Ffurflen ymateb Cynllun Strategol

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i roi sylwadau ar ein Cynllun Strategol drafft.

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i roi sylwadau ar ein Cynllun Strategol drafft. Fodd bynnag, nodwch na allwch gadw gwybodaeth wrth i chi fynd ymlaen, felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn adnewyddu nac yn cau’r dudalen hon cyn i chi gyflwyno eich ymateb.

Dylid cwblhau’r ffurflen ochr yn ochr â’r Cynllun Strategol drafft a’r ddogfen esboniadol.

Mae fersiwn Word o’r ffurflen ar gael. E-bostiwch unrhyw ymholiadau a’ch ymateb i [email protected] erbyn 23.59 ddydd Gwener, 25 Hydref 2024.

"*" indicates required fields

Mae'n debygol y bydd manylion rhai ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu cyhoeddi, nail ai ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, ticiwch os gwelwch yn dda.

Rhan Un: dyletswyddau deddfwriaethol a thystiolaeth

1. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn gosod un ar ddeg o ddyletswyddau strategol ar Medr.
A oes unrhyw ddyletswyddau sydd wedi’u tangynrychioli yn y Cynllun?
2. Mae angen i’n Cynllun ymateb i’r datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi a gyflwynwyd i ni gan Lywodraeth Cymru.
3. (i) A yw’r Cynllun yn ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan neu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?
3. (ii) A yw’r Cynllun yn ystyried yr angen i hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu?
3. (iii) A yw’r Cynllun yn ystyried yr angen i meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu?
3. (iv) A yw’r Cynllun yn ystyried yr angen i lleihau deilliannau anghyfartal sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol?
4. A fydd y Cynllun yn cyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015?
5. A yw’r nodau a’r ymrwymiadau yn y Cynllun yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy?
6. Wrth ddrafftio’r Cynllun hwn, rydym wedi ystyried amrywiaeth eang o dystiolaeth o adroddiadau ac ystadegau a gyhoeddwyd. A oes unrhyw dystiolaeth ychwanegol y mae angen i ni ei hadlewyrchu yn y Cynllun?
7. Ydych chi’n rhagweld y bydd unrhyw ganlyniadau anfwriadol neu effeithiau negyddol yn deillio o’r Cynllun?

Rhan Dau: Nodau, Blaenoriaethau a Chyfleoedd

8. Mae gweledigaeth Medr yn datgan y byddwn yn cydweithio’n agos gyda’n partneriaid i alluogi system addysg drydyddol ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cymdeithas a’r economi, gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltu’n greiddiol iddi. A yw’r nodau strategol yn y Cynllun yn ein galluogi i wireddu ein gweledigaeth?
9. O fewn pob un o’r nodau strategol yn y Cynllun, ceir ymrwymiadau sefydlu sydd i’w cyflawni yn y ddwy flynedd gyntaf, ac ymrwymiadau twf sydd i’w datblygu dros bum mlynedd. Gan ystyried pob un o’r nodau strategol, a yw’r ymrwymiadau sefydlu a thwf yn gywir?
10. Beth yw’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer dysgwyr y presennol a’r dyfodol yn y sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru? A yw’r rhain yn cael eu hadlewyrchu ddigon yn y Cynllun?
11. Beth yw’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru yn y pum mlynedd nesaf? A yw’r rhain yn cael eu hadlewyrchu ddigon yn y Cynllun?
13. Mae dyletswydd ar Medr i hybu cydweithio drwyddi draw yn y sector addysg drydyddol ac ymchwil. I ba raddau y mae’r Cynllun yn ein galluogi i wneud y gorau o gyfleoedd i gydweithio?
14. Mae angen i ni fod yn uchelgeisiol ynglŷn â’r hyn y gallwn ei gyflawni. Fodd bynnag, mae’r amgylchedd ariannol yr ydym yn gweithio ynddo’n gryn her. Rydym hefyd yn cydnabod bod sefydlu Medr yn her sylweddol i’r sector ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau proses bontio esmwyth. Gan ystyried y cyd-destun yr ydym yn gweithio ynddo, i ba raddau y mae lefel yr uchelgais yn y Cynllun yn addas?

Rhan Tri: Ein Huchelgeisiau

15a. Rhowch ystyriaeth i’r uchelgeisiau ar dudalen 4 yn y Cynllun. I ba raddau ydych chi’n cytuno â’n huchelgeisiau hirdymor ar gyfer llwyddiant?

Rhan Pedwar: Y Gymraeg

16. A yw’r Cynllun yn rhoi adlewyrchiad priodol o uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg?
18a. A ellid newid y Cynllun i gynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau’r effeithiau andwyol, ar cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg?
18b. A ellid newid y Cynllun i gynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau’r effeithiau andwyol, ar peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio