Cyhoeddiadau
Sta/Medr/12/2025: Cyllid sefydliadau addysg uwch, Medi 2023 – Awst 2024
13 May 2025
Nodyn
Cafodd y naratif yn adran ‘Gwariant’ y cyhoeddiad hwn ei ddiweddaru ar 21 Mai 2025 er mwyn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â graddfa’r addasiadau cyfrifyddu technegol nad ydynt yn ymwneud ag arian parod i ddarpariaethau pensiwn, a chostau ailstrwythuro nad ydynt wedi’u cynnwys yn y gwariant sylfaenol. Rydym hefyd wedi cynnwys brawddeg i ddangos sut y bydd sefyllfa sylfaenol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn newid os caiff costau ailstrwythuro eu cynnwys. Nid yw’r diweddariad hwn yn effeithio ar y ffigurau a gyhoeddwyd yn wreiddiol.
Incwm
- Adroddwyd fod cyfanswm incwm sefydliadau addysg uwch Cymru’n £1.98bn yn 2023/24, yr un faint ag yn 2022/23.
Siart 1: Dadansoddiad o incwm sefydliadau addysg uwch Cymru

- Fe gynyddodd incwm trwy ffioedd dysgu a chontractau addysg 5% i £1.11bn yn 2023/24. Roedd ffioedd dysgu a chontractau addysg yn rhoi cyfrif am 56% o incwm yn 2023/24.
- Roedd grantiau gan gyrff cyllido’n rhoi cyfrif am 14% (£276m) o incwm sefydliadau addysg uwch Cymru yn 2023/24. Gostyngodd incwm o grantiau gan gyrff cyllido 15% rhwng 2022/23 a 2023/24. Yn ogystal â chyllid gan Medr, gall grantiau gan gyrff cyllido gynnwys cyllid ar gyfer sefydliadau addysg bellach mewn grwpiau addysg uwch, a pheth cyllid arall gan Lywodraeth y DU a delir trwy Medr.
- Roedd grantiau a chontractau ymchwil yn 12% (£239m) o incwm sefydliadau addysg uwch Cymru yn 2023/24. Fe ostyngodd incwm o grantiau a chontractau ymchwil 12% rhwng 2022/23 a 2023/24.
Gwariant
- Cyfanswm gwariant sylfaenol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2023/24 oedd £2.04bn, sydd 4% yn fwy na chyfanswm y gwariant sylfaenol yn 2022/23 (£1.96bn). Nid yw’r gwariant sylfaenol yn cynnwys addasiadau cyfrifyddu technegol nad ydynt yn ymwneud ag arian parod i ddarpariaethau pensiwn gwerth £380m (2022/23 – £73m) a fyddai, o’u cynnwys, yn lleihau cyfanswm y gwariant, gan roi adlewyrchiad ffug o gostau’r sector. Gwnaeth gwelliannau yn y farchnad ehangach gynyddu gwerth cynlluniau pensiwn, felly, yn 2023/24, roedd angen neilltuo llai ar gyfer newidiadau posibl yn y dyfodol. Nid yw’r gwariant sylfaenol ychwaith yn cynnwys costau ailstrwythuro o £16m (2022/23 – £1m) nad ydynt, wrth natur, yn rhan o wariant gweithredol rheolaidd.
- Sefyllfa weithredu sylfaenol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru (cyfanswm yr incwm llai cyfanswm y gwariant sylfaenol fel y’i diffinnir uchod) yn 2023/24 oedd diffyg o £61m (2022/23 – gwarged o £21m). Diffyg o £77m fyddai’r sefyllfa sylfaenol gan gynnwys costau ailstrwythuro (2022/23 – gwarged o £22m).
- Roedd cyfanswm gwariant sefydliadau addysg uwch Cymru (gan gynnwys addasiadau a chostau ailstrwythuro) yn 2023/24 yn £1.68bn, 11% yn is na ffigwr 2022/23, sef £1.89bn.
Siart 2: Dadansoddiad o wariant sefydliadau addysg uwch Cymru

- Roedd cynnydd o 6% mewn costau staff (heb gynnwys newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn) o £1.05bn yn 2022/23 i £1.11bn yn 2023/24. Nodyn: mae hyn yn wahanol i sut y mae’r data wedi cael ei ddarparu mewn fersiynau blaenorol o’r datganiad hwn lle’r oedd newidiadau i ddarpariaethau pensiwn ac addasiadau pensiwn yn cael eu cynnwys gyda’r costau staff.
Data
Mae ffigyrau 2023/24 ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2024 ac mae ffigyrau 2022/23 ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2023.
Y ffigyrau ar gyfer 2022/23 yn y datganiad hwn yw’r gwerthoedd wedi’u hailddatgan a gasglwyd wrth gasglu cofnod cyllid 2023/24. Mae hyn yn golygu y gall ffigyrau 2022/23 fod yn wahanol i’r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol gan bod darparwyr yn gallu diwygio’r rhain os oes angen.
Gellir dod o hyd i’r data ar wefan Data Agored HESA sydd hefyd yn cynnwys data ar gyfer darparwyr unigol.
Sta/Medr/12/2025: Cyllid sefydliadau addysg uwch, Medi 2023 – Awst 2024
Ystadegau Medr
Cyfeirnod: Sta/Medr/12/2025
Dyddiad: 13 Mai 2025; diweddarwyd ar 21 Mai 2025
Dynodiad: Ystadegau Sywddogol
Crynodeb: Dadansoddiad o incwm a gwariant sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Medi 2023 a mis Awst 2024
Sta/Medr/12/2025 Cyllid sefydliadau addysg uwch, Medi 2023 – Awst 2024Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio