Ar gyfer dysgwyr

Mae Medr yn rhoi lle creiddiol i ddysgwyr o fewn y system. Os ydych chi’n ddysgwr, gallech chi fod:

Rydym yn sicrhau bod eich prifysgol, coleg, darparydd hyfforddiant, chweched dosbarth, neu bwy bynnag rydych chi’n dysgu â nhw, yn darparu addysg o ansawdd uchel, gan ymgysylltu â phob dysgwr a gwrando ar eich llais, a’u bod yn atebol am y cyllid rydym yn ei ddarparu iddynt.

Rydym am sicrhau ein bod ni hefyd yn clywed eich llais, felly byddwn yn sefydlu gwahanol fecanweithiau i ymgysylltu â chynrychiolwyr dysgwyr.

Rydym yn cydweithio’n agos ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) Cymru; mae Llywydd NUS Cymru yn Aelod Cysylltiol o’n Bwrdd ac rydym wedi cytuno ar Egwyddorion Cydweithio â’r NUS i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn canfod y ffordd orau o gydweithio.

Rydym yn cyfarfod â chyrff sy’n cynrychioli dysgwyr (fel eich undebau myfyrwyr, neu Swyddogion Dysgwyr Gweithredol) ambell waith yn ystod y flwyddyn i drafod materion sy’n allweddol i ddysgwyr. Rydym hefyd yn holi ynghylch y berthynas rhwng eich darparydd a chynrychiolwyr dysgwyr. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei bwydo’n ôl i Medr, i dimau eraill ac i’n Hadolygiad Risg Darparwyr.

Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn datblygu gwahanol fecanweithiau i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o ddysgwyr a deall sut y gallwn ddangos sut mae eu hadborth wedi newid pethau yn Medr.

Byddwn yn adeiladu ar hyn gyda dysgwyr i wneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu eu hanghenion ar draws yr holl sector trydyddol, ac yn cael effaith wirioneddol ar ein penderfyniadau.

Mae Medr yn berchen ar yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar y cyd â chyrff cyllido a rheoleiddio eraill y DU. Arolwg i fyfyrwyr ar flwyddyn olaf eu gradd mewn addysg uwch yw’r NSS.

Gofynnir cyfres o gwestiynau i bob myfyriwr blwyddyn olaf, a bydd Medr yn defnyddio’r canlyniadau i fynd ar drywydd unrhyw ganlyniadau gwael gyda’r prifysgolion. Fel arfer, byddwn yn gofyn am gynlluniau gweithredu gan y prifysgolion os yw’r canlyniad i gwestiwn yn rhy isel, neu os yw canlyniad pwnc yn rhy isel.

Os hoffech ragor o wybodaeth am yr NSS, edrychwch ar ein gwybodaeth bellach am yr NSS.

NUC Cymru: yn cynrychioli buddiannau myfyrwyr mewn prifysgolion a cholegau, a phrentisiaid, yn genedlaethol ledled Cymru.

Gyrfa Cymru: cyfleoedd chweched dosbarth, prentisiaeth, ac mewn colegau yng Nghymru.

Cymru’n Gweithio: cyngor ac arweiniad gyrfaoedd am ddim a diduedd i bobl 16 oed a throsodd.

Astudio yng Nghymru: addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru.

Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol: corff annibynnol sy’n adolygu cwynion am addysg uwch.

Darganfod Prifysgol: cymharu gwybodaeth a data ar gyrsiau gradd mewn addysg uwch ledled y DU.

Prospects: cyfleoedd astudio ôl-radd ledled y DU.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: gwybodaeth am gyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Taith: cyfleoedd cyfnewid rhyngwladol i ddysgwyr yng Nghymru.

Cyngor Materion Myfyrwyr Rhyngwladol y DU: gwybodaeth a chyngor i fyfyrwyr rhyngwladol.

Cyllid Myfyrwyr Cymru: Cyllid ar gyfer dysgwyr addysg bellach, myfyrwyr gradd a myfyrwyr ôl-radd.

Addysgwyr Cymru: cymwysterau hyfforddiant athrawon.

Arweiniad ar gymhellion Medr i hyfforddi i addysgu mewn addysg bellach.

Gwefan Llywodraeth Cymru ar gyfer cymhellion i hyfforddi i addysgu mewn ysgolion.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio