Ffynonellau gwybodaeth eraill
Estyn, sef arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru
This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.
Mae gennym gyfrifoldeb i asesu, neu wneud trefniadau i asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru gan neu ar ran darparwyr a reoleiddir. Gwnawn hyn drwy ein prosesau asesu ansawdd. Rydym hefyd yn gyfrifol am fonitro ansawdd addysg drydyddol a hybu gwelliant yn yr ansawdd hwnnw.
Mae gwelliant parhaus yn golygu bod darparwyr yn defnyddio hunanwerthusiadau, data, dadansoddiadau a gwybodaeth i anelu at ragoriaeth gyson. Mae’n broses barhaus, ac mae’n gallu cynnwys mynd i’r afael â diffygion a gwneud newidiadau cynyddrannol i ddeilliannau dysgwyr dros amser. Bydd darparwyr addysg uwch fel arfer yn cyfeirio at y gweithgarwch hwn fel cyfoethogi neu wella ansawdd.
Mae ansawdd yn elfen allweddol o reoleiddio, yn unol â Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, a bydd yn amod cofrestru a chyllido.
Fframwaith Ansawdd Drafft
Mae Medr wedi datblygu Fframwaith Ansawdd drafft sy’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
Rydym yn gweithio gydag Estyn a QAA i gysoni dulliau lle bo modd. Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu methodolegau asesu ansawdd allanol.
Nod y Fframwaith Ansawdd yw helpu darparwyr i sicrhau bod dysgwyr yn cael darpariaeth o’r ansawdd gorau mewn sector sy’n ymdrechu i wella’n barhaus.
Credwn mai ystyr addysg o ansawdd da yw addysg sy’n diwallu anghenion rhesymol dysgwyr. Caiff hyn ei ddangos drwy ddeilliannau cadarnhaol i ddysgwyr, yng nghyd-destun amrywiaeth y sector a’r corff dysgwyr.
Mae’r Fframwaith Ansawdd yn cynnwys saith conglfaen y credwn eu bod yn dangos bod darpariaeth o ansawdd da ac rydym yn disgwyl iddynt arwain at ddeilliannau da i ddysgwyr. Mae’r Gymraeg wedi’i gwreiddio ym mhob un o’r conglfeini.
Caiff dysgwyr gyfleoedd i fod yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau darparwyr, a gall darparwyr ddangos effeithiolrwydd ac effaith hyn.
Ystyrir safbwyntiau dysgwyr ynglŷn ag ansawdd yr addysg drydyddol a roddir iddynt.
Mae corff llywodraethu darparwr yn gwneud cyfraniad allweddol at sicrhau addysg o ansawdd da. Mae’n goruchwylio ansawdd addysg drydyddol y darparwr, a’r ffordd y caiff yr addysg honno ei gwella’n barhaus, yn weithredol ac yn effeithiol.
Mae darparwyr yn hunanwerthuso, yn cynllunio ar gyfer gwelliant ac yn myfyrio’n rheolaidd ac yn drwyadl, a bydd hyn yn sail ar gyfer prosesau asesu ansawdd allanol a gwaith cynllunio ar gyfer gwelliant parhaus.
Bydd allanoldeb mewn prosesau asesu ansawdd a gwerthuso gwaith cynllunio ar gyfer gwelliant parhaus, a fydd yn digwydd yn rheolaidd ac yn cwmpasu holl ddarpariaeth darparwyr, gan gynnwys yr hyn a ddarperir ar eu rhan. Bydd darparwyr hefyd yn ceisio sicrhau allanoldeb drwy ddulliau eraill, gan gynnwys eu defnydd ehangach o feincnodi a phwyntiau cyfeirio allanol.
Caiff arferion da eu rhannu’n fewnol ac yn allanol er mwyn ysgogi arloesedd a rhagoriaeth o ran ansawdd y profiad dysgu ym mhob rhan o’r sector addysg drydyddol.
Mae darparwyr a Medr yn helpu aelodau o weithlu’r sector addysg drydyddol i ddysgu a datblygu’n broffesiynol.
Byddwn yn ystyried data er mwyn canfod unrhyw risgiau i ansawdd addysg drydyddol, gan ddefnyddio data sydd eisoes ar gael lle bynnag y bo modd. Bydd hyn yn cynnwys data o’r Casgliad Data Ôl-16, Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru a HESA.
Mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys data o archwiliadau mewnol ac allanol a gomisiynir gan ddarparwyr, ynghyd ag archwiliadau a gomisiynir gan Medr.
Mae’r data y byddwn yn eu hystyried yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:
(a) recriwtio
(b) cynnydd
(c) cadw
(d) cwblhau (gan gynnwys ennill cymwysterau)
(e) cwynion i Medr (gan gynnwys niferoedd a phatrymau)
(f) arolygon dysgwyr
(g) cyrchfannau (cyflogaeth/addysg/hyfforddiant)
Rydym yn bwriadu ymgynghori ar ddangosyddion perfformiad i lywio’r ffordd y byddwn yn ymdrin â data.
Caiff cyfraddau cwblhau a chyrhaeddiad dysgwyr sy’n astudio mewn sefydliadau addysg bellach a’r chweched dosbarth mewn ysgolion eu cyhoeddi’n flynyddol.
Mae’r mesurau perfformiad cyson yn dangos cyfran y dysgwyr sy’n ennill y cymwysterau y maen nhw’n anelu atynt, fel cyfran o’r rhai sy’n dechrau rhaglen astudio.
Mae ystadegau cenedlaethol ar gyfer cyrhaeddiad dysgwyr ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mesurau perfformiad ôl-16 cyson: trosolwgMae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau adroddiad sy’n mesur llwyddiant y canlynol:
Mae’r adroddiadau’n cynnwys gwybodaeth am:
Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio gwybodaeth o brosesau a gweithgareddau ymgysylltu eraill i lywio ein barn ynglŷn â ph’un a oes risg i ansawdd addysg ai peidio. Gall hyn gynnwys:
Bydd Medr yn gweithio gyda darparwyr a chyrff sy’n cynnal asesiadau ansawdd allanol er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau asesu’n gadarn, yn gymesur ac yn amserol; yn cynnig gwerth ychwanegol i ddarparwyr; ac yn cael effaith o ran ysgogi gwelliant. Yn achos chweched dosbarth ysgolion, rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol weithio gyda’u hysgolion i sicrhau y caiff hyn ei wneud.
Byddwn yn defnyddio canlyniadau arolygiadau Estyn ac adolygiadau QAA wrth asesu ansawdd darpariaeth. Os bydd unrhyw ddarparwr yn cael canlyniad sy’n golygu bod angen ymgysylltu pellach, ystyrir nad yw’n dangos ansawdd da. Byddwn yn monitro’r ffordd y bydd darparwyr yn ymgysylltu ag Estyn a QAA er mwyn sicrhau eu bod yn llwyddo i fynd i’r afael â materion a nodir. Os na allant fynd i’r afael â’r materion, mae’n bosibl y byddwn yn rhoi ein Datganiad Ymyrraeth ar waith.
Yn rhan o’r Fframwaith Asesu Ansawdd i Gymru, mae’n rhaid i sefydliadau a reoleiddir dderbyn adolygiadau sicrhau ansawdd allanol rheolaidd. Cynhelir yr adolygiadau hyn drwy ddefnyddio’r Adolygiad Gwella Ansawdd a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch.
Mae’r cylchlythyr hwn yn amlinellu ein gweithdrefnau ar gyfer asesu ansawdd addysg, a etifeddwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Gweithdrefnau ar gyfer asesu ansawdd addysg (cylchlythyr CCAUC W19/05HE)Mae’r ddogfen hon yn egluro’r rôl a etifeddodd Medr (gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru) o ran goruchwyliaeth addysgol.
Rôl CCAUC mewn Goruchwyliaeth Addysgol: canlyniad yr ymgynghoriad, a gweithdrefnau (cylchlythyr CCAUC W21/06HE)Rhoddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gomisiwn i’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) gynnal Ymchwiliad i Bryderon ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (Prifysgol Wrecsam bellach) i ymchwilio i faterion a oedd yn ymwneud â systemau sicrhau ansawdd, diwallu anghenion myfyrwyr, partneriaethau a llywodraethu ansawdd. Fe ymwelodd tîm yr adolygiad â’r sefydliad ym mis Ionawr 2023. Casgliad yr adroddiad terfynol gan dîm ymchwilio QAA, a ddaeth i law CCAUC ym mis Mawrth 2023, oedd bod materion difrifol wedi’u canfod.
Adroddiad i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru am Ymchwiliad i Bryderon (Cymru): Prifysgol Wrecsam (Ionawr 2023)
Lle canfyddir materion difrifol mewn ymchwiliad i bryderon, mae’n ofynnol i’r darparwr ddatblygu cynllun gweithredu i gael ei gymeradwyo gan CCAUC. Roedd yn ofynnol bod y broses o roi’r cynllun gweithredu ar waith yn cael ei monitro’n barhaus fel rhan o fframwaith sicrhau ansawdd CCAUC.
Cynllun Gweithredu Adolygiad Sicrhau Ansawdd 2023 Prifysgol Wrecsam (Gorffennaf 2023)
Estyn, sef arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio