Nod Sefydlu
Sefydlu Medr fel sefydliad hynod effeithiol, uchel ei barch ac fel rheoleiddiwr a chyllidwr yr ymddiriedir ynddo, gan lunio uchelgeisiau’r dyfodol ar gyfer y sector addysg drydyddol yng Nghymru trwy gydweithio.
This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.
Mae’r Cynllun Strategol yn disgrifio ein hymateb arfaethedig i’r datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn ystyried y gofynion deddfwriaethol a osodwyd arnom yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae’n amlinellu nodau ac ymrwymiadau strategol arfaethedig, ac yn disgrifio’r ffordd y mae arnom eisiau gweithio i’w cyflawni.
Ymatebwch i’n ymgynghoriadMae’n bleser gennym gyflwyno’r Cynllun Strategol (“y Cynllun”) ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil – Medr – ar gyfer 2025-2030.
Mae’r Cynllun yn disgrifio ein hymateb arfaethedig i’r datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn ystyried y gofynion deddfwriaethol a osodwyd arnom yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae’n amlinellu nodau ac ymrwymiadau strategol arfaethedig, ac yn disgrifio’r ffordd y mae arnom eisiau gweithio i’w cyflawni.
Fe’i siapiwyd gan y sector yr ydym yn ei gyllido a’i reoleiddio. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i wrando ar eu barn a’i hadlewyrchu yn ein Cynllun pryd bynnag y gallwn. Fe’i siapiwyd hefyd gan yr arbenigedd sydd gennym ar draws ein sefydliad.
Mae’n nodi dechrau dull newydd yng Nghymru; nad yw wedi’i ddatgysylltu oddi wrth y gorffennol, ond sy’n ceisio adeiladu a gwella arno.
Nid yw’r broses o greu corff hyd braich newydd i gyllido a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil wedi digwydd dros nos. Mae’r Cynllun hwn yn benllanw ar flynyddoedd o waith a phroses hir o newid. Mae sicrhau bod y newid hwnnw’n digwydd yn esmwyth yn dal i fod yn flaenoriaeth i ni ac mae’r Cynllun yn adlewyrchu hynny.
Eto mae angen i ni hefyd gofleidio’r cyfleoedd y gall y newid hwn eu dwyn:
Y Cynllun hwn yw’r cam cyntaf tuag at wireddu’r weledigaeth hirdymor uchelgeisiol honno. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i lunio’r Cynllun hwn. Rydym yn ymgynghori yn awr i sicrhau bod y Cynllun yn adlewyrchu’r hyn a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru yn eich tyb chi.
Rydym yn ceisio barn ynglŷn â’r Cynllun hwn gan bawb sydd â buddiant yn ein cynigion. Bydd y farn a’r safbwyntiau a gawn yn cael eu hystyried cyn i ni gyflwyno’r Cynllun i Weinidogion Cymru a, gyda’u cymeradwyaeth hwy, bydd y Cynllun yn cael ei gyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd. Wedyn byddwn yn gweithio gyda chi i roi’r Cynllun ar waith a, gyda’n gilydd, byddwn yn creu newid parhaus a chadarnhaol i Gymru.
Simon Pirotte OBE, Prif Weithredwr
Yr Athro Fonesig Dame Julie Lydon, Cadeirydd
Ein Gweledigaeth
Byddwn yn cydweithio’n agos gyda’n partneriaid i alluogi system addysg drydyddol ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cymdeithas a’r economi, gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltu’n greiddiol iddi.
Ein huchelgeisiau hirdymor
Mae ein dyheadau’n uchelgeisiol – fel y dylent fod. Rydym yn bwriadu gwneud gwahaniaeth ac rydym yn glir ynglŷn â’r cyfleoedd sy’n bodoli. Ein disgwyliad ni yw y byddwn yn gwneud cynnydd sylweddol ar ein taflwybr tuag at ein huchelgeisiau ar gyfer llwyddiant dros gyfnod y Cynllun hwn, sy’n cynnwys:
Sefydlu Medr fel sefydliad hynod effeithiol, uchel ei barch ac fel rheoleiddiwr a chyllidwr yr ymddiriedir ynddo, gan lunio uchelgeisiau’r dyfodol ar gyfer y sector addysg drydyddol yng Nghymru trwy gydweithio.
Sicrhau bod y sector addysg drydyddol yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr – eu profiad, eu cyflawniad a’u llesiant, sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys mewn prosesau penderfynu, a hybu cyfranogiad mewn dysgu ar bob adeg mewn bywyd.
Creu system addysg a hyfforddiant gydlynol lle gall pawb gaffael y sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt i gael effaith go iawn ar economi a chymdeithas sy’n newid.
Sicrhau bod addysg drydyddol yn amcanu at safonau rhagorol, darpariaeth o ansawdd, ac yn codi disgwyliadau addysgol er mwyn i ddysgwyr wireddu eu huchelgeisiau.
Tyfu ymchwil o fri rhyngwladol a rhoi ysbrydoliaeth i arloesi drwyddi draw yn y sector addysg drydyddol.
Hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, a chynyddu’r galw am, a chyfranogiad mewn, dysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ymrwymiadau sefydlu:
Ymrwymiadau twf:
Ymrwymiadau sefydlu:
Ymrwymiadau twf:
Ymrwymiadau sefydlu:
Ymrwymiadau twf:
Ymrwymiadau sefydlu:
Ymrwymiadau twf:
Ymrwymiadau sefydlu:
Ymrwymiadau twf:
Ymrwymiadau sefydlu:
Ymrwymiadau twf:
Sefydlu Medr fel sefydliad hynod effeithiol, uchel ei barch ac fel rheoleiddiwr yr ymddiriedir ynddo, gan lunio uchelgeisiau’r dyfodol ar gyfer y sector addysg drydyddol yng Nghymru trwy gydweithio.
Ffurfiwyd Medr ar 1 Awst 2024, gan uno timau o sefydliadau etifeddol, y maent i gyd yn dod ag arbenigedd a phrofiad yn eu maes eu hunain. Mae meithrin capasiti, datblygu tîm cydlynol ac effeithiol a chreu diwylliant sy’n meithrin ein gwerthoedd ac yn ysbrydoli ymddygiadau cadarnhaol yn hanfodol i sefydlu ein hegwyddorion gweithredu a dangos y ffordd y byddwn yn gweithio.
Gan hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, byddwn yn dod yn gyflogwr o ddewis, gan gefnogi datblygiad a llesiant ein pobl, a chan hybu creadigrwydd ac arloesi mewn amgylchedd gweithio deinamig a chynaliadwy. Byddwn yn sefydlu perthnasoedd â darparwyr a phartneriaid eraill sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a thryloywder ar y ddwy ochr ac, yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, byddwn yn cydweithio gyda phartneriaid i gyflawni canlyniadau.
Gwyddom fod gan sefydliadau cryf drefniadau llywodraethu cryf ac rydym yn deall ein cyfrifoldebau fel rheoleiddiwr i sicrhau mai felly y mae hi. Byddwn yn sefydlu system gofrestru ar gyfer addysg uwch erbyn 1 Awst 2026. Ar gyfer darparwyr eraill yn y sector addysg drydyddol, telerau ac amodau cyllido fydd y cyfrwng y byddwn yn ei ddefnyddio i arfer ein pwerau rheoleiddio. Bydd ein system reoleiddio, a fydd yn tanategu ein holl nodau strategol, yn cynnwys amodau mewn perthynas â llywodraethu a rheoli; ansawdd a pherfformiad; ymgysylltu â dysgwyr a’u hamddiffyn; lles staff a myfyrwyr; cyfle cyfartal; y Gymraeg; a chynaliadwyedd ariannol.
Rydym yn cydnabod y cyfleoedd y mae Medr yn eu darparu, trwy oruchwyliaeth ar y sector addysg drydyddol, ac mae ein gwaith eisoes wedi dechrau. Rydym yn ymrwymedig i arwain newid sy’n cael effaith fawr, ac o’r dechrau un byddwn yn ceisio gwella deilliannau a phrofiadau dysgwyr. Ni fyddwn yn osgoi trafodaeth agored a gonest, gan wybod bod newid yn ofynnol i wireddu manteision i unigolion, ein cymunedau, ein heconomi a chymdeithas.
Ymrwymiadau sefydlu
Byddwn yn datblygu system reoleiddio gymesur, ar sail risg, i gyrraedd ein nodau strategol erbyn 1 Awst 2026, a honno’n cael ei thanategu gan gofrestr addysg uwch a thelerau ac amodau cyllido ar gyfer rhannau eraill o’r sector addysg drydyddol, gan barchu ymreolaeth sefydliadol, rhyddid academaidd a chenadaethau unigryw darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru.
Byddwn yn diwygio ein cynllun cydraddoldeb strategol i fod yn gyson â’n strategaeth pobl a diwylliant, i sicrhau bod tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu gwreiddio ar draws Medr.
Byddwn yn diffinio ein safle yn nhirwedd addysgol, economaidd a chymdeithasol Cymru, gan sefydlu data a gwybodaeth sylfaenol i greu dadansoddiad cadarn o berfformiad cyfredol a blaenoriaethau ar gyfer gwella. Byddwn yn ymgysylltu â phartneriaid i adnabod cyfleoedd a heriau ar draws y sector addysg drydyddol.
Ymrwymiadau twf
Byddwn yn ymgynghori ynghylch system gyllido i gefnogi anghenion pob rhan o’r sector addysg drydyddol. Bydd hon yn hybu llwybrau dysgu eglur, pontio rhwydd, dysgu hyblyg, darpariaeth gynhwysfawr a safonau rhagorol o ran deilliannau dysgwyr i ddiwallu anghenion cyffredinol sector addysg drydyddol gydlynol o ansawdd da.
Ar sail risg, byddwn yn monitro’r modd y cydymffurfir â’r system reoleiddio, gan ddisgwyl i ddarparwyr yn y lle cyntaf gymryd cyfrifoldeb am eu perfformiad a’u strategaethau gwella eu hunain, a byddwn yn cymryd camau cymesur i ymyrryd lle canfyddir achos o ddiffyg cydymffurfio.
Byddwn yn adolygu’r ffordd yr ydym yn casglu data a gwybodaeth gan ddarparwyr ac yn datblygu cynlluniau i wella systemau a phrosesau casglu data sy’n lleihau biwrocratiaeth a llwyth gwaith i’r eithaf. Byddwn yn cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o bob rhan o’r sector addysg drydyddol a’r sefyllfa ar y cyfan yng Nghymru i ddarparu sylfaen dystiolaeth gref ar gyfer ein prosesau cynllunio a phenderfynu ni ein hunain ac i ddylanwadu ar bolisi’r Llywodraeth.
Byddwn yn adolygu sut y gellir defnyddio systemau gwybodaeth data i werthuso sut y mae’r ddarpariaeth drydyddol yn cyd-fynd ag anghenion economaidd a chymdeithasol Cymru. Bydd hyn yn cynnwys craffu ar ddeilliannau dysgwyr ac adnabod anghydraddoldebau i oleuo gwelliant a bydd yn darparu’r gallu i ddwyn cymariaethau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Bydd gennym ragdybiaeth o blaid tryloywder, gan gyhoeddi data ar berfformiad ar lefel y system a darparwyr.
Sicrhau bod y sector addysg drydyddol yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr – eu profiad, eu cyflawniad a’u llesiant, gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys mewn prosesau penderfynu, a hybu cyfranogiad mewn dysgu ar bob adeg mewn bywyd.
Bydd Medr a’r darparwyr a gyllidir gennym yn gwneud llais ac anghenion ein dysgwyr yn gwbl ganolog i’n prosesau penderfynu, gan gynnwys dysgwyr mewn modd ystyrlon yn y broses o lunio eu haddysg, eu hyfforddiant a’u profiadau dysgu. Mae disgwyliadau dysgwyr yn newid, a rhaid i’r sector ei roi ei hun mewn sefyllfa i ymateb i’r disgwyliadau hynny.
Byddwn yn creu’r amodau sy’n galluogi dysgwyr i ddatblygu, fel y gallant gyflawni’r deilliant sy’n iawn iddynt hwy. Byddwn yn darparu cyfleoedd sy’n cydnabod amrywiaeth ein dysgwyr ac rydym yn ymrwymedig i ddileu rhwystrau i ddysgu. Bydd ein darparwyr yn ymgysylltu â rhieni a gwarcheidwaid i gefnogi dysgwyr, yn enwedig lle mae anghenion dysgu ychwanegol wedi cael eu hadnabod ar gyfer ein dysgwyr iau. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i hybu llesiant, annog ein dysgwyr i fod â dyheadau mwy uchelgeisiol, ac yn cefnogi proses bontio lwyddiannus i mewn i fyd gwaith neu ddatblygiad llwyddiannus ym myd gwaith.
Mae dysgu gydol oes yn rheidrwydd mewn economi a chymdeithas sy’n newid yn gyflym. Ni all dysgu fod yn gyfyngedig mwyach i amser a dreulir mewn addysg orfodol – dylai dysgu gael ei gofleidio ar bob adeg mewn bywyd. Mae manteision dysgu gydol oes yn dra hysbys ac yn mynd y tu hwnt i fantais economaidd, gyda dysgu’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant unigolion a chymdeithas. Beth bynnag fo’r lefel dysgu neu’r math o ddysgu, boed yn ddysgu am y tro cyntaf, yn uwchsgilio, yn ailsgilio neu’n ymgymryd â dysgu anffurfiol mewn cymunedau, mae pob gweithgarwch dysgu’n cael effaith. Mae dyletswydd arnom i hybu cyfranogiad, a byddwn yn ceisio darparu seilwaith sy’n cynorthwyo dysgwyr i fynd ati i ddysgu ar unrhyw adeg yn eu bywydau, gan eu galluogi i ddod yn ddinasyddion gweithredol ac ymgysylltiol.
Ymrwymiadau sefydlu
Byddwn yn sefydlu cod ymgysylltu â dysgwyr a chanllawiau ynghylch cynlluniau amddiffyn dysgwyr fel rhan o’n fframwaith rheoleiddio erbyn 1 Awst 2026, gan gefnogi’r amrywiaeth o ddysgwyr fel eu bod i gyd yn cael cyfleoedd priodol i gael eu cynnwys a’u cynrychioli.
Byddwn yn datblygu fframwaith cyffredin ar gyfer iechyd meddwl a llesiant erbyn 1 Awst 2026, a fydd yn cadarnhau cyfle cyfartal ac yn cael ei gryfhau gan amodau rheoleiddiol i gefnogi lles staff a dysgwyr.
Byddwn yn nodi amodau rheoleiddiol i hybu cyfle cyfartal i gynyddu cyfranogiad, cefnogi cyfraddau cadw, lleihau bylchau mewn cyrhaeddiad a chefnogi deilliannau da i ddysgwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ni waeth pa rwystrau economaidd, diwylliannol, cymdeithasol a sefydliadol allent eu hwynebu.
Byddwn yn creu fforwm llais dysgwyr erbyn 1 Awst 2026 ac yn ceisio deall sut y gall yr amgylchedd y byddwn yn ei greu, gyda’i systemau ategol, ddylanwadu ar ddysgwyr i gyfranogi ac aros mewn addysg a hyfforddiant.
Ymrwymiadau twf
Byddwn yn ceisio sicrhau addysg ddiogel a chynhwysol o fewn y sector addysg drydyddol, gan ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael. Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr wneud ymrwymiadau i sicrhau bod gan ddysgwyr lwybrau hygyrch, effeithiol i geisio iawn am unrhyw broblem a allai godi.
Byddwn yn gweithio gyda dysgwyr a darparwyr i ddeall sut orau i sicrhau ymgysylltiad gweithredol â’u dysgu eu hunain gan ddysgwyr, gan wneud y gorau o’r holl gyfleoedd sydd ganddynt i wireddu eu potensial eu hunain.
Byddwn yn datblygu system sy’n annog yr holl ddysgwyr i ddod yn ddinasyddion ymgysylltiol, sy’n weithgar yn eu cymuned, ac yn hybu cyfleoedd i gyfranogi mewn rhaglenni symudedd allanol. Byddwn yn ceisio sicrhau bod dysgwyr a darparwyr yn rhannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu – yn enwedig o’u gwaith ymchwil ac arloesi – gyda’u cymuned ac economi ehangach, ac yn gweithio gyda darparwyr i benderfynu sut orau y gellir mesur yr effaith.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo manteision dysgu trwy gydol bywyd ac yn pennu targedau i gynyddu cyfranogiad. Byddwn yn hybu mynediad gan grwpiau sy’n draddodiadol heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg drydyddol, yn enwedig y rhai a allai fod yn wynebu rhwystrau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol i addysg.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu ffyrdd o annog dysgwyr cyn-16 i bontio’n esmwyth i addysg ôl-orfodol. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, byddwn yn datblygu system sy’n cefnogi gostyngiad yn niferoedd y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth, na hyfforddiant, gan bennu targedau sy’n gweithio tuag at y Cerrig Milltir Cenedlaethol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Creu system addysg a hyfforddiant gydlynol lle gall pawb gaffael y sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt i gael effaith go iawn ar economi a chymdeithas sy’n newid.
Mae gan addysg, hyfforddiant, ymchwil ac arloesi rôl ganolog o ran cyfrannu at ddatblygu economi gynaliadwy ac arloesol yng Nghymru. Globaleiddio, technoleg, awtomeiddio, deallusrwydd artiffisial, newid hinsawdd – rhaid i ddatblygiad gwybodaeth a sgiliau aros gyfuwch ag anghenion byd sy’n newid yn gyflym. Byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr ac yn gwrando arnynt i ddeall y ddarpariaeth y mae ei hangen arnynt ar gyfer eu gweithlu ac yn datblygu system sy’n symleiddio mynediad at uwchsgilio neu ailsgilio i ateb y galw. Mae arnom eisiau cynorthwyo ein darparwyr i wneud defnydd effeithiol o dechnolegau sy’n newid, fel bod dysgwyr wedi’u harfogi ar gyfer diwydiannau a ffyrdd o weithio sy’n newid.
Gall galluoedd ymchwil y sector addysg drydyddol fod o gymorth i ddarparu gwybodaeth ar gyfer ein gofynion addysg a hyfforddiant, er mwyn i ni allu deall yn well beth fydd yr anghenion o ran sgiliau yn y dyfodol. Bydd ymwybyddiaeth o ymchwil ac arloesi’n cael ei hybu, bydd canlyniadau ymchwil yn cael eu rhannu, a bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi ar waith yn ymarferol i’n galluogi i gefnogi economi gynaliadwy.
Bydd ein dyhead am gymdeithas fywiog a chynaliadwy’n cael ei wireddu trwy unigolion ymgysylltiol sy’n fodlon chwarae rhan bwysig yn natblygiad eu cymunedau. Bydd ein darparwyr yn annog dysgwyr a byddant hwy eu hunain yn hyrwyddo eu dysgu a’u hymchwil. Mae arnom eisiau i’r sector addysg drydyddol gael ei gydnabod fel partneriaid creadigol ac arloesol yn y broses o ddatblygu eu cymuned.
Bydd Medr yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu amgylchedd sy’n annog yr holl oedolion yng Nghymru i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt ar unrhyw adeg yn eu bywydau, i fyw bywyd boddhaus a chael effaith ar eu cymdeithas a’r economi. Bydd hyn yn galw am ddigon o adnoddau i ysgogi a chynnal y galw.
Mae’r amgylchedd dysgu’n gymhleth, a gwyddom nad yw llwybrau dysgu wastad yn eglur i ddysgwyr – boed ar ddechrau eu taith ddysgu, neu wrth iddynt gamu ymlaen drwyddi. Mae darparwyr wedi dweud wrthym bod arnom angen mwy o gydlyniad yn y sector addysg drydyddol, a byddwn yn rhoi anogaeth i gydweithio, gan werthfawrogi pob rhan o’r sector am ei chryfderau penodol, gan gofleidio amrywiaeth ymhlith cenadaethau. Bydd hyn yn arwain at lwybrau dysgu mwy cydlynol, yn ei gwneud yn rhwydd pontio o fewn y sector, yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu hyblyg, ac yn hybu dysgu trwy gydol bywyd.
Ymrwymiadau sefydlu
Byddwn yn datblygu cysylltiadau cryf â busnesau, diwydiant, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a darparwyr i adnabod gofynion o ran sgiliau yn y dyfodol. Gan weithio gyda Cymwysterau Cymru a phartneriaid eraill, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddylanwadu ar y system sgiliau yng Nghymru, gan sicrhau datblygiad parhaus y cwricwlwm a phrofiad gwaith i baratoi dysgwyr i lwyddo. Gan weithio gyda darparwyr, byddwn yn hybu dull effeithiol o ddefnyddio cyllid i ddiwallu’r anghenion o ran sgiliau yn y dyfodol.
Gan weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ac eraill, byddwn yn diffinio sut y dylai darpariaeth brentisiaethau Cymru edrych i ddiwallu anghenion dysgwyr a’r economi yng Nghymru, yn hybu ymgysylltiad cryf â chyflogwyr, ac yn sicrhau safonau cymhwysedd galwedigaethol cadarn.
Byddwn yn dadansoddi gwahanol ffyrdd o gymhwyso cenhadaeth ddinesig ac ymgysylltu o fewn y sector addysg drydyddol, gan ganolbwyntio i ddechrau ar addysg uwch a phellach. Byddwn yn creu amodau sy’n annog dysgwyr i fod yn aelodau gwerthfawr o’u cymunedau lleol ac yn ddinasyddion ymgysylltiol, sy’n annog darparwyr i rannu eu dysgu, ac yn gweithio gyda darparwyr i benderfynu sut orau y gellir mesur yr effaith.
Ymrwymiadau twf
Byddwn yn datblygu amgylchedd addysg drydyddol sy’n galluogi dysgwyr i ddysgu trwy gydol eu bywydau, gan ysgogi dulliau hyblyg lle mae amser, lle a chymorth ar gyfer dysgu yn y cwestiwn.
Byddwn yn meithrin cydweithio rhwng darparwyr i greu llwybrau dysgu sy’n eglur, yn gydlynol ac yn hawdd dod o hyd i’r ffordd, sy’n hwyluso pontio rhwydd, sy’n cefnogi cyfle cyfartal a, gan weithio gyda chyflogwyr, byddwn yn sicrhau ein bod yn cefnogi llwybrau a fydd yn cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol yng Nghymru.
Byddwn yn adolygu hyblygrwydd addysg oedolion yng nghyd-destun dysgu gydol oes a mwy o gyfranogiad, ac yn ystyried sut y dylai darpariaeth sgiliau sylfaenol gael ei chyflwyno i wella gweithgarwch caffael sgiliau ar draws y boblogaeth oedolion.
Byddwn yn cefnogi darpariaeth gwricwlaidd o ansawdd rhagorol i ateb y galw economaidd a chymdeithasol. Byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr, partneriaid a darparwyr i hybu cyngor ac arweiniad gyrfaoedd o ansawdd da, gan godi dyheadau ar gyfer dysgu pellach ac ar gyfer datblygiad gyrfa mewn cyflogaeth sy’n gynhyrchiol, sydd â chyflog da ac sy’n foddhaus neu ddysgu pellach.
Sicrhau bod addysg drydyddol yn amcanu at safonau rhagorol, darpariaeth o ansawdd ac yn codi disgwyliadau addysgol er mwyn i ddysgwyr wireddu eu huchelgeisiau.
Mae Medr yn ymrwymedig i welliant parhaus safonau academaidd a galwedigaethol ac ansawdd y ddarpariaeth a bydd yn creu amgylchedd ac amodau ar gyfer pennu a chyrraedd safonau rhagorol o ran deilliannau dysgwyr. Byddwn yn monitro safonau cyflawniad, llwyddiant a phrofiad dysgwyr drwy’r sector cyfan a byddwn yn defnyddio ein pwerau rheoleiddio i ysgogi gwelliant parhaus.
Rydym yn cydnabod yr effaith y mae Covid-19 wedi’i chael ar addysg a hyfforddiant, ac ar ddeilliannau dysgwyr. Gwyddom, er y bu gwelliant mewn rhai meysydd, bod rhagor i’w wneud o hyd, yn syml i ddychwelyd at y safon deilliannau a gyflawnid cyn pandemig Covid-19. Mae angen i ni gyflymu’r adferiad mewn deilliannau a byddwn yn gweithio gyda darparwyr i bennu targedau uchelgeisiol ar gyfer deilliannau dysgwyr.
Byddwn yn cynorthwyo’r gweithlu addysg drydyddol i gael mynediad at ddysgu proffesiynol effeithiol, gan archwilio ffyrdd o rannu arfer gorau ac estyn addysgeg effeithiol ar draws y sector cyfan. Gan osgoi biwrocratiaeth ac ystyried llwyth gwaith yn ein ffyrdd o weithio, byddwn yn sicrhau bod y gweithlu’n gallu canolbwyntio ar ddiwallu anghenion dysgwyr a gwella deilliannau.
Byddwn yn datblygu systemau sy’n ein galluogi i holi data a gwybodaeth i ategu dulliau seiliedig-ar-dystiolaeth er mwyn ysgogi gwelliant parhaus. I gyflawni hyn, bydd angen i ni gymharu data mewn modd ystyrlon a deall sut y mae pob rhan o’r sector yn cyfrannu at gyrraedd ein nodau strategol ni a rhai Llywodraeth Cymru. Byddwn yn ceisio rhoi Cymru ar flaen y gad ym maes addysg drydyddol, hyfforddiant, ymchwil ac arloesi, gan sefydlu enw da’n rhyngwladol am ragoriaeth yn ansawdd y ddarpariaeth, profiad dysgwyr, a deilliannau dysgwyr sy’n diwallu anghenion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
Ymrwymiadau sefydlu
Byddwn yn rhoi fframwaith ansawdd ar waith fel rhan o’n trefniadau rheoleiddio, erbyn 1 Awst 2026, a fydd yn cynnwys ffocws ar berfformiad sy’n ymwneud â phrofiad a deilliannau dysgwyr. Byddwn yn cydnabod yr anghenraid am drefniadau sy’n ymatebol i wahanol rannau o’r sector a byddwn yn adeiladu ar berthnasoedd â phartneriaid – yng Nghymru a’r tu allan i Gymru – sy’n rhan o asesu’r sefydliadau a reoleiddir gennym i ysgogi goruchwyliaeth gydlynol ar ansawdd.
Byddwn yn ymgynghori â darparwyr ar ddangosyddion perfformiad perthnasol, sy’n deillio o safonau sylfaenol, i hybu gwelliant parhaus, gan gydnabod amrywiaeth ein dysgwyr a’r ddarpariaeth, blaenoriaethu safonau deilliannau dysgwyr, a gweithredu’n gyflym lle nad yw safonau’n cael eu cyrraedd.
Ymrwymiadau twf
Byddwn yn hybu dealltwriaeth eglur am yr hyn y mae safonau rhagorol o ran deilliannau dysgwyr a darpariaeth o ansawdd da’n ei olygu ym mhob rhan o’r sector addysg drydyddol. Byddwn yn pennu targedau uchelgeisiol ar gyfer deilliannau a phrofiadau dysgwyr, gan gydnabod y bydd mesuriadau o lwyddiant a dangosyddion perfformiad yn amrywio gydag amgylchiadau dysgwyr ac mewn gwahanol rannau o’r sector.
Byddwn yn adolygu sut y gall modelau cyllido a chofrestru ddylanwadu ar gyflawni dangosyddion perfformiad, gan ganolbwyntio ar gyfrifoldeb pob darparwr i bennu a gwireddu eu huchelgeisiau eu hunain ar gyfer gwella’n barhaus. Byddwn yn sefydlu ffyrdd o fonitro, rheoli a gwella perfformiad y sector addysg drydyddol, gan ymyrryd fel y bo angen lle mae perfformiad islaw’r safonau trothwy a chan ddefnyddio ein pwerau cynnull a dylanwadu i hybu arloesi a gwelliant.
Byddwn yn dadansoddi deilliannau dysgwyr i sicrhau bod dysgu wedi cael effaith gadarnhaol ar ddyfodol dysgwyr, yr economi a chymdeithas a’i fod yn ein galluogi i ddeall pa mor dda y mae’r sector addysg drydyddol yn cynorthwyo Cymru i symud ymlaen gyda’r amcanion y mae’n dymuno’u cyflawni, gan fabwysiadu ymyriadau cymesur lle mae tystiolaeth yn dangos nad felly y mae hi.
Tyfu ymchwil o fri rhyngwladol a rhoi ysbrydoliaeth i arloesi drwyddi draw yn y sector addysg drydyddol.
Mae ymchwil ac arloesi’n gwneud cyfraniadau hanfodol at economi a chymdeithas Cymru. Mae ein systemau ymchwil ac arloesi’n gryf, ond rydym yn uchelgeisiol, ac mae arnom eisiau tyfu maint a rhagoriaeth y sylfaen ymchwil yng Nghymru, gan gydnabod ein cyfle fel un endid trydyddol i ategu ffocws ymchwil ac arloesi â datblygiad darpariaeth addysg a hyfforddiant..
Bydd cydweithio o fewn y sector addysg drydyddol, gyda chyflogwyr, y cyhoedd a’r trydydd sector a chymunedau, yn ogystal â chydweithio rhyngwladol, yn hybu ein huchelgeisiau i sicrhau y manteisir yn llawn ar effaith ein gweithgarwch ymchwil ac arloesi. Rydym yn cydnabod y cyfleoedd ar gyfer dull mwy systematig o hybu’r llwybrau lluosog rhwng ymchwil, yr economi a chymdeithas. Byddwn yn cefnogi meysydd lle ceir cryfder ac arbenigedd unigryw i adeiladu ymhellach arnynt mewn cymunedau, rhanbarthau, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae arnom eisiau i Gymru ddod yn adnabyddus am fod yn lle gwych i wneud ymchwil, am fod yn barod i dderbyn perthnasoedd newydd, a bod yn wlad sy’n uchel ei bri am ymchwil sy’n dwyn budd economaidd, diwylliannol a chymdeithasol cynaliadwy. Byddwn yn hybu cyfranogiad Cymreig mewn rhaglenni ymchwil cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol.
Ymrwymiadau sefydlu
Byddwn yn hybu amgylcheddau ymchwil sy’n darparu diwylliant sy’n ategu uniondeb, amrywiaeth, cynwysoldeb, llesiant a pharch, gan ddenu a chadw’r ymchwilwyr gorau o bob rhan o’r byd, a chefnogi sylfaen ymchwil fwy amrywiol a chynhwysol.
Byddwn yn cydweithio’n agos gyda chyrff perthnasol sy’n gyfrifol am ymchwil ac arloesi ledled y DU, ac yn cynorthwyo ein darparwyr i gael mantais gystadleuol, i sicrhau cyfran fwy o gyllid sydd ar gael o ffynonellau cyhoeddus a phreifat, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i dyfu’r sylfaen ymchwil yng Nghymru.
Byddwn yn adnabod sut y gallwn ddefnyddio data i fesur a dangos effaith y gwaith ymchwil ac arloesi a gyllidir gennym, ac yn adolygu sut yr ydym yn rhannu ein gwybodaeth a’n dysgu mewn cymunedau.
Ymrwymiadau twf
Byddwn yn hybu gweithgareddau ymchwil ac arloesi sydd â photensial i gael effaith gadarnhaol ar fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru, sy’n cynyddu i’r eithaf y cyfleoedd ar gyfer cydweithio sy’n canolbwyntio ar gryfderau ein sylfaen ymchwil, ac sy’n dangos dylanwad byd-eang.
Byddwn yn hybu diwylliant o arloesi a chyfnewid gwybodaeth drwyddi draw yn y sector addysg drydyddol, a byddwn yn hybu cydweithio gyda busnesau, buddsoddwyr ym myd diwydiant a’r Llywodraeth, i gyfrannu at wella cynhyrchiant yn ein heconomi a chyfrannu’n well at ddarparu cyflenwad cynaliadwy o sgiliau.
Byddwn yn gweithio gyda darparwyr i hybu cyfleoedd ar gyfer busnesau newydd, gan gynnwys cwmnïau deilliedig a mentrau cymdeithasol sy’n cael eu sefydlu, eu cynnal a’u tyfu yng Nghymru o ganlyniad i wybodaeth a gynhyrchwyd yng Nghymru.
Hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, a chynyddu’r galw am, a chyfranogiad mewn, dysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae gan Medr rôl sylweddol o ran cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae dyletswydd arnom i ysgogi’r galw am ddysgu, a hybu cyfranogiad mewn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i sicrhau digon o ddarpariaeth yn Gymraeg i ateb y galw.
Ein gweledigaeth yw llywio system addysg drydyddol sy’n cefnogi dysgu ar bob adeg mewn bywyd ar gyfer y Gymraeg ac un lle mae’r Gymraeg yn dod yn rhan annatod o’r patrwm o ddysgu gydol oes yng Nghymru. Byddwn yn cynllunio’n strategol, mewn partneriaeth gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel ein person dynodedig o fewn y Ddeddf, i gynyddu a gwella’r ddarpariaeth o ran addysg ac asesu cyfrwng Cymraeg a’r modd y’u hyrwyddir.
Byddwn yn cofleidio ein rôl o fewn Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i ddatblygu a chyflawni Cynlluniau Iaith Gymraeg, a byddwn yn gweithio gyda darparwyr i gynnig llwybrau di-dor ar gyfer dysgwyr ar draws y sector trydyddol.
Ymrwymiadau sefydlu
Byddwn yn datblygu Strategaeth ar gyfer y Gymraeg i sicrhau bod Medr yn weithle dwyieithog lle gall staff, partneriaid a rhanddeiliaid ddefnyddio’u Cymraeg yn naturiol.
Byddwn yn gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymwysterau Cymru a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg ar draws y sector addysg drydyddol yn ei gyfanrwydd, gan alluogi llwybrau di-dor ar gyfer dysgu yn Gymraeg.
Ymrwymiadau twf
Byddwn yn monitro cynnydd o ran cyflawni ein strategaeth genedlaethol dros oes ein Cynllun Strategol, gan gydweithio i asesu cynnydd a gweithredu lle mae angen cefnogi cynnydd.
Ar y cyd â phartneriaid, byddwn yn hybu manteision dysgu Cymraeg er mwyn i fwy o bobl gael eu hannog i gofleidio’r Gymraeg ac i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg trwy gydol eu bywydau.
Byddwn yn gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddylunio polisïau sy’n hybu ethos a diwylliant Cymraeg yn y sector addysg drydyddol, sy’n ehangu’r gyfran o’r gweithlu sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac sy’n annog y gweithlu addysg drydyddol ehangach i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Meddyliwyd yn wreiddiol am Medr a’i swyddogaethau yn 2016: Tuag at 2030 – fframwaith ar gyfer datblygu system addysg ôl-orfodol o’r radd flaenaf i Gymru. Rhwng 2016 a’n sefydlu yn 2024, mae’r byd wedi mynd rhagddo. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd, pandemig Covid-19, goblygiadau newid hinsawdd, a rhyfela mewn gwledydd eraill wedi cael effaith sylweddol ar ein bywydau ac, at y diben hwn, ar addysg, hyfforddiant, ymchwil ac arloesi yng Nghymru.
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 a sefydlodd Medr yn ei gwneud yn ofynnol paratoi Cynllun Strategol sy’n disgrifio sut y mae Medr yn bwriadu cyflawni un ar ddeg o ddyletswyddau strategol.
Sefydlwyd Medr fel un endid sydd â goruchwyliaeth ar y sector addysg drydyddol. Mae manteision bod ag un sefydliad sy’n gyfrifol am gynllunio, cyllido a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol yn ymwneud â gallu creu llwybrau dysgu cydlynol ar draws y sector cyfan, gwella deilliannau a phrofiadau dysgwyr, ysgogi galw am y Gymraeg, sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon o fewn cyfyngiadau cyllidebol cynyddol, a sicrhau bod addysg drydyddol yn cyd-fynd ag anghenion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol.
Bydd cydlyniad gwell yn arwain at lwybrau dysgu a gyrfaol y mae’n hawdd dod o hyd i’r ffordd ar eu hyd, ac sy’n hybu ac yn hwyluso mwy o symudedd yn y sector. Bydd gwell hyblygrwydd a defnydd mwy arloesol o adnoddau o gymorth i sicrhau mwy o gyfranogiad, a bydd cyflogwyr a chymunedau’n cael budd o fwy o fynediad at gyfleoedd ar gyfer dysgu trwy gydol eu bywydau. Mae partneriaid wedi cefnogi hyn yn daer yn ein digwyddiadau ymgysylltu cynnar ac wedi dweud wrthym y bydd mwy o gydweithio a chael gwared ar gystadleuaeth ddiangen yn gwella cyfleoedd i ddysgwyr, a phrofiad dysgwyr.
Er eu bod yn ymfalchïo, fel y dylent, yn ansawdd yr addysg a hyfforddiant y maent yn eu cynnig, mae darparwyr yn cydnabod bod rhaid cael gwelliant pellach mewn deilliannau academaidd a galwedigaethol, a darpariaeth o ansawdd da ar lefel darparwyr unigol ac ar lefel y system. Bydd Medr yn sefydlu fframwaith perfformiad sy’n cydnabod holl ehangder cyfraniad y sector addysg drydyddol ac yn sefydlu modd i feincnodi perfformiad i wella deilliannau i unigolion a chymdeithas.
Mae ein digwyddiadau ymgysylltu cynnar wedi dangos y gallwn wneud mwy i frwydro yn erbyn anghydraddoldebau a sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at addysg a hyfforddiant ni waeth beth fo’r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd na sefydliadol. Amlygwyd fod cynaliadwyedd yn dyngedfennol, ac mae darparwyr yn cydnabod y pwysau ariannol cynyddol ar y sector. Mae partneriaid yn credu y gellir gwneud mwy i annog dysgwyr i ddysgu Cymraeg, a dysgu yn Gymraeg, gan hefyd gydnabod yr angen i gynyddu nifer y bobl sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu uchelgais i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac yn ddiweddar mae wedi cyhoeddi Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Mae hwn yn amcanu at roi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru ddod yn siaradwr Cymraeg, a chynorthwyo pobl o bob oed i ddysgu Cymraeg, neu i ddatblygu’r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt yn barod. Ystyrir bod cydweithio yn y sector yn un o’r dulliau allweddol er mwyn gwireddu’r cyfleoedd hyn.
Byddwn yn gwella’r modd y cesglir ac y dadansoddir data ar draws y sector trydyddol yn ei gyfanrwydd i’w gwneud yn bosibl craffu, i danategu prosesu penderfynu, ac i wella atebolrwydd. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth seiliedig-ar-dystiolaeth sy’n ofynnol i wneud penderfyniadau strategol a llunio polisïau a bydd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu dadansoddiad a rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Rydym yn cydnabod yr angen i gynyddu incwm ac effeithiolrwydd ariannol i’r eithaf yn wyneb pwysau cyllidol cynyddol a byddwn yn ystyried sut y gellir cryfhau atebolrwydd trwy gysylltu cyllid â pherfformiad a deilliannau dysgu.
Mae’n glir i ni y gall cynllunio strategol gwell ar draws y sector addysg drydyddol yn ei gyfanrwydd sicrhau bod darpariaeth a deilliannau’n cyd-fynd yn well ag anghenion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol. Byddwn yn ehangu maint a rhagoriaeth ein hymchwil, gan roi anogaeth ar gyfer arloesi cydweithredol. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod y sgiliau a ddarperir yn cyfateb i anghenion economaidd a chymdeithasol. Bydd disgwyl i’r holl ddarparwyr gyfrannu i’w cymuned a’u cymdeithas trwy ymgysylltu dinesig, gan wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Mae gennym sylfaen ymchwil gref, a gweledigaeth y bydd ein hymchwil yn hybu cynhyrchiant ym Musnesau Cymru ac y bydd yn fyd-eang o ran ei golygwedd. Yn dilyn colli mynediad at Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop, mae angen i ymchwilwyr ac arloeswyr chwilio am ffynonellau cyllid eraill a chydweithio ledled y DU ac yn rhyngwladol. Bydd angen i weithgarwch ymchwil ymateb i heriau sy’n benodol i’r rhanbarth lleol, gan ennyn ymgysylltiad cymunedau lleol i greu datrysiadau newydd, a bydd eu gwaith yn cael ei ddeall a’i werthfawrogi gan y gymuned leol gyda pherthnasedd ledled Cymru, y DU a’r byd.
Mae ein cylch gwaith yn uchelgeisiol – ac rydym yn hyderus y gallwn wireddu ein gweledigaeth. Ond rydym hefyd yn ymwybodol o faint yr heriau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sy’n ein hwynebu.
Demograffeg: Er bod y boblogaeth yng Nghymru’n tyfu, mae ein poblogaeth yn heneiddio. Dengys yr amcangyfrifon diweddaraf fod 893,383 o bobl 60 oed a throsodd yn byw yng Nghymru, ac y rhagwelir y bydd y nifer yma’n codi i 1,004,861 (31% o’r boblogaeth) erbyn 2031 – yn union ar ôl diwedd oes y Cynllun hwn. Hefyd, mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru’n uchel, sef 20.3% (heb gynnwys myfyrwyr) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024. Mae’r ddau ffactor yn dwyn goblygiadau canlyniadol a thaer ar gyfer caffael a datblygu sgiliau.
Tegwch: Gwyddom ein bod yn wynebu heriau cymdeithas anghyfartal, gan gydnabod bod rhwystrau i fynediad at addysg, a bod profiad a chyrhaeddiad yn gallu amrywio gan ddibynnu ar ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn tanategu ein nodau strategol, ac yn ystyried goblygiadau anghydraddoldebau, mynediad a chydraddoldeb deilliannau. Rydym yn ymwybodol o anghydraddoldebau sy’n deillio o natur wledig Cymru, a chydag 80% o Gymru’n wledig, mae traean o’r boblogaeth gyfan yn byw mewn ardaloedd gwledig. Daw hyn â heriau yn ei sgîl i sicrhau tegwch mewn darpariaeth addysgol yn ddaearyddol.
Cymwysterau: Mae cyfran yr oedolion o oedran gweithio yng Nghymru sydd heb unrhyw gymwysterau’n rhy uchel, sef 7.9% yn ôl yr amcangyfrif yn 2023 o’i gymharu â tharged gan Lywodraeth Cymru o 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol erbyn 2050. Mae’r ffigwr hwn yn amrywio fesul ardal awdurdod lleol yng Nghymru, gan ddatgelu anghyfartaledd rhanbarthol. Hefyd, mae cyfran yr oedolion o oedran gweithio sydd â chymwysterau hyd at lefel 3 neu uwch yn rhy isel, sef 67.4% yn ôl yr amcangyfrif yn 2023 o’i gymharu â tharged gan Lywodraeth Cymru o 75% erbyn 2050. Mae cyfran yr oedolion o oedran gweithio â chymwysterau ar lefel 4 ac uwch yn is yng Nghymru na’r DU gyfan. Mae cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn dal i fod yn uchel, sef 14.2%, ac yn uwch na’r targed o 10% a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2050.
Cyfraddau Cyfranogiad a Llwyddo: Ceir peth tystiolaeth bod deilliannau neu gyfraddau llwyddo dysgwyr yn gwella yn dilyn pandemig Covid-19, ond dengys y data diweddaraf sydd ar gael fod cyfraddau llwyddo ar gyfer y rhan fwyaf o rannau o’r sector addysg drydyddol yn dal i fod islaw lefelau 2019. Mae cyfraddau cyfranogiad mewn addysg oedolion (a fesurir yn ôl y rhai sydd wedi bod wrthi’n dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf) yng Nghymru’n is nag yn unrhyw wlad arall yn y DU, ac yn yr un modd mae gennym y cyfranogiad isaf mewn addysg uwch o blith holl wledydd y DU.
Sgiliau: Mae cyflogwyr yng Nghymru’n aml yn cyfeirio at ddiffygion sgiliau fel un o’r materion allweddol sy’n rhwystro cynnydd. Roedd cyfran y cyflogwyr a ddwedodd fod ganddynt swyddi gwag yn 2022 yn 22%, gydag 14% yn dweud bod ganddynt fylchau sgiliau yn eu gweithlu presennol. Mae cyflogwyr yn disgrifio anghenion am gymysgedd o sgiliau technegol, ymarferol a meddal, ac yn dweud wrthym bod angen i ni ymateb yn gyflymach i gyflymder datblygiadau digidol, deallusrwydd artiffisial, awtomeiddio a’r sgiliau newydd a fydd yn ategu ein taith dyngedfennol i sero net. Mae cynhyrchiant, y dylanwedir arno’n rhannol gan addysg a sgiliau, yn is yng Nghymru nag yn unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y DU. Mae cystadlu mewn economi fyd-eang lle mae gwledydd yn fwyfwy cydgysylltiedig yn galw am fwy o arloesi a gallu i ddysgu ac addasu sgiliau trwy gydol ein bywydau.
Y Daith i Sero Net: Datganodd Llywodraeth Cymru ei bod hi’n Argyfwng ar yr Hinsawdd yn 2019, ac mae ei Chynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net yn disgrifio newidiadau y mae eu hangen yn ein system sgiliau a chamau gweithredu allweddol sy’n ofynnol i gynorthwyo busnesau a dysgwyr i gyflawni proses bontio gyfiawn i sero net. Mae hyn yn her i Medr ac i’r darparwyr yr ydym yn eu cyllido, ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl er budd cenedlaethau dysgwyr yn awr ac yn y dyfodol.
Cyfyngiadau Cyllidol: Yn olaf, gwyddom fod angen i ni weithredu mewn cyd-destun cyllidol lle ceir straen ar bwrs y wlad, lle mae darparwyr addysg drydyddol yn wynebu heriau ariannol, a lle ceir cystadleuaeth yng Nghymru ac yn y DU am gyllid cyhoeddus ac i ddenu dysgwyr. Mae cyllidebau llywodraethau dan bwysau oherwydd galwadau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus megis ar iechyd a gofal cymdeithasol, ochr yn ochr â’r angen am fesurau adferiad economaidd yn dilyn y pandemig. O ganlyniad mae cyllidebau darparwyr trydyddol dan bwysau hefyd.
Rydym yn atebol am fuddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth i gefnogi’r sector addysg drydyddol. Bydd angen i ni wneud penderfyniadau ystyriol ynglŷn â gwariant i gael y gwerth gorau am arian, monitro cynaliadwyedd ariannol y darparwyr yr ydym yn eu cyllido, a bod yn realistig wrth alinio maint a chyflymder ein huchelgeisiau â’r adnoddau sydd ar gael. Ni fyddwn yn gallu gwneud popeth y byddem yn dymuno ei wneud, nac y byddai ein partneriaid a darparwyr yn dymuno i ni ei wneud, i gyd ar unwaith. Bydd angen i ni flaenoriaethu’n ofalus, o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni, pa gamau y gallwn ni eu cymryd a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar symud tuag at ein nod.
Datblygwyd ein Cynllun yng nghyd-destun y cyfleoedd a’r heriau hyn. Mae’n ymateb i’n dyletswyddau strategol a’r Datganiad o Flaenoriaethau, gan ddisgrifio nod sefydlu a phum nod strategol. Mae ein nod sefydlu’n disgrifio’r ymrwymiadau allweddol o ran seilwaith y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle i roi cymorth i gyrraedd yr holl nodau strategol. Mae pob un o’n nodau’n mynegi ymrwymiadau sefydlu, y mae angen i ni eu cyflawni yn y ddwy flynedd gyntaf, ac ymrwymiadau twf, y byddwn yn gweithio tuag atynt yn ystod oes Cynllun Strategol 2025-2030.

Nid yw Medr yn darparu addysg a hyfforddiant – mae’n hwyluso’r broses o’u darparu, gan oruchwylio, cyllido, a rheoleiddio. Gwyddom mai dim ond trwy gydweithio y gallwn wireddu’r weledigaeth yn y Cynllun.
Dros y 5 mlynedd nesaf, byddwn yn cydweithio gyda phartneriaid i gyflawni ein Cynllun a bydd ein Bwrdd yn adolygu’r cynnydd yn erbyn ein nodau ac ymrwymiadau, gan adrodd yn flynyddol wrth Weinidogion Cymru. Y Cynllun fydd y sail ar gyfer cyfres o gynlluniau gweithredol a fydd yn cynnwys camau gweithredu a fframiau amser mwy penodol ac yn goleuo’r modd y dyrennir ein hadnoddau. Bydd y cynlluniau gweithredol hyn yn cael eu mireinio i gynnwys dangosyddion perfformiad, yn seiliedig ar ddata sylfaenol cadarn, i ysgogi gwelliant parhaus yn y sector addysg drydyddol.
Erbyn diwedd oes y Cynllun hwn, byddwn wedi:
Rydym yn ceisio adborth i gael gwybod a yw ein nodau ac ymrwymiadau strategol arfaethedig yn adlewyrchu’r hyn a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru yn eich tyb chi. Mae arnom eisiau eich barn chi am yr effaith y byddant yn ei chael ar ein heconomi, diwylliant, amgylchedd a chymdeithas.
Tudalen Ymgynghoriad ar ein Cynllun StrategolGallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio