Caffael a chyllid

Rydym yn prynu amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau i’n helpu i gyflawni ein dyletswyddau yn effeithiol ac yn effeithlon.

Caffael

Rydym yn prynu nifer o nwyddau a gwasanaethau sy’n ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau’n effeithiol ac yn effeithlon.

Rydym yn gwerthfawrogi gwaith ein cyflenwyr, sy’n bartneriaid hollbwysig i’n helpu i gyrraedd ein nodau.

Mae’r nwyddau a’r gwasanaethau yr ydym yn eu caffael ei gefnogi ein gwaith yn amrywio o hyfforddiant i feddalwedd a chaledwedd TG i ddeunyddiau swyddfa. Rydym hefyd yn contractio gyda chwmnïau ymchwil ac ymgynghoriaeth a all gefnogi ein gwaith polisi a rheoleiddio. 

Rydym yn cydymffurfio â deddfwriaeth Caffael Cyhoeddus y DU pan ydym yn prynu ein nwyddau a’n gwasanaethau. Rydym hefyd yn ystyried polisïau Llywodraeth Cymru wrth i ni ddiffinio ein gofynion ac yn gweithredu Deddf Caffael 2023 ar lefel y DU a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).

Lle gallwn gyflawni mwy o effeithlonrwydd, byddwn yn cydweithio ar ein gweithgarwch caffael gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus. Gallai hyn gynnwys defnyddio cytundebau fframwaith megis y rhai a arweinir gan dîm Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Masnachol y Goron.

Rydym yn hysbysu cyfleoedd i ymgeisio am gontractau ar GwerthwchiGymru pan nad ydym yn contractio dan gytundebau fframwaith. Mae’r porth hwn gan Lywodraeth Cymru’n rhoi’r cyfle i fusnesau o bob maint yng Nghymru a’r tu hwnt gael mynediad at dendrau’r sector cyhoeddus, hyrwyddo eu cwmni, a chysylltu â sefydliadau cofrestredig yn y sector cyhoeddus.

Rydym fel arfer yn hysbysebu cyfleoedd i ymgeisio am gontractau sydd â gwerth o £25,000 (gan gynnwys TAW) a throsodd ar GwerthwchiGymru, gyda’r broses dendro’n cael ei rheoli trwy’r porth etenderwales.

Rydym yn gofyn am o leiaf dri dyfynbris ar gyfer contractau â gwerth rhwng £5,000 a £24,999 (gan gynnwys TAW), er y gallwn ddewis hysbysebu rhai cyfleoedd i ymgeisio am gontractau â gwerth o lai na £25,000.

Mae ein Telerau ac Amodau Contract ar gyfer Archebion Prynu yn berthnasol i bob pryniad oni bai ein bod wedi cytuno ar delerau ac amodau eraill dan gytundeb fframwaith neu gontract.

Cysylltwch â'r Tîm Caffael

Cyllid

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â thalu anfonebau, cysylltwch â’n Tîm Cyllid.

Cysylltwch â'r Tîm Cyllid

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio