Hyrwyddo cydweithio ag undebau llafur
Mae dyletswydd strategol arnom i hyrwyddo cydweithio rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafur perthnasol.
Rydym wedi ymrwymo drwy ein holl Gynllun Strategol i hyrwyddo partneriaeth gymdeithasol yn weithredol, gan gydnabod bod cydweithio rhwng darparwyr ac undebau llafur o fudd i’r naill ochr a’r llall.
Fframwaith ymddygiadol ar gyfer cydweithio rhwng cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr neu undeb(au) llafur cydnabyddedig yw partneriaeth gymdeithasol. Y nod yw hyrwyddo buddion i’r naill ochr a’r llall a sicrhau penderfyniadau cynhwysol. Mae’n seiliedig ar ymddiriedaeth, parch, a nodau nodau cyffredin, ac yn meithrin amgylchedd lle bydd pob rhanddeiliaid yn cydweithio tuag at amcanion cyffredin.
Mae’r model partneriaeth gymdeithasol a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn gweithio o fewn y fframwaith hwn i wella gwasanaethau cyhoeddus a chanlyniadau economaidd, gan alluogi undebau llafur a chyflogwyr i fod yn bartneriaid gweithredol wrth ddatrys problemau.
Y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol
Rhaid i rai cyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau lleol a Medr, fodloni’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt geisio consensws neu gyfaddawd â’u hundebau llafur cydnabyddedig, neu, lle nad oes undeb llafur cydnabyddedig, cynrychiolwyr gweithwyr eraill, wrth osod a chyflawni eu hamcanion llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Ein nod yw sicrhau bod dysgwyr yn derbyn darpariaeth o’r safon uchaf mewn sector addysg drydyddol sy’n ymdrechu i wella’n barhaus, ac er ein bod yn ystyried mai partneriaeth gymdeithasol yw’r “safon aur” ar gyfer cydweithio, nid yw llawer o ddarparwyr addysg drydyddol, fel colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch, yn ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol. Gan hynny, byddwn yn mabwysiadu dull ehangach a mwy hyblyg wrth hyrwyddo cydweithio ag undebau llafur, a all adlewyrchu anghenion a chyd-destunau amrywiol y darparwyr.
Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael (Cymru) 2023
Mae Llywodraeth Cymru yn annog partneriaeth gymdeithasol, ac ym mis Mai 2023,daeth Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn gyfraith.
Mae’r Ddeddf yn ategu deddfwriaeth arall, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn benodol, ac yn anelu i wella lles economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Cynlluniau peilot partneriaeth gymdeithasol addysg bellach
Ers 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gydag undebau llafur ar y cyd a cholegau addysg bellach i’w cynorthwyo i ddatblygu dulliau partneriaeth gymdeithasol o’u gwirfodd. Cychwynnwyd y gwaith hwn gan Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU), ac roedd cysylltiadau agos rhyngddo a mentrau i adolygu llwythi gwaith a chefnogi lles staff a dysgu proffesiynol mewn addysg bellach. Medr sydd bellach yn gyfrifol am y maes gwaith hwn.
Cafodd Rhestr chwarae partneriaeth gymdeithasol mewn addysg bellach ei chyhoeddi ar wefan Hwb ym mis Mehefin 2024, ac mae’n rhoi trosolwg o ddatblygiad dulliau partneriaeth gymdeithasol mewn addysg bellach, ynghyd ag adnoddau ac astudiaethau achos a gynhyrchwyd o ganlyniad i brosiectau peilot blaenorol.
Egwyddorion partneriaeth gymdeithasol
Proses yw partneriaeth gymdeithasol, ond gall yr egwyddorion sy’n sail i hynny fod o gymorth i newid ymddygiad a diwylliant, fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael (Cymru) 2023.
| Egwyddorion | Ymrwymiad a rennir |
|---|---|
| Cydweithrediad | Llwyddiant drwy ddatrys problemau ar y cyd, cyfaddawdu a dod i gonsensws. |
| Parch | Pob parti yn cydnabod buddiannau cyfreithlon a buddiannau a allai wrthdaro. |
| Ymddiriedaeth | Perthnasoedd yn seiliedig ar onestrwydd, diffuantrwydd, tryloywder, bod yn agored ac ystyried pobl eraill. |
| Llais a Chyfranogiad | Gwybodaeth, ymgynghori a chyfranogi rhagweithiol ac amserol. |
| Buddion Cyffredin | Sicrhau gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus ac i ganlyniadau llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol a gwaith teg. |
Rhagor o wybodaeth: [email protected]
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio