Newyddion
Ymateb Medr i adroddiad Estyn ar lythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol
18 Sep 2025
Mae Medr yn croesawu adroddiad Estyn ar lythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol o ran dysgu oedolion yn y gymuned. Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion fel y bônt yn berthnasol i Medr.
Yn 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi. Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys cynyddu dysgu oedolion a gwella’r broses o gaffael sgiliau sylfaenol, gan roi’r dysgwr wrth wraidd y system a datblygu data cadarn er mwyn mesur canlyniadau dysgwyr.
Mae Cynllun Strategol cyntaf Medr 2025–2030 yn nodi ein hymrwymiad i ystyried sut y gellir gwneud gwelliannau o ran mynediad, cyfranogiad a llwyddiant wrth ddarparu sgiliau hanfodol Rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud i gefnogi’r ddarpariaeth hon er mwyn bodloni anghenion oedolion sy’n dysgu yng Nghymru.
Er mwyn darparu sylfaen dystiolaeth gref ar gyfer ein gwaith cynllunio a’n penderfyniadau a llywio polisi’r llywodraeth, rydym yn ymrwymo drwy ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2025-26 i adolygu ein data a’n mesurau presennol. Bydd argymhellion adroddiad Estyn (A1-3) yn llywio’r gwaith hwnnw, gan gynnwys cefnogi ein hystyriaeth o fesurau canlyniad ar gyfer y sector dysgu oedolion yn y gymuned (ACL), a’n hymgynghoriad ar hynny.
Yn fwy cyffredinol, rydym wedi ymrwymo yn ein Cynllun Strategol i adolygu cynllunio, trefniadaeth, hyblygrwydd ac effeithiolrwydd ACL. Yn rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn adolygu canllawiau ar gyfer partneriaethau ACL i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas at y diben, a bod darparwyr yn glir ynghylch y disgwyliadau ar gyfer darpariaeth ACL (A4). Byddwn hefyd yn parhau i adolygu trefniadau partneriaeth rhwng darparwyr cyfansoddol (A6).
Mae Medr yn cydnabod pwysigrwydd gwahanol ddulliau dysgu er mwyn annog cyfranogiad ac ehangu mynediad at ACL. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau aliniad a chydweithrediad â rhaglenni fel Ysgolion Bro er mwyn cynnwys rhieni a chymunedau (A5).
Roeddem yn falch bod yr adroddiad wedi canfod bod yr addysgu cyffredinol yn effeithiol ac wedi’i bersonoli, a bod mwyafrif y dysgwyr yn cwblhau ystod eang o gyrsiau llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol yn llwyddiannus. Er mwyn cynorthwyo’r gweithlu ACL i gael mynediad at ddysgu proffesiynol effeithiol a rhannu arfer gorau (un o’n hymrwymiadau twf), byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Colegau Cymru a phartneriaid eraill i hyrwyddo dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau addysgu pwnc-benodol, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg (A7).