Newyddion
Ymateb Medr i adroddiad Estyn ar Y Cwricwlwm Medrau Byw yn Annibynnol (MBA) mewn Addysg Bellach
25 Sep 2025
Mae Medr yn croesawu adroddiad thematig Estyn ar y Cwricwlwm Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) mewn sefydliadau addysg bellach. Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion fel y maent yn berthnasol i Medr.
Comisiynwyd yr adroddiad thematig gan Medr ym mis Awst 2024 yn dilyn gwaith ymgysylltu helaeth â’r sector, lle y nodwyd nifer o flaenoriaethau ar gyfer gwella. Ers adroddiad thematig Estyn yn 2017, mae’r sector wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’r ffordd y caiff y cwricwlwm SBA ei gyflwyno, gyda ffocws cadarn ar ymateb i anghenion dysgwyr. Comisiynwyd yr adroddiad thematig hwn er mwyn sicrhau bod newidiadau effeithiol wedi cael eu gwneud ac er mwyn atgyfnerthu arlwy cyson i ddysgwyr ledled Cymru. Mae Cynllun Strategol 2025-2030 Medr yn amlinellu ein hymrwymiad i hyrwyddo dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, ochr yn ochr â ffocws cadarn ar gynyddu cyfranogiad. Bydd yr adroddiad thematig hwn yn helpu i lywio ein hymdrechion ar y cyd â’r sector wrth i ni wneud cynnydd o ran datblygu darpariaeth SBA wedi’i hatgyfnerthu.
Cyn i’r adroddiad thematig gael ei gomisiynu, roedd Llywodraeth Cymru (cyn i’r swyddogaethau perthnasol gael eu trosglwyddo i Medr), mewn partneriaeth â’r sector, eisoes wedi canfod bod angen diweddaru ein manylebau SBA er mwyn adlewyrchu cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn well, a hynny’n unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Felly, mae Medr yn croesawu argymhelliad cyntaf Estyn y dylid diwygio’r manylebau, ac mae’n gwerthfawrogi’r dystiolaeth a gyflwynwyd er mwyn llywio’r gwaith hwn. Mae’r ymrwymiad hwn wedi’i wreiddio yn ein Cynllun Gweithredol, a chaiff yr holl newidiadau eu gwneud ar y cyd â’r sector. Bydd rhoi canllawiau clir i gefnogi dealltwriaeth hefyd yn rhan allweddol o’r broses hon, gan helpu i atgyfnerthu’r manylebau diwygiedig (Argymhelliad 2).
Yn fwy cyffredinol, mae ein Cynllun Strategol yn amlinellu ein hymrwymiad i hyrwyddo dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Fel rhan o hyn, ein nod yw helpu Llywodraeth Cymru i roi argymhellion perthnasol ar waith (Argymhellion 3–5) drwy barhau i gymryd rhan mewn gweithgorau perthnasol a rhoi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â darparu ar gyfer ADY yn y sector trydyddol. Bydd Medr yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol lle bo hynny’n briodol er mwyn archwilio meysydd lle y bydd angen cymorth ychwanegol yn y sector ôl-16 (Argymhellion 12–15).
Bydd Medr yn gweithio gyda sefydliadau addysg bellach i sicrhau bod y wybodaeth ar eu gwefannau’n hygyrch ac yn adlewyrchu’r cymorth sydd ar gael i ddysgwyr yn glir (Argymhelliad 10), ac yn cynnal ymarfer monitro yn ystod 2026 i adolygu cynnydd. Yn ogystal â chyhoeddi manylebau a chanllawiau wedi’u diweddaru, byddwn hefyd yn gweithio gyda’r sector i archwilio’r gweithgareddau dysgu proffesiynol y bydd eu hangen er mwyn helpu i gyflwyno’r cwricwlwm diwygiedig yn effeithiol (Argymhelliad 7). Byddwn yn archwilio’r potensial ar gyfer defnyddio cyllid dysgu proffesiynol i gefnogi’r gweithgareddau hyn. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd helpu sefydliadau addysg bellach i ddatblygu’r cwricwlwm mewn ffyrdd sy’n sicrhau mynediad teg i ddysgwyr ledled Cymru.
Rydym yn falch bod Estyn wedi cydnabod gwelliannau sylweddol ar draws y sector ers yr adolygiad diwethaf. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r sector a phartneriaid perthnasol i roi’r argymhellion ar waith ac atgyfnerthu’r ddarpariaeth ymhellach, gan sicrhau arlwy cyson o ansawdd da i ddysgwyr ag anghenion cymhleth ledled Cymru.
Find out more about Medr’s work
You can subscribe to updates to be the first to know about our publications, news and job opportunities.
Subscribe