[1] Darperir cyllid cyfalaf ar gyfer yr ystâd AB yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru drwy’r rhaglen cymunedau cynaliadwy.
Medr/2025/06: Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26
Dyddiad: 06 Awst 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/06
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid colegau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg; Penaethiaid Chweched Dosbarth Ysgolion; Arweinwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned Awdurdodau Lleol; Deiliaid Contractau Prentisiaeth
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos sut y dosberthir cyllid cyffredinol Medr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26 gan gynnwys dyraniadau sefydliadol unigol ar gyfer holl gyllid craidd addysg drydyddol.
Medr/2025/06 Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26Atodiadau’r dyraniadau
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio