Profiadau myfyrwyr addysg uwch
Mae addysg uwch yn cynnwys myfyrwyr sy’n astudio gradd mewn prifysgol neu goleg. Gall hyn olygu cwrs gradd, neu gwrs ôl-radd fel Doethuriaeth neu Radd Meistr.
Hyd fis Awst 2024, roedd addysg uwch yng Nghymru yn cael ei rheoleiddio a’i chyllido gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Ym mis Awst 2024 daeth Medr yn weithredol a chymryd drosodd swyddogaethau CCAUC. Cafodd rhai o’n canllawiau a’n cyhoeddiadau cyfredol eu hysgrifennu neu eu cyllido gan CCAUC, a byddant yn parhau i arddel enw CCAUC nes cael eu diweddaru yn y dyfodol.
Dylai sefydliadau addysg uwch weithio gyda’r corff o fyfyrwyr i baratoi Siarteri Myfyrwyr, sy’n nodi disgwyliadau, hawliau a chyfrifoldebau sefydliadau a’u myfyrwyr, y naill i’r llall. Dylai’r rheiny fod wedi’u cynllunio i gefnogi profiad dysgu’r myfyriwr, a chynnwys dolenni priodol i wybodaeth bellach. Cyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ganllawiau ar sut y dylai darparwyr addysg uwch fynd ati i ddatblygu siarteri myfyrwyr ac mae’r disgwyliadau hyn wedi’u cynnwys yn y Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru.
Cyhoeddodd CCAUC gyfarwyddyd ar arfer da o ran cyllido undebau myfyrwyr effeithiol a democrataidd, a chynrychiolaeth myfyrwyr.

Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
Mae’r NSS yn casglu adborth gan fyfyrwyr ar flwyddyn olaf eu gradd ynghylch eu bodlonrwydd â’u cwrs. I Medr, mae’r NSS yn rhan allweddol o lais y myfyriwr, ac mae Medr yn defnyddio canlyniadau’r NSS i fynd ar drywydd ansawdd addysg.
Mae’r NSS yn eiddo i Medr, y Swyddfa Fyfyrwyr, Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr yn rheoli’r arolwg ar ran yr holl gyrff cyllido a rheoleiddio. Ipsos yw’r cwmni sy’n gweinyddu’r arolwg, ac mae CACI Ltd yn rhannu’r canlyniadau â darparwyr a sefydliadau.
Cyhoeddir yr NSS fel gwybodaeth gyhoeddus, ond ceir trothwyon y mae’n rhaid eu bodloni i gadw manylion myfyrwyr yn anhysbys. I dderbyn canlyniadau lefel pwnc, rhaid cael ymateb gan isafswm o 10 o fyfyrwyr, neu gyfradd ymateb isafswm o 50%.
Ceir rhagor o wybodaeth a data’r NSS ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr. Mae canlyniadau manylach o’r NSS ar gael i sefydliadau ac undebau myfyrwyr i ddibenion mewnol.
Mae’n ofynnol i bob darparydd addysg uwch yng Nghymru gymryd rhan yn yr NSS a hyrwyddo’r arolwg ymhlith yr holl fyfyrwyr cymwys. Gall pob myfyriwr gradd ar ei flwyddyn olaf lenwi’r NSS ar-lein neu dros y ffôn. Ceir rhagor o wybodaeth i fyfyrwyr am yr NSS ar wefan yr NSS neu gall myfyrwyr holi eu darparydd.
Bydd y cwestiynau a osodwyd ar gyfer NSS 2026 yr un peth ag NSS 2025. Gall darparwyr hefyd ddewis cwestiynau dewisol nad ydynt yn rhan o’r data cyhoeddus a rennir.
| Yr arolwg ar agor i’w gwblhau gan fyfyrwyr | 07 Ionawr 2026 |
| Cau’r arolwg i ymatebion | 30 Ebrill 2026 |
| Cyhoeddi’r canlyniadau ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr | 08 Gorffennaf 2026 |
Mae dyddiadau cau ar gyfer data darparwyr wedi’u nodi yn Medr/2025/26: Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026.
Adnoddau eraill:
- Canllaw Myfyrwyr ar ddylanwad amhriodol
- Gweithdrefnau ar gyfer honiadau o ddylanwad amhriodol
- Canllaw Arfer Da 2025

Darganfod Prifysgol
Mae’r wefan Darganfod Prifysgol yn eiddo ar y cyd i Medr, Cyngor Cyllido’r Alban, y Swyddfa Fyfyrwyr, ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon. Mae Darganfod Prifysgol yn rhestru pob cwrs gradd gyda darparwyr AU y DU
Mae Darganfod Prifysgol yn eiddo i Medr, y Swyddfa Fyfyrwyr, Cyngor Cyllido’r Alban ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon. Y Swyddfa Fyfyrwyr sy’n rheoli ochr weinyddol y wefan.
Mae Darganfod Prifysgol yn wefan y gall darpar fyfyrwyr ei defnyddio i gymharu cyrsiau gradd ar draws y DU. Mae’n amlygu data am y darparydd a’r cwrs gan gynnwys canlyniadau’r NSS a Deilliannau Graddedigion.
Mae’n ofynnol i bob darparydd addysg uwch yng Nghymru uwchlwytho data i Darganfod Prifysgol. Ar gyfer Coleg, gall peth o’r data hyn gael eu huwchlwytho gan Brifysgol, yn dibynnu ar drefniadau breinio.
Mae HESA wedi cyhoeddi’r amserlen ar gyfer cofnod Darganfod Prifysgol 2025/26. Os oes problemau wrth fodloni unrhyw derfynau amser, cysylltwch â [email protected].

Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio