Blog
Y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr
18 Nov 2025
Ar hyn o bryd mae Medr yn ymgynghori ar system reoleiddio newydd, gan gynnwys Cod Ymgysylltu â Dysgwyr newydd sy’n anelu i gynorthwyo darparwyr a Medr i roi’r prif sylw i anghenion dysgwyr o fewn y sector addysg drydyddol.
Pam mae ymgysylltu â dysgwyr yn bwysig
I ddibenion y Cod, mae ‘ymgysylltu â dysgwyr’ yn cyfeirio at y cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan ym mhroses benderfynu eu darparwyr. Mae dyletswydd statudol ar Medr i baratoi Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, i fonitro cydymffurfiaeth darparwyr â’r Cod, ac i adrodd ar ei effeithiolrwydd.
Bydd ymgysylltu’n effeithiol â dysgwyr wrth wneud penderfyniadau yn creu buddion i ddysgwyr presennol a dysgwyr y dyfodol, i ddarparwyr ac i’r sector addysg drydyddol yng Nghymru. Gall dysgwyr ddatblygu sgiliau a gwella eu profiadau, gall darparwyr wella eu dealltwriaeth o anghenion dysgwyr ac adlewyrchu hynny yn eu darpariaeth, ac fel rheoleiddiwr gall Medr ymateb i safbwyntiau dysgwyr drwy ein penderfyniadau strategol.
Dyma weledigaeth y Cod ar gyfer ymgysylltu â dysgwyr, wedi’i chyfleu mewn modd sy’n ganolog i’r dysgwr:
Fel dysgwyr, ni sydd wrth wraidd addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Rydym yn cael cyfleoedd, fel unigolion a chyda’n cymheiriaid, i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n gwella ac yn effeithio ar ein profiadau dysgu, a phrofiadau dysgu dysgwyr y dyfodol. Mae ein lleisiau’n bwysig drwy gydol ein teithiau dysgu, os ydym yn dechrau cwrs, yn symud ymlaen i gyfleoedd newydd neu’n gwneud cynnydd yn ein gyrfaoedd.
Beth yw’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr?
Mae’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr wedi’i seilio ar gyfres o egwyddorion cyffredin a gynhyrchwyd ar y cyd â’r dysgwyr. Ei nod yw sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn cael eu cynrychioli, eu bod yn cael y cyfle i fynegi barn wrth ddarparwyr am yr addysg a’r hyfforddiant y maent yn ei dderbyn, a’u bod yn gallu cymryd rhan ym mhenderfyniadau eu darparydd. Gallai hyn ddigwydd drwy strwythurau ffurfiol fel undebau myfyrwyr, neu fel unigolion.
Datblygwyd y Cod yn unol â dyletswyddau statudol Medr o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (y Ddeddf). Mae’r Ddeddf hefyd yn nodi y bydd y Cod hefyd yn berthnasol i bob rhan o’r sector addysg drydyddol:
- addysg bellach
- addysg uwch
- prentisiaethau
- dysgu oedolion yn y gymuned
- y chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
Mae’r Cod wedi’i ddatblygu yn rhan o waith ehangach ar system reoleiddio newydd Medr. Bydd yn berthnasol i ddarparwyr sydd wedi’u cofrestru a’u cyllido drwy amodau’r fframwaith rheoleiddio ac i’r chweched dosbarth fel dyletswydd statudol, ac mae hyn hefyd wedi’i nodi yn y Ddeddf.
Sut mae’r drafft wedi cael ei ddatblygu
Mae Medr wedi cydweithio â rhanddeiliaid y sector, gan gynnwys dysgwyr, staff darparwyr a grwpiau cynrychioliadol i ddatblygu’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr. Drwy gyfres o drafodaethau, gweithdai a chyfleoedd i roi adborth, mae rhanddeiliaid wedi llywio datblygiad y Cod ar bob cam. Dyma sut rydym wedi ymgorffori’r adborth cynnar hwnnw gan y sector yn y drafft hwn a pham mae parhau â’r ddeialog i lywio datblygiadau i’r Cod yn y dyfodol mor bwysig:
Dull sy’n seiliedig ar egwyddorion
- Mae rhanddeiliaid yn gwerthfawrogi’r defnydd o egwyddorion clir a phwyslais ar effaith ymgysylltu â dysgwyr, gan gydnabod amrywiaeth y mecanweithiau ymgysylltu ar draws y sector a sbarduno gwelliant parhaus mewn arfer effeithiol.
- Arweiniodd adborth at addasu’r egwyddorion fel eu bod o safbwynt y dysgwr, gan ganolbwyntio ar eu profiad o gymryd rhan mewn penderfyniadau.
- Nid oedd drafftiau cynnar yr egwyddorion yn ddigon eglur i lawer o randdeiliaid. Rydym wedi gweithio gyda’r sector i symleiddio’r iaith a ddefnyddir ac i roi ffocws clir i bob egwyddor.
Adlewyrchu amrywiaeth y sector
- Drwy weithio gyda rhanddeiliaid y sector i ddatblygu’r Cod, rydym wedi gallu cynnwys gwybodaeth gyd-destunol ac enghreifftiau i adlewyrchu gwahanol rannau o’r sector addysg drydyddol.
- Rydym wedi ymrwymo i ychwanegu rhagor o enghreifftiau, gan gynnwys ar ôl cyhoeddi’r Cod, pan fyddwn yn dechrau rhannu astudiaethau achos o bob cwr o Gymru.
- Mae rhai rhannau o’r sector wedi sefydlu mecanweithiau ymgysylltu â dysgwyr yr hoffent eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yng ngofynion y Cod. Ar ôl penderfynu peidio â rhagnodi arferion ond, yn hytrach, egwyddorion, nid ydym wedi cynnwys yr elfennau hyn fel gofynion.
- Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid y sector i ddiweddaru neu ddatblygu canllawiau lle gall Medr fabwysiadu dull mwy rhagnodol, ac i ariannu partneriaid i ddatblygu canllawiau a gwybodaeth arfer da ar gyfer y sector a fydd yn cyd-fynd â’r Cod.
Monitro a thystiolaeth
- Gan adlewyrchu’r ymatebion i ymgynghoriad rheoleiddiol cyntaf Medr, mae ein dull o fonitro cydymffurfiaeth â’r Cod yn anelu i leihau’r baich a defnyddio tystiolaeth sy’n bodoli eisoes lle bynnag y bo modd.
- Ein bwriad yw defnyddio tystiolaeth sydd eisoes ar gael i Medr i ategu ffurflenni blynyddol gan bob darparydd.
- Drwy’r ymgynghoriad hwn a’r ddeialog barhaus, rydym yn arbennig o awyddus i greu darlun o’r dystiolaeth a geir eisoes y gellir ei rhannu â Medr er mwyn monitro cydymffurfiaeth â’r Cod.
Sut i ddweud eich dweud
Rydym yn eich annog i ddarllen y drafft Cod Ymgysylltu â Dysgwyr ac yn gwahodd ymatebion i gwestiynau’r ymgynghoriad cysylltiedig drwy ein harolwg ar-lein. Mae’r llwybr ymgynghori ffurfiol hwn ar agor tan 17 Rhagfyr 2025.
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth i’n helpu i ddatblygu’r Cod er mwyn sicrhau bod yr holl ddysgwyr mewn addysg drydyddol yng Nghymru yn cael cyfleoedd effeithiol i gymryd rhan ym mhenderfyniadau eu darparydd.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau a fydd yn rhoi cyfle i glywed ein staff yn trafod datblygiad y system reoleiddio newydd, a’r cwestiynau allweddol a ofynnir i bob darparydd a rhanddeiliad.
Rhestr lawn o ddigwyddiadauDigwyddiadau Cod Ymgysylltu â Dysgwyr:
| 01 Rhagfyr 2025: 10:00–11:00 | Ymgynghoriad rheoleiddio Medr: Cod Ymgysylltu â Dysgwyr |
| 02 Rhagfyr 2025: 13:00–14:30 | Digwyddiad ymgynghoriad 1 i awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir mewn perthynas â darpariaeth chweched dosbarth |
| 08 Rhagfyr 2025: 12:30–14:00 | Digwyddiad ymgynghoriad 2 i awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir mewn perthynas â darpariaeth chweched dosbarth |
Diolch am ymgysylltu â datblygiad y Cod. Os hoffech drafod y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr ymhellach, anfonwch e-bost i [email protected].
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio